Agenda item

Dyfarnu Cyllid mewn Perthynas â Thrawsnewid Trefi: Grant Seilwaith Gwyrdd a Bioamrywiaeth: Pentref Lles Sunnyside 2020-2021

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau adroddiad er mwyn gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet i dderbyn cynnig cyllid diwygiedig gan Lywodraeth Cymru ac ymrwymo i gytundeb a phridiant tir cysylltiedig â Linc Cymru (Linc) i gefnogi darparu elfennau Trawsnewid Trefi - Seilwaith Gwyrdd a Bioamrywiaeth ym Mhentref Lles Sunnyside.

 

Esboniodd fod y grant Trawsnewid Trefi - Seilwaith Gwyrdd a Bioamrywiaeth yn rhan o raglen Trawsnewid Trefi (TT) Llywodraeth Cymru. Bwriedir i'r rhaglen TT adeiladu ar gyflawniadau rhaglen Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid 2014-2017, ond ei fod yn mabwysiadu ymagwedd ehangach at adfywio drwy gynnwys uchelgeisiau Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, a'r blaenoriaethau a nodwyd mewn Cynlluniau Llesiant Lleol a chynlluniau eraill lleol a rhanbarthol, er mwyn gwella adfywio economaidd a llesiant cymunedol.

 

Bwriadwyd i'r rhaglen TT barhau hyd fis Mawrth 2022, a byddai'n ystyried buddsoddi mewn prosiectau a all greu canlyniadau realistig o safbwynt economaidd a chymunedol. Bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr (CBSPO) yn ceisio sicrhau'r canlyniadau hyn dros flynyddoedd ariannol 2020-2021 a 2021-2022. Roedd yn rhaid i awdurdodau lleol wneud ceisiadau am gyllid iddynt hwy eu hunain neu ar ran sefydliad cyhoeddus, preifat neu drydydd sector arall.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau fod Linc Cymru wedi cysylltu â CBSPO i ofyn am gael cyflwyno cais i Lywodraeth Cymru am gyllid Seilwaith Gwyrdd i gefnogi'r elfennau seilwaith gwyrdd yn natblygiad Pentref Lles Sunnyside.

 

Prosiect arfaethedig sy'n cyfuno tai cymdeithasol, iechyd a mannau agored gwyrdd yw Pentref Llesiant Sunnyside. Mae'r prosiect yn cael ei ddatblygu gan Linc Cymru a bwriedir ei leoli wrth ymyl canol tref Pen-y-bont ar Ogwr. Mae'r datblygiad ehangach yn cynnwys Cyfleuster Gofal Iechyd newydd a 59 o dai fforddiadwy newydd. Mae seilwaith gwyrdd yn rhan annatod o gysyniad y Pentref Llesiant, gyda'r nodweddion allweddol yn cynnwys ardal dyfu gymunol, ardal chwarae naturiol, plannu coed peirianegol, gwarchod a meithrin y coedlun presennol.    

 

Roedd £315,268 wedi'i gymeradwyo ar gyfer elfennau seilwaith gwyrdd datblygiad Sunnyside, ac un o'r amodau yn llythyr dyfarnu cyllid Llywodraeth Cymru oedd bod yn rhaid i CBSPO sefydlu telerau ac amodau priodol ar gyfer y grant yn unol â'u hamodau cyllid wrth drosglwyddo cyllid y Seilwaith Gwyrdd i unrhyw dderbynnydd trydydd parti.  

 

Daeth y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau a'i hadroddiad i ben drwy hysbysu y byddai Linc Cymru fel datblygwyr datblygiad Sunnyside yn gweithredu fel derbynwyr trydydd parti'r cyllid, a chan hynny, ei bod hi'n ofynnol i CBSPO ymrwymo i gytundeb cyllido â Linc Cymru.

 

Roedd yr Aelod Cabinet - Cymunedau yn croesawu'r adroddiad.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet - Addysg ac Adfywio fod elfen seilwaith gwyrdd y cynigion yn ddymunol iawn, ac ystyriodd a ellid defnyddio mwy o gyllid o'r math hwn i ddarparu gwaith tebyg ar y cyd â'r hyn sydd wedi'i gynllunio ar Bromenâd y Dwyrain, Porthcawl, yn rhan o waith Tir y Cyhoedd yn y dref. Pe bai hyn yn bosibl, teimlai hefyd y byddai'n syniad da cynnwys pobl leol yn y gwaith hwnnw.

 

Roedd yr Aelod Cabinet - Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar yn ystyried Pentref Llesiant Sunnyside fel cyfle cyffrous, gan fod angen dybryd am y mannau glas ychwanegol y byddai'r datblygiad yn eu creu ger canol y dref. Teimlai fod y prosiect yn creu potensial enfawr am weithgarwch presgripsiynau cymdeithasol i unigolion, a hefyd yn cyfrannu at ddatgarboneiddio ardal a oedd wedi bod yn broblematig iawn yn hynny o beth.

 

Cytunodd yr Aelod Cabinet - Llesiant a Chenedlaethau'r Dyfodol y byddai'r prosiect o gymorth i liniaru problemau rheoli ansawdd yr aer am ei fod yn agos at Stryd y Parc, lle cafwyd problemau'n gysylltiedig ag allyriadau o gerbydau yn yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Roedd hi hefyd yn falch o weld bod tai cymdeithasol wedi'u cynnwys fel elfen yn y cynigion datblygu. Gofynnodd a fyddai datblygiad Sunnyside yn cael ei gysylltu â themâu Uwchgynllun Pen-y-bont ar Ogwr. Mewn ymateb i hynny dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol y byddai hynny'n digwydd a rhoddodd rai enghreifftiau o'r modd y byddai'r naill a'r llall yn cydblethu â'i gilydd.

 

Roedd cynigion y seilwaith gwyrdd ar safle Sunnyside hefyd yn galondid i'r Arweinydd, ac y byddai modd drwy'r bartneriaeth rhwng Cyngor Tref Pen-y-bont ar Ogwr ac CBSPO wrth ailddatblygu T? Ardd, i'r bobl a fyddai'n preswylio yno fanteisio ar y cynigion, a fyddai o fudd iddynt hwy a'u llesiant.

 

PENDERFYNWYD:                               Bod y Cabinet:

 

 (1)       Yn derbyn y llythyr cyllid diwygiedig dyddiedig 13 Ionawr 2021 mewn perthynas â Trawsnewid Trefi: Grant Seilwaith Gwyrdd a Bioamrywiaeth gan LlC ar gyfer 2020-21.          

 

(2)        Yn rhoi awdurdod dirprwyol i'r Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau, mewn ymgynghoriad â'r Swyddog Adran 151 a Phennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddio, negodi ac ymrwymo i gytundeb cyllido er mwyn darparu'r uchod, ac ymrwymo i bridiant cyfreithiol â Linc Cymru ar y datblygiad.

 

Dogfennau ategol: