Agenda item

Strategaeth Ariannol Tymor Canolig (MTFS) 2021-22 i 2024-25

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog Interim, Cyllid, Perfformiad a Newid adroddiad yn cynnwys y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig (MTFS) 2021-22 i 2024-25, a gynhwysir yn Atodiad 3, gan gynnwys rhagolwg ariannol ar gyfer 2021-25, cyllideb refeniw fanwl ar gyfer 2021-22 a Rhaglen Gyfalaf ar gyfer 2020-21 tan 2030-31.

 

Eglurodd fod y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig (MTFS) yn atodol i Gynllun Corfforaethol y Cyngor, a’i fod yn cynnig yr adnoddau i alluogi’r Cyngor i gyflawni ei amcanion lles. Amlinellodd y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig (MTFS) yr egwyddorion a rhagdybiaethau manwl sy’n gyrru cyllideb a phenderfyniadau gwariant y Cyngor, y cyd-destun ariannol ar gyfer gweithrediadau’r Cyngor, gan geisio lleihau unrhyw risgiau a phwysau ariannol wrth symud ymlaen, yn ogystal â manteisio ar unrhyw gyfleoedd posib.

 

Ychwanegodd fod setliad terfynol llywodraeth leol ar gyfer 2021-22 tua deufis yn hwyr na’r arfer, yn sgil yr oedi yng nghanlyniad Adolygiad Gwariant Cynhwysfawr llywodraeth y DU, o ganlyniad i’r pandemig Covid-19. Nid oedd disgwyl cyhoeddi’r setliad terfynol tan 2 Mawrth 2021 ac oherwydd hynny, cyflwynwyd y gyllideb hon ar sail y setliad dros dro a dderbyniwyd ym mis Rhagfyr 2020. Cyflwynwyd cefndir pellach yn adran 4 yr adroddiad.

 

Amlinellodd y Prif Swyddog Interim, Cyllid, Perfformiad a Newid oblygiadau ariannol fel y nodwyd yn adran 8 yr adroddiad. Pwysleisiodd mai’r risg ariannol fwyaf oedd yn wynebu’r Cyngor ar hyn o bryd oedd yr un yn ymwneud â’r ansicrwydd yngly?n ag ariannu Llywodraeth Cymru, yn cynnwys cyllid i leihau effaith Covid-19, yr anhawster cynyddol wrth gyflwyno’r toriadau arfaethedig yn y gyllideb yn ogystal ag adnabod argymhellion pellach.

 

Diolchodd yr Arweinydd i’r tîm am yr holl waith ar y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig (MTFS) yn ogystal â’r Rhaglen Gyllid 2020-21 tan 2030-31 yn enwedig yn wyneb heriau’r flwyddyn ddiwethaf.

 

Holodd y Dirprwy Arweinydd os oedd yna unrhyw argymhellion eraill o safbwynt y gyllideb.

 

Dywedodd y Prif Swyddog Interim, Cyllid, Perfformiad a Newid nad oedd yna unrhyw argymhellion eraill o safbwynt y gyllideb. Dydd Gwener diwethaf oedd y dyddiad cau ar gyfer cynnig argymhellion eraill, a doedd dim wedi dod i law o fewn y cyfnod gofynnol.

 

Diolchodd Dirprwy Arweinydd y Panel Ymchwil a Gwerthuso Cyllideb am yr amser a dreuliwyd yn ystyried y wybodaeth, craffu a chynnig mewnbwn. Ychwanegodd fod mewnbwn Aelodau Annibynnol y Panel yr un mor werthfawr. Cyfeiriodd y Dirprwy Arweinydd at y 14 argymhelliad a wnaed gan y Panel gan ymhelaethu ar ymatebion y Cabinet.

 

Pwysleisiodd yr Arweinydd fod cyfraniadau’r Pwyllgor Trosolwg Corfforaethol a Chraffu a phob Aelod etholedig y tu allan i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu hefyd yn werthfawr ac wedi eu hystyried wrth lunio’r gyllideb, a oedd yn amlwg yn y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig a gyflwynwyd.

 

Dywedodd yr Arweinydd na chafodd yr argymhellion ar gyfer y gyllideb eu datblygu dros nos, a bod y broses wedi bod yn un hir a chraff a ddechreuodd bron yn syth ar ôl y gyllideb flaenorol. Gofynnodd i’r Prif Swyddog Interim, Cyllid, Perfformiad a Newid i egluro’r llinell amser yn y cyswllt hwn.

 

Eglurodd y Prif Swyddog Interim, Cyllid, Perfformiad a Newid fod y broses wedi dechrau’n fuan iawn ar ôl pennu cyllideb 2020, a hynny ar ddiwedd mis Chwefror a dechrau mis Mawrth 2020 a bod y Cabinet yn ymwybodol o’r llinell amser ar gyfer argymhellion cyllideb 2021 yn fuan wedyn. Eglurodd fod cyfarfod cyntaf Panel Ymchwil a Gwerthuso’r Gyllideb (BREP) wedi digwydd rhwng diwedd mis Mai a dechrau mis Mehefin 2020 pan gynhaliwyd y trafodaethau cychwynnol yngly?n â’r argymhellion. Rhoddwyd sawl cyfle wedyn i’r Pwyllgor Craffu a Throsolwg Testun graffu ar feysydd arbennig o safbwynt yr argymhellion yn ymwneud â’r gyllideb, yn ogystal â thrafod a chynnig argymhellion. Cafodd y cyfan ei gyflwyno wedyn i’r Pwyllgor Trosolwg Corfforaethol a Chraffu gyda holl aelodau’r Pwyllgor Craffu a Throsolwg Testun yn cael eu gwahodd i’r trafodaethau. 

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet Cymunedau fod cynnydd o 3.9% yn Nhreth y Cyngor wedi’i argymell gan y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig (MTFS), a oedd yn well cynnig na’r hyn a ddisgwyliwyd ar ddechrau’r broses. Holodd beth oedd y sefyllfa o safbwynt ein treth cyngor ni mewn cymhariaeth ag Awdurdodau Lleol eraill. 

 

Eglurodd y Prif Swyddog Interim, Cyllid, Perfformiad a Newid, er na allai roi ateb pendant gan nad oedd llawer o awdurdodau lleol wedi cynnal eu cyfarfod cyllideb hyd yn hyn, dangosai trafodaethau cynnar fod awdurdodau lleol eraill yn edrych at gynnydd tebyg yn nhreth y cyngor a bod pob awdurdod lleol yng Nghymru yn argymell rhywfaint o gynnydd yn nhreth y cyngor. 

 

Eglurodd yr Arweinydd y gallai nifer o drigolion fod yn wynebu anawsterau wrth dalu treth y cyngor. Holodd os oedd yna fesurau ar waith i helpu’r rhai oedd yn y fath sefyllfa

 

Eglurodd y Prif Swyddog Interim, Cyllid, Perfformiad a Newid y gallai trigolion cymwys wneud cais i’r Cynllun Leihau Treth y Cyngor, oedd yn fodd o gynnig helpu i’r rhai ar incwm isel neu’r rhai oedd newydd golli eu swyddi o ganlyniad i Covid-19. Ychwanegodd fod rhai newidiadau wedi eu gwneud i’r ffordd y gellid talu treth y cyngor, yn cynnwys rhoi’r cyfle i drigolion dalu yn ystod y 10 mis olaf yn hytrach na’r 10 mis cyntaf. Ychwanegodd fod agwedd bersonol a rhagweithiol wedi’i chymryd drwy fynd i’r afael â deall amgylchiadau personol a chefnogi trigolion gorau posib wrth dalu treth y cyngor a sicrhau fod y rhai sy’n gymwys yn ymwybodol o’r Cynllun Lleihau Treth y Cyngor.

 

Nododd yr Arweinydd fod gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont gronfeydd arian wrth gefn. Holodd beth oedd diben y cronfeydd yma. 

 

Ymhelaethodd y Prif Swyddog Interim, Cyllid, Perfformiad a Newid ar y cronfeydd wrth gefn ac ar gyfer beth y clustnodwyd bob canran o’r cronfeydd, oedd yn ymwneud â, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • Costau rhedeg y Cyngor
  • Rhaglen Gyfalaf
  • Rheoli Asedau
  • Cronfa Covid-19
  • Grantiau ariannu
  • Ceisiadau sylweddol, ad-drefnu gwasanaeth, yswiriant a thâl diswyddo.

 

Eglurodd yr Arweinydd fod Archwilwyr o Archwilio Cymru yn archwilio cronfeydd wrth gefn y Cyngor yn gyson ac yn gallu cynnig argymhellion yngly?n â sut y dylai’r Cyngor ddefnyddio’r cronfeydd wrth gefn.

 

Ymhelaethodd y Prif Swyddog Interim, Cyllid, Perfformiad a Newid ar y mater hwn gan ddweud fod Archwilwyr yn edrych yn ofalus ar y cronfeydd wrth gefn gan sicrhau fod yr arian hwnnw’n cael ei glustnodi fel rhan o’u criteria prawf. Roeddent hefyd wedi ymgymryd â gwaith yn ymwneud â chynaliadwyedd ariannol ac wedi cynnig sylwadau ffafriol ar gronfeydd wrth gefn Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont o safbwynt cynllunio ariannol. 

 

Cefnogodd yr Aelod Cabinet Lles a Chenedlaethau’r dyfodol yr adroddiad Strategaeth Ariannol Tymor Canolig a’r argymhellion o safbwynt y gyllideb am y rhesymau canlynol:

  • fod gan bob Aelod gyfle i gynnig mewnbwn
  • fod ymgynghoriad cyhoeddus wedi’i gynnal i drafod cynnwys y gyllideb a bod newidiadau wedi digwydd yn sgil hynny
  • fod lles a chenedlaethau’r dyfodol wedi eu hystyried wrth lunio argymhellion a amlygwyd gan y nifer o’r agweddau yma a gynhwyswyd yn yr atodiadau.

 

 

CYTUNWYD: Derbyniodd y Cabinet y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig (MTFS) 2021-22 tan 2024-25, yn cynnwys y gyllideb refeniw a Rhaglen Gyfalaf 2020-21 tan 2030-31, gan argymell yr elfennau canlynol i’r Cyngor eu derbyn:

 

  • Y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig (MTFS) 2021-22 tan 2024-25 (Atodiad 3).

 

  • Gofynion y Gyllideb Net o £298,956,245 yn 2021-22.

 

  • Treth Cyngor Band D o £1,597.01 ar gyfer Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar gyfer 2021-22 (Tabl 17 o’r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig (MTFS)).

 

  • Cyllidebau 2021-22 a glustnodwyd yn unol â Thabl 10 ym mharagraff 4.1.3 y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig (MTFS).

 

  • Rhaglen Gyfalaf 2020-21 tan 2030-31, a atodir yn Atodiad H y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig (MTFS).

 

Dogfennau ategol: