Agenda item

Strategaeth Ariannol Tymor Canolig (MTFS) 2021-22 tan 2024-25

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog Interim, Cyllid, Perfformiad a Newid adroddiad yn cynnwys y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig (MTFS) 2021-22 i 2024-25, a gynhwysir yn Atodiad 3, gan gynnwys rhagolwg ariannol ar gyfer 2021-25, cyllideb refeniw fanwl ar gyfer 2021-22 a Rhaglen Gyfalaf ar gyfer 2020-21 tan 2030-31.

 

Eglurodd fod y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig (MTFS), wedi’i llywio’n sylweddol gan brif flaenoriaethau penodol. Er bod newidiadau blynyddol Cyllid Allanol Cyfansymiol (AEF) wedi gorfodi lleihad sylweddol yn y gyllideb ar draws meysydd gwasanaeth gwahanol, mae’r Cyngor yn dal i chwarae rôl amlwg yn economi leol Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ac yn gyfrifol am grynswth gwariant blynyddol o gwmpas £435 miliwn a dyma’r cyflogwr mwyaf o fewn y fwrdeistref sirol.

 

Mae Cynllun Corfforaethol y Cyngor hefyd wedi’i gyflwyno i’r Cyngor i’w gymeradwyo ynghyd â’r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig (MTFS) 2021-25, ac mae’r ddwy ddogfen yn ymochrol, ac felly’n galluogi’r darllenydd i wneud cysylltiadau penodol rhwng amcanion lles y Cyngor a’r adnoddau sydd wedi eu clustnodi i’w cefnogi.

 

Aeth y Prif Swyddog Interim – Cyllid, Perfformiad a Newid ymlaen i sôn fod yr adroddiad yn cael ei gyflwyno i’r Cyngor, er mwyn cyflwyno manylion yngly?n â Strategaeth Ariannol Tymor Canolig y Cyngor ar gyfer y cyfnod pedair blynedd 2020-21 tan 2023-24. Roedd y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig yn gyflenwol i Gynllun Corfforaethol y Cyngor, ac yn edrych i ddarparu adnoddau a fyddai’n galluogi’r Cyngor i gyflawni ei amcanion lles.

 

Mae’r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig yn canolbwyntio ar y modd yr oedd y Cyngor yn bwriadu ymateb i’r toriadau yn y cyllid ar gyfer y sector gyhoeddus o ganlyniad i’r cyfnod parhaus o lymder a’r pwysau cynyddol ar wasanaethau’r sector cyhoeddus, a waethygodd yn ystod y pandemig Covid-19.

 

Roedd adroddiadau chwarterol i’r Cabinet yn ystod y flwyddyn ariannol yn ymwneud â rhagolygon y sefyllfa gyllid ar gyfer 2020-21, wedi amlinellu’n o fanwl effaith costau ychwanegol a cholli incwm a wynebwyd gan y Cyngor yn ystod y flwyddyn yn sgil y pandemig Covid-19 ar y gyllideb. Roedd Llywodraeth Cymru wedi dod i’r adwy o safbwynt lleihau cyfradd helaeth o’r colledion yma drwy gyfrwng nifer o ffynonellau ariannu, yn benodol Cronfa  Caledu Cofid-19. Er nad oedd rhai o’r heriau ychwanegol yma’n gylchol, roedd nifer yn gofyn am ariannu tymor hir wrth i ffyrdd newydd o weithio gael eu hymgorffori yng ngweithrediad arferol y Cyngor, fel yr adlewyrchwyd yn y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig.

 

Argymhellodd y Prif Swyddog Interim - Cyllid, Perfformiad a Newid nad oedd disgwyl cyhoeddi’r setliad terfynol oddi wrth Lywodraeth Cymru tan 2 Mawrth 2021. O ganlyniad, argymhellwyd y gyllideb ar sail y setliad dros dro a dderbyniwyd ym mis Rhagfyr 2020.

 

Aeth yr adroddiad ymlaen i amlinellu’r heriau ariannol y gofynnwyd i’r Cyngor eu hystyried fel rhan o’r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig MTFS 2021-22 tan 2024-25. Mae angen i Swyddog Adran 151 y Cyngor adrodd yn flynyddol ar lefelau’r arian wrth gefn. Eglurodd fod lefelau arian wrth gefn y Cyngor, yn ddigonol i ddiogelu’r Cyngor yn wyneb gofynion annisgwyl neu argyfyngau ar sail lefelau ariannu cyfredol. Serch hynny, dywedodd y Prif Swyddog Interim– Cyllid, Perfformiad a Newid mai’r prif heriau oedd yn wynebu’r Cyngor ar hyn o bryd oedd yr ansicrwydd yngly?n

â chyllid oddi wrth Lywodraeth Cymru, yn cynnwys cyllid i leihau effaith Covid=19, yr anawsterau cynyddol wrth gyflwyno’r toriadau arfaethedig yn y gyllideb, yn ogystal ag adnabod unrhyw argymhellion pellach.

 

Cadarnhaodd y Prif Swyddog Interim – Cyllid, Perfformiad a Newid (a’r Swyddog 151) bod rheidrwydd arni hefyd i adrodd i’r Cyngor os nad oedd yn credu fod gan yr Awdurdod adnoddau digonol i gyflawni ei rôl yn unol â S114 of Deddf Llywodraeth Leol 1988. Gofynnodd i’r Aelodau nodi fod digon o adnoddau ar gael i gyflawni’r rôl hon.

 

Rhannodd y Prif Swyddog Interim – Cyllid, Perfformiad a Newid rhai prif bwyntiau gyda’r Cyngor wedyn a gafodd eu cynnwys yn yr adroddiadau yn y dogfennau cefnogol, h.y. ar ffurf Atodiadau ac Atodlenni, er gwybodaeth i’r Aelodau.

 

Diolchodd y Dirprwy Arweinydd i’r Prif Swyddog Interim – Cyllid, Perfformiad a Newid a’r Tîm Cyllid am yr adroddiad a’r gwaith sylweddol a wnaed wrth ei lunio, er mwyn sicrhau cyllideb gytbwys. Bu’n anodd iawn, cadarnhaodd, i gytuno ar Dreth y Cyngor ar gyfer y flwyddyn oedd i ddod. Serch hynny, roedd angen gwneud penderfyniadau heriol yn dilyn cyfnod o 10 mlynedd o doriadau o £68 o safbwynt lleihad yn y gwasanaethau a ddarparwyd gan y Cyngor oedd yn cyfateb i 25% o gyfanswm cyllideb y Cyngor. Roedd angen gwneud yr arbediad o £8m i’r gyllideb a ragwelwyd yn wreiddiol, ond roedd hynny’n anodd gwneud. Yn gynnar yn nhrafodaethau’r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig eleni, amcangyfrifwyd y byddai angen cynyddu Treth y Cyngor ar gyfer y flwyddyn oedd i ddod o 6.5% ier mwyn i’r Cyngor allu cydymffurfio â’r gyllideb a pharhau i allu cynnig gwasanaethau hanfodol i’r cyhoedd. Cafodd Panel Ymchwil a Gwerthuso Cyllideb y Cyngor (BREP) a’r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu ddigon o gyfle yn ystod y 12 mis diwethaf i holi’r Cabinet a’r Bwrdd Rheoli Corfforaethol yngly?n â lle y gellid gwneud yr arbedion mwyaf, yn ôl y gofyn. Aeth ymlaen i egluro fod y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig wedi ei thrafod yn helaeth, a bod Aelodau wedi cael cyfle i fynegi barn, yn ogystal â’r cyhoedd, drwy’r dulliau ymgynghori arferol. Gwnaed hyn yng nghanol pandemig, ychwanegodd. Ym mis Rhagfyr 2020, eglurodd y Dirprwy Arweinydd fod Llywodraeth Cymru wedi rhoi mwy o arian na’r disgwyl i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont a bod hyn wedi arwain at ailystyried rhai o’r toriadau a argymhellwyd yn wreiddiol. Golygai hyn nad oedd angen gwneud toriadau o £1m mewn ysgolion a bod modd cyfeirio mwy o arian at y digartref. Cafwyd heriau ariannol hefyd, er enghraifft, o safbwynt cynnydd yn nifer y disgyblion mewn ysgolion a chefnogi’r cyflog byw ar gyfer staff y Cyngor. Serch hynny, roedd y Cyngor wedi llwyddo i ariannu’r heriau yma drwy’r cyllid ychwanegol a dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru. Arweiniodd y cyllid ychwanegol hefyd at allu lleihau’r cynnydd i Dreth y Cyngor a argymhellwyd yn gynharach yn y flwyddyn, fel yr amcangyfrifwyd uchod, i 3.9%. 

 

Holodd Aelod os oedd yr arbediad arfaethedig o £300k yng nghyswllt caeau chwarae ayb, ond yn weithredol os fydd y CAT arfaethedig yn cael ei gwblhau.

 

Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Cymunedau fod yr arbedion yma ond yn ymwneud â throsglwyddiadau CAT oedd wedi eu cadarnhau gyda chlybiau a sefydliadau penodol ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf, nid rhai eraill nad oedd wedi eu cadarnhau’n derfynol hyd yma.

 

Cyfeiriodd Aelod at y wybodaeth Asesiad Risg Corfforaethol ar dudalen 165 yr adroddiad, yn benodol risgiau 14 a 15. Holodd os oedd y rhain yn gysylltiedig â Covid, a pha gamau oedd i’w cymryd i leihau Risg 15, a oedd wedi ei graddio fel bod yn risg sylweddol iawn.

 

Credai’r Cyfarwyddwr Corfforaethol – Addysg a Chefnogaeth Deuluol fod y risg hon yn cael ei lleihau drwy arferion oedd eisoes wedi eu mabwysiadu. Serch hynny, eglurodd y byddai’n ymgynghori â’r Consortiwm De Canolog er mwyn profi’r risg hon unwaith eto a dod nôl ag ateb i’r Aelod y tu allan i’r cyfarfod. 

 

Teimlai Aelod na allai gefnogi argymhellion y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig na’r argymhelliad i gynyddu Treth y Cyngor. Daeth i’r casgliad yn sgil effaith y pandemig ar etholwyr y Fwrdeistref Sirol, a olygodd fod nifer sylweddol ohonynt yn wynebu caledu ariannol drwy golli swyddi ayb, gan arwain at ddirywiad yn eu hiechyd a’u lles. Teimlai nad oedd yr argymhellion uchod yn gyson â’r amcanion a nodwyd yng Nghynllun Corfforaethol y Cyngor. Credai fod yna ddulliau amgen o safbwynt arbed arian a allai wneud iawn am y cynnydd yn Nhreth y Cyngor, yn cynnwys toriadau yn nifer y staff yn y swyddfa a/neu gymryd arian o gronfeydd wrth gefn yr Awdurdod a oedd mewn sefyllfa iach.

 

Eglurodd yr Arweinydd fod awdurdodau lleol ar hyd a lled y wlad yn gorfod cynyddu Treth y Cyngor, er mwyn sicrhau cydbwysedd o ran cyllideb, yn enwedig yn wyneb yr heriau ariannol ychwanegol ar sefydliadau cyhoeddus yn sgil Covid-19 a phwysau cyflogau, ac ati. O fethu cyflawni'r rhain yn ystod y flwyddyn hon, byddent ond yn cael eu symud ymlaen i’r flwyddyn nesaf, gan ychwanegu at yr heriau ariannol oedd eto i ddod. Tanlinellodd yr arbedion y gorfodwyd y Cyngor i’w gwneud yn ystod y cyfnod llymder, sef cyfanswm o £68m, yn cynnwys gorfod diswyddo nifer sylweddol o staff y Cyngor ei hun a thorri gwasanaethau cyhoeddus, a oedd wedi cael effaith ar y cyhoedd. Ni chafodd cyllideb amgen ei chyflwyno’n gynharach gan y Panel Ymchwil a Gwerthuso Cyllideb (BREP) na’r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu, yng nghyswllt ffyrdd y gallai’r Cyngor wneud arbedion ar wahân i’r rhai ym maes gwasanaethau fel yr argymhellwyd yn yr adroddiad. Ymhellach, cytunwyd ar nifer o argymhellion a wnaed gan y ddau fel rhan o argymhellion terfynol y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig a gyflwynwyd i Aelodau heddiw. Doedd yr Awdurdod ddim yn dymuno gwneud arbedion yn unrhyw le, ychwanegodd yr Arweinydd, ond doedd fawr o ddewis ond gwneud hynny, yn sgil y sefyllfa bresennol a’r ansicrwydd yr oedd yn ei wynebu i’r dyfodol, yn enwedig yng nghyswllt y pandemig. O fethu cynyddu Treth y Cyngor, byddai angen chwilio am doriadau pellach yn rhywle arall, yn cynnwys ardaloedd o gynnydd, ychwanegodd.

 

Serch hynny, roedd y Cabinet wedi cytuno i ailystyried y modd yr oedd y Panel Ymchwil a Gwerthuso Cyllideb (BREP) yn gweithredu, er mwyn ei wella, ac ystyried y modd yr oedd yn integreiddio â Chyfarwyddwyr wrth ystyried y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig i’r dyfodol.

 

Cytunodd yr Aelodau, yn wyneb y ffaith fod cefnogaeth wrthgyferbyniol ar gyfer argymhellion y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig, symud at bleidlais wedi’i chofnodi. Dyma’r canlyniad:-

 

O Blaid:

 

Y Cynghorwyr S Aspey, SE Baldwin, JP Blundell, NA Burnett, RJ Collins, HJ David, P Davies, PA Davies, J Gebbie, RM Granville, G Howells, M Jones, M Kearn, DRW Lewis, JE Lewis, J McCarthy, D Patel, B Sedgebeer, RMI Shaw, CE Smith, SG Smith, JC Spanswick, G Thomas, DBF White, PJ White, HM Williams ac RE Young  =  27 Pleidlais

 

Yn Erbyn:

 

Y Cynghorwyr T Beedle, M Clarke, N Clarke, DK Edwards, T Giffard, A Hussain, B Jones, A Pucella, KL Rowlands, R Stirman, R Thomas, T Thomas, E Venables, S Vidal, MC Voisey, L Walters, C Webster, A Williams, AJ Williams a J Williams  =  20 Pleidlais

 

Ymatal:

 

Y Cynghorwyr SK Dendy, CA Green, RM James a KJ Watts  =  4 Pleidlais

 

Felly derbyniwd argymhellion yr adroddiad.

 

CYTUNWYD:                 Derbyniodd y Cyngor y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig 2021-22 tan 2024-25 yn cynnwys cyllideb gyllid 2021-22 a Rhaglen Gyfalaf revenue budget and the Capital Programme 2020-21 tan 2030-31, yn cynnwys yr elfennau penodol canlyunol:

 

                                        • Y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig 2021-22 tan 2024-25 (Atodlen 3 yn yr adroddiad).

                                        • Gofynion y Gyllideb Net o  £298,956,245 yn 2021-22.

                                         Treth Cyngor Band D o £1,597.01 ar gyfer 2021-22 ar gyfer Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont (Tabl 17 o’r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig).

                                        • Cyllidebau 2021-22 fel y’i cofnodir yn unol â Thabl 10 ym mharagraff 4.1.3 o’r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig.

                                        • Y Rhaglen Gyfalaf 2020-21 tan 2030-31, a atodir yn Atodiad H o’r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig.   

Dogfennau ategol: