Agenda item

Y defnydd o’r enw Picton mewn Enwau Strydoedd ac Adeiladau ledled Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr - Adroddiad i roi’r Wybodaeth Ddiweddaraf

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Ymgynghori, Cydraddoldeb ac Ymgysylltu adroddiad a oedd yn rhoi’r diweddaraf i Bwyllgor Cydraddoldeb y Cabinet o ran y wybodaeth a gafwyd a’r ymchwil a wnaed yngl?n â’r defnydd o'r enw Picton mewn enwau strydoedd ac adeiladau ar draws Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

 

Darparodd ffigurau a oedd yn amlinellu nifer y strydoedd ym Mhen-y-bont ar Ogwr a oedd wedi defnyddio'r enw 'Picton', a oedd wedi'i rannu'n 4 ardal; Pen-y-bont ar Ogwr, Porthcawl, Mynydd Cynffig a Nantyffyllon, roedd y ffigurau hyn yn adran 4 o'r adroddiad.

 

Dywedodd fod Archifau Morgannwg wedi'u comisiynu i wneud gwaith ymchwil ar ran y cyngor. Cytunwyd y byddai Archifau Morgannwg yn cynnal hyd at 100 awr o ymchwil, ond oherwydd y cyfyngiadau a osodwyd yn sgil Covid-19, cyfanswm o 50 awr a 35 munud o ymchwil a gyflawnwyd. Roedd yr adroddiad gan Archifau Morgannwg ynghlwm yn Atodiad 1, a'r casgliad i’w gael yn adran 4.3 o'r adroddiad.

 

Dywedodd y Rheolwr Ymgynghori, Cydraddoldeb ac Ymgysylltu, ar wahân i'r adroddiad a dderbyniwyd yng nghyfarfod diwethaf y pwyllgor, na chafwyd unrhyw wybodaeth bellach gan Lywodraeth Cymru o ran yr Archwiliad a gynhaliwyd ganddynt, felly nid oeddent yn ymwybodol o'u camau nesaf.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Gymunedau fod yr adroddiad yn amlygu pa mor anodd y gall fod i ganfod union darddiad enwau strydoedd Pen-y-bont ar Ogwr, a diolchodd i bawb a oedd yn ymwneud â thynnu'r wybodaeth at ei gilydd o fewn amserlen fer.

 

Ychwanegodd yr Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio fod yr ymarfer o ymchwilio i darddiad enwau strydoedd o fudd wrth i ni ddeall a chofio yn ogystal ag ail-ddysgu pethau a aeth yn angof. Ychwanegodd y gallai fod angen polisi yn y dyfodol i atal enwi strydoedd ar ôl rhai pobl, ac i ehangu cwmpas yr enwau y gellid eu defnyddio. Credai na ddylid caniatáu i ddatblygwyr tai enwi strydoedd, a dylai'r hawl gael ei rannu rhwng y Cyngor a’r Cynghorau Tref a Chymuned.

 

Croesawodd yr Arweinydd yr adroddiad a diolchodd i bawb a fu’n rhan o’r gwaith o ganfod gwybodaeth. Dywedodd ei bod yn briodol i aros i Lywodraeth Cymru gymryd y camau nesaf ar y mater.

 

Gofynnodd Aelod a oedd gan CBSP Bolisi Cydraddoldeb Hiliol, gan y byddai hyn yn rhoi gwell dealltwriaeth a’n cynnig cysondeb ar draws y fwrdeistref, gan gynnwys sefydliadau trydydd sector, ac yn help i ymgysylltu â'r cyhoedd hefyd. Gofynnodd hefyd sut beth oedd yr ymgysylltu a wneir mewn ysgolion o ran hanes pobl ddu, gan y byddai hyn yn gwella dealltwriaeth ac o bosibl yn help wrth enwi strydoedd.

 

Croesawodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd yr awgrym a chytunodd i'w godi gyda Phenaethiaid yn ogystal â Llywodraeth Cymru.

 

Eglurodd y Rheolwr Ymgynghori, Cydraddoldeb ac Ymgysylltu fod gan CBSP Gynllun Cydraddoldeb Strategol a oedd yn cwmpasu'r holl nodweddion gwarchodedig. Roedd CBSP hefyd wedi ymrwymo i'r polisi dim goddefgarwch i ddileu gwahaniaethu ar sail hil ledled Cymru. Gofynnodd yr Aelod a allai'r Cyfarwyddwr Corfforaethol gysylltu â'r Swyddog Lles Addysg gan ei bod yn gwneud darn o waith ar Hanes Pobl Ddu mewn perthynas â'r cwricwlwm.

 

PENDERFYNIAD: Bod Pwyllgor Cydraddoldeb y Cabinet wedi ystyried yr adroddiad diweddaru a'r adroddiad ymchwil gan Archifau Morgannwg, a’u bod yn disgwyl y camau nesaf gan Archwiliad Llywodraeth Cymru.

 

Dogfennau ategol: