Agenda item

Gwasanaethau Cartrefi Gofal - Trefniadau Ariannu a Chontractiol

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles a oedd yn rhoi adborth a gafwyd gan ddarparwyr cartrefi gofal mewn perthynas â hyfywedd sefydlu fframwaith hyblyg a gafaelwyd yn agored o ddarparwyr cartrefi gofal, fel y'i cymeradwywyd gan y Cabinet ym mis Mawrth 2020. Gofynnodd hefyd am gymeradwyaeth i barhau â'r hepgoriad o dan Reol Gweithdrefn Contract 3.2.3, o'r gofyniad i dendro'n gystadleuol y ddarpariaeth o wasanaethau cartrefi gofal preswyl a nyrsio, yn seiliedig ar yr adborth hwn a dderbyniwyd a'r risgiau a nodir yn yr adroddiad. Gofynnodd hefyd am gymeradwyaeth i ymrwymo i gontractau newydd gyda darparwyr gofal preswyl a nyrsio presennol, a llunio contractau gydag unrhyw ddarparwyr newydd a nodwyd gan yr Awdurdod Lleol, am gyfnod contract o hyd at chwe blynedd.

 

Tynnodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles sylw at bwysigrwydd y trefniadau ariannu a chontractio wrth i gartrefi gofal ddarparu llety, gofal a chymorth i bobl fwyaf agored i niwed Pen-y-bont ar Ogwr.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles fod 19 o gartrefi gofal yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr a oedd yn darparu 780 o welyau i'w trigolion ac roedd tua 50% ohonynt yn cael eu hariannu gan CBSP. Ychwanegodd fod y flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn heriol dros ben i'r sector cartrefi gofal.

 

 

Amlinellodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles y risgiau/materion sy'n gysylltiedig â cheisio sefydlu fframwaith hyblyg a gaffaelwyd yn agored, yr oedd angen ei ystyried yn erbyn y risgiau o beidio â chynnal ymarfer caffael; manylwyd ar y rhain yn y tabl am 4.10.

 

Amlinellodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles amserlen prisiau cartrefi gofal ar gyfer 2021/2022 a chymharu costau awdurdodau lleol eraill yng Nghymru. Roedd manylion y cymariaethau hyn yn 4.19 o'r adroddiad. Dywedodd fod dadansoddiad pwysau cost wedi'i gynnal ym mis Ionawr 2021 er mwyn pennu swm cynyddol y byddai'r cyfraddau presennol yn cynyddu, a oedd yn ystyried pwysau ariannol ar gartrefi gofal sy'n gysylltiedig â newidiadau deddfwriaethol (fel cynyddu’r Cyflog Byw Cenedlaethol) a ffactorau chwyddiant eraill. Roedd y cyfrifiadau hyn wedi pennu cynnydd o 1.62% yn gysylltiedig â'r dadansoddiad hwn o bwysau cost. Yn ogystal â hyn, ychwanegodd, fel rhan o'r MTFS, y byddai £250,000 pellach o gyllid grant ar gael ar gyfer pwysau cost staff/gweithlu. Roedd manylion pellach yn 4.2 o'r adroddiad.

 

Croesawodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar yr adroddiad ac adleisiodd y pwynt a wnaed am y pwysau eithafol a oedd wedi bod ar gartrefi gofal. Eglurodd bwysigrwydd sicrhau bod y cartrefi gofal yn cael cefnogaeth dda a bod y staff yno wedi cael y cymorth yr oedd ei angen arnynt a chyda'r newidiadau a oedd i ddod ar ôl Covid-19, roedd yn bwysig denu darparwyr newydd i'r farchnad. Roedd yr Aelod Cabinet yn falch o weld y £250,000 o arian grant ar gael i ddarparu cymorth ychwanegol.

 

PENDERFYNWYD:Bod y Cabinet wedi:

 

· Nodi’r adborth a gafwyd gan ddarparwyr cartrefi gofal mewn perthynas â hyfywedd sefydlu fframwaith hyblyg, a gaffaelwyd yn agored, o ddarparwyr cartrefi gofal.

 

 · Rhoi cymeradwyaeth i barhau â'r hepgoriad o dan Reol Gweithdrefn Contract 3.2.3, o'r gofyniad i dendro'n gystadleuol y ddarpariaeth o wasanaethau cartrefi gofal preswyl a nyrsio;

 

· Rhoi cymeradwyaeth i ymrwymo i gontractau newydd gyda darparwyr gofal preswyl a nyrsio presennol, a llunio contractau gydag unrhyw ddarparwyr newydd a nodwyd gan yr Awdurdod Lleol, am gyfnod contract o hyd at chwe blynedd gyda thymor cychwynnol o 3 blynedd ac opsiwn i'w ymestyn am 3 blynedd arall;

 

· Nodi’r dull o bennu ffioedd a gynhaliwyd ar gyfer y sector cartrefi gofal yn 2021/22.

 

Dogfennau ategol: