Agenda item

I dderbyn y cwestiynau canlynol gan:

Y Cynghorydd Altaf Hussain i'r Arweinydd

 

Yng Nghymru, mae 60% o'r boblogaeth oedolion ac 1 o bob 8 plentyn 4-5 oed dros bwysau neu'n ordew, ac mae'r ffigur hwn yn cynyddu bob blwyddyn.  Ceir tystiolaeth gyson bod gordewdra (pwysau gormodol) yn gysylltiedig â risg uwch o COVID-19 yn ogystal â'r risg o glefydau fel diabetes math 2, clefyd y galon, canser a chlefydau anadlol sydd eu hunain yn cynyddu'r risg o gymhlethdodau mewn rhywun sy'n contractio COVID-19.  Gan wybod mai pwysau gormodol yw un o'r ychydig ffactorau risg y gellir eu hatal ar gyfer COVID-19, a allai'r Arweinydd roi gwybod i ni pa fesurau y mae'n eu cymryd i helpu'r trigolion hynny sy'n byw gyda gormod o bwysau neu ordewdra i golli pwysau mewn modd cynaliadwy, ynghyd ag ymyriadau i atal cynnydd mewn pwysau a lleihau'r risg o COVID-19 yn ein Bwrdeistref?

 

Y Cynghorydd Tim Thomas i'r Aelod Cabinet - Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar

 

O’i gymharu ag awdurdodau lleol eraill, pa mor dda mae plant sydd mewn gofal yn llwyddo’n academaidd ac mewn ffyrdd eraill yn yr ysgol?

 

Y Cynghorydd Matthew Voisey i'r Arweinydd

 

pam mae'r weinyddiaeth Lafur hon yn gwahaniaethu yn erbyn rhai gweithwyr allweddol, drwy beidio â chaniatáu i'r rhai yn y sector preifat gael mynediad at ddarpariaethau gofal plant yn ystod y cyfyngiadau symud presennol hyn, o ystyried y rhain yw'r union weithwyr y mae'r blaid Lafur yn honni eu bod yn gofalu amdanynt, gweithwyr rhan-amser a'r rhai sydd ar isafswm cyflog neu'n agos at hynny?"

 

 

 

Cofnodion:

Y Cynghorydd Altaf Hussain i'r Arweinydd

 

Yng Nghymru, mae 60% o oedolion, ac 1 o bob 8 plentyn 4-5 oed, dros bwysau neu'n ordew, a phob blwyddyn mae'r ffigur hwn yn cynyddu. Ceir tystiolaeth gyson bod gordewdra (pwysau gormodol) yn gysylltiedig â risg COVID-19 uwch yn ogystal â'r risg o glefydau fel diabetes math 2, clefyd y galon, canser a chlefydau anadlol sydd eu hunain yn cynyddu'r risg o gymhlethdodau mewn rhywun sy'n contractio COVID-19. Gan wybod mai gordewdra yw un o'r ffactorau risg prin hynny y gellir eu hatal ar gyfer COVID-19, a allai'r Arweinydd roi gwybod i ni pa fesurau y mae'n eu cymryd i helpu'r trigolion hynny sy'n byw gyda gorbwysau neu ordewdra i golli pwysau mewn modd cynaliadwy, ynghyd ag ymyriadau i atal cynnydd mewn pwysau a lleihau'r risg o COVID-19 yn ein Bwrdeistref?

 

Ymateb:

 

Does dim amheuaeth fod y pandemig wedi amlygu effaith niweidiol firws o'r fath ar grwpiau sy’n fwy agored i niwed ac ar bobl â lefelau uwch o risgiau, rhai sy’n aml yn gysylltiedig ag ymddygiadau ac arferion gwael.  Nododd Arolwg Cenedlaethol Cymru yn 2019-2020 y canlynol ymhlith oedolion:

 

Roedd 18% o'r boblogaeth yn ysmygu

Roedd 19% o'r boblogaeth yn yfed mwy na'r canllawiau wythnosol

Dim ond 25% oedd wedi bwyta pum dogn o ffrwythau neu lysiau y diwrnod cynt

53% oedd yn bod yn egnïol am 150 munud neu fwy yr wythnos

Roedd 10% yn dilyn llai na 2 ymddygiad iach

Roedd 61% o'r boblogaeth oedolion dros bwysau neu'n ordew (gan gynnwys 25% yn ordew).

 

O ran gordewdra ymhlith plant, mae Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr yn bartner gweithgar gyda bwrdd iechyd Cwm Taf Morgannwg ac mae'n rhan o rwydwaith sy'n canolbwyntio ar atal gordewdra ymhlith plant ar draws y bwrdd iechyd cyfan.  Cafwyd digwyddiad system gyfan gyda llawer o randdeiliaid cyn y pandemig a bydd yn cefnogi gwaith yn y dyfodol.  Mae Pen-y-bont ar Ogwr yn cefnogi ymdrech ar y cyd i fynd i'r afael â gordewdra ymhlith plant er mwyn gwella lles pobl ifanc a'n cymunedau.  Mae'r arolwg Mesur Plant Cenedlaethol yn un o'r dulliau a ddefnyddir i olrhain lles corfforol plant.  Yn y cyhoeddiad diweddaraf am ddata, roedd Pen-y-bont ar Ogwr ychydig yn is na chyfartaledd Cymru o ran plant a ddosbarthwyd yn ordew, ar ffigwr o 11.9% (o gymharu â RhCT, 14.4%, a Merthyr, 15.6%).

 

Mae cefnogi pobl i fod yn bwysau iach yn parhau i fod yn flaenoriaeth i iechyd y cyhoedd ac mae gan y Cyngor rôl o ran cynnal neu wella lles pobl leol a'n cymunedau.  Mae'r dystiolaeth yn cadarnhau bod gordewdra yn cynyddu risgiau diabetes math 2, clefyd y galon, a chlefydau anadlol ac mae'n bwysig bod pobl yn cael cyfleoedd, gwybodaeth a chymorth i reoli eu pwysau'n gynaliadwy. Bydd hyn o fudd i frwydro yn erbyn effaith negyddol Covid 19 ac, o bosibl, clefydau trosglwyddadwy neu gyflyrau cronig eraill hefyd.  Mae Llywodraeth Cymru wedi adnabod, o’r dysgu a’r mewnwelediad a gafwyd yn ystod cam cyntaf y pandemig, y gallai anghydraddoldebau a materion yn ymwneud ag ansicrwydd bwyd a oedd eisoes yn bodoli fod wedi'u gwaethygu.

Ym mis Chwefror 2020, lansiodd Llywodraeth Cymru ei strategaeth Pwysau Iach, Cymru Iach gyda chynllun cyflawni cysylltiedig hyd at 2022, ond oherwydd y pandemig mae angen newid blaenoriaethau’r dyheadau cyflawni gwreiddiol gan fod yr ymateb i'r pandemig wedi gweld newid mewn gwasanaethau, cyllid a chapasiti.

 

Mae'r blaenoriaethau newydd ar gyfer Pwysau Iach, Cymru Iach hyd at 2022 fel a ganlyn:

Maes Blaenoriaeth 1-Nodi cynigion i wneud yr amgylchedd bwyd yn iachach

Maes Blaenoriaeth 2-Cynyddu Cyfleoedd Teithio Llesol

Maes Blaenoriaeth 3-Cynyddu gweithgarwch corfforol a chyfleoedd ymarfer corff

Maes Blaenoriaeth 4-Dechrau darparu llwybr gordewdra diwygiedig

Maes Blaenoriaeth 5-Cyfathrebu a phecynnu digidol

 

Mewn perthynas â'r blaenoriaethau newydd a gyflwynwyd, mae'r Cyngor a'i bartneriaid yn chwarae rhan weithredol yn y gwaith o gefnogi'r amcanion a nodwyd.  Mae'r eitemau canlynol i gyd yn cysylltu â'r blaenoriaethau a chamau gweithredu Pwysau Iach… Cymru Iach a nodwyd yn flaenorol;

 

Mae'r Cyngor wedi parhau i fuddsoddi mewn llwybrau cymunedol a llwybrau diogel i'r ysgol i annog mwy o bobl i gerdded a beicio yn hytrach na theithio ar gerbydau a bydd hyn wedi adeiladu sylfaen gadarn gan ddefnyddio'r Grant Teithio Llesol, y grant Llwybrau Diogel mewn Cymunedau a'r grant Diogelwch ar y Ffyrdd.

 

Mae'r awdurdod yn cyflwyno'r rhaglen Beicio/Teithiau Egnïol Safonau Cenedlaethol yn uniongyrchol i bobl ifanc yn ein hysgolion ar lefelau 1 a 2 ac yn ddiweddar mae'r rhaglen hon wedi gweld twf ac wedi’u hymestyn ar draws y sir.  Er gwaethaf y pandemig mae'r rhaglen gydag ysgolion wedi parhau.

 

Mae gallu pobl ifanc i deithio trwy eu cymunedau heb gludiant yn rhan bwysig o'n hasesiad a'n cynllun gweithredu lleol ar ddigonolrwydd cyfleoedd chwarae hefyd.  Mae'r Cyngor wedi parhau i fuddsoddi mewn mannau chwarae awyr agored a chyfleoedd mwy hygyrch mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru. 

 

Mae'r awdurdod yn gweithio gyda Chwarae Cymru i archwilio sut y gallai strydoedd mwy diogel annog mwy o deuluoedd i ganiatáu i blant chwarae yn yr awyr agored fel ffordd syml o gynyddu gweithgarwch dyddiol yn agos at adref.

 

Mae'r awdurdod hefyd yn gefnogol i'w weithlu ei hun sy'n ymwneud â Theithio Llesol gan ddefnyddio'r cynllun aberthu cyflogau i brynu beiciau.

 

Bu'r awdurdod yn rhan o'r gr?p llywio cenedlaethol sydd wedi arwain at gynnig Hamdden Egnïol newydd i bobl dros 60 oed ledled Cymru sy'n ategu at y buddsoddiad arall yn y cynnig Nofio Am Ddim Cenedlaethol ar gyfer y gr?p poblogaeth hwn. Bydd hyn yn cael ei lansio pan ganiateir i gyfleusterau ailagor ond bydd y gwaith o ymgysylltu ag oedolion h?n yn dechrau cyn hynny.  Mae'r rhaglen nofio am ddim i blant iau wedi'i hehangu gan ganolbwyntio ar grwpiau difreintiedig y gellid eu hystyried fel rhai sydd mewn "mwy o berygl” o fod ag arferion bywyd gwael.

 

Drwy ein partneriaeth â Halo Leisure mae'r Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff wedi parhau i gefnogi pobl yn rhithwir a bydd hyn yn rhan bwysig o lwybr adfer Covid 19 i bobl.  Mae'r rhaglen yn cynnig cymorth ataliol lefel is i'r rhai sydd angen symud yn amlach ac mae hefyd yn darparu'r rhaglen 'Foodwise' i hyrwyddo bwyta'n iach fel rhan o ddull iachach o fyw.

 

Fel rhan o'r Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff, cynigir llwybr cyflwr cronig llawn ar gyfer poen cefn, adsefydlu'r ysgyfaint, canser, a sefydlogrwydd osgo, a chyda rhaglenni gofal ar y cyd newydd yn cael eu comisiynu gan y bwrdd iechyd.  Bydd y rhain yn ddefnyddiol pan fo mathau eraill o gefnogaeth feddygol wedi’i ohirio. Mae'r rhaglen atgyfeirio cleifion i wneud ymarfer corff wedi treialu rhaglen adfer Covid mewn partneriaeth ag Iechyd Cyhoeddus Cymru yn 2020. Rhagwelir y bydd hwn yn faes ffocws dros y flwyddyn i ddod.

 

Mae cynllun Mynediad at Hamdden yr awdurdod wedi sicrhau nad yw cost yn rhwystro mynediad pobl at hamdden yn y sector cyhoeddus, ac mae wedi sicrhau buddsoddiad i ymgysylltu â mwy o bobl sydd o dan anfantais i wneud am gost isel neu ddim cost, a hynny er mwyn sicrhau'r cyrhaeddiad a'r budd mwyaf posibl o wasanaethau.  Mae effaith anfantais ar y gallu i fyw bywyd egnïol ac iach yn cael ei gydnabod wrth gynllunio gwasanaethau ac mae'n cynnig cyfleoedd cynaliadwy.

 

Mae ein partneriaeth â Halo Leisure hefyd wedi gweld datblygiad llwyfan digidol Halo yn y Cartref i gefnogi'r rhai sy'n gwarchod eu hunain i gadw’n heini neu'r rhai sy'n gyfforddus wrth reoli gweithgarwch yn y cartref. Mae gan y llwyfan digidol hwn y potensial i ddatblygu a ffrydio ystod eang o raglenni lles i gartrefi pobl.  Mae gwaith wedi'i dargedu yn mynd rhagddo gyda Chanolfan Cydweithredol Cymru i ddatblygu cydweithfeydd gofalwyr ac i gefnogi pobl sy'n byw gyda dementia gan gynnwys cymorth i feithrin hyder a sgiliau digidol.

 

Cefnogwyd yr awdurdod gan y Gronfa Iach ac Egnïol i arwain y rhaglen Super Agers i annog mwy o weithgarwch corfforol ymhlith oedolion h?n, gan gynnwys cymorth gartref neu'n agos i’r cartref.  Mae'r rhaglen wedi'i nodi'n ddiweddar fel Esiampl Bevan.  Mae rhagor o gymorth mentora cartref ac adnoddau wedi eu datblygu y gellid eu defnyddio'n fwy eang maes o law.

 

Mae'r awdurdod hefyd wedi bod yn chwarae rôl arweiniol ym menter Parc Rhanbarthol y Cymoedd gan annog mwy o ddefnydd o'r amgylchedd naturiol a datblygu cyfleoedd presgripsiynu cymdeithasol.  Mae hyn yn rhan annatod o Bwysau Iach... Cymru Iach.

 

Mae'r awdurdod yn gweithredu ei raglen Love To Walk ei hun hefyd sydd wedi dod yn fwyfwy poblogaidd pan fo rheoliadau wedi caniatáu, a phan fo’n briodol iddynt gael eu harwain gan wirfoddolwyr, gallent ddod yn gynaliadwy ac ar gael am gost isel i’r cyfranogwyr.  Cyn iddi gael ei gohirio, roedd g?yl Love to Walk wedi denu diddordeb a chyfranwyr.

 

Drwy ein partneriaethau ag ysgolion lleol mae cynlluniau gweithredu ar waith sy'n helpu i ddatblygu lles pobl ifanc gan gynnwys lles corfforol a lles emosiynol/meddyliol. Rydym yn defnyddio pobl ifanc i fentora cyfoedion, yn defnyddio grwpiau rhwydwaith i gefnogi unigolion, ac rydym wedi datblygu dulliau e-ddysgu ar gyfer ein harweinwyr ifanc.  Mae ein gr?p llysgenhadon h?n, sydd hefyd yn derbyn cefnogaeth y gwasanaeth AYP, wedi sefydlu cyfrifon cyfryngau cymdeithasol i hyrwyddo bwyta'n iach a ffyrdd iach o fyw i bobl ifanc eraill.

 

Mae rhaglen les newydd o'r enw Ascent wedi'i datblygu ar gyfer bechgyn a merched sy’n llai hyderus neu â lefelau gweithgarwch isel.  Mae'r prosiect hybu iechyd hwn yn cael ei gynnal dros gyfnod o 39 wythnos a'i nod yw gwella ymgysylltiad cyfranogwyr.

 

Mae ein gwasanaeth Pobl Ifanc Egnïol yn cydweithio â Phrifysgol Abertawe i ymchwilio i iechyd a lles plant 9-11 oed yn y Fwrdeistref Sirol.  Mae rhaglen 'BridgeLinx' wedi arwain at gymharu Pen-y-bont ar Ogwr ag ardaloedd eraill fel rhan o raglen fwy byd-eang.

 

Mae chwarae gweithredol yn cael ei ddatblygu drwy ein hysgolion a hefyd mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru a Chwarae Cymru.  Erbyn hyn mae 24 pod gweithgaredd ar waith ac rydym wedi bod yn gweithio gyda rhai ysgolion i wneud eu tiroedd yn fwy hygyrch i'r gymuned i gefnogi ffyrdd egnïol o fyw.

 

Mae cytundebau partneriaeth yn gweithredu gyda'n hysgolion cynradd ac uwchradd sydd wedi cael cymorth yn ystod y pandemig gydag adnoddau gan ein hadran Pobl Ifanc Egnïol i gynnal a gwella lles disgyblion.

 

Rydym eisoes wedi gweithredu dull ‘Family Active Zone’ sy'n cynnwys pob agwedd ar ffordd o fyw a maeth, ac a gynhaliwyd mewn partneriaeth ag ysgolion ond a fydd ar gael ar lefel aelwydydd wrth symud ymlaen.  Mae amrywiaeth o adnoddau eraill yn cael eu datblygu i gefnogi lles unigolion a grwpiau.

 

Drwy gydol y pandemig mae ein canolfannau cymunedol, sy'n cael eu rhedeg gan wirfoddolwyr, wedi bod ar gael ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus hanfodol ac mewn blynyddoedd arferol byddai'r lleoliadau yn cefnogi rhaglenni rheoli pwysau a sefydliadau cysylltiedig.

 

Mae ein hysgolion hefyd yn cymryd rhan yng nghynllun Ysgolion Iach Cenedlaethol Cymru ac yn defnyddio'r fframwaith hwn i wella lles.  Y nod fu creu rhwydwaith o ysgolion sy'n hybu iechyd ac mae bwyd a ffitrwydd yn un o'r cydrannau o fewn y saith pwnc iechyd,.

 

O ran arlwyo mewn ysgolion, mae CLlLC yn ardystio bod pob bwydlen yn ysgolion cynradd, ysgolion uwchradd, ac ysgolion arbennig Pen-y-bont ar Ogwr yn cydymffurfio â Rheoliadau Bwyta'n Iach mewn Ysgolion (Safonau a Gofynion Maeth (Cymru) 2013. Dyfeisir pob bwydlen i leihau cynnwys halen, braster a siwgr i gefnogi'r agenda bwyta'n iach.

 

Y tu hwnt i'r uchod, mae'r awdurdod yn cymryd rhan weithredol mewn cynllunio a rhwydweithio rhanbarthol, o ran cynnal dull bwrdd iechyd o ymdrin â strategaeth Pwysau Iach Cymru Iach a’r cynllun cyflawni cysylltiedig yn ogystal â datblygu’n gallu i chwarae rhan effeithiol yn yr her bwysig hon.

 

Cwestiwn atodol gan y Cynghorydd Altaf Hussain (a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Giffard yn ei absenoldeb)

 

Mae llawer o ardaloedd preswyl segur yn y Fwrdeistref Sirol, er enghraifft, Penyfai. Pryd ydych chi'n mynd i helpu trigolion mewn ardaloedd o'r fath ac eraill, a’u cysylltu â'n trefi gyda llwybrau cerdded a beicio Teithio Llesol.

 

Ymateb:

 

Mae gennym fuddsoddiad gwerth miliynau o bunnoedd ar y gweill ar hyn o bryd i gefnogi llwybrau Teithio Llesol ar draws y Fwrdeistref Sirol ac rydym wedi cynnal ymgynghoriad â Sustra ac Aelodau yngl?n â hyn ac rwy'n si?r fod yr Aelodau wedi rhoi eu barn i'r ymgynghoriad hwnnw. Byddai canlyniad hyn yn cael ei ystyried, a hynny er mwyn cynllunio sut i fuddsoddi mewn Teithio Llesol a pha gamau y dylid eu cyflwyno yn y dyfodol, rhywbeth sydd wedi cael ymrwymiad buddsoddi sylweddol gan Lywodraeth Cymru o ran cynlluniau’r dyfodol.

 

Ail gwestiwn atodol gan y Cynghorydd Jon-Paul Blundell

 

A all yr Arweinydd amlinellu sut mae'r Cyngor wedi hybu bwyta'n iach gyda’u ciniawau ysgol yn ystod y pandemig.

 

Ymateb:

 

Rydym yn darparu parseli bwyd i dros 4,000 o deuluoedd bob wythnos ar gyfer y plant sy’n methu â mynychu'r ysgol, ond yn wahanol i’r prydau blasus a maethlon a chant yn yr ysgol, gartref mae'r parseli bwyd yn cynnwys ffrwythau, llysiau a phasta yn ogystal â chynnyrch iach eraill. Darparwyd cardiau rysáit hefyd er mwyn annog teuluoedd i goginio'n arloesol. Cafwyd adborth cadarnhaol i hyn. Roedd ymgynghoriad ar y parseli bwyd hyn yn parhau ac roedd y Cyngor yn aros am adborth gan rieni a’r bobl ifanc a oedd yn eu derbyn. Mae cynnig hefyd i ymestyn y cyllid ar gyfer parseli bwyd gan Lywodraeth Cymru dros gyfnodau gwyliau ysgol yn ogystal ag yn ystod y tymor yn cael ei ystyried.

 

Trydydd cwestiwn atodol gan y Cynghorydd Paul Davies

 

Ar hyn o bryd, a ydym yn darparu canllawiau yngl?n â bwyta'n iach yn y dosbarth yn yr ysgol, hy a oes unrhyw wersi neu ganllawiau addysgol penodol yn cael eu rhoi yngl?n â hyn yn ogystal â chanllawiau maeth, o ran y pethau gorau i'w bwyta (ac yfed).

 

Ymateb:

 

Rydym wedi gweld ffocws llawer cryfach ar sgiliau coginio ymarferol a pharatoi bwyd mewn ysgolion yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Roeddwn yn falch iawn o weld bod gan Lywodraeth Cymru brosiect bwyd arobryn o'r enw 'The Big Box Bwyd' sy’n datblygu dealltwriaeth gynnar o ddewisiadau bwyd iach, ac yn darparu bwyd fforddiadwy am bris fforddiadwy i rieni, rhywbeth sydd fudd i deuluoedd yn y Fwrdeistref Sirol.  

 

Y Cynghorydd Tim Thomas i'r Aelod Cabinet – Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar

 

O gymharu ag awdurdodau lleol eraill, sut y mae plant mewn gofal yn perfformio yn yr ysgol, yn academaidd ac o ran cyflawniadau eraill?

 

Ymateb:

 

Mae cymharu perfformiad plant sy'n derbyn gofal (CLA) mewn ysgolion ledled Cymru yn anodd iawn, gan fod Llywodraeth Cymru wedi rhoi'r gorau i gasglu data cenedlaethol ar gyrhaeddiad CLA ar ôl 2013-2014.  Yn anffodus, ni chafwyd unrhyw ddata blynyddol cymharol ar gyfer Cymru gyfan ers hynny.  Mae awdurdodau lleol wedi ceisio cynnal rhai o'r dangosyddion perfformiad blaenorol ar gyfer cyrhaeddiad CLA ar lefel leol, ond prin iawn fu'r llwyddiant gan fod y garfan newid yn aml, a llawer o blant yn profi cyfnodau byr iawn mewn gofal.

 

Ar gyfer 2018-2019, creodd swyddogion restr o blant a gofnodwyd fel CLA o'r system gwybodaeth reoli ysgolion (SIMS) ar y diwrnod y cymerwyd y Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion (CYBLD) ym mis Ionawr 2019.  Yna, bu’r swyddogion wrthi yn paru’r data yn fanwl yn erbyn y data a gafwyd gan Lywodraeth Cymru ar asesiadau athrawon a data arholiadau cyfnod allweddol 4 ar gyfer haf 2020.  Amgaeaf y dadansoddiad hwn er gwybodaeth i chi ac i chi ei gadw.  Roedd hyn yn darparu rhywfaint o ddata ar gyrhaeddiad CLA.  Fodd bynnag, nid yw'r dadansoddiad hwn wedi'i ddatblygu eto gan na chasglwyd data ar gyfer 2019-2020 a bu newidiadau yn y mesurau a ddefnyddiwyd sy'n effeithio ar y gallu i gymharu.   

 

Codwyd materion meincnodi rhanbarthol gyda Chonsortiwm Canolbarth y De (CSC) yn sgil colled nifer o gasgliadau/cyhoeddiadau data Llywodraeth Cymru. Mae CSC yn cynhyrchu pecyn data rhanbarthol gyda data cymharol ond y data diweddaraf ar gael yw 2019.  Yn anffodus, nid oes data penodol ar gyfer CLA ar gael, ac oherwydd yr anawsterau gyda'r data hwn penderfynodd Gr?p Meincnodi CSC na fyddai gwaith ar y garfan hon a charfanau eraill yn cael ei ddatblygu  

 

Ar hyn o bryd mae Bwrdd Trawsnewid Digidol yr awdurdod lleol yn asesu'r achos busnes dros gaffael system gwybodaeth reoli a all roi mwy o wybodaeth i'r awdurdod lleol am y garfan CLA yn y dyfodol.  Y gobaith yw y bydd yr achos busnes hwn yn llwyddiannus ac y bydd yn darparu ar gyfer amrywiaeth o welliannau i hygyrchedd data lefel disgyblion ar gyfer pob carfan wrth symud ymlaen.

 

Y Tîm Ymgysylltu ag Addysg yw'r pwynt cyswllt unigol ar gyfer ysgolion a gweithwyr proffesiynol eraill mewn perthynas ag unrhyw ddysgwr agored i niwed yn yr ardal leol. Mae hyn yn cynnwys CLA. Mae'r tîm yn gweithio'n agos gydag ysgolion a phlant gofal cymdeithasol i sicrhau bod y ddarpariaeth addysg yn diwallu anghenion dysgwyr. Mae'r tîm yn gyfrifol am gydlynu a chraffu ar gynlluniau addysg personol (PEP) sy'n cael eu gweithredu ar gyfer pob CLA.

 

Yn ogystal, mae'r tîm yn darparu hyfforddiant i ysgolion i sicrhau eu bod yn gwbl ymwybodol o effaith derbyn gofal ar ddatblygiad plentyn, ac y gallai effeithio ar eu dysgu neu eu hymddygiad mewn amgylchedd ysgol. Mae'r hyfforddiant hwn wedi cynnwys Cymorth Cyntaf, iechyd meddwl a dulliau o ymdrin â phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod sy'n ystyriol o drawma.

 

Mae'n ofynnol i bob ysgol nodi person dynodedig i arwain ar CLA. Cyn Covid-19, cynhaliwyd digwyddiadau bob chwe mis gydag arweinwyr diogelu dynodedig neu arweinwyr CLA i archwilio ac ystyried arfer gorau o ran gwella cyrhaeddiad a phresenoldeb addysgol. Anogir ysgolion i rannu dulliau o gefnogi dysgwyr ac mae'r Tîm Ymgysylltu ag Addysg yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am ganllawiau a deddfwriaeth Llywodraeth Cymru.

 

Mae'r berthynas â Gofal Cymdeithasol Plant yn hollbwysig o ran cymorth i'r CLA. Bydd y Tîm Ymgysylltu ag Addysg yn mynychu adolygiadau CLA (pan fydd angen gwneud hynny) i sicrhau bod y Cynllun Addysg Personol a'r cymorth sy'n gysylltiedig ag addysg yn briodol ac o fudd i'r dysgwyr.

 

Darperir rhywfaint o arian i'r awdurdod lleol drwy'r Grant Datblygu Disgyblion. Defnyddir yr arian hwn i roi cymorth i ysgolion drwy hyfforddiant fel y disgrifiwyd yn gynharach, ond hefyd drwy hyfforddiant ychwanegol i ddysgwyr mewn perthynas â'u llythrennedd a'u rhifedd yn ôl yr angen.

 

O fewn Gofal Cymdeithasol Plant, mae'r Tîm 16+ yn cefnogi'r rhai sy'n gadael gofal yn ystod cyfnod trosiannol, gan eu hannog i fod yn uchelgeisiol ac i gynllunio ar gyfer eu dyfodol.  Caiff y gwaith cynllunio hwn ei gwblhau fel rhan o waith uniongyrchol gweithwyr cymdeithasol a chynghorwyr personol gyda phobl ifanc.  Mae'r gwaith hwn yn cynnwys cyswllt agos â thiwtoriaid ysgol/coleg a Gyrfa Cymru.  Unwaith y cytunir ar gynllun gyda'r person ifanc, caiff hwn ei ffurfioli mewn Adolygiad Plant sy'n Derbyn Gofal neu Adolygiad Cynllunio Llwybr os yw'r person ifanc dros 18 oed.

 

Mae Prosiect Dyfodol Hyderus Prifysgol Caerdydd a Champws Cyntaf ar gael i bobl ifanc sydd â phrofiad o ofal a'r rhai sy'n gadael gofal rhwng 14 a 19 oed gyda’r bwriad o godi dyheadau a hyder.  Cynhelir y sesiynau'n fisol o fis Hydref i fis Ebrill yn flynyddol.  Cânt eu gweinyddu ym Mhrifysgol Caerdydd ac maent yn cynnwys gwaith gr?p a sesiwn gymorth unigol a redir gan fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd. Nod y gweithdai yw cefnogi pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal gyda'u hastudiaethau presennol yn ogystal ag unrhyw geisiadau i'r brifysgol. Mae ar gael i bob person ifanc waeth beth fo'u gallu academaidd, gan mai'r nod hefyd yw cynyddu hyder a hunan-barch pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal.  Yn ystod y flwyddyn academaidd ddiwethaf, mae 3 myfyriwr o Ben-y-bont ar Ogwr wedi mynychu'r sesiynau hyn gyda staff o'r Tîm 16+ yn darparu cludiant a chymorth.

 

Mae Ysgol Haf Dyfodol Hyderus yn ysgol haf blynyddol sy'n ceisio codi dyheadau, neilltuo amser un-i-un gyda phobl ifanc sy'n derbyn gofal i'w mentora am gam nesaf eu bywyd academaidd, cynnig sesiynau blasu gan ddarlithwyr/athrawon y Brifysgol, a’n rhoi cyfle i ddarganfod sut beth yw bywyd cymdeithasol prifysgolion. Mae cyfranogwyr yn treulio amser a’n aros mewn llety myfyrwyr gyda myfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig presennol ac yn cael sesiynau blasu academaidd gydag arbenigwyr ar eu meysydd dethol.  Mae'r sesiynau'n cynnwys cyngor ar ysgrifennu datganiadau personol, ffug gyfweliadau, cyllidebu a sgyrsiau gan wasanaethau cymorth. Mae sesiynau blasu hefyd ar gyfer cyfleoedd y tu allan i astudio, gan gynnwys cymdeithasau a chlybiau chwaraeon.  Yn olaf, maent yn cael bod yn rhan o seremoni raddio ffug. Anogir ein holl bobl ifanc sydd â phrofiad o ofal sy'n ystyried gwneud cais am brifysgol i fynychu.

 

Cwestiwn atodol gan y Cynghorydd Tim Thomas

 

Yn gyffredinol, nid yw LAC sy'n derbyn gofal yn derbyn cystal canlyniadau addysgol o gymharu â charfanau eraill, felly o ystyried hynny, a allai'r Aelod Cabinet – Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar gadarnhau pa Strategaethau sydd gennym ar waith i dargedu plant sy'n derbyn gofal yn benodol, fel bod eu niferoedd o ran NEETS yn gostwng.

 

Ymateb:

 

Rhywbeth rydym wedi'i wneud yn ddiweddar yw dechrau defnyddio "model sy'n Seiliedig ar Ganlyniadau", a lansiwyd ychydig cyn y Nadolig, a'n hathroniaeth yw meithrin ymdeimlad o hunangred ymysg y bobl ifanc hyn cyn gynted ag sy’n bosibl. Yn aml, mae'r plant hyn wedi cael profiadau niweidiol yn ystod plentyndod, ac felly roedd eu gosod nhw’n ganolbwynt i'w cynlluniau ar gyfer y dyfodol, a chaniatáu iddynt osod eu hagenda eu hunain, a’u cefnogi mewn ffordd gyfannol a therapiwtig yn ddechrau pwysig iawn i'r broses. Canlyniad y dull hwn, gobeithio, yw y byddant wedi’u hysbrydoli erbyn iddynt gyrraedd 16 oed a chyda digon o hyder o ran cyflawniadau academaidd. Roedd y broses hon ychydig yn anos na'r dull blaenorol a oedd ar waith, fodd bynnag, credid y byddai'r newid yn arwain at roi mwy o gefnogaeth, a hynny mewn modd mwy effeithiol, i ragolygon academaidd ein pobl ifanc yn y dyfodol. Ychwanegodd yr Aelod Cabinet - Addysg ac Adfywio y gellid cael rhagor o wybodaeth am yr uchod gan yr Adran Addysg y tu allan i'r cyfarfod, pe bai'r Aelod yn dymuno derbyn hyn. Fel rhieni corfforaethol, mae Aelodau a Swyddogion yn gwneud eu gorau i gefnogi plant yn yr un modd ag y byddent yn cael eu cefnogi gan eu rhieni naturiol o ran eu hanghenion a'u gofynion addysg, hyd at y cam lle maent yn mynd i addysg uwch, y Brifysgol er enghraifft .

 

Ail gwestiwn atodol gan y Cynghorydd Jane Gebbie

 

A allech fod yn fwy penodol, gan fod y rhan fwyaf o'n plant sy'n derbyn gofal yn profi profiadau niweidiol yn ystod plentyndod ac, fel y gwyddom yn iawn, mae hyn yn aml yn rhwystr i'w cyflawniadau academaidd a phersonol. Felly, sut yr ydym ni fel rhieni corfforaethol, yn eu hannog i sicrhau canlyniadau bywyd mwy cadarnhaol.

 

Ymateb:

 

Atebodd yr Aelod Cabinet – Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar, ei fod yn ymwneud â rhoi llais y PDG yn gyntaf, wedi’u blethu â dull mwy therapiwtig a chyfannol o ran eu haddysg. Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar fod gan yr awdurdod lleol gyfrifoldeb sylfaenol i sicrhau ei fod yn darparu'r amgylchedd teuluol cywir i'n plant a'n pobl ifanc, felly mae sicrwydd bod ganddynt y gofal a'r cymorth cywir ar eu cyfer, er mwyn iddynt gael bywyd hapus a chytbwys. Mae'r camau a gymerir er mwyn cyflawni hyn yn cynnwys recriwtio Gofalwyr Maeth â chymwysterau uchel. Yng nghyfarfod y Cabinet ddoe, roedd adroddiad wedi'i gymeradwyo yngl?n â'r ffordd orau ymlaen, nid yn unig o ran sut i recriwtio'r gweithwyr proffesiynol hyn ond hefyd i sefydlu ffyrdd o'u cadw. Roedd hefyd yn bwysig bod plant sy'n derbyn gofal yn cael eu cefnogi'n effeithiol ac yn dda gartref ac yn yr ysgol. Roedd y Cyngor wedi buddsoddi mewn Teuluoedd Maeth ar gyfer y plant hynny nad oeddent yn gallu aros gyda'u rhieni neu Ofalwr(wyr) Maeth, yn ogystal â'i ddarpariaeth breswyl ei hun. Roedd Llywodraeth Cymru hefyd wedi darparu cyllid, er mwyn cynorthwyo cyfleoedd dysgu ar gyfer plant sy'n derbyn gofal yn ystod y pandemig yn ogystal ag ar gyfer tymor hwy, er mwyn iddynt allu cefnogi canlyniadau plant sy'n derbyn gofal hyd at yr amser y maent yn dechrau addysg uwch. Sicrhaodd yr Aelodau fod y Cyngor yn mabwysiadu dull sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn yn unol â hynny drwy ei adrannau Earl Help a Gwasanaethau Plant. Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Addysg a Chymorth i Deuluoedd fod cefnogi plant sy'n derbyn gofal yn cynnwys cydweithio yn ogystal â sicrhau bod unrhyw ymyriadau'n seiliedig ar dystiolaeth. Roedd gan y Cyngor dîm Ymgysylltu ag Addysg, a oedd yn sicrhau bod yr awdurdod lleol yn cyflawni ei ddyletswydd statudol mewn perthynas ag anghenion addysg plant mewn ysgolion. Mae’r Cyngor hefyd wedi rhoi cyngor i’r ysgol o ran y ffordd orau o ddefnyddio Grantiau Datblygu Disgyblion fel mecanwaith cymorth i'r broses ddysgu. Ar hyn o bryd roedd 32 o’r plant sy'n derbyn gofal yn cael hyfforddiant addysgu ychwanegol, er mwyn helpu i gau'r bwlch rhyngddynt hwy a rhai dysgwyr eraill. Daeth i'r casgliad drwy ddweud bod Estyn, 4 blynedd yn ôl, wedi nodi arfer rhagorol yn Ysgol Brynteg ac Ysgol Gynradd Pen-y-bont, am y cymorth a roesant i blant sy'n derbyn gofal.

 

Trydydd cwestiwn atodol gan y Cynghorydd Stuart Baldwin

 

Pa waith yr oedd yr Awdurdod yn ei wneud i annog Gofalwyr Maeth o gefndiroedd mwy amrywiol, megis, er enghraifft cymunedau LGBQ Plus.

 

Ymateb:

 

Cadarnhaodd yr Aelod Cabinet – Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar, y bu ymgyrch yr wythnos diwethaf i annog pobl o gymunedau LGBQ Plus i ystyried bod yn Ofalwyr Maeth. Cafwyd enghreifftiau eraill o annog unigolion (gan gynnwys o gefndiroedd amrywiol), i ystyried ymrwymo i rôl o'r fath, ac roedd hi'n hapus i rannu'r rhain gydag unrhyw Aelodau a allai fod â diddordeb mewn cael y wybodaeth hon. Roedd y Cabinet hefyd wedi ystyried adroddiad yn ei gyfarfod ddoe, o'r enw 'Recriwtio Maethu – Gofal Cymdeithasol i Blant,' a roddodd gymeradwyaeth i gysoni recriwtio maethu ar draws Pen-y-bont ar Ogwr, Rhondda Cynon Taf, a Merthyr Tudful, ac ymdrin â meithrin ymholiadau recriwtio, prosesu ceisiadau, yn ogystal â chefnogi Darpar Ofalwyr Maeth drwy'r broses o ddod yn Ofalwr Maeth.       

       

Y Cynghorydd Matthew Voisey i'r Arweinydd

 

pam mae'r weinyddiaeth Lafur hon yn gwahaniaethu yn erbyn rhai gweithwyr allweddol, drwy beidio â chaniatáu i'r rheini yn y sector preifat gael mynediad at ddarpariaethau gofal plant yn ystod y cyfyngiadau symud presennol hyn, o ystyried mai’r rhain yw'r union weithwyr y mae'r blaid Lafur yn honni eu bod yn gofalu amdanynt, gweithwyr rhan-amser a'r rhai sydd ar isafswm cyflog neu'n agos iddo?

 

Ymateb:

 

Mae canllawiau Llywodraeth Cymru mewn perthynas â gweithwyr hanfodol yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol ystyried ei restr gweithwyr hanfodol. Fodd bynnag, mae'n dweud mai mater i awdurdodau lleol unigol ydyw, yn seiliedig ar eu sefyllfa bresennol i benderfynu pwy sy'n gymwys. O ystyried yr argyfwng iechyd cyhoeddus yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, gwnaethom y penderfyniad anodd i gyfyngu ein cymhwysedd i alwedigaethau 'golau glas' traddodiadol fel y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG), addysg, swyddogion carchardai, a gweithwyr gofal cymdeithasol (yn y sector cyhoeddus a'r sector preifat).

 

Gwnaed y penderfyniad hwn er mwyn sicrhau bod gan ysgolion ddigon o gapasiti i ddiogelu iechyd a lles y disgyblion a'r staff, heb beryglu eu gallu i ddarparu dysgu cyfunol o ansawdd uchel. Rydym wedi gweithio gyda phartneriaid cyflwyno allweddol (gwrando ar eu pryderon) i ddatblygu amgylcheddau dysgu/gweithio effeithiol a diogel i COVID. Er y cydnabyddir yn llawn bod hyn wedi achosi rhai anawsterau i rai teuluoedd, mae'r strategaeth wedi helpu i leihau cyfraddau trosglwyddo'r firws yn y gymuned wrth gynnal safonau addysgol mewn ysgolion.

 

Rydym hefyd wedi gweithio'n galed i gefnogi teuluoedd lle nad oedd plant wedi sicrhau darpariaeth ar safle’r ysgol. Mae hyn wedi cynnwys gweithio gyda'r Tîm Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant, lleoliadau gofal plant preifat, cefnogi teuluoedd/neiniau a theidiau, a chyfathrebu â chyflogwyr. Mae cydweithwyr yn y blynyddoedd cynnar wedi parhau i ddarparu'r rhaglen Dechrau'n Deg ac maent hefyd wedi cefnogi lleoliadau nas cynhelir i ddarparu gofal plant drwy gydol y pandemig (gyda chyngor, arweiniad a, lle y bo'n gymwys, cyllid). Darparwyd cymorth hefyd gan aelodau'r Gwasanaeth Cynhwysiad, sy'n cynnig archwiliadau ar-lein gyda disgyblion y nodwyd eu bod yn agored i niwed a/neu sydd angen cymorth dysgu ychwanegol ac ar gyfer teuluoedd sydd wedi bod yn ei chael yn anodd rheoli ymddygiad eu plant. Rhoddwyd blaenoriaeth i gymorth plant sy'n derbyn gofal, plant ar y gofrestr amddiffyn plant, a phlant ag anableddau cymhleth ac anghenion meddygol. Mae ysgolion hefyd wedi cynnig cefnogaeth allgymorth drwy weithio amlasiantaethol. Mae hyn wedi cynnwys ymweliadau cartref gan y timau ac archwiliadau rheolaidd i'r rhai mwyaf agored i niwed.

 

Ar hyn o bryd mae staff ysgol yn cynnig darpariaeth ar y safle ar gyfer dysgwyr sy'n agored i niwed a phlant gweithwyr hanfodol, cymorth uniongyrchol oddi ar y safle i ddysgwyr sy'n agored i niwed, a chyfleoedd dysgu o bell i bob dysgwr. Felly, mae'n anochel y bydd unrhyw gynnydd yn y ddarpariaeth ar y safle yn cael effaith andwyol ar allu'r ysgol i ddarparu dysgu ar-lein o ansawdd uchel a chyfyngu ar allu ysgol i ddarparu cymorth oddi ar y safle i ddysgwyr sy'n agored i niwed. Mae pob pennaeth wedi dweud ei bod yn anodd iawn cael digon o staff ar y safle i oruchwylio'r disgyblion hynny sy'n mynychu'r ysgol ynghyd â sicrhau fod ganddynt ddigon o gapasiti staffio i ddarparu dysgu cyfunol ar gyfer y disgyblion hynny sydd oddi ar y safle.

 

Rydym mewn sefyllfa anodd iawn o fod angen cadw'r niferoedd mor isel â phosibl er mwyn lleihau cyfleoedd trosglwyddo yn wyneb pwysau cynyddol gan rieni/gofalwyr i gynnig lleoedd i'w plant. Rydym yn cydnabod bod y sefyllfa bresennol yn creu anawsterau i rieni/gofalwyr sydd hefyd yn weithwyr allweddol sy'n gorfod mynd i'r gwaith ond nad ydynt yn gymwys yn unol â meini prawf cytûn CBSP a heb unrhyw ofal plant arall ar gael. Yn naturiol, rydym yn awyddus i ehangu'r ddarpariaeth ar y safle pan/lle mae'n ddiogel gwneud hynny i ddiwallu anghenion rhieni/gofalwyr sydd angen y cymorth hwn.

 

Wrth i'r cyfraddau trosglwyddo ostwng, rydym wedi gwneud cynlluniau i ehangu'r cynnig lleol i ddiwallu anghenion mwy o rieni a gofalwyr drwy barhau i ddarparu amgylchedd addysgu a dysgu diogel i ddisgyblion a staff yn seiliedig ar ganlyniadau arolwg ar-lein diweddar. Ar 5 Chwefror, lansiwyd arolwg ar-lein gennym i fesur y galw am ddarpariaeth ar y safle. Dangosodd canlyniadau'r arolwg fod angen 1797 o leoedd ychwanegol ar y safle. O'r rhain, roedd 1405 yn cyfeirio at ddarpariaeth ar y safle ar gyfer dysgwyr oedran ysgol gynradd tra bod 392 yn cyfeirio at ddarpariaeth ar y safle ar gyfer dysgwyr oedran ysgol uwchradd.

 

Pan lansiwyd yr arolwg ar-lein, cyhoeddodd y Gweinidog Addysg hefyd y byddai pob dysgwr cyfnod sylfaen (h.y. ym Mhen-y-bont ar Ogwr, pob plentyn tair i saith oed sy'n gymwys i gael lle mewn ysgol) yn dychwelyd i'r ysgol yn ystod yr wythnos yn dechrau ar 22 Chwefror. Yn ôl y disgwyl, roedd llawer o'r galw am leoedd ar y safle ar gyfer dysgwyr oedran ysgol gynradd yn gysylltiedig â phlant iau. O ganlyniad, drwy ddefnyddio amrywiaeth o hidlyddion (e.e. drwy ofyn i rieni/gofalwyr a fyddent yn defnyddio'r ddarpariaeth ychwanegol, a fyddent yn gallu gofalu am eu plentyn/plant gartref, a yw eu plentyn yn mynychu lleoliad cyfnod sylfaen, a/neu a ydynt mewn gwirionedd yn ystyried eu hunain yn weithiwr hanfodol yn seiliedig ar feini prawf cymhwysedd Llywodraeth Cymru), mae'r galw gwirioneddol am ddarpariaeth ar y safle yn is. Yn y senario hwn, pe baem ni’n ehangu ein meini prawf cymhwysedd i gynnwys pob galwedigaeth ar restr Llywodraeth Cymru, byddai'r galw dangosol am leoedd yn golygu bod angen 163 lle (cyfnod allweddol 2) ychwanegol ar y safle yn y sector ysgolion cynradd a byddai angen 39 lle (Blwyddyn 7 a Blwyddyn 8) ychwanegol yn y sector ysgolion uwchradd.

 

Fodd bynnag, oherwydd y cynnydd sylweddol yn nifer y disgyblion sy'n mynychu ysgolion cynradd yn dilyn yr egwyl hanner tymor, yr adborth gan ysgolion yw y byddai unrhyw gynnydd yn y ddarpariaeth ar y safle ar hyn o bryd yn achosi anhawster sylweddol. Er enghraifft, oherwydd cyngor diweddar gan Lywodraeth Cymru mewn perthynas â chynnal 'swigod' dosbarth/gr?p blwyddyn, efallai y bydd cynnydd o ddim ond pedwar dysgwr mewn ysgol gynradd yn arwain ar angen wyth aelod o staff ychwanegol (h.y. un athro ac un cynorthwyydd dysgu fesul dosbarth) fod ar y safle. Mae'n anochel y bydd hyn yn cael effaith negyddol ar allu'r ysgol i ddarparu dysgu ar-lein o ansawdd uchel. O ganlyniad, mae hyn wedi effeithio ar ein gallu i ddod â mwy o blant gweithwyr hanfodol yn ôl yn gynt, gan y bydd llai o gapasiti i ddarparu ar gyfer gofynion gofal plant ychwanegol. Y mwyaf o ddisgyblion sydd yn yr ysgol, y mwyaf o staff ysgol fydd yn ofynnol i oruchwylio/addysgu a bydd hyn yn lleihau'r gallu i staff allu cynnig cyfleoedd dysgu cyfunol o ansawdd uchel i’r disgyblion nad ydynt ar y safle.

 

I gloi, fodd bynnag, mae'n bleser gennyf hysbysu'r aelodau y bydd darpariaeth yn yr ysgol ar gael ar y safle i blant gweithwyr hanfodol (fel y'u diffinnir gan Lywodraeth Cymru) o oed meithrinfa hyd at Flwyddyn 8 (cynhwysol) o ddydd Llun 15 Mawrth.

 

Cwestiwn atodol gan y Cynghorydd Matthew Voisey (a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Walters yn ei absenoldeb)

 

Er ei bod yn dda gwybod y bydd gan blant gweithwyr allweddol hyd at Flwyddyn 8 le mewn ysgolion o ddydd Llun nesaf ymlaen, hir bu’r disgwyl amdano. Mae'r gweithwyr allweddol sydd ddim yn rhai ‘golau glas’ wedi ein gwasanaethu i gyd drwy'r pandemig ac yn aml yn mynd yn angof, neu'n dioddef rhwystredigaethau pan oedd prinder bwyd yn gynharach yn y pandemig. Rwy’n gwerthfawrogi popeth y maent wedi'i wneud i’r gweddill ohonom. Mae set arall o weithwyr allweddol na chafodd ddarpariaeth i’w plant hefyd, sef y gweithwyr hynny o'r Lluoedd Arfog, a gafodd eu heithrio o'r rhestr o’r cychwyn cyntaf, ac roedd llawer o'r bobl hyn ar Hysbysiadau Symud 24 awr. Sut yr oedd y gwaharddiad hwn yn cyd-fynd â’r Cyngor yn llofnodi Cyfamodau'r Lluoedd Arfog. Heb gymorth y Lluoedd Arfog yn ystod y pandemig, ni fyddai llawer o'r bwyd a chyflenwadau eraill wedi cyrraedd y rhai yr oedd eu hangen. Yr oeddent yn awr yn helpu i gyflwyno'r brechlyn, a heb eu cefnogaeth yma ni fyddai Cymru wedi symud llwyddo cystal gyda'i rhaglen frechu.

 

Ymateb:

 

Wrth gwrs, rydym yn gwerthfawrogi'r gwaith anhygoel sy'n cael ei wneud gan weithwyr hanfodol a gweithwyr allweddol drwy gydol y pandemig. Yr anhawster oedd gallu ein hysgolion i wneud lle i’r disgyblion, mae pob un o’n Penaethiaid wedi bod yn bryderus ynghylch y prinder lle a staff mewn ysgolion sydd eu hangen, a hynny er mwyn darparu ar gyfer holl blant yr holl weithwyr allweddol/critigol a fyddai wedi bod yn gymwys o dan y diffiniad ehangach hwnnw. Yr ydym wrth gwrs yn mynd i weld holl ddisgyblion yr Ysgol Gynradd yn ôl mewn ysgolion yn ystod yr wythnos neu ddwy nesaf a bydd hynny'n mynd i'r afael â'r mater â phlant iau yn uniongyrchol. Gwnaed y penderfyniad hwn yn dilyn ymgynghoriad cynhwysfawr ac ymarfer ymgysylltu â theuluoedd, h.y. hyd yn oed pe na bai ysgolion wedi'u hailagor i bob disgybl oedran cynradd, roeddem wedi penderfynu ehangu'r cymhwysedd hwnnw, ar ôl sefydlu bod capasiti yn yr ysgolion, i letya plant gweithwyr allweddol, gan gynnwys personél y Lluoedd Arfog/Gwasanaeth, ac ati. Roedd y personél hwn wedi bod yn wych yn ystod y pandemig a thu hwnt. Fodd bynnag, nid wyf wedi derbyn unrhyw enghreifftiau lle mae'r uchod wedi arwain at broblem. Os bu rhai ac os cânt eu codi gyda mi, byddaf yn mynd i'r afael â hwy'n gyflym. Ychwanegodd yr Aelod Cabinet – Cymunedau yn ei rôl fel Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog dros yr Awdurdod, fod yr uchod yn tynnu sylw at absenoldeb amlwg o ran plant y rhai sy’n gwasanaethu'r Lluoedd Arfog. Y rheswm am hyn oedd nad oedd mecanwaith o fewn ysgolion i adeiladu cofrestr o ddisgyblion yno, gan gadarnhau eu bod yn blant i rieni a oedd yn y Lluoedd Arfog. Dylai fod yn ofynnol i ni gadw cofrestr o'r fath mewn ysgolion at y diben hwn, er mwyn iddi fod yn haws iddynt dynnu sylw'r Adran Addysg/Aelodau ehangach y Cyngor/Cabinet at hyn. Fodd bynnag, hyd y gwn i, nid ydym wedi cael unrhyw sylwadau, fel y dywedodd yr Arweinydd, gan unrhyw aelodau o'r Lluoedd Arfog na'r sefydliad ei hun yngl?n â phlant eu haelodau yn hyn o beth. Felly mae'n anodd i ni nodi lle'r oedd yr angen (mewn ysgolion).   

 

Ail gwestiwn atodol gan y Cynghorydd Bridie Sedgebeer

 

Yng nghwestiwn gwreiddiol y Cynghorydd Voisey, mae'n cyfeirio at yr isafswm cyflog. O ran hyn, dros y blynyddoedd diwethaf, y Blaid Lafur a dim ond y blaid honno a safodd dros weithwyr allweddol a theuluoedd sy'n gweithio, a'r Blaid Lafur a ymgyrchodd dros yr isafswm cyflog a'i gyflwyno, rhywbeth a wrthwynebwyd gan y Blaid Geidwadol. Felly pam eu bod bellach yn amddiffyn gweithwyr allweddol a'u teuluoedd?

 

Ymateb:

 

Mae hyn yn gywir, gwrthwynebwyd yr isafswm cyflog cenedlaethol gan y Ceidwadwyr, ond rwy'n falch o ddweud y bu’r her honno yn aflwyddiannus a bod yr isafswm cyflog bellach wedi’i ddiogelu gan y gyfraith.

 

Trydydd cwestiwn atodol gan y Cynghorydd Jane Gebbie

 

A fyddech o'r farn bod ein Llywodraeth Lafur yng Nghymru wedi bod yn llawer mwy llwyddiannus a rhagweithiol wrth reoli eu cyllidebau Canlyniadol i ddiogelu gweithwyr allweddol a'r cyhoedd, na Llywodraeth y DU. Yng Nghymru, rhoddwyd system 'Profi ac Olrhain' ar waith a oedd wedi'i strwythuro yn y fath fodd fel ei bod yn effeithiol ac yn gost-effeithiol, gan iddi gael ei threfnu yn bennaf gan staff yn y GIG a gweithwyr llywodraeth leol, a hynny ar incwm isel i gymedrol. I'r gwrthwyneb, roedd y Llywodraeth Geidwadol wedi ymgymryd â'r un prosiect drwy gyflogi Ymgynghorwyr â chyflog uchel ar gost o £22m, a fu'n llawer llai llwyddiannus. 

 

Ymateb:

 

Mae gweithwyr Gofal Critigol wedi bod ar reng flaen argyfwng Covid, ac ni allaf ddiolch digon iddynt am eu gwaith di-baid, gwaith a wnaed yn wyneb pwysau eithafol a thrawma, gyda marwolaethau anffodus o ganlyniad i'r feirws. Rwy'n falch bod Llywodraeth Cymru wedi talu £500 yn ychwanegol i'w Gweithwyr Gofal fel cydnabyddiaeth o'r gwaith amhrisiadwy y maent wedi'i ddarparu trwy’r cyfnod anodd hwn i gefnogi'r bobl sy’n fwyaf agored i niwed o fewn ein cymdeithas.