Agenda item

Rheolaeth y Trysorlys a Strategaethau Cyfalaf o 2021-22 Ymlaen

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Prif Swyddog Interim – Cyllid, Perfformiad a Newid, gyda’r nod o gyflwyno Strategaeth Reolaeth y Trysorlys 2021-22 (Atodiad A yr adroddiad), sy’n cynnwys Dangosyddion Rheoli’r Trysorlys, a’r Strategaeth Gyfalaf 2021-22 tan 2030-31 (Atodiad B), oedd yn cynnwys y Dangosyddion Ariannol a Datganiad Isafswm y Ddarpariaeth Refeniw 2021-22 (Atodlen A Atodiad B), i’r Cyngor ei gymeradwyo.

 

Eglurodd fod Strategaeth Rheoli’r Trysorlys 2021-22 yn cadarnhau cydymffurfiaeth y Cyngor gyda Chod y CIPFA, sy’n gofyn i amcanion, polisïau ac arferion cynhwysfawr yn eu lle ar gyfer rheolaeth effeithiol o weithgareddau rheoli’r trysorlys, a bod rheoli risg yn un o brif amcanion y gweithgareddau yma. Roedd hefyd yn cynnwys Dangosyddion Rheoli’r Trysorlys ar gyfer cyfnod treigl o dair blynedd.

 

Diweddarwyd Strategaeth Rheoli’r Trysorlys i adlewyrchu’r cyd-destun economaidd cyfredol, yn cynnwys y ffaith fod Banc Lloegr yn cadw’r cyfraddau llog ar raddfa o 0.10%, yn ogystal â’r sialensiau cysylltiedig â gadael yr Undeb Ewropeaidd ac effaith y pandemig Covid-19, a oedd yn parhau o hyd ac felly’n dal i achosi risg sylweddol.

 

Ychwanegodd y Prif Swyddog Interim - Cyllid, Perfformiad a Newid fod terfynau buddsoddi gwrth bartïon (Tabl 6 o’r Strategaeth Rheoli’r Trysorlys atodedig) wedi eu symleiddio a’u haddasu i ystyried y wybodaeth ddiweddaraf oddi wrth Ymgynghorwyr Trysorlys y Cyngor, Arlingclose. Cafwyd newid i derfynau’r Gronfa Farchnad Arian, a oedd wedi cynyddu yn y gorffennol i £30 miliwn fel y cymeradwywyd gan y Cyngor ym mis Tachwedd 2020. Diddymwyd y terfyn yma bellach gan olygu nad oes terfyn buddsoddiad o safbwynt y Gronfa Farchnad Arian. Serch hynny, ni chaiff mwy na £6 miliwn ei fuddsoddi mewn unrhyw Gronfa unigol, er mwyn lleihau’r risg diffyg i’r Cyngor.

 

Eglurodd yr adroddiad y gall y Cyngor gynnig benthyciadau i drydydd parti ar gyfer gwariant cyfalaf. Cynyddwyd y terfyn arfaethedig ar gyfer y fath fenthyciadau o £1 filiwn i £2 filiwn. Gwnaed hyn i gefnogi’r buddsoddiad posibl mewn Cerbyd Diben Arbennig i gefnogi cyflwyno’r Rhwydwaith Gwres Tref Pen-y-bont arfaethedig.

 

Eglurodd y Prif Swyddog Interim – Cyllid, Perfformiad a Newid fod y Strategaeth Gyllid, Atodiad B, yn cynnig trosolwg sylweddol o’r modd y mae gwariant cyfalafol a gweithgaredd rheolaeth y trysorlys yn cyfrannu at ddarparu gwasanaethau, yn ogystal ag yn rhoi trosolwg o’r modd y caiff y risg sy’n gysylltiedig â hynny ei rheoli a’r oblygiadau o safbwynt cynaliadwyedd i’r dyfodol. Drwy wneud hynny, cynhwyswyd Dangosyddion Ariannol ar gyfer cynfod treiglo o dair blynedd.

 

Mae’r Strategaeth Gyfalaf hefyd yn cynnig fframwaith ar gyfer hunan-reoli cyllid cyfalaf ac yn ystyried y meysydd canlynol:-

 

• Gwariant cyfalaf a chynlluniau buddsoddi

• Dangosyddion Ariannol

• Dyled allanol

• Rheoli’r Trysorlys.

 

Adroddir ymhellach hefyd ar gyflawniad, fforddadwyedd a’r risgiau sy’n gysylltiedig â’r cyd-destun hir dymor o safbwynt gwariant cyfalaf a phenderfyniadau’n ymwneud â buddsoddiadau, ychwanegodd y Prif Swyddog Interim – Cyllid, Perfformiad a Newid.

 

Er bod cryn dipyn o gynnwys y Strategaeth yn debyg i’r hyn a gafwyd yn y gorffennol, cafwyd nifer o newidiadau yr oedd angen eu tanlinellu. Roedd y rhain yn ymwneud â Chyfrifeg Prydlesi, Benthyciadau ar gyfer Gweithgareddau Masnachol ac argymhellion penodol yn ymnweud ag Archwiliadau Mewnol.

 

Daeth y Prif Swyddog Interim – Cyllid, Perfformiad a Newid i ddiwedd ei chyflwyniad wedyn, gan gynnig diweddariad i’r Cyngor yngly?n â phrif elfennau gwybodaeth atodol yr adroddiad, yn enwedig yng nghyswllt rhoi a derbyn benthyciadau ac unrhyw newidiadau yng nghyswllt trefniadau’n ymwneud â hynny.

 

Cyfeiriodd Aelod at y Cerbyd Pwrpas Arbennig a’r argymhelliad i gynyddu benthyciadau i gwmnïau allanol hyd at £2m. Holodd yn benodol yngly?n â sut yr oedd yr Awdurdod yn bwriadu amddiffyn ei hun rhag benthyciadau hyd at y swm yma ac yna benthyg er mwyn darparu Cerbyd Pwrpas Arbennig. Amcangyfrifwyd y byddai’r ad-daliad ar gyfer hwn dros gyfnod o 40 mlynedd ar gyfradd llog o 2.6%. Holodd a fyddai’r math hwn o fenthyca’n effeithio ar allu’r Cyngor i fenthyg arian, er mwyn ariannu Rhaglenni Ysgol Band B.

 

Cadarnhaodd y Prif Swyddog Interim – Cyllid, Perfformiad a Newid nad oedd yr Awdurdod wedi ymwneud erioed o’r blaen â Cherbyd Pwrpas Arbennig. Serch hynny, o safbwynt sicrwydd, eglurodd y byddai’r Cerbyd Pwrpas Arbennig yn derbyn cefnogaeth o safbwynt sylwdau gan y Cyngor, yn ogystal â chan gwmni â chysylltiadau agos iawn â Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont. Felly, byddai gennym elfen o reolaeth dros y buddsoddiad yn y cyswllt hwn. Er nad oedd modd i unrhyw sefydliad leihau’r risg oedd yn gysylltiedig â benthyciadau, eglurodd y Prif Swyddog Interim – Cyllid, Perfformiad a Newid fod cydweithwyr yn y Gyfarwyddiaeth Cymunedau’n sicrhau fod prosesau wedi eu sefydlu i leihau’r risgiau yma.

 

Holodd yr Aelod wedyn beth oedd cost rhedeg y Cerbyd Pwrpas Arbennig, a ble fyddai Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont yn edrych, h.y. o safbwynt cwmni ynni safonol, a chanddo’r profiad mwyaf perthnasol a digonol i gefnogi’r argymhelliad yn iawn. A oedd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ddigon o brofiad i gefnogi prosiect o’r maint hwn, ychwanegodd, o gofio ei fod yn heriol iawn.

 

Sicrhaodd yr Aelod Cabinet – Cymunedau – yr Aelod, er bod hwn yn gysyniad newydd i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont, roedd awdurdodau lleol eraill wedi ymgymryd â mentrau fel hyn, h.y., cwmni lled braich i alluogi Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont i ddarparu gwasanaethau allweddol ar eu rhan. Roedd y prosiect hefyd yn gysylltiedig â Strategaeth Ddatgarboneiddio’r Cyngor, ychwanegodd.

 

Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Cymunedau y byddai adroddiad mwy cyflawn yn ymwneud â’r Cerbyd Pwrpas Arbennig yn cael ei gyflwno i’r Cabinet ar 9 Mawrth ac y byddai’r adroddiad hwn yn egluro’r argymhelliad fwy manwl fel rhan o gynllun Rhwydwaith Gwres Rhanbarth Pen-y-bont. Eglurodd y byddai’r cyllid ar gyfer y fenter yn cael ei drefnu ar y cyd rhwng Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont a’r Prosiect Buddsoddi Rhwydweithiau Gwres (HNIP), rhaglen dan nawdd y llywodraeth, sydd wedi addo dros £1m ar gyfer rhwydwaith fesul cam, gan ddechrau gyda Ffês 1 yng Nghanolfan Bywyd Pen-y-bont. Felly, byddai’r buddsoddiad yn deillio o Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont a’r Prosiect Buddsoddi Rhwydweithiau Gwres.  Un o argymhellion y Prosiect Buddsoddi Rhwydweithiau Gwres wrth sefydlu’r Cerbyd Pwrpas Arbennig, oedd y byddai’r prosiect yn eiddo i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont 100%. Roedd y Cyngor wedi sicrhau gwasanaethau’r ymgynghorwyr cyfreithiol, Brodies, a oedd wedi cynnig cyngor yngly?n â sut i sefydlu Cerbyd Pwrpas Arbennig ar gyfer rhwydweithiau Gwres Rhanbarthol awdurdodau lleol, drwy gymorth rheolwyr Prosiect ymysg eraill.

 

Byddai’r cynllun hefyd yn cael ei gefnogi gan Gontractiwr arbenigol, a hynod brofiadol o’r sector ynni, ac er yn gweithio i’r Cerbyd Pwrpas Arbennig, eiddo Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont fyddai’r Cerbyd Pwrpas Arbennig ei hun.

 

Petai Ffês 1 y cynllun yn llwyddiannus o safbwynt targedau Datgarboneiddio ac o gymorth wrth greu Pen-y-bont Sero Net, yna byddai ffês 2 a 3 o’r cynllun yn cael eu hystyried. Byddai’r Cerbyd Pwrpas Arbennig hefyd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer prosiectau Datgarboneiddio pellach. Eglurodd Cyfarwyddwr Corfforaethol – Cymunedau fod y prosiect cyntaf yn hynod flaengar ac roedd y benthyciad dros gyfnod arfaethedig o 40 mlynedd yn ddigon cyffredin o safbwynt prosiectau o’r fath, gyda’r tymor cyfartalog yn amrywio o 30-50 mlynedd, gydag elw ar y buddsoddiad a wnaed yn wreiddiol. Serch hynny, gallai cyfnod 40 mynedd y benthyciad  gael ei leihau yn unol â llwyddiant y cynllun.

 

Petai’r Cabinet a’r Cyngor yn cytuno ar y cynllun a sefydlu’r Cerbyd Pwrpas Arbennig, yna byddai’n mynd allan i dendr yn yr un modd â phob Cytundeb newydd arall.

 

Ychwanegodd y Prif Weithredwr a’r Arweinydd, yn eu tro, y byddai’r Cyngor yn cefnogi’r cynllun, petai’r cyllid oddi wrth y Prosiect Buddsoddi Rhwydweithiau Gwres ar gyfer y cynllun yn cael ei wrthod, rhag i awdurdod lleol cyfagos fanteisio arno ar gyfer yr un pwrpas. Pwysleisiwyd na fyddai modd i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ddefnyddio’r cyllid ar gyfer unrhyw fath arall o gynllun.

 

Cydsyniodd yr Aelodau bleidleisio ar argymhellion yr adroddiad, a dyma’r canlyniad:

 

O Blaid:

 

Y Cynghorwyr S Aspey, SE Baldwin, T Beedle, JP Blundell, NA Burnett, RJ Collins, HJ David, P Davies, PA Davies, DK Edwards, J Gebbie, RM Granville, CA Green, G Howells, RM James, M Jones, M Kearn, DRW Lewis, JE Lewis, JR McCarthy, D Patel, B Sedgebeer, RMI Shaw, CE Smith, SG Smith, JC Spanswick, G Thomas, R Thomas, T Thomas, MC Voisey, L Walters, DBF White, PJ White, HM Williams ac RE Young  = 35 Pleidlais

 

Yn Erbyn: 

 

Y Cynghorydd A Pucella =  1 Bleidlais

 

Ymatal:

 

Y Cynghorwyr M Clarke, N Clarke, SK Dendy, T Giffard, A Hussain, B Jones, KL Rowlands, R Stirman, E Venables, S Vidal, KJ Watts, C Webster, A Williams a J Williams =  14 Pleidlais

 

O ganlyniad i’r bleidlais uchod,

 

CYTUNWYD:                            Y byddai’r Cyngor yn derbyn:-

 

·         Strategaeth Reoli’r Trysorlys 2021-22 yn cynnwys Dangosyddion Rheoli’r Trysorlys 2021-22 tan 2023-24 (Atodiad A o’r adroddiad);

·         Strategaeth Gyfalaf 2021-22 tan 2030-31 yn cynnwys y Dangosyddion Ariannol 2021-22 tan 2023-24 (Atodiad B);

·         Datganiad Darpariaeth Isafswm Refeniw Blynyddol (MRP) 2021-22

(Atodiad B - Atodlen A).   

Dogfennau ategol: