Cofnodion:
Cyflwynodd y Rheolwr Ymgynghori, Cydraddoldeb ac Ymgysylltu adroddiad a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor am y gwaith a gwblhawyd yng Nghynllun Cydraddoldeb Strategol (SEP) 2016 - 2020 ar gyfer y cyfnod 2019 - 2020.
Nod y SEP oedd:
Eglurodd y Rheolwr Ymgynghori, Cydraddoldeb ac Ymgysylltu fod yr adroddiad blynyddol (Atodiad 1) yn cwmpasu'r cyfnod rhwng 1 Ebrill 2019 a 31 Mawrth 2020. Rhaid cyhoeddi'r adroddiad blynyddol ar wefan y cyngor/sicrhau ei fod ar gael erbyn 1 Ebrill 2021. Amlinellodd bwyntiau allweddol yr adroddiad fel y'i rhestrir yn adran 4.3 o'r adroddiad. Ychwanegodd fod gwybodaeth bellach yn yr Atodiad, gwybodaeth fel;
Diolchodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar i'r tîm a fu'n gweithio ar yr adroddiad ac roedd yn edrych ymlaen at adroddiadau cynnydd pellach. Soniodd fod y Cyngor, o edrych ar ddemograffeg y gweithlu presennol, yn elwa'n fawr o gael aelodau staff profiadol a oedd wedi bod yn y Cyngor ers nifer o flynyddoedd, ond bod yr aelodau staff hyn yn h?n ac y gallent ymddeol. Gofynnodd pa gynlluniau sydd o ran rheoli olyniaeth.
Cytunodd Rheolwr y Gr?p – Adnoddau Dynol a Datblygu Sefydliadol fod cynllunio olyniaeth yn bwysig, ac mae gweithwyr wedi derbyn cyfleoedd i ddatblygu eu sgiliau eu hunain yn ogystal â hyfforddi staff newydd a throsglwyddo eu harbenigedd. Ychwanegodd fod rhaglenni datblygiad proffesiynol hefyd ar gael i alluogi staff presennol i ennill cymwysterau cydnabyddedig ac i agor drysau i’w hunain. Ychwanegodd fod cynlluniau prentisiaeth ar gael hefyd, a’u bod yn cael eu hehangu bob blwyddyn i ganiatáu ar gyfer hyfforddiant mewn swydd a chymwysterau cydnabyddedig mewn amrywiaeth o feysydd. Roedd cynlluniau hefyd ar gyfer rhaglenni graddedigion a chynlluniau secondio gwaith cymdeithasol.
Gofynnodd Aelod pa ddulliau dysgu anffurfiol y gellid eu darparu i'r holl staff er mwyn rhoi cyfle iddynt ddatblygu mewn ffyrdd ychwanegol.
Cytunodd Rheolwr y Gr?p – Adnoddau Dynol a Datblygu Sefydliadol fod pob math o ddysgu yn angenrheidiol ac yn fuddiol. Eglurodd fod sesiynau un i un gyda rheolwyr ac arfarniadau yn gyfleoedd da i staff drafod eu hanghenion dysgu a'u datblygiad personol. Ychwanegodd fod aelod o'i thîm yn y cyfarfod heddiw er mwyn arsylwi ar sut y rhedir pwyllgor a sut y defnyddir y gwaith yr oedd hi wedi'i ddarparu mewn pwyllgor, a bod hyn yn ffordd dda o roi profiad i staff. Ychwanegodd fod dadansoddiad o anghenion hyfforddi yn cael ei gynnal a’i fod yn llywio'r ddarpariaeth hyfforddiant corfforaethol, ac roedd hyn yn cael ei drafod gyda rheolwyr. Ychwanegodd fod hyfforddiant i reolwyr ar gael yn ffurfiol yn ogystal ag yn anffurfiol drwy eu galluogi i roi cynnig ar amrywiaeth o raglenni a oedd yn fuddiol neu'n ennyn eu diddordeb.
PENDERFYNIAD: Bod y Pwyllgor wedi nodi'r cynnydd sy'n cael ei wneud ac wedi cymeradwyo Adroddiad Blynyddol y Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2019-2020.
Dogfennau ategol: