Agenda item

Cynllun Corfforaethol 2018-2023 Adolygwyd ar gyfer 2021-22

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog Interim – Cyllid, Perfformiad a Newid adroddiad yn ceisio cefnogaeth y Cyngor i Gynllun Corfforaethol y Cyngor 2018-2023 a adolygwyd ar gyfer 2021-22 (atodir yn Atodiad A yr adroddiad).

 

Eglurodd fod y Cynllun Corfforaethol 2018-2023, yn disgrifio gweledigaeth y Cyngor ar gyfer Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont, ein 3 nod lles a’r gwerthoedd sefydliadol sy’n Sylfaen i’r modd yr ydym yn gweithio ac yn cyflawni ein blaenoriaethau. Mae hefyd yn cynrychioli’r cyfraniad i gyflawni’r 7 nod lles cenedlaethol.

 

Eglurodd y Prif Swyddog Interim – Cyllid, Perfformiad a Newid fod y Cynllun Corfforaethol wedi’i adfywio ar gyfer 2021-22. Digwyddodd hyn yn sgil proses gynllunio’r Cynllun Corfforaethol gan Gyfarwyddwyr Corfforaethol / Penaethiaid Gwasanaethau drwy dîm rheoli adrannol pob Cyfarwyddiaeth. Cynhaliwyd y broses rhwng mis Hydref 2020 a mis Rhagfyr 2020 er mwyn adolygu gwelliant a chreu cynllun symlach.

 

Fel rhan o’r gwaith a ymgymerwyd i ddatblygu agwedd y Cyngor at gynllunio adferiad yn sgil Covid-19, defnyddiwyd argymhelliad y Panel Adferiad amlbleidiol a sefydlwyd gyda’r bwriad o lunio, hysbysu a chynghori’r Cabinet ar waith cynllunio adferiad y Cyngor er budd yr adolygiad o’r Cynllun Corfforaethol ar gyfer 2021-22.

 

Hefyd, fel rhan o’r adolygiad blynyddol, awgrymwyd y dylid ymestyn oes y Cynllun Corfforaethol cyfredol o flwyddyn tan 2023. Eglurwyd y syniadaeth y tu ôl i hyn ym mharagraff 4.5 yr adroddiad.

 

Eglurodd y Prif Swyddog Interim – Cyllid, Perfformiad a Newid fod y targedau a osodwyd wedi mynd yn angof yn sgil Covid-19, oherwydd nad oedd y dangosyddion perfformiad a’r data a gasglwyd yn nodweddiadol o berfformiad blwyddyn gyffredin.

 

Cyfeiriodd at y ffaith fod y Pwyllgor Trosolwg Corfforaethol a Chraffu wedi ystyried y cynllun diweddaraf ar 14 Ionawr 2021 gan wneud nifer o sylwadau adeiladol, a ychwanegwyd at y cynllun diweddaraf os yn ddichonadwy. Byddai’r Pwyllgor yn parhau i fonitro’r cynnydd yn unol â’r cynllun, ychwanegodd y Prif Swyddog Interim – Cyllid Perfformiad a Newid.

 

O dderbyn cefnogaeth y Cyngor, byddai’r Cynllun diwygiedig yn cael ei ddefnyddio yn lle’r Cynllun Corfforaethol cyfredol. Byddai’n cael ei weinyddu gyda chefnogaeth y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig a chyfarwyddiaeth cynlluniau busnes. Byddai’n cael ei fonitro’n chwarterol drwy gyfrwng y broses Asesu Perfformiad Corfforaethol, cyfarfodydd rheoli’r tîm cyfarwyddo a ddwywaith y flwyddyn gan y Pwyllgor Trosolwg Corfforaethol a Chraffu. 

 

Teimlai’r Aelod Cabinet – Addysg ac Adfywiad fod y targedau a’r dangosyddion perfformiad a osodwyd y llynedd yn ystod cyfnod Covid bellach bron yn amherthnasol, o ystyried na fyddai modd i’r gwaith a gyflawnwyd gan yr Awdurdod yn ystod y fath gyfnod digynsail lawn adlewyrchu’r heriau a wynebwyd gan staff Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont a’r gwaith a gyflawnwyd ganddynt ar ran y Cyngor bron o ddiwrnod cyntaf y cyfnod clo.

 

Cadarnhaodd yr Arweinydd nad oedd y Cynllun Corfforaethol yn llawn adlewyrchu rhai o’r newidiadau dramatig a phellgyrhaeddol a oedd wedi effeithio ar gymdeithas yn ystod y 12 mis diwethaf. Roedd yr Awdurdod wedi llwyddo i gyflawni llawer mewn cyfnod byr, yn cynnwys cefnogi’r digartref drwy ddarparu llety dros dro. Roedd gwaith gyda’r trydydd sector yn parhau er mwyn helpu’r unigolion yma i wella’u bywydau ymhellach, drwy eu helpu i sicrhau llety parhaol i’r dyfodol. Diolchodd i aelodau’r Pwyllgor Trosolwg Corfforaethol a Chraffu am eu gwaith adeiladol oedd wedi helpu wrth lunio’r Cynllun.

 

Nododd yr Aelod Cabinet – Cymunedau y byddai rhai o weledigaethau ac amcanion y Cynllun yn cynnwys Bargen Dinas Ranbarthol Prifddinas Caerdydd yn creu 25,000 o swyddi yn ystod y 15 mlynedd nesaf a buddsoddiad sector breifat o 4 biliwn, yn cynnwys ymrwymiad pendant i fyd twristiaeth a busnes yn ogystal ag argymhellion datgarboneiddio drwy Strategaeth newydd.

 

Hyderai Aelod hefyd, cyn gynted ag y byddai’r pandemig yn dechrau dirwyn i ben, y byddai modd cyflawni rhai o dargedau’r Cynllun, o sylweddoli fod y flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn un anodd o safbwynt cyflawni amcanion a gobeithion. Hyderai y byddai modd gwireddu targedau’n ymwneud ag ailddefnyddio eiddo gwag a’u gwneud yn addas i fyw ynddynt unwaith eto yn y dyfodol. 

 

Sicrhaodd y Prif Swyddog Interim - Cyllid, Perfformiad a Newid yr Aelodau y byddai hyn yn digwydd ac y byddai targedau a heriau na chafodd eu cyflawni yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, yn sgil Covid, yn dal i gael eu gwthio yn eu blaenau ac o fethu â’u cyflawni, y byddai'r rhain yn cael eu herio drwy’r broses Drosolwg a Chraffu.

 

Ychwanegodd yr Aelod Cabinet – Lles a Chenedlaethau’r Dyfodol, y byddai’r targed ar gyfer adfer eiddo gwag a’u gwneud yn addas i fyw ynddynt yn ystod y flwyddyn nesaf ac i’r dyfodol yn un realistig wrth i’r Awdurdod wneud ei ffordd allan o’r pandemig.

 

CYTUNWYD:                          Fod y Cyngor yn cefnogi ac yn mabwysiadu Cynllun Corfforaethol 2018-2023, a adolygwyd ar gyfer 2021-22.

Dogfennau ategol: