Agenda item

Treth y Cyngor 2021-22

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Prif Swyddog Interim – Cyllid, Perfformiad a Newid, gyda’r diben o roi manylion i’r Cyngor yngly?n â gofynion treth y cyngor o safbwynt y Cyngor Bwrdeistref Sirol, ynghyd â gofynion Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd ar gyfer De Cymru a Chynghorau Cymunedol/Tref, ac i geisio cefnogaeth y Cyngor i dreth cyngor Band D ar gyfer Cyngor Sir Bwrdeistref Pen-y-bont ac ardaloedd y gymuned yn ystod 2021-22.

 

Agorodd yr adroddiad drwy gyflwyno ychydig wybodaeth gefndirol , cyn symud ymlaen i baragraff 4.1, oedd yn amlinellu’r Gyllideb Cyllid Net ar gyfer 2021-22, y cytunwyd arni eisoes yng nghyfarfod heddiw.

 

£298,956,245 yw gofyniad cyllideb net Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar gyfer 2021-22, a’r swm i’w ariannu gan Dreth y Cyngor yw £86,764,691 fel y gwelir yn Nhabl 2 o fewn yr adroddiad. Mae hyn yn cyfateb i Dreth Cyngor o £1,597.01 yn achos eiddo Band D, sy’n gynnydd o 3.9%. Mae’r argymhelliad o gynnydd o 3.9% yn cyfateb i 77c yr wythnos yn achos person sy’n byw mewn eiddo Band A a £1.15 yr wythnos yn achos rhywun sy’n byw mewn eiddo Band D (mae 62% o’r eiddo ym Mhen-y-bont yn is na Band D).

 

Eglurodd y Prif Swyddog Interim – Cyllid, Perfformiad a Newid fod Comisiynydd Heddlu a Throsedd De Cymru wedi hysbysu’r Cyngor fod eu setliad ar gyfer y flwyddyn ariannol sy’n dirwyn i ben ar 31 March 2022 yn cynyddu i £15,631,672, sy’n cyfateb i dreth cyngor o £287.72 ar eiddo Band D, sy’n gynnydd o 5.5%. Cytunwyd ar setliad 2021-22 gan Banel Heddlu a Throsedd De Cymru ar 3 Chwefror 2021.

 

O safbwynt blwyddyn ariannol 2021-22, nododd Comisiynydd Heddlu a Throsedd De Cymru fod y symiau i’w trethi gan y Cyngor yng nghyswllt gwasanaethau’r heddlu, yn unol ag adran 40 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1992, i’w gweld ar gyfer bob categori eiddo yn Nhabl 3 yr adroddiad.

 

Mae Tabl 4, yn adlewyrchu’r cynnydd cyfartalog yn Nhreth y Cyngor ar gyfer 2021-22, yn cynnwys cyfartaledd eiddo Band D.

 

Manylu ar y cynnydd cyfartalog yn Nhreth y Cyngor ar gyfer Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont y mae paragraff 4.6 yr adroddiad (gan gynnwys bob un o’r cyrff setliad).

 

Yn hynny o beth, mae cynnwys gofynion Cyfanswm Cyfartalog Treth Cyngor Band D, 2021-22 y mae Tablau 6 a 7, o safbwynt holl ardaloedd Cymunedol/Trefol Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont. 

 

Holodd Aelod yngly?n â’r cynnydd, gan ychwanegu fod cynnydd o 3.9% yn anffodus. Seiliodd hyn ar y ffaith fod Covid wedi bod yn gyfnod digynsail a bod llawer o drigolion ar hyd a lled y Fwrdeistref Sirol wedi colli eu swyddi, gan arwain at drafferthion o safbwynt talu eu morgais, a rhai hyd yn oed yn gorfod dibynnu ar fanciau bwyd i ddal deupen llinyn ynghyd. Am y rhesymau hynny, credai na ddylai’r cynnydd yn Nhreth y Cyngor ar gyfer 2021-22 fod yn fwy na chyfradd chwyddiant.

 

Holodd hefyd os allai’r nifer o eiddo o fewn bob Bant Treth y Cyngor gael eu nodi ar gyfer bob Band unigol, neu fel canran o bob Band, yn adroddiadau’r dyfodol.

 

Cytunodd aelodau, drwy gydsyniad pawb, i bleidleisio ar y gwelliannau yn yr adroddiad, a dyma nodi’r canlyniad:- 

 

O blaid:

 

Y Cynghorwyr SE Baldwin, JP Blundell, NA Burnett, RJ Collins, HJ David, P Davies, PA Davies, J Gebbie, RM Granville, G Howells, M Jones, M Kearn, DRW Lewis, JE Lewis, JR McCarthy, D Patel, B Sedgebeer, RMI Shaw, CE Smith, SG Smith, JC Spanswick, G Thomas, DBF White, PJ White, HM Williams ac RE Young  =  26 Pleidlais

 

Yn Erbyn:

 

Y Cynghorwyr T Beedle, M Clarke, SK Dendy, DK Edwards, T Giffard, A Hussain, B Jones, A Pucella, KL Rowlands, R Stirman, R Thomas, T Thomas, E Venables, S Vidal, MC Voisey, L Walters, CA Webster, A Williams, AJ Williams and J Williams  =  20 Pleidlais

 

Ymatal:

 

Y Cynghorwyr S Aspey, N Clarke, CA Green, RM James and KJ Watts  =  5 Pleidlais

 

Derbyniwyd argymhellion yr adroddiad felly.

 

CYTUNWYD:                            Cytunodd y Cyngor:-

 

·         y dylai Band D Treth Cyngor Sir Bwrdeistref Pen-y-bont gynyddu i £1,597.01 ar gyfer 2021-22, a

·         ar lefelau Treth Cyngor ar gyfer eiddo Band D 2021-22 ar gyfer pob cymuned yn unol â’r hyn a amlinellwyd yn Nhabl 7 yr adroddiad.

 

Dogfennau ategol: