Agenda item

Derbyn cyhoeddiadau gan yr Arweinydd

Cofnodion:

Roedd yr Arweinydd am rannu diweddariad byr ar faterion yn ymwneud â'r pandemig.

 

Bydd yr Aelodau wedi nodi'r newyddion gwych ddoe bod dros filiwn o frechlynnau coronafirws bellach wedi'u rhoi ledled Cymru.

 

Yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, mae dros 160,000 o bobl bellach wedi derbyn o leiaf un dos o'r brechlyn coronafirws.

 

Ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, mae hyn yn golygu mwy na 46,000 o drigolion.

 

Mae'r bwrdd iechyd yn parhau i fod yn obeithiol y bydd wedi darparu un dos neu fwy o'r brechlyn i'r 120,000 o drigolion sydd o fewn grwpiau blaenoriaeth 5-9 erbyn canol mis Ebrill.

 

I gefnogi hyn, cyhoeddwyd ffurflen atgyfeirio ar wefan Llywodraeth Cymru yn gynharach yr wythnos hon y gall gofalwyr di-dâl ei defnyddio i wneud cais am apwyntiad.

 

Dyma’n sefyllfa hyd yma o ran cyflwyno'r brechiad, mae'r holl breswylwyr a staff mewn cartrefi gofal wedi cael cynnig eu dos cyntaf o'r brechlyn, ac mae timau brechu symudol wrthi'n ailedrych ar y cartrefi i gynnig ail ddos.

 

Mae pobl 80 oed a h?n wedi derbyn eu dos cyntaf drwy eu meddyg teulu lleol, ac rydym yn cysylltu â nhw i ddod yn ôl am ail ddos.

 

Mae gweithwyr iechyd rheng flaen wedi derbyn eu dos cyntaf mewn canolfannau brechu mewn ysbytai, ac mae ail ddosau yn cael ei rhoi ar y funud.

 

Mae gweithwyr gofal cymdeithasol rheng flaen hefyd wedi derbyn eu dos cyntaf, y tro hwn mewn canolfannau brechu cymunedol, ac mae eu hail ddos yn cael ei drefnu.

 

Mae pobl 75 oed a h?n wedi derbyn eu dos cyntaf drwy eu meddyg teulu lleol, ac rydym yn cysylltu â nhw i ddod yn ôl am ail ddos.

 

Mae pobl 70 oed a h?n wedi bod mewn canolfannau brechu cymunedol ac yn derbyn manylion am eu hapwyntiadau ar gyfer yr ail ddos.

 

Mae'r rhai a dderbyniodd lythyrau gwarchod wedi cael eu dos cyntaf, ac mae meddygfeydd meddygon teulu yn cysylltu â nhw i drefnu eu hail ddos.

 

Mae pobl 65 oed a h?n yn cael eu brechu ar hyn o bryd gyda'u dos cyntaf drwy feddygfeydd lleol, ac mae hyn yn parhau.

 

Mae meddygon teulu wedi dechrau cysylltu â phobl rhwng 16 a 64 oed sydd â chyflyrau iechyd sylfaenol i drefnu eu dos cyntaf o'r brechlyn.

 

Bydd llythyrau'n cael eu dosbarthu'n fuan i wahodd pobl 60 oed a h?n i fynd i ganolfannau brechu cymunedol ar gyfer eu dos cyntaf.

 

Dilynir hyn gyda llythyrau at bobl 55 oed a h?n, ac yna pobl 50 oed a h?n. Gofynnir i'r ddau gr?p hyn fynd i ganolfannau brechu cymunedol.

 

Fel y dywedwyd yn gynharach, gofynnir i ofalwyr di-dâl gyflwyno ffurflen ar wefan Llywodraeth Cymru i drefnu apwyntiad ar gyfer eu dos cyntaf o'r brechlyn coronafeirws.

 

Mae oedolion iau sydd ag anableddau dysgu, gan gynnwys y rhai mewn cartrefi gofal a lleoliadau byw â chymorth, hefyd yn cael eu brechu fel rhan o gr?p blaenoriaeth chwech.

 

Mae pobl ag anableddau dysgu sy'n byw mewn cartrefi gofal cofrestredig yn cael eu brechu gan y timau profi symudol, a bydd oedolion ag anableddau dysgu sy'n byw mewn byw â chymorth naill ai'n cael eu brechu yn eu cartref neu yn eu practis meddyg teulu lleol, pa un bynnag sydd orau i’r unigolion.

 

Mewn mannau eraill, roedd y gwaith profi cymunedol yn mynd rhagddo ar draws rhanbarth Cwm Taf.

 

Gan y credir bod un o bob tri o bobl yn asymptomatig, mae hwn wedi'i gynllunio i adnabod a lleoli unigolion 11 oed a h?n, nad ydynt hyd yn oed yn gwybod bod ganddynt coronafeirws, ac a allai fod yn ei ledaenu i’w teuluoedd, eu ffrindiau, eu cydweithwyr, a mwy.

 

Bu wythnos gyntaf y fenter yn llwyddiannus iawn, gyda thros 500 o bobl yn mynd i ganolfan brofi gymunedol a sefydlwyd yng Nghlwb Rygbi a Phêl Droed Mynydd Cynffig.

 

Arweiniodd hyn at 505 o ganlyniadau negyddol, un canlyniad amhendant, ac un canlyniad cadarnhaol.

 

Bydd y ganolfan yn symud i Glwb Cymdeithasol Pencoed rhwng dydd Mercher 10 Mawrth a dydd Mawrth 16 Mawrth, i Glwb Criced Tondu o ddydd Mercher 17 Mawrth tan ddydd Mawrth 23 Mawrth, ac i Glwb Cymdeithasol Athletig Caerau rhwng dydd Mercher 24 a dydd Mercher 31 Mawrth.

 

Yn gyffredinol, bydd y profion cymunedol yn canolbwyntio ar ardaloedd penodol o fewn y fwrdeistref sirol - sef Caerau, Nantyffyllon, Y Pîl, Mynydd Cynffig, Corneli, Cefn Cribwr, Sarn, Abercynffig, Goetre-hen, Ynysawdre, Bryncethin, Bryncoch, Pencoed, Hendre, Felindre a Heol-y-Cyw.

 

Defnyddiwyd data gwyliadwriaeth iechyd y cyhoedd wrth ddewis y meysydd profi.

 

Bydd profion llif unffordd hefyd yn cael eu cynnal mewn ysgolion lleol a Darpariaeth Amgen y Bont, unwaith eto yn unol â gofynion Llywodraeth Cymru.

 

Diben hyn yw ceisio atal y tebygolrwydd o glystyrau a brigiadau, yn ogystal â’r tarfu ar addysg a gofal sy’n dilyn yn anochel.

 

Fel bob amser, gall unrhyw un sy'n ceisio'r manylion diweddaraf am leoliad y cyfleusterau profi symudol o fewn y fwrdeistref sirol gael gwybod drwy fynd i wefan y cyngor, sy'n cael ei diweddaru'n rheolaidd.

 

Mae ein cynlluniau i nodi blwyddyn ers dechrau'r pandemig yn parhau, ac mae disgwyliadau'n uchel y bydd nifer o newidiadau'n cael eu cyhoeddi pan fydd Llywodraeth Cymru yn cynnal ei hadolygiad nesaf o weithdrefnau'r cyfyngiadau symud.

 

Yn y cyfamser, cynghorodd yr Arweinydd fod rhaid i bob un ohonom barhau i ddilyn y rheolau a'r canllawiau, a pharhau i wneud pob ymdrech i gadw ein cymunedau'n ddiogel ac yn iach.