Agenda item

Derbyn cyhoeddiadau gan yr Arweinydd.

Cofnodion:

Cyhoeddodd yr Arweinydd y gallai fod gan yr Aelodau ddiddordeb i wybod fod dros 126,300 o frechiadau bellach wedi eu rhoi ar hyd a lled rhanbarth Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.

 

O safbwynt Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont, mae dros 37,300 o bobl wedi derbyn o leiaf un dogn o’r brechiad.

 

Dyma newyddion ardderchog, ac yn dra gwahanol i’n sefyllfa flaenorol, a ninnau’n un o’r ardaloedd a effeithiwyd waethaf drwy Gymru gyfan.

 

Er gwaetha’r ffaith fod y sefyllfa wedi gwella, mae’n bwysig cofio fod 38 o bobl yn gwella o Covid-19 ar hyn o bryd yn Ysbyty Tywysoges Cymru.

 

Mae’r ffigyrau diweddaraf ar gyfer Cwm Taf yn cadarnhau fod 16 o’n trigolion yn dal i frwydro yn erbyn y salwch yno, tri ohonynt yn derbyn gofal dwys, felly mae’n bwysig ein bod yn dal yn effro i beryglon y salwch.

 

Mae Aelodau’n ymwybodol o’r ffaith fod blaenoriaethu grwpiau ar gyfer y rhaglen frechu yn digwydd dan arweiniad y Cydbwyllgor Brechu ac Imiwneiddio ar hyd a lled y DU.

 

Dylai unrhyw un sydd o fewn y pedwar gr?p cyntaf sy’n pryderu am nad ydynt wedi derbyn apwyntiad ar gyfer eu dogn gyntaf ffonio 01443 562 264 neu lenwi ffurflen ar-lein ar wefan Cwm Taf.

 

Ar y llaw arall, gan fod brechiadau ar gyfer y bobl yn y pedwar gr?p blaenoriaeth cyntaf wedi eu cwblhau, mae’r ffocws bellach ar yr 120,000 o bobl sy’n perthyn i grwpiau blaenoriaeth pump i naw.

 

Cred cydweithwyr yng Nghwm Taf eu bod yn debygol o gwblhau’r ffes newydd a rhoi o leiaf un dogn o’r brechiad i bawb erbyn diwedd mis Ebrill.

 

Mae’r Cyngor yn parhau i gydweithio’n agos â’r bwrdd iechyd, ac yn cefnogi dosbarthu’r brechiad yma ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont.

 

Rydym yn arwain ar fenter brofi llif ochrol, a adnabyddir hefyd fel profi cymunedol, o fewn nifer o’n wardiau lleol.

 

Menter bedair wythnos gan Lywodraeth Cymru yw hon lle mae tîm profi’n targedu cymunedau gwahanol, gan brofi trigolion 11 oed a throsodd nad ydynt yn arddangos unrhyw symptomau Covid-19.

 

Yr amcan yw adnabod unigolion asymptomatig efallai nad ydynt yn ymwybodol eu bod wedi eu heintio.

 

Mae’n ymwneud â sefydlu canolfannau y gall pobl eu mynychu a chynnal prawf arnynt eu hunain, sydd wedyn yn cael ei brosesu ar y safle.

 

Bydd y rhai sy’n gwneud y prawf yn derbyn canlyniad ar ffurf neges destun neu e-bost o fewn 30 munud o’i gwblhau.

 

Os yw’n gadarnhaol, gwneir trefniadau i’r unigolyn dderbyn ail brawf i gadarnhau ei statws.

 

Ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont, bydd y profi llif ochrol yn canolbwyntio ar ardaloedd Caerau, Nantyffyllon, Y Pîl, Mynydd Cynffig, Cornelly, Cefn Cribwr, Sarn, Abercynffig, Ynysawdre, Bryncethin, Bryncoch, Pencoed, Hendre, Felindre a Phenprysg.

 

Er bod yr ardaloedd yma wedi eu dewis yn bennaf ar sail data iechyd cyhoeddus, mae’r rhaglen brofi wedi’i chynllunio i allu ymateb petai digwydd i leoliad problemus arall ddod i’r amlwg.

 

Mae paratoadau helaeth ar waith ar hyn o bryd er mwyn trefnu a hybu’r profi llif ochrol, ac mae’r Arweinydd yn gobeithio y bydd yr Aelodau yn chwarae eu rhan drwy sicrhau fod pobl yn ymwybodol ac yn hybu’r profi.

 

Gyda’r rhaglen ar fin dechrau, disgwylir i Lywodraeth Cymru gadarnhau manylion pellach yn y dyfodol agos iawn, a bydd yr Arweinydd yn sicrhau fod yr Aelodau’n derbyn y wybodaeth ddiweddaraf.

 

Bydd profi llif ochrol hefyd yn digwydd o fewn ysgolion lleol a Darpariaeth Amgen y Bont, unwaith eto yn unol â gofynion Llywodraeth Cymru.

 

Bwriad hyn yw ceisio rhwystro’r tebygrwydd o glystyrau ac achosion newydd, gan osgoi amharu ar addysg a gofal sy’n dilyn yn sgil hynny.

 

Drwy gydol y mentrau brechu, profi symudol a chymunedol, roedd yn ofid iddo ddweud y bydd angen i drigolion fod yn effro o hyd i sgamwyr sydd â’u bryd ar dwyllo pobl i roi arian a gwybodaeth gyfrinachol iddynt.

 

Hyderai y byddai Aelodau’n atgoffa eu hetholwyr fod y brechiad ar gael yn rhad ac am ddim. Ni fydd y GIG fyth yn gofyn am arian, ac ni fyddant yn galw mewn cartrefi’n ddirybudd nac yn gofyn i chi am ddogfennau cyfrinachol na manylion banc.

 

Fel o’r blaen, mae’r cyngor yngly?n â chadw Cymru’n ddiogel yn dal yr un peth, felly dylid cofio cadw pellter o ddwy fetr oddi wrth eraill, golchi dwylo’n gyson a gwisgo gorchudd wyneb yn ôl y gofyn.

 

Mae adnoddau profi symudol ar gael o hyd o fewn Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar gyfer unrhyw un sy’n dioddef o symptomau Covid-19, a cheir manylion pellach yngly?n â’r rhain ar wefannau’r Cyngor, Cwm Taf a Llywodraeth Cymru.

 

Cyhoeddodd yr Arweinydd cyn cloi, ein bod wrth gwrs ei bod hi bron yn flwyddyn nawr ers dechrau’r pandemig. Mae prosiect cenedlaethol ar waith i nodi’r digwyddiad ar 23 Mawrth, er mwyn rhoi cyfle i bobl dalu gwrogaeth i’r rhai sydd wedi marw o ganlyniad i Covid-19.

 

Mae’r prosiect yn ymwneud â goleuo strwythurau eiconig ac adeiladau cymunedol, megis y Pafiliwn Mawr ym Mhorthcawl, a bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont yn cymryd rhan.

 

Bydd yr Arweinydd yn rhannu manylion pellach gydag Aelodau cyn gynted ag y byddant wedi eu cadarnhau.