Agenda item

Cynllun Corfforaethol 2018-2023 Adolygwyd ar gyfer 2021-2022

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog Interim – Cyllid, Perfformiad a Newid adroddiad i geisio cefnogaeth i Gynllun Corfforaethol 2018-2023 y Cyngor a adolygwyd ar gyfer 2021-22 (Atodiad A) cyn ei gyflwyno i’r Cyngor i’w gadarnhau.

 

Eglurodd fod y Cynllun Corfforaethol 2018-2023, yn disgrifio gweledigaeth y Cyngor ar gyfer Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont, ein 3 nod lles a’r gwerthoedd sefydliadol sy’n Sylfaen i’r modd yr ydym yn gweithio ac yn cyflawni ein blaenoriaethau. Mae hefyd yn cynrychioli’r cyfraniad i gyflawni’r 7 nod lles cenedlaethol.

 

Eglurodd y Prif Swyddog Interim – Cyllid, Perfformiad a Newid fod y Cynllun Corfforaethol wedi’i adfywio ar gyfer 2021-22. Digwyddodd hyn yn sgil proses gynllunio’r Cynllun Corfforaethol gan Gyfarwyddwyr Corfforaethol / Penaethiaid Gwasanaethau drwy dîm rheoli adrannol pob Cyfarwyddiaeth. Cynhaliwyd y broses rhwng mis Hydref 2020 a mis Rhagfyr 2020 er mwyn adolygu gwelliant a chreu cynllun symlach.

 

Eglurodd y Prif Swyddog Interim – Cyllid, Perfformiad a Newid fod y targedau a osodwyd wedi mynd yn angof yn sgil Covid-19, oherwydd nad oedd y dangosyddion perfformiad a’r data a gasglwyd yn nodweddiadol o berfformiad blwyddyn gyffredin.

 

Cyfeiriodd at y ffaith fod y Pwyllgor Trosolwg Corfforaethol a Chraffu wedi ystyried y cynllun diweddaraf ar 14 Ionawr 2021 gan wneud nifer o sylwadau adeiladol, a ychwanegwyd at y cynllun diweddaraf os yn ddichonadwy. Byddai’r Pwyllgor yn parhau i fonitro’r cynnydd yn unol â’r cynllun.

 

Diolchodd yr Arweinydd i’r Prif Swyddog Interim – Cyllid, Perfformiad a Newid am yr adroddiad. Nododd mai dyma’r adroddiad pwysicaf i’r Cabinet ei dderbyn ac roedd yn falch iawn o ymroddiad yr Aelodau drwy gyfrwng y Pwyllgor Trosolwg Corfforaethol a Chraffu fel y dangoswyd yn y cynllun.

 

Croesawodd yr Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol a Help Cynnar yr adroddiad gan nodi, o ystyried y sefyllfa yr oeddem wedi bod yn ei wynebu yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, ei bod yn falch o weld cydweithio a bod sawl perthynas wedi’i chryfhau. Eglurodd fod yr agenda atal yn hollbwysig ac wedi’i chydnabod felly yn ystod y pandemig.

 

Cefnogodd yr Aelod Cabinet Addysg ac Adfywiad y datganiad yn ymwneud â dangosyddion perfformiad gan ddweud fod hyn yn amlwg iawn o fewn y sector addysg. Talodd deyrnged i brif athrawon, athrawon, rhieni a phlant oedd wedi dioddef caledi yn ystod Covid-19 gan ddweud fod yr heriau’n drechadwy.

 

Diolchodd yr Aelod Cabinet Lles a Chenedlaethau’r Dyfodol yr holl swyddogion oedd wedi cyfrannu at yr adroddiad a’i wneud mor ddarllenadwy. Cyfeiriodd at nifer o feysydd pwysig oedd wedi eu nodi yn yr adroddiad gan nodi ei bod yn falch i weld fod yr agwedd amgylcheddol yn bwysig a heb fynd yn angof ymysg eraill. 

 

Diolchodd y Dirprwy Arweinydd i bawb a fu’n rhan o lunio’r adroddiad ac roedd yn hynod falch o’r staff oedd wedi camu i’r adwy yn ystod y cyfnod anodd hwn – nifer ohonynt yn ymgymryd â rôl newydd ac anghyfarwydd. Diolchodd hefyd i’r tîm cyllid am ddosbarthu gwerth £30 miliwn o grantiau busnes i fusnesau lleol oedd eu hangen.

 

Pwysleisiodd yr Arweinydd fod llawer o fanylion yr adroddiad yn bwysig ac yn cynnwys cynlluniau hanfodol ond eto heb fod yn rhestr lafurus o bopeth a gyflawnwyd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont. Roedd llawer o wasanaethau a ddarparwyd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont heb eu cynnwys o reidrwydd yn y Cynllun Corfforaethol, er eu bod lawn mor bwysig.

 

Diolchodd yr Aelod Cabinet Cymunedau i’r tîm a luniodd yr adroddiad am gyflwyno strategaeth drylwyr a chydlynol o safbwynt rhwydweithiau gwres. Eglurodd nad oedd y tîm yn un mawr, ond roedd pawb wedi gweithio’n ddiflino ar y strategaethau yma ac roedd yn bwysig nodi hynny.

 

CYTUNWYD: Y Cabinet:

 

Cefnogwyd y Cynllun Corfforaethol 2018-2023 a adolygwyd ar gyfer 2021-22 a’i argymell i’r Cyngor ei gymeradwyo ar 24 Chwefror 2021.

 

Dogfennau ategol: