(i) Maer (neu’r person sy’n llywyddu)
(ii) Aelodau’r Cabinet
(iii) Prif Weithredwr
Cofnodion:
Y Maer
Dechreuodd y Maer drwy ddymuno prynhawn da i bawb. Gobeithiai fod pawb a oedd yn bresennol yn ddiogel ac yn iach ac wedi bod yn mwynhau’r tywydd yn nyddiau cynnar y gwanwyn.
Cyhoeddodd nad oedd ganddo unrhyw ddiweddariadau i'r Aelodau o ran ymrwymiadau, ond fod ganddo gyhoeddiad i'r rhai a oedd yn bresennol ei nodi. Cyn bo hir, bydd yr Aelodau'n derbyn eu ffurflen datgelu trafodion partïon cysylltiedig blynyddol. Atgoffodd yr holl Gynghorwyr ei bod yn hanfodol iddynt gwblhau'r ffurflen i ddatgan unrhyw drafodion partïon cysylltiedig ar gyfer blwyddyn ariannol 2020-21, hyd yn oed os nad oes trafodion i’w nodi ar y ffurflen. Ni ddylid cwblhau’r ffurflenni cyn 31 Mawrth 2021 ond rhaid eu dychwelyd erbyn dydd Gwener 9 Ebrill 2021.
Ychydig ddyddiau'n ôl cafodd y Cynghorydd Altaf Hussain drawiad ar y galon, ond diolch byth, ar ôl ychydig ddyddiau yn yr ysbyty, mae'r Cynghorydd bellach wedi dychwelyd adref lle mae'n gyfforddus ac yn gwella. Roedd y Maer wedi cysylltu ag ef ac roedd yn falch o gyhoeddi bod y Cynghorydd Hussain yn teimlo'n llawer gwell. Roedd y Maer yn si?r y byddai Aelodau a Swyddogion yn ymuno ag ef i ddymuno gwellhad llawn a buan i'r Cynghorydd Hussain.
Dirprwy Arweinydd
Dywedodd y Dirprwy Arweinydd fod amser yn prinhau i ddinasyddion yr UE sy'n byw ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, a bod angen iddynt wneud cais am Gynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE.
Mae'r cynllun, sy'n rhan o system fewnfudo newydd y DU ar ôl Brexit, yn cynnig yr hawl i ddinasyddion 27 aelod-wladwriaeth yr UE barhau i fyw a gweithio yn y DU fel y gwnaethant pan oedd y wlad yn rhan o'r UE.
Mae'n rhad ac am ddim i wneud cais amdano, ond rhaid cyflwyno ceisiadau cyn y dyddiad cau, sef 30 Mehefin.
Hyd yn hyn, mae bron i 2,000 o geisiadau wedi'u prosesu yn y Fwrdeistref Sirol. O'r rheini, mae 1,370 wedi cael statws sefydlog, ac mae 570 wedi cael statws cyn-sefydlog.
Mae'r rhain yn bobl sy'n cyfrannu at y cymunedau y maent yn byw ynddynt, ac yr ydym am iddynt allu parhau i fyw yma, i weithio yma, a chael mynediad at wasanaethau yma.
Gofynnir i Aelodau annog holl ddinasyddion yr UE sy'n byw yn eu wardiau ac sydd wedi ymgartrefu ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i wneud cais i'r cynllun preswylio cyn y dyddiad cau.
Ceir rhagor o wybodaeth am sut y gallant wneud hyn ar wefan y Cyngor
Aelod Cabinet – Addysg ac Adfywio
Dywedodd yr Aelod Cabinet – Addysg ac Adfywio y gallai cydweithwyr fod wedi gweld y cyhoeddiad diweddar gan y Gweinidog Addysg Kirsty Williams a oedd yn cadarnhau y bydd Llywodraeth Cymru yn darparu £72 miliwn yn ychwanegol i ysgolion ledled Cymru.
Yr ydym yn dal i aros am gadarnhad cyfran Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr o hyn, ond mae'r cyllid yn rhan o'r adferiad cyffredinol o'r pandemig, a'i fwriad yw helpu ysgolion wrth iddynt geisio cefnogi dysgwyr.
Bydd yn galluogi'r rhaglen Recriwtio, Adfer a Chodi Safonau i barhau i'r flwyddyn academaidd nesaf, a bydd yn darparu adnoddau dysgu ychwanegol a chymorth i ddysgwyr cyfnod sylfaen ar draws ysgolion a lleoliadau gofal plant sy'n darparu addysg gynnar.
Bydd y cyllid hefyd yn galluogi i gymorth gael ei dargedu at ddysgwyr ym mlynyddoedd 11, 12 a 13 wrth iddynt symud i gam nesaf eu haddysg.
Yn ogystal â hyn, mae bwriad hefyd i gefnogi athrawon dan hyfforddiant drwy eu helpu i ymgymryd â'u cyfnod profiad ymarferol yn yr hydref, i gwblhau eu cymwysterau, ac i ddechrau addysgu llawn amser.
Yn sgil newidiadau mawr y flwyddyn ddiwethaf, a gwaith caled yr ysgolion wrth leihau'r effaith ar blant, bydd yr arian ychwanegol hwn yn cefnogi ein hymdrechion wrth i ni barhau tuag at y 'normal newydd'.
Roedd yn si?r y byddai'r Aelodau'n ymuno ag ef i groesawu'r arian ychwanegol hwn gan Lywodraeth Cymru.
Aelod Cabinet – Gwasanaeth Cymdeithasol a Chymorth Cynnar
Dywedodd yr Aelod Cabinet – Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar y gallai cynllun peilot ar gyfer gwasanaeth newydd, arloesol i bobl sy'n cael problemau iechyd meddwl yng nghanol Pen-y-bont ar Ogwr fod o ddiddordeb i Aelodau.
Mae hyn wedi'i gynllunio'n fwriadol i gynnig ffurf lai ffurfiol o ymyrraeth gynnar sydd wedi'i seilio ar amgylchedd anghlinigol sy’n gartrefol a’n hamddenol.
Mae'r pwyslais ar sicrhau ei fod yn groesawgar ac yn ddigynnwrf, a hynny er budd preswylwyr sy'n profi gorbryder, iselder, unigrwydd, unigedd, materion perthynas ddomestig a theuluol, cyfrifoldebau gofalwyr, straen, a materion eraill a allai effeithio ar eu hiechyd meddwl a'u lles.
Ers agor ychydig cyn y Nadolig, mae'r gwasanaeth y tu allan i oriau wedi derbyn mwy na 100 o atgyfeiriadau o bob rhan o'r ardal.
Ceir mynediad drwy broses atgyfeirio gan staff iechyd proffesiynol, gwasanaethau cymdeithasol neu ofal cymdeithasol, ac mae'r gwasanaeth hyd yn oed yn cynnwys cludiant mewn tacsi i sicrhau diogelwch ac i ddymchwel rhwystrau i bresenoldeb.
Caiff ei ddarparu gan Mental Health Matters Wales, a’i gyflwyno fel rhan o gydweithrediad rhwng y Cyngor, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, Heddlu De Cymru, a darparwyr gwasanaethau trydydd sector eraill.
Gan mai hwn yw'r peilot cyntaf o'i fath yn ardal Cwm Taf Morgannwg, mae'n dda gweld bod yr adborth a gafwyd hyd yma wedi bod yn gadarnhaol, ac roedd yr Aelod yn si?r y bydd aelodau'n croesawu hyn fel darn newydd, sylfaenol o rwydwaith estynedig gwasanaethau iechyd meddwl ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Aelod Cabinet – Lles a Chenedlaethau’r Dyfodol
Dywedodd yr Aelod Cabinet – Lles a Chenedlaethau'r Dyfodol fod Swyddogion y Gwasanaeth Rheoliadol a Rennir yn dal i weithio gyda busnesau lleol ac yn cynnal gwiriadau i sicrhau eu bod yn parhau i gydymffurfio â'r holl ofynion presennol o ran cyfyngiadau symud.
Gan fod y Gwanwyn bellach wedi cyrraedd a’r tywydd yn dechrau gwella, mae pobl sy'n prynu bwyd a diod tecawê yn cael eu hatgoffa y dylent gadw pellter cymdeithasol bob amser, ac i beidio ag yfed alcohol mewn ardaloedd lle mae Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus ar waith.
Daw hyn yn sgil problemau diweddar a gafwyd o amgylch ardal y marina ym Mhorthcawl.
Mewn ardal lle mae Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus ar waith, gwaherddir yfed alcohol neu ei gario mewn cynhwysyddion agored.
Mae hysbysiadau wedi'u gosod mewn ardaloedd dynodedig i atgoffa pobl o'r rheolau hyn, a bydd swyddogion o Heddlu De Cymru a'r awdurdod lleol yn cynnal patrolau rheolaidd.
Mae'r Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir hefyd yn cynghori gyrwyr tacsis a cherbydau hurio preifat trwyddedig yn y fwrdeistref sirol bod y cynllun gan Lywodraeth Cymru sy'n cynnig offer amddiffyn personol am ddim wedi'i ymestyn.
Bydd y cynllun, sy’n cynnig pecyn â gwerth chwe mis o eitemau PPE i yrwyr cymwys, bellach ar gael tan 26 Mawrth.
Gall gyrwyr wneud cais a chanfod mwy o wybodaeth drwy fynd i wefan Llywodraeth Cymru.
Aelod Cabinet – Cymunedau
Dywedodd yr Aelod Cabinet – Cymunedau ei bod yn si?r fod cydweithwyr wedi nodi brwdfrydedd pobl ledled Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr dros gerdded a beicio fel math o ymarfer corff a ganiateir yn ystod y pandemig.
Dros y deuddeg mis diwethaf, yr ydym wedi gweld prinder beiciau mewn siopau, a chynnydd mewn perchnogaeth c?n wrth i breswylwyr ailddarganfod yr hyn sydd, yn llythrennol, ar garreg eu drws.
Mae gan CBSP hanes hir o ddarparu llwybrau teithio llesol o fewn y fwrdeistref sirol.
Ym mis Gorffennaf 2020, sicrhawyd grant o £3m gan Lywodraeth Cymru i wella ffyrdd beicio a llwybrau troed, gan gynnwys £2.6m ar gyfer y llwybr teithio llesol arfaethedig rhwng Pen-y-bont ar Ogwr a Choleg Pencoed.
Yna, ym mis Ionawr eleni, dechreuwyd y gwaith ar y llwybr teithio llesol i gysylltu Pencoed â Choleg Pencoed.
Fis Rhagfyr diwethaf, ymatebodd dros 900 o bobl pan ofynnwyd iddynt am y rhwystrau y maent yn eu hwynebu wrth wneud teithiau bob dydd, ar droed neu ar feic.
Defnyddiwyd yr adborth hwnnw i gyflwyno cynigion ar lwybrau teithio llesol newydd ar gyfer y fwrdeistref sirol, a chafodd ail gam ein hymgynghoriad ei lansio'r wythnos diwethaf.
Mae hyn yn mynd rhagddo ar hyn o bryd, ac yr ydym hefyd yn annog pobl i ddweud wrthym ba welliannau ychwanegol yr hoffent eu gweld.
Bydd yr ymgynghoriad ar gael tan ddydd Sul 4 Ebrill, ac mae manylion am sut y gall pobl gymryd rhan ar gael ar wefan y cyngor ynghyd â mapiau sy'n dangos y llwybrau presennol a’r rhai arfaethedig.
Gobeithiai y byddai'r Aelodau'n annog eu hetholwyr i gymryd rhan, ac i ddweud wrthym a fydd y llwybrau arfaethedig yn eu helpu i fynd o amgylch eu hardaloedd lleol fel cerddwr neu feicwyr.
Prif Weithredwr
Roedd y Prif Weithredwr am rannu datblygiad diweddar iawn gyda’r Aelodau, un a allai, pe bai'n llwyddiannus, fod yn allweddol wrth ddatgloi safle datblygu mawr yn y fwrdeistref sirol.
Fel y g?yr yr Aelodau, mae hen safle Budelpack COSi a Cooper Standard ar Ystâd Ddiwydiannol Ewenny Road ym Maesteg, safle y mae'r Cyngor yn berchen arno'n rhannol, wedi bod yn wag ers dros ddegawd.
Mae hyn er gwaethaf ymdrechion parhaus i adfywio dros y blynyddoedd, gan gynnwys clirio safleoedd, gwaith archwiliadol, a chymeradwyaeth gynllunio ar gyfer un cynllun penodol na aeth yn ei flaen yn y pen draw.
Y gwir amdani yw bod y safle 20 erw yn anymarferol i raddau helaeth oherwydd y costau sylweddol sydd eu hangen i baratoi’r safle ar gyfer datblygu.
Mae angen gwaith seilwaith mawr yno, gan gynnwys dargyfeirio draen mwyngloddio hanesyddol a'r angen i ôl-lenwi sawl hen siafft, ar gost o filiynau o bunnoedd.
Nawr, trwy Fargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd mae'r safle'n un o naw prosiect sydd wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer cyllid o gronfa bwlch hyfywedd sydd werth £30 miliwn.
Dylem wybod yn fuan a yw ein cais wedi bod yn llwyddiannus ai peidio, ond os caiff ei gymeradwyo (ac rydym yn hyderus y bydd) bydd swyddogion yn gweithio ochr yn ochr â thîm y Fargen Ddinesig i sicrhau y gellir bodloni'r holl feini prawf allweddol er mwyn derbyn y grant yn llawn.
Pwysleisiodd y Prif Weithredwr mai dim ond oherwydd ein perthynas barhaus â Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd y mae'r Cyngor wedi gallu manteisio ar y cyfle ariannu hwn.
Os bydd datblygiad dilynol yn digwydd, bydd yr elw o werthu tir yn cael ei ail-fuddsoddi yn ôl i Ddyffryn Llynfi, gyda chynlluniau ar gyfer y dyfodol yn cynnwys cyfleusterau newydd fel parcio a theithio, canolfan fenter a mwy.
Byddai'n rhannu rhagor o fanylion ag Aelodau cyn gynted ag y byddent yn hysbys.