Agenda item

Grant Anghenion Dysgu Ychwanegol

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Addysg a Chymorth adroddiad er mwyn gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet i ymrwymo i gytundeb â Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (CBSRhCT), Cyngor Dinas a Sir Caerdydd, Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful a Chyngor Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg ar gyfer Grant Trawsnewid Anghenion Dysgu Ychwanegol 2020-21.

 

Esboniodd mai cynllun gan Lywodraeth Cymru a ariennir drwy grant i gefnogi darpariaeth y rhaglen trawsnewid anghenion dysgu ychwanegol yw Grant Trawsnewid Anghenion Dysgu Ychwanegol 2020-21 (Grant ADY). Roedd hyn yn cynnwys paratoi am Ddeddf Tribiwnlys Anghenion Dysgu Ychwanegol ac Addysg (Cymru)         2018 (Deddf TADYA) a rheoli gweithrediad y Ddeddf honno.

 

Roedd CBSRhCT, gan weithredu fel yr awdurdod lleol arweiniol, wedi cyflwyno cais i Lywodraeth Cymru am y Grant ADY ar ran Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr (CBSPO), Cyngor Dinas a Sir Caerdydd, Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful a Chyngor Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg a darparwyr trydydd parti (sydd o'r sector addysg bellach ac yn fyrddau iechyd lleol yn rhanbarthau'r cynghorau).

 

Aeth y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Addysg a Chymorth i Deuluoedd yn ei flaen i ddweud bod y Cabinet, ym mis Rhagfyr 2019, wedi cymeradwyo ymrwymo i gytundeb tebyg, ar delerau tebyg, ar gyfer Grant Trawsnewid Anghenion Dysgu Ychwanegol 2019-2020.

 

Bu'r cais am y Grant ADY yn llwyddiannus, a dyfarnwyd hyd at £934,562 o gyllid i CBSRhCT (fel awdurdod lleol arweiniol), a gaiff ei ddyrannu i bob cyngor yn unol â'r Cynllun Gweithredu ADY.

 

Fel yr awdurdod lleol arweiniol, mae'n ofynnol i CBSRhCT dderbyn telerau ac amodau'r Grant ADY, fel y'u nodir yn y llythyr cynnig gan Lywodraeth Cymru. Er mwyn cyflawni'r prosiect a sicrhau cydymffurfiaeth a'r telerau a'r amodau yn llythyr y cynnig, mae CBSRhCT yn gofyn i'r Cyngor, ynghyd â'r 3 awdurdod lleol arall a restrir ym mharagraff 3.2 yr adroddiad, ymrwymo i gytundeb yn gysylltiedig â'r Grant ADY. Bydd y cytundeb yn nodi rolau a chyfrifoldebau'r cynghorau, a'r dull o ddyrannu'r cyllid.

 

O ran goblygiadau ariannol yr adroddiad, cyfanswm gwerth y grant ar gyfer 2020-21 oedd £934,562. Fodd bynnag, £809,562 yw'r swm sydd ar gael i awdurdodau lleol gan fod £125,000 yn cael ei gadw'n ôl i gyflogi Arweinydd Trawsnewid ADY rhanbarthol a chostau cysylltiedig, a chymorth gweinyddol ac ariannol. Dyraniad y grant sydd i'w wario gan Awdurdodau Lleol yw £248,487, ac o'r swm hwnnw mae CBSPO yn disgwyl derbyn £60,885.  Gorffennodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Addysg a Chymorth i Deuluoedd drwy ddweud bod gweddill y grant yn cael ei ddyrannu i Ysgolion, Addysg Bellach ac Iechyd.

 

Roedd yr Aelod Cabinet - Addysg ac Adfywio yn croesawu argymhellion yr adroddiad a fyddai o fudd i'r holl awdurdodau lleol a oedd yn rhan o Gonsortiwm Canolbarth y De.

 

Ychwanegodd yr Aelod Cabinet - Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar y byddai'r cyllid grant o fudd i'n plant ag ADY yr oedd arnynt angen mwy o fuddsoddiad i dderbyn addysg gydradd â phobl ifanc eraill.

 

Roedd yr Arweinydd yn falch o nodi bod LlC wedi gwrando ac yn parhau i ymgysylltu â'r sector, er bod angen buddsoddiad ar gyfer y tymor byr, y tymor canolig a'r tymor hwy i helpu gyda'r cynigion trawsnewid, a'r trefniadau ar gyfer rheoli'r rheiny. Fodd bynnag, gwerthfawrogai'r ffaith na fyddai'r costau wedi'u gwireddu'n llawn nes bo'r prosiect, nid yn unig yn weithredol, ond wedi esblygu.

 

Teimlai fod darpariaethau'r adroddiad hefyd yn enghraifft dda o waith partneriaeth, gyda'r awdurdodau lleol cyfagos yn ymwneud â'r Cytundeb.

 

PENDERFYNWYD:                              Bod y Cabinet:-

 

  • Yn cymeradwyo y dylai'r cyngor ymrwymo i'r cytundeb â CBSRhCT, Cyngor Dinas a Sir , Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful a Chyngor Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg ynghylch y Grant Trawsnewid Anghenion Dysgu Ychwanegol 2020-2021; a

 

  • Yn rhoi awdurdod dirprwyol i'r Cyfarwyddwr Corfforaethol - Addysg a Chymorth i Deuluoedd negodi a chytuno ar delerau terfynol y cytundeb â'r Cynghorau eraill ac ymrwymo i'r cytundeb hwnnw a threfnu i'w weithredu, ar yr amod bod yr awdurdod dirprwyol hwnnw'n cael ei arfer mewn ymgynghoriad â'r Swyddog Adran 151 a'r Prif Swyddog - Gwasanaethau Cyfreithiol, AD a Rheoleiddio.

 

Dogfennau ategol: