Agenda item

Dysgu Cyfunol yn Ysgolion Pen-y-bont ar Ogwr ers mis Mawrth 2020

Gwahoddwyr:

 

Lindsay Harvey - Cyfarwyddwr Corfforaethol - Addysg a Chymorth i Deuluoedd

Cynghorydd Charles Smith - Aelod Cabinet Addysg ac Adfywio

Nicola Echanis - Pennaeth Addysg a Chefnogaeth i Deuluoedd

Michelle Hatcher - Rheolwr Grwp Cynhwysiant a Gwella Ysgolion

Sue Roberts - Rheolwr Grwp Gwella Ysgolion

Howard Lazarus - Rheolwr Cymorth a'r Swyddfa Ddigidol

 

Clara Seery - Rheolwr Gyfarwyddwr - Consortiwm Canolbarth y De

Andrew Williams - Cyfarwyddwr Cynorthwyol Partneriaeth a Gwella - Consortiwm Canolbarth y De

Natalie Gould - Cyfarwyddwr Cynorthwyol Cwricwlwm - Consortiwm Canolbarth y De

Andy Rothwell - Prif Bartner Gwella - Consortiwm Canolbarth y De

 

Francis Clegg – Prifathro, Ysgol Uwchradd Gatholig Archesgob McGrath - Cynrychiolydd Cymdeithas Penaethiaid Pen-y-bont ar Ogwr

Ryan Davies - Prifathro, Ysgol Brynteg - Cynrychiolydd Cymdeithas Penaethiaid Pen-y-bont ar Ogwr

Kath John - Prifathro, Ysgol Gynradd Brackla - Cadeirydd Ffederasiwn Cynradd Pen-y-bont ar Ogwr

Jeremy Phillips - Prifathro, Ysgol Gynradd Litchard - Cynrychiolydd Ysgol Gynradd

Neil Pryce - Prifathro, Ysgol Gynradd Y Pîl - Cadeirydd Grwp Strategaeth TGCh Ysgolion Pen-y-bont ar Ogwr

Cynghorwyr Disgyblion Chyngor Ieuenctid Pen-y-bont ar Ogwr

Cofnodion:

Rhoddodd y Prif Bartner ar gyfer Gwella - Consortiwm Canolbarth y De (CCD), Cyfarwyddwr Cynorthwyol ar gyfer y Cwricwlwm – CCD, Rheolwr Gr?p ar gyfer Gwella Ysgolion Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr (y Cyngor) a Rheolwr Swyddfa Cefnogaeth a Digidol y Cyngor gyflwyniad PowerPoint yn rhoi trosolwg ar yr adroddiad ar Ddysgu Cyfunol yn ysgolion Pen-y-bont ar Ogwr ers mis Mawrth 2020.

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r Swyddogion am y cyflwyniad. Gofynnodd yr Aelodau’r cwestiynau canlynol:

 

Diolchodd Aelod i holl staff y rheng flaen, a rhoddodd adborth oddi wrth rieni a gofalwyr yn ei etholaeth oedd, yn y rhan fwyaf o achosion, yn dweud bod athrawon wedi bod yn anhygoel o gefnogol, yn ogystal ag adborth ardderchog ynghylch y defnydd o’r Hwb ac Ystafell Ddosbarth Google. Y brif thema o’r adborth a dderbyniwyd oedd ei bod yn ymddangos bod yna raddau o anghysondeb rhwng yr hyn yr oedd ysgolion yn ei ddarparu drwy gyfrwng dysgu rhithiol ac eraill yn cynnig taflenni gwaith neu fideos oedd wedi cael eu cofnodi ymlaen llaw, tra roedd yn well gan y rhieni wersi byw. Teimlai fod hyn yn arbennig o wir ar gyfer y rheiny oedd yn llai galluog gyda rhai rhieni yn dweud y gallai hyn, mewn rhai achosion, fod yn eithaf unig a digalon. Gofynnodd i’r Swyddogion am eu sylwadau a sut y gellid newid y dull i gymryd hyn i ystyriaeth. Gofynnodd hefyd sut yr oedd y dull ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn gwahaniaethu oddi wrth rannau eraill o Gymru.

 

Dywedodd y Rheolwr Gr?p (Cefnogi Ysgolion) ei bod yn falch i glywed am yr adborth cadarnhaol ac eglurodd fod safbwyntiau cymysg wedi bod ynghylch ffrydio byw. Roedd athrawon hefyd wedi bod yn addysgu, weithiau gyda’u plant eu hunain gartref tra’n cyflwyno gwersi, oedd yn her. Roedd dysgu’n mynd ymlaen yn barhaus, a bu newidiadau yn ystod y flwyddyn ddiwethaf wrth i ymarfer gael ei fireinio, ac felly roedd hi’n sicr yn ymwybodol o’r anghysondeb, oedd yn faes targed ar gyfer gwella. Cawsai llawer o athrawon eu huwchsgilio yn gyflym i gyflwyno gwersi yn y ffordd yma ac roedd hwn yn faes cwbl newydd i lawer ohonynt.

 

Dywedodd Prif Bartner ar gyfer Gwella CCD, ei fod ef wedi gwrando ar lawer o ysgolion ar draws y rhanbarth yn siarad am eu dull o gyflwyno dysgu cyfunol, a’i fod mor arbennig i’w gyd-destun. Nid oedd cymhariaeth o angenrheidrwydd rhwng Pen-y-bont ar Ogwr ac awdurdodau lleol eraill. Roedd yr hyn yr oedd un ysgol yn ei wneud yn aml yn wahanol iawn i un arall oherwydd ei fod mor lleol a hyn oedd yr arweiniad a roddwyd i’r ysgolion, ynghylch cwrdd ag anghenion y dysgwyr, sef y peth allweddol.

 

Esboniodd Cyfarwyddwr Cynorthwyol ar gyfer y Cwricwlwm CCD nad oedd data ar gael ar hyn o bryd ond bod Llywodraeth Cymru (LlC) wedi comisiynu ymchwil, y gobeithiai hi fyddai ar gael yn fuan. Roedd y map ffordd yn seiliedig ar wneud penderfyniadau ar bob lefel i ysgolion ac ar bwynt mewn amser, sef yr hyn yr oedd y ddogfen parhad dysgu yn sôn amdano. Roedd hi’n bwysig ei gwneud yn glir beth oedd disgwyliadau a blaenoriaethau LlC ac i ysgolion wedyn wneud penderfyniadau seiliedig ar anghenion eu dysgwyr. Os mai’r adborth gan rieni oedd bod yn well ganddynt hyn, yna gallai dewis, sut a pham, ei gwneud yn bosibl i hynny ddigwydd. Efallai bod ysgolion oedd wedi mabwysiadau dulliau mwy cyson, wedi newid neu ddatblygu dros amser oherwydd pethau oedd wedi newid yn y system. Nid oedd data ar gael i ddweud bod canrannau o ysgolion yn symud yn y ffordd honno, oherwydd bod pethau mor gyfnewidiol. Roedd llawer o ysgolion wedi rhoi cynnig ar ddysgu byw neu wedi cynnal peilot dysgu byw ers mis Ionawr ac roedd hyn wedi cael derbyniad da mewn rhai ardaloedd er bod rhai ysgolion wedi newid yn ôl. Roedd yn ymddangos i fod yn bwynt mewn amser i ysgol unigol, yn dibynnu ar yr adborth yr oedd wedi ei dderbyn. 

 

Diolchodd Aelod y Cabinet dros Addysg ac Adfywio i’r Aelod a dywedodd ei bod yn bwysig cael sylwadau gan rieni a myfyrwyr. Roedd hi’n bwysig cofio bod rhai rhannau o Gymru wedi cael y blaen o ran dysgu cyfunol, am eu bod eisoes wedi bod yn ymwneud ag e-ddysgu oherwydd eu lleoliadau gwledig. Roedd anghysondeb yn rhywbeth oedd wedi cael ei ddisgwyl, gan mai un rhan o’r gwaith oedd dehongli’r cyngor a’r rheoliadau gan LlC ar ddechrau’r pandemig, oedd wedi canolbwyntio ar faterion diogelu i gychwyn, a chanlyniad nas rhagwelwyd i hynny oedd yr amharodrwydd i ffrydio’n fyw. Roedd adolygiad y cyngor hwnnw gan LlC dros yr haf wedi cael ei groesawu. Roedd hi’n bwysig peidio â chymryd pethau’n ganiataol, o ran gwersi byw, ond edrych ar ymchwil ac arfer gorau, fel yr oedd CCD wedi gwneud. Roedd y Cabinet wedi bod yn bryderus ynghylch cysondeb ac a oedd gwersi a recordiwyd yn well na gwersi byw. Roedd CCD wedi nodi nad oeddent yn arbenigwyr mewn dysgu cyfunol, ond eu bod yn arbenigwyr ar ddod â’r ymchwil at ei gilydd ac fel Cadeirydd CCD cafodd ei synnu ar yr ochr orau gan y gwaith a wnaed eisoes. O ran y cymariaethau ledled Cymru, nid oedd ond tystiolaeth storïol ar gael, gyda rhai siroedd ymhell ar y blaen, rhai yn edrych ar ddysgu cyfunol gyda rhywfaint o bryder gan ragdybio na ellid ei ddefnyddio gyda disgyblion iau ac roedd angen egluro hyn a gweithio arno gydag ysgolion mewn ffordd broffesiynol. Y ffordd ymlaen oedd y byddai angen llawer o ddysgu addysgeg a DPP ymhlith staff addysgu ac roedd angen rhannu technegau addysgu ymhlith cydweithwyr.

 

Diolchodd yr Aelod i’r Swyddogion am eu hatebion cynhwysfawr. O’i adborth ef, dywedwyd wrtho nad oedd dim cyswllt o gwbl na gwiriadau lles mewn rhai achosion, yn enwedig i’r rheiny ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY). Roedd yn cydnabod y gallai hyn fod yn ddigwyddiad eithriadol ond gofynnodd am sylwadau’r Swyddogion. Yn ogystal, a oedd unrhyw gynllun i gyflwyno sesiynau dal i fyny gyda disgyblion neu ysgolion haf?

 

Esboniodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Addysg a Chymorth i Deuluoedd fod cefnogi dysgwyr ag ADY yn faes allweddol ond ei bod yn deg dweud bod ysgolion ar y dechrau wedi bod yn dal i geisio canfod eu traed. Roedd adborth gan rai rhieni wedi nodi eu bod yn teimlo bod angen i’r cynnig dysgu fod yn fwy pwrpasol a thrafodwyd hyn gydag ysgolion, lle cawsant wybod, i drefnu newid y technegau, mecanweithiau cyflwyno a newid addysgeg, a’r adborth gan rieni oedd bod hyn wedi gwella’n sylweddol dros amser. Roedd yn bwysig iddynt gael eu rhoi mewn cysylltiad â rhieni i sicrhau bod eu plant yn cael y fargen orau bosibl.

 

Esboniodd Cyfarwyddwr Cynorthwyol Cwricwlwm CCD fod arweiniad, ochr yn ochr â chanllawiau dysgu, wedi ei gynhyrchu gan LlC ar ddysgwyr agored i niwed gan gynnwys plant ag ADY. Roedd y disgwyliad yn glir gan LlC, pa  ddarpariaeth neu ddysgu ychwanegol bynnag yr oedd ei angen ar ddysgwr unigol, fod hynny’n cael ei gydnabod gan ysgolion a’u bod yn darparu ar ei gyfer, ac roedd hyn yn cynnwys plant a allai fod ag anghenion ychwanegol erbyn hyn oherwydd y broses a’r system hon. Roedd yn ymwneud â sicrhau bod y ddarpariaeth yn deg a bod y ddarpariaeth yn ardderchog i’r holl ddysgwyr a bod anghenion pob plentyn yn cael eu hystyried a bod unrhyw anawsterau o ran rhwystrau i ddysgu yn cael eu goresgyn yn y ffordd orau bosibl ar hyn o bryd.

 

Esboniodd y Rheolwr Gr?p (Cymorth i Ddysgwyr) fod timau, drwy nodi dysgwyr agored i niwed, wedi gweithio’n agos iawn gydag ysgolion i nodi’r rhai a fyddai’n elwa o ddod i mewn i amgylchedd yr ysgol a bod hyn wedi digwydd drwy gydol y broses. Lle roedd plant a phobl ifanc wedi cael eu haddysgu gartref, roedd timau wedi ymateb mewn gwahanol ffyrdd, ee, roedd y gwasanaeth synhwyraidd wedi ymweld y tu allan i gartrefi a chynhaliwyd asesiadau o bell, ac yn y blaen. Roedd y gwasanaeth cynhwysiant wedi ymateb yn hyblyg gydag ysgolion a rhieni er mwyn cwrdd â’r anghenion unigol ac yna roedd cefnogaeth wedi’i haddasu yn unol â hynny. Lle roedd angen cefnogaeth ychwanegol ar gyfer unrhyw ddysgwyr, roedd hyn wedi mynd i mewn, gyda chyllid yn cael ei ddefnyddio mewn gwahanol ffyrdd, i wneud hynny. Yn ogystal, roedd y Gwasanaeth Cynhwysiant wedi prynu llyfrau crôm ar gyfer y canolfannau adnoddau dysgu er mwyn sicrhau nad oedd yr un dysgwr yn cael ei adael allan yn ddigidol. Y peth pwysig oedd partneriaeth a chadw llygad ar y dysgwyr unigol hynny a chwrdd â’u hanghenion lle bo hynny’n briodol. Roedd hynny wedi bod yn allweddol iawn i gadw mesurydd tymheredd ar sut roeddent yn cael eu cefnogi ac roedd ysgolion wedi gweithio’n agos iawn gyda’r timau. Roedd yn broses barhaus, a oedd wedi gwella, ac os oedd rhieni wedi dod ymlaen, roedd yr awdurdod lleol wedi ymateb yn unol â hynny.

 

Esboniodd Aelod o’i phrofiad personol ei hun pa mor wych yr oedd y staff addysgu wedi bod ac roedd yn falch o safon y gwaith a sylweddolai y fath gamp o gydbwyso oedd hyn wedi bod i bob cartref. Gofynnodd a oedd gan y Cyngor ddull cyffredin o fesur ymgysylltiad oddi wrth y dysgu ar-lein o ysgol i ysgol. A oedd unrhyw ddata gan bob ysgol i nodi’r nifer oedd yn manteisio ar ddysgu cyfunol ac a oedd cymhariaeth rhwng ysgolion? Hefyd, a oedd yna unrhyw batrymau lle roedd dysgwyr yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim (eFSM), fod llai o blant yn cymryd rhan ynteu a oedd yn gyffredinol i’r plant i gyd? Yn olaf, a oedd hyn i gyd yn cael ei ddefnyddio i wella’r ddarpariaeth?

 

Esboniodd Prif Bartner Gwella CCD, o ran mesur ymgysylltiad, y gofynnwyd i bartneriaid gwella ddarganfod sut roedd ysgolion yn cyflwyno dysgu cyfunol ar rai pwyntiau. Roedd yr ymgysylltu wedi digwydd gyda Phrifathrawon ym mis Mehefin, yn fuan ar ôl dod allan o’r cyfnod clo ac yna o gwmpas mis Tachwedd, lle roedd yn hybrid iawn, gyda disgyblion yn ôl yn yr ysgol. Y duedd yn ysgolion cynradd Pen-y-bont ar Ogwr oedd bod yr ystod o ymgysylltu yn eithaf eang, er nad oedd ffigurau ar gael ond y gellid eu rhannu’n ôl-weithredol. O ran ymgysylltu â dysgu cartref mewn ysgolion cynradd, roedd yr ystod yn rhywle oddeutu 32% i 90% o ymgysylltu. Roedd nifer y dysgwyr a oedd yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim (eFSM) yn uwch yn gyffredinol yn y sector cynradd gydag ymgysylltu ychydig yn is. Roedd yn ddiddorol sut y gwnaeth ysgolion newid dulliau o ddarparu dysgu gartref er mwyn ceisio cynyddu ymgysylltiad â dysgu a’r effaith ddilynol, ers mis Tachwedd. Yn y sector uwchradd, roedd yr ystod ychydig yn llai oddeutu 50% i 70% o ymgysylltu, eto’n dilyn patrwm oedd yn debyg yn fras. O ran y sector cyfrwng Cymraeg yn benodol, yn y cynradd a’r uwchradd, roedd ymgysylltiad llawer uwch yn y cyfnod clo cyntaf mewn dysgu gartref waeth beth oedd eu cefndiroedd eFSM. Gwnaed y gwaith hwn er mwyn deall ymgysylltiad a sut y byddai ysgolion yn defnyddio’r wybodaeth honno i newid eu harfer.

 

Dywedodd Cyfarwyddwr Cynorthwyol ar gyfer Partneriaethau a Gwelliant CCD fod amrywiaeth eang iawn o wahanol fathau o ymgysylltu ledled y rhanbarth. I ddechrau, roedd ymgysylltu yn ymwneud â sicrhau bod dysgwyr yn gallu cael defnyddio dyfeisiadau, yn gallu cysylltu, ac yn y blaen, ac wedyn yn ddiweddarach symud i weld sut olwg oedd ar ansawdd yr ymgysylltu ac a oedd yr ymgysylltiad yn ystyrlon ac yn arwain at ddysgu. Symudodd sgyrsiau o gwmpas gan edrych ar dystiolaeth o ymgysylltiad o safon yn hytrach na dweud bod pobl ifanc wedi mewngofnodi i’r cyfrifiadur a’u bod yn eistedd yno heb ymgysylltu â dim o’r dysgu nac unrhyw un o’r gwersi. Yn rhanbarthol roedd gwahaniaeth enfawr o ran sut roedd ysgolion yn gallu cynorthwyo dysgwyr i ymroi i ymgysylltu. O ran ymgysylltu ag ysgolion, roedd yn fater o fod yn ymwybodol yn gyson o’r heriau sy’n wynebu ysgolion. Roedd yn rhy hawdd, pan nad oeddech yn y swyddi hynny, dechrau llunio barn nad oedd o reidrwydd yn gywir ac felly roedd yn ymwneud â sicrhau bod CCD yn cael cyswllt ystyrlon â Phrifathrawon ac ysgolion, i ddarganfod ble roeddent, fel bod y gefnogaeth a ddarperid yn briodol ac nad oedd yn mynd i achosi unrhyw bryder ychwanegol mewn lleoliad, ond y byddai’n ychwanegu gwerth.

 

Gofynnodd yr Aelod a oedd gan y Cyngor weledigaeth glir ar gyfer dysgu cyfunol ar-lein, oedd wedi’i chyfleu i ysgolion, ac a oedd isafbwynt disgwyliad o sut byddai hynny’n edrych?

 

Dywedodd Pennaeth Ysgol Brynteg ei fod ef yn teimlo bod gweledigaeth glir iawn ar gyfer dysgu cyfunol / addysgu o bell ym Mhen-y-bont ar Ogwr a bod ansawdd yr addysgu o bell yn bendant yn bwysicach na’r ffordd y câi ei ddarparu. O’r dechrau, rhoddwyd hyblygrwydd i ysgolion i weithredu felly a dyna pam roedd cymaint o ysgolion yn gweithredu mewn cymaint o wahanol ffyrdd. Yr hyn oedd yn ddiddorol oedd bod y broses gyfan wedi gadael athrawon yn agored oherwydd bod llawer o bobl yn dechrau cael rhoi llawer o fewnbwn i’r ffordd y mae cyfleoedd addysgu a dysgu yn cael eu cynllunio, ac efallai’n hollol gywir felly. Efallai bod hynny’n rhywbeth i ysgolion ei gadw mewn cof fel arwydd o’r dyfodol o ran hunanarfarnu. Roedd llawer o rieni / gofalwyr a disgyblion yn dweud sut roedd arnyn nhw eisiau cael eu haddysgu. Weithiau, nid oedd yr ysgol yn cytuno’n llwyr gan nodi na fyddai cael athro / athrawes ar-lein am 5 awr y dydd yn gweithio. Y weledigaeth gan Ben-y-bont ar Ogwr, ac o weithio gyda CCD, oedd ei bod yn ymwneud â’r ansawdd. Nid oedd ots a oedd hyn yn cael ei wneud yn rhithiol neu yn y fan a’r lle, yr hyn oedd fwyaf pwysig oedd p’un a oedd yr hyn oedd yn cael ei wneud yn adeiladu ar ddysgu blaenorol ai peidio. Roedd disgwyl i staff ym Mrynteg fod yno’n fyw ym mhob gwers ond nid oedd hynny’n golygu eu bod yn eistedd yno o flaen camera, gallent fod yno, neu o gwmpas, yn ateb ymholiadau ar-lein drwy’r blwch sgwrsio, ac yn y blaen, ond nid oedd bod yn fyw a rhedeg gwers fyw o reidrwydd yn gwneud honno’n wers wych.

 

Dywedodd Pennaeth Ysgol Gynradd Bracla ei bod yn cytuno â’i chydweithiwr a bod y cyfan yn ymwneud ag ansawdd, gan egluro bod yr ysgol yn cyflwyno’r holl ddeunyddiau wedi eu recordio ymlaen llaw oherwydd mai dyna’r hyn yr oedd yr athrawon yn teimlo’n hyderus yn ei wneud. Roedd yr hyn a gynigid wedi esblygu dros y misoedd, roedd y gwersi a recordiwyd ymlaen llaw yn hollol wych, ac roedd yr ansawdd yn llawer gwell na’r hyn a fu. Roedd yr ysgol wedi gweithio’n agos gyda CCD a oedd wedi bod yn gefnogol iawn. Roedd dull Tîm Pen-y-bont ar Ogwr wedi bod yn gryfder i Ben-y-bont ar Ogwr gyda swyddogion yn gwrando ar yr hyn oedd gan ysgolion i’w ddweud ac roedd yr ymgysylltiad wedi cynyddu dros y misoedd oherwydd yr ansawdd oedd ar gael. Roedd ysgolion yn gweithio’n llawer mwy cydweithredol ac yn rhannu arfer da ac roedd uwchsgilio staff wedi bod yn rhyfeddol. Roedd y weledigaeth wedi’i chyfleu’n glir iawn ond roedd i raddau helaeth ar sail ansawdd a’r hyn a oedd yn gweddu i gyd-destun ysgol benodol.

 

Esboniodd Pennaeth Ysgol Gynradd y Pîl fod y Gr?p Strategaeth TGCh yn edrych ar ddatblygiad o amgylch polisi dysgu cyfunol, ond wedi ei chael yn anodd oherwydd cydnabyddid bod pawb yn cychwyn o fan gwahanol. Cytunid bod egwyddorion dysgu cyfunol yma i aros ac yn ymwneud â cheisio edrych ymlaen yn hytrach nag yn ôl, a sut y gellid cael dysgu di-dor rhwng y cartref a’r ysgol yn y dyfodol. Roedd y gr?p strategaeth yn cydnabod bod cael dull un maint i bawb yn anodd iawn a’i fod yn ymwneud fwy â datblygu cymorth, fel yr oedd CCD a’r awdurdod lleol wedi’i wneud wrth gefnogi ysgolion i geisio cyrraedd y man lle roedd arnyn nhw eisiau bod. Byddai’r gr?p yn parhau i edrych ar greu dull cyffredin ond roedd yn anodd oherwydd bod pob ysgol ar ei thaith unigol ei hun.

 

Gofynnodd yr Aelod a fu cynnydd yn nifer y staff oedd yn defnyddio gwasanaeth lles Gofal yn Gyntaf o ganlyniad i bwysau (e.e. marcio gwaith y tu allan i’w diwrnod gwaith arferol).

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Addysg a Chymorth i Deuluoedd nad oedd cydweithwyr Adnoddau Dynol yn bresennol ond bod y pwynt yngl?n â lles staff yn hynod o bwysig nid yn unig o ran staff yr ysgolion ond swyddogion awdurdodau lleol a chydweithwyr o’r CCD hefyd. Un o’r heriau dros y flwyddyn ddiwethaf oedd cynnal y cydbwysedd cywir rhwng bywyd a gwaith pan nad oedd wedi’i amlinellu mor hawdd ag yr oedd o’r blaen, felly roedd hwn yn bwynt pwysig. Roedd Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd yn bwriadu mynd yn ôl at Adnoddau Dynol er mwyn parhau i ddarparu cyngor diweddar arbenigol.

 

Esboniodd Pennaeth Ysgol Gynradd Bracla, o ran lles y staff, y bu cryn dipyn o gefnogaeth mewn perthynas â Gofal yn Gyntaf gyda gweminarau wythnosol yn cael eu cynnig, ar amrywiaeth o bynciau, y mae staff wedi manteisio arnynt ac wedi bod yn gadarnhaol iawn. Hefyd, bu grwpiau ffocws llesiant bob tymor drwy Dîm Pen-y-bont ar Ogwr, felly roedd llawer o gefnogaeth ar gael.

 

Esboniodd y Maer Ieuenctid ei bod hi’n fyfyrwraig Blwyddyn 11 ar hyn o bryd, oedd wedi dychwelyd i’r ysgol y diwrnod hwnnw. Fel myfyrwraig, roedd hi’n teimlo nad oedd hi wedi gweld llawer o ddysgu cyfunol yn ei hysgol hi a bod y dysgu naill ai’n wersi wyneb yn wyneb, ar-lein neu wedi’u recordio ymlaen llaw yn unig. Roedd llawer o fyfyrwyr yr oedd hi wedi siarad â nhw wedi gweld ysgolion yn gwneud dysgu cyfunol, ond roedd hi’n teimlo ei bod hi’n cael ei chyfeirio i un math o ddysgu yn unig, felly roedd hynny wedi bod yn anodd. O ran y pwynt blaenorol, roedd y Cyngor Ieuenctid wedi trafod y pwynt am anghydraddoldebau dysgu. Cafodd rhai myfyrwyr y blaen yn eu hasesiadau, ond nid oedd eraill wedi eu cychwyn. Teimlai fod problemau gyda chyfathrebu ac na fu llawer o wybodaeth mewn perthynas â dewis pynciau Safon Uwch, oedd wedi achosi problemau mewn perthynas â therfynau amser caeth. Nid oedd hi’n teimlo y bu unrhyw gyfathrebu rhwng ysgolion ynghylch yr hyn yr oedd gwahanol ysgolion yn ei wneud, yr hyn y rhoddwyd cynnig arno a’r hyn oedd wedi gweithio’n dda. Roedd hi’n deall bod hon wedi bod yn flwyddyn anodd ond gofynnodd beth oedd yn cael ei wneud i helpu i atal yr anghydraddoldebau.

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r Maer Ieuenctid am ei chyfraniad a dywedodd ei fod yn ddefnyddiol iawn ac yn fewnwelediad da cael clywed gan rywun oedd yn profi hyn bob dydd.

 

Diolchodd yr Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio i’r Maer Ieuenctid am ei chyfraniad a nododd ei bod yn bwysig iawn i athrawon weld sut roedd pethau’n edrych o safbwynt y cwsmer. Yn hanesyddol, bu tueddiad i athrawon hunanarfarnu o ran sut roeddent yn perfformio, ond gallai adborth gan fyfyrwyr ddangos bod eu canfyddiad hwy yn wahanol iawn. Nododd ei bod wedi gwneud 3 phwynt mewn perthynas â dysgu cyfunol, dal i fyny / asesiadau a chysondeb. O ran y cyntaf, dysgu cyfunol oedd yr allwedd. Nid yr ateb o reidrwydd oedd ei fod yn ymwneud â ffordd benodol, ond y dylai fod yn ddull cyfunol ac felly, os nad oedd hynny’n digwydd, roedd hynny’n destun pryder ac roedd ef yn sicr y byddai’r staff cymorth a’r staff addysgu oedd yno yn edrych ar hynny. O ran dal i fyny / asesiadau, roedd arno eisiau sicrhau myfyrwyr nad oedd yn rhaid iddynt ddal i fyny mewn ystyr ac nad oedd arno eisiau i fyfyrwyr ddychwelyd i’r ysgol yn meddwl bod angen iddynt lyncu llawer o wybodaeth. Roedd angen dull mwy goleuedig yng Nghymru ac ar y top roedd athroniaeth wahanol iawn gyda phanel arbenigol o weithwyr proffesiynol yn edrych ar hyn mewn ffordd fwy trugarog a mwy blaengar a realistig. Gobeithio y byddai hyn yn fwy calonogol pan gyhoeddid trafodaethau’r panel hwnnw. O ran cysondeb, roedd yn ymwneud ag annog athrawon i ddod yn llawer mwy medrus yn yr addysgeg neu’r dulliau addysgu a dysgu mewn dysgu cyfunol.

 

Diolchodd Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd hefyd i’r Maer Ieuenctid am ei hangerdd a’i hymrwymiad gwirioneddol i’w dysgu hi ei hun ac i’r eiddo Aelodau Cyngor Ieuenctid Pen-y-bont ar Ogwr a hefyd ei chyfoedion. Roedd y dysgwyr wedi dangos gwytnwch ac amynedd rhyfeddol dros y flwyddyn ddiwethaf ac roedd gwaith gwych wedi’i wneud ganddyn nhw, gan gydnabod ei fod wedi bod yn gyfnod anodd iawn iddyn nhw. Un peth o bwys canolog drwyddo draw oedd ceisio barn y dysgwr, felly roedd llais y dysgwr yn allweddol i hyn. Cydnabyddai nad oedd rhai o’r newidiadau wedi cael eu cyfleu’n effeithiol i fyfyrwyr a chymerodd sylw o hyn. Y meysydd allweddol yr oedd y Maer Ieuenctid wedi’u nodi oedd o ran anghysondeb gyda golwg ar fabwysiadu arddull debyg o ran y cwricwlwm ac asesiadau. Nododd fod pob Cyfarwyddwr yng Nghymru wedi mynychu cyfarfod gyda Chymwysterau Cymru, cyn y cyfarfod hwn, ac y ceid cyhoeddiad yn fuan yn nodi sut y byddai asesiadau’n rhedeg o amgylch amnewid graddau, a’r arfer o’i gwmpas, ar gyfer yr haf. Byddai ef yn fwy na pharod i rannu hyn nid yn unig â Phrifathrawon ond â dysgwyr hefyd. Y peth arall oedd yn bwysig oedd sicrhau bod arfer effeithiol yn cael ei rannu. Roedd un o elfennau allweddol cyllid LlC yn ymwneud ag arian ychwanegol i gynorthwyo athrawon i gefnogi eu dysgwyr a gobeithio y ceid gweld dros yr ychydig fisoedd nesaf sut roedd hynny wedi gwella pethau. Cydnabu Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd fod dau gam gweithredu iddo ef sef sicrhau bod hyn yn cael ei gyfleu’n fwy effeithiol i bobl ifanc ac o ran canlyniadau’r cyfarfod heddiw â Chymwysterau Cymru. 


Cydnabu Aelod fater cysylltedd y rhyngrwyd, yn enwedig yn y ward yr oedd hi’n ei chynrychioli, lle nad oedd band eang ffibr optig, a gofynnodd a oedd unrhyw wybodaeth am sawl diwrnod neu awr yr oedd disgyblion wedi eu colli oherwydd nad oedd cysylltedd rhyngrwyd ar gael. Gofynnodd sut y byddai hyn, yn y tymor hir, yn effeithio ar gyfraddau absenoldeb unigolion ac ysgolion pe na bai plentyn yn gallu cysylltu ar-lein neu fod ganddo liniadur wedi torri, heb unrhyw fai arno ef ei hun.

 

Esboniodd Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd y cydnabuwyd ar y cychwyn cyntaf y byddai cysylltedd rhyngrwyd yn fater allweddol yn enwedig o ran toreth o adnoddau ar-lein a’r angen i sicrhau bod gan bob dysgwr, waeth beth fo’i gefndir daearyddol neu economaidd, fynediad at fand eang dibynadwy. Dosbarthwyd dros 300 o ddyfeisiadau rhyngrwyd cludadwy (MiFis) i ddysgwyr ac os oedd angen hyn wrth symud ymlaen byddai cais yn cael ei wneud yn gorfforaethol am gyllid ychwanegol i’w gefnogi. Roedd hyn yn ganolog a lle bynnag yr oedd ei angen ar ddysgwr, roedd un wedi cael ei ddarparu. Pe bai angen adnoddau ychwanegol, roedd MiFis ychwanegol a gliniaduron ychwanegol ar gael. Roedd y broblem ynghylch anwadalrwydd band eang yn un allweddol ac roedd angen yn amlwg sicrhau bod pob dysgwr yn profi dull cyson, er nad oedd ef yn ymwybodol o unrhyw broblemau yn ymwneud ag argaeledd Mifi. Pe bai problemau cysylltedd unigol mewn cartrefi yn ward yr Aelodau, roedd yn hapus i gysylltu â phartneriaid economaidd yn y Cyngor ac yn ehangach os oedd angen. Er ei fod yn cydnabod bod yr Aelod wedi codi rhai pwyntiau perthnasol mewn perthynas â chysylltedd ehangach ar gyfer cymunedau gwahanol, roedd hynny y tu allan i faes y Gyfarwyddiaeth Addysg a Chymorth i Deuluoedd, er y byddai’n fwy na pharod i ymchwilio i hynny.

 

Cadarnhaodd Rheolwr y Swyddfa Cymorth a Digidol fod 310 MiFis wedi cael eu harchebu ar ddechrau’r flwyddyn a bod un neu ddau ar gael o hyd os oedd angen o hyd gyda thaliadau cysylltiad wedi cael eu talu tan ddiwedd mis Gorffennaf.

 

Gofynnodd Aelod sut y byddai’r awdurdod lleol yn sicrhau nad oedd plant oedd yn mynd yn ôl i ddysgu yn yr ysgol yn cael eu gwahardd yn ddigidol, gan y byddai’n rhaid iddynt wneud gwaith cartref o hyd. Sut câi hyn ei reoli ar lefel rheoli cyllideb oherwydd ei bod yn bwysig i’r awdurdod lleol ac i ysgolion gan y byddai’n dod yn bwysau yn y dyfodol gyda mwy a mwy o ddysgu ysgol gartref.

 

Esboniodd Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd, mewn perthynas â’r cwestiwn cyntaf, fod LlC wedi buddsoddi’n sylweddol ym mhob awdurdod lleol mewn perthynas â Grant Seilwaith yr Hwb, cyllid dros sawl blwyddyn ar gyfer llwyfan cenedlaethol yr oedd pob ysgol yn ei ddefnyddio i liniaru’r risg o gostau ychwanegol o ran meddalwedd a thrwyddedu. Roedd buddsoddiad wedi canolbwyntio ar gynaliadwyedd gan y byddai offer yn mynd yn ddiangen ac roedd yn arfer da adeiladu ar hynny.  Roedd rhan o gyllidebau’r holl ysgolion yn cynnwys cyllid i edrych i’r dyfodol a sicrhau bod offer ar gael a bod staff yn cael eu huwchsgilio drwy gydweithwyr yn y consortiwm rhanbarthol, ac mewn mannau eraill, fel bod ganddyn nhw’r sgiliau ar gyfer y dyfodol. Y gair allweddol oedd cynaliadwyedd, o safbwynt cyllido, o safbwynt hyfforddi a hefyd o safbwynt caledwedd. Roedd y cwestiwn nesaf yn un pwysig iawn yn edrych ar gynaliadwyedd tymor hir. Bu gwelliant sylweddol yn y ffordd yr oedd busnes yn cael ei gynnal ar-lein drwy fformatau dysgu cyfunol a byddai hyn yn cael ei ddatblygu a’i wella er mwyn ei wneud yn addas ar gyfer y dyfodol. Felly, bu buddsoddiad yn y weledigaeth hirdymor, buddsoddiad mewn hyfforddiant tymor hir a’i mabwysiadu gan staff a dysgwyr a hefyd drwy amrywiol fecanweithiau cymorth, ar gael trwy LlC, i gefnogi buddsoddiad mewn caledwedd a meddalwedd. Roedd hwn yn gwestiwn pwysig oherwydd unwaith eto roedd hyn yn gostus ac roedd angen cynllun i ategu hyn fel na fyddai’n disgyn drosodd yn y dyfodol.

 

Dywedodd Aelod ei fod yn dweud yn y cyflwyniad y cyhoeddwyd cyllid LlC ar gyfer rhaglen yr Hwb yn 2019, oedd cyn Covid-19. Felly a oedd hyn yn golygu bod ysgolion wedi cynnig dyfeisiadau i ddisgyblion oedd wedi eu bwriadu yn wreiddiol i’w defnyddio yn yr ysgol. A oedd yr awdurdod lleol yn hapus gyda’r cyflenwadau mewn ysgolion, gan y byddai rhai yn cael eu dileu yn y pen draw?

 

Esboniodd Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd, mewn perthynas ag offer, ei fod yn rhagweld y byddai rhai yn cael eu dychwelyd heb fod mewn cyflwr addas i’w defnyddio mewn ysgolion. Byddai yna hefyd elfen o offer wedi mynd yn rhy hen, po hiraf y byddent allan o’r system. Yn ogystal, efallai y byddai rhai ohonynt wedi eu difrodi a derbynnid hyn yn rhwydd. Rhan o raglen seilwaith yr Hwb, oedd yn mynd yn ôl i 2019, oedd y bwriad i adnewyddu TGCh ysgolion, oedd yn ymddangos fel rhan o’r grant. Y ddealltwriaeth oedd nad buddsoddiad cyfalaf un-ergyd yn unig oedd hwn, y byddai’n dod dros nifer o flynyddoedd. Yn amlwg, roedd angen cwrdd ag ystod o delerau ac amodau a gwneud y gwaith i alinio prosesau o amgylch y buddsoddiad.

 

Cadarnhaodd Pennaeth Ysgol Gynradd Litchard fod offer wedi’i nodi ar gyfer ysgolion trwy brosiect yr Hwb, a ariannwyd gan LlC, ond nad oedd llawer o ysgolion, gan gynnwys ei ysgol ef ei hun, wedi derbyn eu dyraniadau ar ddechrau’r pandemig. Roedd y dull tîm yn gryf iawn yma gan fod ysgolion yn ildio’r offer oedd ganddyn nhw ac yna’n ei ailddosbarthu i ysgolion oedd angen yr offer hwnnw. Cyrhaeddodd pecyn yr Hwb wedi hynny, ond byddai rhieni a oedd wedi derbyn y gliniaduron yn eu cadw ar gyfer cynaliadwyedd wrth symud ymlaen. Hefyd o ran cynaliadwyedd, gwnaed llawer i addysgu rhieni am offer oedd ganddyn nhw eisoes gan gynnwys defnyddio PlayStations ac Xboxes i gael mynediad at ddysgu o bell, oedd yn rhoi mwy o degwch. 

 

Dywedodd yr Aelod fod CCD wedi dweud bod y rhan fwyaf o ysgolion wedi cymryd rhan, felly gofynnodd a oedd pob ysgol wedi prynu i mewn i gael eu cefnogaeth a defnyddio eu gwasanaethau.

 

Cadarnhaodd Prif Bartner Gwella CCD fod pob ysgol wedi ymgysylltu â phartneriaid gwella a’r ystod lawn o wasanaethau eraill a ddarperir ar ran y Cyngor. Yna roedd y rhan fwyaf o ysgolion wedi ei symud ymlaen ychydig ymhellach os oeddent yn teimlo bod angen ac mae rhai ysgolion wedi bod mewn sefyllfa, trwy sesiynau gwirio rheolaidd, eu bod yn eithaf hapus gyda’r gefnogaeth yr oeddent yn ei chael ac nad oeddent yn teimlo bod arnynt angen rhagor. Roedd CCD wedi bod yno ar alwad i ysgolion ymhob cyfarfod ymhob ffordd bosibl ac ymhob fforwm.

 

Dywedodd Pennaeth Ysgol Brynteg ei fod yn teimlo ei fod yn ddatganiad ynghylch ble roedd ysgolion. Byddai rhai ysgolion yn defnyddio llawer o gefnogaeth gan CCD, roedd rhai ysgolion yn teimlo nad oedd angen iddynt wneud hynny, ar bwynt penodol. Roedd yn mynd yn ôl i’w bwynt cynharach yngl?n â cheisio cefnogi anghenion disgyblion unigol ac nad oedd angen yr un mewnbwn o reidrwydd ar yr un pryd.

 

Gofynnodd yr Aelod, beth oedd yn cael ei wneud i edrych ar les disgyblion ac i sicrhau eu bod yn cael cefnogaeth lawn?

 

Esboniodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Addysg a Chymorth i Deuluoedd, mewn perthynas â lles, y byddai Penaethiaid a chydweithwyr yn gwybod bod gan Ben-y-bont ar Ogwr dri amcan strategol ym maes Addysg, sef lles, llythrennedd a diogelwch, a bod diogelwch yn ymwneud ag iechyd a diogelwch ac amddiffyn. Roedd lles wedi bod yn flaenoriaeth strategol allweddol ers 2017, ymhell cyn y pandemig, ac roedd wedi rhoi’r Gyfarwyddiaeth mewn lle da oherwydd roedd hyn wedi bod yn ganolbwynt go iawn i bopeth oedd yn cael ei wneud, gan gynnwys o amgylch lles staff a dysgwyr. Nododd fod cydweithwyr Estyn yn bresennol yn y cyfarfod ac yn sicr roeddent yn cydnabod, yn yr adroddiad arolygu, y gwaith rhagorol yr oedd yr Awdurdod Lleol gyda phartneriaid yn CCD, wedi’i wneud o ran amddiffyn lles staff a dysgwyr.

 

Esboniodd Pennaeth Ysgol Gynradd Litchard o ran lles, pan na allai plant gael mynediad at waith, wrth i fis Ionawr fynd rhagddo, y galwyd dysgwyr i mewn fel y gallent ddal i fyny â’u gwaith ar safle’r ysgol. Dosbarthwyd offer a oedd ar gael hefyd iddynt ei ddefnyddio. Felly gwnaed dau beth, gan eu cefnogi’n academaidd ar y safle os nad oeddent yn ymgysylltu, yn ogystal ag ymweliadau cartref hefyd, fel y gwnaeth llawer o ysgolion eraill, ynghyd â gweithio gydag asiantaethau eraill i’w helpu a’u cefnogi gyda’u lles.

 

Dywedodd Pennaeth Ysgol Brynteg o ran lles y gallai’r cysyniad o ddal i fyny fod yn eithaf brawychus i ddisgyblion ac y byddai’n anodd i ddisgyblion ddal i fyny ar eu holl waith yn ystod y 3 neu 4 wythnos nesaf, a bod unrhyw un a oedd yn meddwl y gallent yn anffodus yn cyfeiliorni. Roedd yn ymwneud â lles a sicrhau bod disgyblion yn ailddysgu sut i fod yn rhan o gymuned yr ysgol a mwynhau bod gyda’i gilydd ac roedd cael yr amser hwnnw gyda’u ffrindiau yn bwysig iawn. Roedd yn ymwneud â’u cael at y pwynt lle roeddent yn hapus ac yn teimlo’n ddiogel ac yna byddent yn gallu ymroi i ddysgu, felly roedd lles yn ganolog i’r ffordd o feddwl ar hyn o bryd. Yn yr ysgol dros yr wythnosau diwethaf, cydnabuwyd bod pawb angen seibiant oddi wrth sgriniau cyfrifiadur, ac yn y blaen, ac felly roedd diwrnodau lles wedi eu cynnwys bob wythnos. Roedd y rhain yn ddyddiau pan nad oedd unrhyw waith wedi’i osod ar y sgrin o gwbl, a dewislen o weithgareddau yn cael ei rhoi i’r disgyblion, oedd yn mynd â nhw i ffwrdd oddi wrth y sgrin. Nid y disgyblion yn unig oedd wedi ymateb yn dda i hynny, ond hefyd roedd rhieni a gofalwyr wedi dweud ei fod wedi cymryd llawer o bwysau oddi arnyn nhw gartref, oherwydd nad oedd yn rhaid iddyn nhw boeni am edrych ar eu mab neu ferch, o ran gwneud y peth iawn ar yr amser iawn. Roedd yr un mor bwysig yngl?n â rhoi amser i athrawon a staff cymorth feddwl am eu lles eu hunain, a lles yn bendant fyddai’r sbardun allweddol i bob Pennaeth yn ystod yr ychydig fisoedd nesaf.

 

Esboniodd Pennaeth Dros Dro Ysgol Uwchradd Gatholig yr Archesgob McGrath mewn perthynas â lles fod disgyblion yn mwynhau Diwrnod y Llyfr a’r Eisteddfod a chynulliadau byw ond ei bod hi’n ymwybodol nad oedd llawer o ddisgyblion wedi gallu mynd i’r digwyddiadau cyfunol hynny ac wedi cael eu cau allan am ba reswm bynnag. Roedd yr ysgol wedi gweithio gyda disgyblion i ddatblygu gr?p llysgenhadon ysgol yn fforymau ar-lein i edrych ar yr hyn yr oedd pob gr?p blwyddyn yn ei deimlo fyddai’n helpu i ddod â nhw ymlaen ac a oedd yn fwyaf priodol. Roedd yr ysgol yn ffodus i fod yn rhan o beilot model PERMA a weithiodd yn dda iawn gyda disgyblion cam allweddol 3. Yn ogystal, roedd disgyblion cyfnod allweddol 4 ac ôl-16 wedi gofyn i sesiynau lles ddigwydd y tu allan i’r diwrnod ysgol ac roeddent yn hapus i gael mynediad at sgyrsiau, gweminarau a sesiynau holi ac ateb gan ddefnyddio technoleg a dull dysgu cyfunol. Yn draddodiadol, byddai gweithgareddau allgyrsiol wedi bod ar y safle ar ddiwedd y diwrnod ysgol. Wrth symud ymlaen, roedd yn ymwneud â defnyddio’r pythefnos nesaf i edrych ar sut y gallai gweithgareddau lles gael eu teilwra ar gyfer disgyblion yn nhymor yr haf.

 

Gofynnodd Aelod a oedd y ffigur yn hysbys am y cyllid ychwanegol a addawyd gan LlC i lenwi’r bwlch a chaniatáu i blant ddal i fyny. Yn ogystal, eglurodd ei bod wedi llofnodi i dderbyn hysbysiadau CCD ac felly roedd wedi bod yn derbyn y diweddariadau rheolaidd gan LlC ynghylch rôl newidiol cyrff llywodraethu. Gofynnodd a oedd dull cyffredin o ymdrin â hyn ac a oedd yna ganllawiau penodol ac a oedd Cyrff Llywodraethu yn cael y gefnogaeth a’r wybodaeth yr oedd ei hangen arnynt.

 

Esboniodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Addysg a Chymorth i Deuluoedd nad oedd hyn yn hysbys ar hyn o bryd mewn perthynas â’r cyllid ychwanegol fesul awdurdod lleol neu fesul ysgol; fodd bynnag, y newyddion da oedd bod lefel y cyllid a nodwyd gan LlC yn sylweddol ac yn debygol o fod dros £100 miliwn ar draws yr awdurdodau lleol yng Nghymru. Yn amlwg, roedd angen gweld y dadansoddiad oherwydd ei fod yn ddibynnol nid yn unig ar y pen, ond hefyd yr angen e.e. cyllid diwygio ADY. Cyn gynted ag y byddai hyn yn hysbys, byddai’n cael ei gyfleu.

O ran y cwestiwn ynghylch llywodraethwyr, roedd hwn yn gwestiwn amserol gan mai rhan o gynllun busnes y CCD gynt oedd nodi 5 blaenoriaeth allweddol i’r awdurdod lleol wrth symud ymlaen, gydag un ohonynt yn golygu cael eglurder ynghylch rôl llywodraethwyr, gan gynnwys recriwtio, cadw a datblygiad proffesiynol. Yn fwy diweddar, roedd hyn wedi dod i ffocws amlwg gyda golwg ar rôl y corff llywodraethu a llywodraethwyr, o ran asesiadau risg. Nododd canllawiau gweithredol LlC i raddau, bod angen miniogi’r rôl. Un o’r pethau yr oedd yr awdurdod lleol yn ei wneud, fel yr oedd dyletswydd arno i wneud, oedd edrych ar ganllawiau Estyn mewn perthynas ag adolygiadau thematig a hefyd gyfarwyddebau LlC ynghyd â chyngor gan CCD i sicrhau bod hyn yn cael ei drosglwyddo i ysgolion.

 

Esboniodd Cyfarwyddwr Cynorthwyol ar gyfer Partneriaethau a Gwella CCD fod CCD wedi recriwtio 13 o Arweinwyr Rhanbarthol ar gyfer Llywodraethu, oherwydd y cydnabyddid bod gwir angen datblygu o fewn y cyrff llywodraethu ledled y rhanbarth. Roeddent yn offeryn pwysig iawn yn y blwch gwella oherwydd ei bod yn wirioneddol allweddol cael y bobl iawn i’w defnyddio. Felly, yn dilyn proses asesu drylwyr, cawsant eu recriwtio ac roeddent wedi bod yn rhan o raglen hyfforddi. Byddent yn eistedd fel rhan o’r Tîm Gwella Ysgolion a byddent yn ddarostyngedig i’r holl brosesau sicrhau ansawdd a ddilynai ar gyfer yr holl staff gwella ysgolion. Yn y pen draw, byddent yn cael eu cefnogi yn y gwaith yr oeddent yn ei wneud gyda chyrff llywodraethu mewn ysgolion ac edrychid ar effaith eu gwaith. Yn ogystal, roedd yn ymwneud â gwella a datblygu cefnogaeth a hyfforddiant CCD ei hun ar gyfer llywodraethwyr ysgolion, drwy’r offeryn hunanarfarnu ar gyfer cyrff llywodraethu. Un o’r arfau cyntaf y byddai arweinwyr rhanbarthol yn gweithio arnynt gydag ysgolion fyddai dull i gyrff llywodraethu hunanwerthuso eu perfformiad eu hunain yn effeithiol ac o’r pwynt hwnnw adeiladu cynllun i allu datblygu a gwella y ffordd yr oeddent hwy eu hunain yn gweithredu.

 

Gofynnodd Aelod a oedd Penaethiaid yn teimlo bod yna unrhyw fuddion penodol yr oeddent wedi’u canfod o ddysgu ar-lein, gydag unrhyw enghreifftiau, ac wrth feddwl am yr addysgu a wnaed cyn hynny a oedd yna unrhyw beth y byddai’n well ganddynt fod wedi ei wneud neu wedi elwa o’i wneud ar-lein.

 

Awgrymodd Aelod y Cabinet dros Addysg ac Adfywio y dylai’r Aelod edrych ar yr adroddiad ysgrifenedig ar gyfer y cyfarfod, ac yn benodol, ar bwyntiau 4.6 a 4.7 oedd yn rhestru anfanteision a manteision dysgu ar-lein a dysgu cyfunol, a oedd yn ddiddorol iawn, meddai.

 

Esboniodd Pennaeth Ysgol Brynteg fod llawer i’w ddysgu yn ogystal â phwyntiau da hefyd. Byddai athrawon mewn ystafell ddosbarth oedd yn cyflwyno cysyniad anodd mewn ffordd gydamserol yn gwneud hynny gyda’r dosbarth o’i gwmpas a gobeithid y byddai’r disgyblion wedi deall ac yn mynd â’r wybodaeth honno i ffwrdd. Gyda recordio fideo, gallai disgyblion ei chwarae ar adeg oedd yn gyfleus iddynt, gallent ei chwarae dro ar ôl tro, os nad oeddent efallai yn deall cysyniad neu ei stopio ar bwynt penodol, ac roedd hynny’n bwynt dysgu allweddol. O ran y dyfodol, wrth symud ymlaen, hwn oedd y cysylltiad â chwricwlwm Cymru a sut y byddai cyfleoedd dysgu cyfunol yn caniatáu creu cyfleoedd dysgu i ddisgyblion fel y gallent symud ar bwynt a oedd yn addas iddynt, yn lle bod rhaid iddynt, er enghraifft, aros nes bod angen i weddill y dosbarth symud ymlaen. Roedd rhywfaint o feddwl cyffrous iawn ynghylch dysgu cyfunol ac addysgu fertigol e.e. dod â gwahanol grwpiau blwyddyn o ddisgyblion ynghyd i greu cyfleoedd dysgu cyffrous iddynt.

 

Esboniodd Pennaeth Ysgol Gynradd Bracla mai un o fuddion addysgu a dysgu o safbwynt dysgu cyfunol oedd hyder plant, nad fyddent efallai wedi bod yn ddigon hyderus i siarad yn yr ystafell ddosbarth, yn enwedig dysgwyr cyfnod sylfaen. Cawsant lawer mwy o gefnogaeth gan oedolion ar yr aelwyd ac felly sylwyd ar hyn o ran buddion i hyder a gwelwyd dilyniant penodol o ran sgiliau cymdeithasol hefyd. Roeddent hefyd wedi elwa o ddarpariaeth yr Hwb yn ogystal, os oedden nhw wedi bod yn yr ysgol, mewn grwpiau bach.

 

Adleisiodd Pennaeth Dros Dro Ysgol Uwchradd Gatholig yr Archesgob McGrath sylwadau cydweithwyr, yr hyder oedd y peth. Roedd yn ddiddorol iawn edrych ar ddosbarth o ddisgyblion, a disgyblion na fyddent fel rheol yn cyfrannu’n barod iawn yn yr ystafell ddosbarth oedd yn eithaf hapus i gyfrannu ar-lein, p’un a oedd hynny yn y sgwrs neu i gyfathrebu trwy eu meicroffonau. Yn yr un modd, o ran y syniad fertigol, roedd wedi bod yn ddiddorol iawn gyda gwersi blasu, o ran dewisiadau, i roi cyfle i blant eistedd mewn gwersi Safon Uwch neu TGAU, rhywbeth na fyddent fel arfer wedi cael cyfle i’w wneud.

 

Dywedodd Cynrychiolydd Cofrestredig yr Eglwys yng Nghymru y bu trafodaethau hir, llawer o sylwadau, rhai yn gadarnhaol a rhai yn negyddol. Teimlai ei bod yn hanfodol cofnodi pleidlais enfawr o ddiolch i staff ysgolion, gan eu bod wedi gwneud swm anhygoel o waith a bod y mwyafrif llethol ohonynt wedi mynd ymhell y tu hwnt i’r hyn a ddisgwylid. Roedd wedi bod yn gyfnod anodd iawn i bawb, i ddisgyblion, ie, i rieni, ie ond i staff yr ysgol hefyd; felly diolch enfawr i bawb.

 

Dywedodd y Cadeirydd fod hon yn ffordd dda iawn o ddod â’r sesiwn holi i ben heddiw ac roedd yn cytuno’n llwyr â sylwadau’r cynrychiolydd cofrestredig. Yr adborth a gafodd gan rieni yn ei ward oedd bod y newid yn ôl i’r ysgol wedi bod yn ddi-dor. Diolchodd i holl staff yr ysgol ond hefyd staff o’r CCD a staff yn y Cyngor, yn enwedig yn y Gyfarwyddiaeth Addysg a Chymorth i Deuluoedd a gofynnodd i Gyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd drosglwyddo diolch y pwyllgor am y ffordd yr oedd y staff, yn amryw o wahanol leoliadau, wedi delio â chyfnod hynod heriol.

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r holl wahoddedigion oedd wedi ymuno â’r cyfarfod a nododd ei bod wedi bod yn sesiwn wirioneddol dda gydag ystod o wahanol safbwyntiau a diolchodd i’r Maer Ieuenctid, ar ran y Pwyllgor am ei sylwadau craff.

 

Gadawodd y Gwahoddedigion y cyfarfod.

 

Argymhellion:

Ar ôl ystyried yr adroddiad ar Ddysgu Cyfunol yn Ysgolion Pen-y-bont ar Ogwr ers mis Mawrth 2020, ac ymatebion y gwahoddedigion i gwestiynau Aelodau gwnaeth y Pwyllgor y sylwadau a’r argymhellion a ganlyn:

 

Roedd ar y Pwyllgor eisiau diolch yn ffurfiol i holl staff yr ysgolion a’r athrawon addysgu am eu gwaith caled drwy gydol yr amser anodd hwn.

 

Gofynnodd y Pwyllgor:

 

·         I Gonsortiwm Canolbarth y De rannu data o’r ymchwil a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru i Ddysgu Cyfunol pan fyddai ar gael.

 

·         I ffigurau ynghylch yr ystod eang o ymgysylltu gael eu darparu gan Gonsortiwm Canolbarth y De.

 

·         I Gyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd sicrhau bod Adnoddau Dynol yn parhau i ddarparu cyngor diweddar i’r ysgol a staff addysgu ynghylch lles.

 

·         I Gyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd roi mwy o wybodaeth i’r Aelodau ynghylch y strategaeth y soniodd fod ei hangen i ddelio ag Allgau Digidol a hefyd sut y bydd yn cael ei hariannu wrth symud ymlaen fel blaenoriaeth bwysig i’r Awdurdod.

 

·         I’r Awdurdod ymgysylltu â Llywodraeth Cymru lobïo am well cysylltedd rhyngrwyd (e.e. band eang ffibr optig) a chynnwys y Sir gyfan gan ganolbwyntio ar gymunedau gwledig a chymoedd, gan y bydd hyn yn ased allweddol i barhad cadarnhaol dysgu cyfunol.

 

·         I Gyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd roi eglurder y bydd gan ysgolion ddigon o offer cyfrifiadurol, gan eu bod wedi cronni eu hoffer yn seiliedig ar gyhoeddiad LlC 2019 bod TGCh yn cael ei uwchraddio ar gyfer ysgolion.

 

·         Am ystyried diwygio cofnodi absenoldeb i ganiatáu ar gyfer y disgyblion hynny nad ydynt efallai’n gallu cymryd rhan mewn diwrnod ysgol ar-lein oherwydd cysylltedd rhyngrwyd neu broblemau dyfeisiadau.

 

·         Yn deillio o sylwadau’r Maer Ieuenctid:

 

-       Bod anghydraddoldebau a gwahaniaethau rhwng yr un ysgol a grwpiau blwyddyn, o ran cynnydd neu wahaniaeth yn y gwaith sy’n cael ei gwblhau, yn cael ei asesu a bod dull o ddysgu gwersi yn cael ei fabwysiadu.

 

-       Bod y wybodaeth honno ynghylch sut y bydd dysgu’n newid, y gweithdrefnau newydd a’r newidiadau sydd ar ddod i addysg yn cael ei rhannu’n briodol â disgyblion yn ogystal â staff a chyrff eraill. 

 

Dogfennau ategol: