Agenda item

Y wybodaeth ddiweddaraf am Waith Cydraddoldeb o fewn Ysgolion

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Ymgynghori, Cydraddoldeb ac Ymgysylltu adroddiad a oedd yn rhoi gwybodaeth am ddigwyddiadau hiliol mewn ysgolion, fel y'i monitrwyd gan ddefnyddio'r Ffurflen Adroddiad Digwyddiadau Hiliol.

 

Dywedodd fod pob ysgol wedi derbyn canllawiau adrodd am ddigwyddiadau hiliol mewn ysgolion ym mis Mawrth 2019, ac roedd y canllawiau'n cynnwys hysbysu'r awdurdod lleol am ddigwyddiadau hiliol yn ogystal â hysbysu'r heddlu a allai gofnodi digwyddiadau fel troseddau casineb. I wneud hyn, darparwyd Ffurflen Adrodd Digwyddiadau Hiliol wedi'i diweddaru i ysgolion i'w llenwi lle bo angen.

 

Darparodd y Rheolwr Ymgynghori, Cydraddoldeb ac Ymgysylltu ffigurau’r achosion a gofnodwyd yn ystod blwyddyn academaidd 2020-2021, pan welwyd cyfanswm o 10 ar draws 5 ysgol wahanol. Mae’r math o ddigwyddiadau a gofnodwyd i’w gweld yn adran 4.1.1 o'r adroddiad, a rhestrir oedran y cyflawnwyr ac oedran y dioddefwyr yn 4.1.2. Rhestrwyd dadansoddiad pellach o ryw a'r ystod o ymyriadau sy'n digwydd yn adran 4 o'r adroddiad. Ychwanegodd bod prosiect arfaethedig Troseddau Casineb mewn Ysgolion wedi'i ohirio oherwydd y pandemig Covid-19, ac roedd CLlLC mewn trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru yngl?n â'r posibilrwydd o ymestyn y cyllid a ddyrannwyd y tu hwnt i ddiwedd y flwyddyn ariannol hon.

 

Cyfeiriodd yr Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio at ei yrfa flaenorol fel athro, a dywedodd fod hiliaeth achlysurol yn fwy cyffredin bryd hynny, hyd yn oed mewn llysenwau plant, felly roedd yn galonogol clywed bod cynnydd wedi’i wneud ers hynny. Fodd bynnag, mae hiliaeth, boed yn fwriadol neu ddim, yn dal i ddigwydd, ac mae pawb â’r gallu i fod yn hiliol. Gofynnodd a oedd rhieni'n cael gwybod am bethau a adroddir am eu plant, fel mater o rybudd.

 

Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd fod rhieni'n cael gwybod am y materion hyn. Roedd hefyd yn ofynnol i'r Ysgolion hysbysu'r awdurdod lleol yn flynyddol.

 

Gofynnodd Aelod a oedd ffordd o wneud y ffurflenni a gyflwynwyd yn ddienw, fel bo modd i’w Pwyllgor eu delweddu a chael gwell dealltwriaeth. Eglurodd fod llawer o bobl yn defnyddio'r geiriau ‘gay’ neu ‘queer’ fel ffordd o alw enwau, yn ogystal â llawer o eiriau eraill, heb iddynt gario'r un ystyr, felly byddai gallu delweddu'r g?yn yn ei chyfanrwydd yn rhoi gwell dealltwriaeth o sut mae’r geiriau hyn yn cael eu defnyddio. Eglurodd y Rheolwr Ymgynghori, Cydraddoldeb ac Ymgysylltu y byddai adolygiad o sut yr edrychir ar adroddiadau am achosion mewn ysgolion yn rhan o Gynllun Cydraddoldeb Strategol 2020-2024. Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd fod canllawiau wedi'u cyhoeddi gan ESTYN a Llywodraeth Cymru a oedd yn sefydlu protocolau ar sut y dylai ysgolion adrodd am fwlio, ac y byddai'n ei gylchredeg i bob aelod yn dilyn y cyfarfod.

 

Gofynnodd Aelod, mewn perthynas â'r cyllid ar gyfer prosiectau troseddau casineb a grybwyllir yn yr adroddiad, pe bai'r cyllid yn dod i law, sut y byddai'r awdurdod yn gwneud y gwaith.

 

Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd fod yn rhaid i'r gwaith fod yn gynaliadwy ac, er bod yr awdurdod yn dibynnu ar gyllid o'r gwaith rhagorol a wnaed gan Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth a'r prosiect troseddau casineb, roedd elfennau allweddol eisoes yn cael eu gwneud gydag ysgolion sy'n ategu gwaith y mentrau a grybwyllir uchod. Roedd y gwaith yn deillio o ddull amlasiantaethol gydag amrywiaeth o wahanol rannau, er enghraifft; tîm addysg ac ymgysylltu sy'n gweithio'n agos gydag ysgolion i'w cynghori a'u harwain ar y materion hyn; timau cymorth cynnar sy'n gweithio gydag ysgolion yn ogystal â'r rhieni i gefnogi'r ymddygiadau cywir a ddisgwylid; tîm cyfathrebu a pherthnasoedd sy'n gweithio gyda phlant ag anghenion ymddygiadol ac emosiynol penodol. Cefnogwyd y timau hyn gan y cyllid sydd ar gael yn bresennol.

 

Gofynnodd Aelod a ellid darparu ffigurau pellach yn y dyfodol ar achosion a oedd yn ymwneud â rhyw yn benodol. Cytunodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd y byddai ffigurau ychwanegol wrth adrodd yn y dyfodol yn rhoi gwell dealltwriaeth o'r materion a’n ei gwneud yn haws i ymdrin â hwy'n effeithiol. Roedd gan CBSP bolisïau a gweithdrefnau cadarn ar waith a'r nod oedd cyrraedd pwynt lle na cheir unrhyw achosion.

 

Gofynnodd yr Arweinydd a allai adroddiadau yn y dyfodol ddarparu ffigurau ar y nifer sy'n manteisio ar y gwaith o godi ymwybyddiaeth a’r hyfforddiant a gynigir, er mwyn i ni ddeall maint hynny ac i wybod a oes angen i ni wneud mwy fel awdurdod.

 

Mynegodd y Cadeirydd siom fod achosion o fwlio yn dal i gael eu hadrodd er bod ysgolion wedi'u cau am gyfran fawr o'r flwyddyn academaidd oherwydd y pandemig. Credai ei bod yn bwysig derbyn yr adroddiad hwn yn aml.

 

PENDERFYNIAD: Bod Pwyllgor Cydraddoldeb y Cabinet wedi derbyn a nodi'r adroddiad.

 

Dogfennau ategol: