Agenda item

Derbyn y cwestiwn canlynol gan gynrychiolydd o'r Grŵp 'Save Our Fields' i'r Aelod Cabinet - Cymunedau

 

Roeddem wrth ein bodd bod aelodau o Gabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, yn sgil astudiaeth ddichonoldeb Bryn Bragle, wedi cydnabod yn gyhoeddus werth mannau gwyrdd i les eu trigolion a'u cymunedau. Mae'r Cynghorydd David wedi cydnabod "gwerth y man gwyrdd agored cyhoeddus hwnnw i gymuned Bragle"; mae'r Cynghorydd Smith wedi cydnabod mai ei "agwedd bob amser yw diogelu mannau agored" ac mae'r Cynghorydd Burnett hyd yn oed wedi mynd mor bell â dweud y bydd y gwaith helaeth sydd wedi'i wneud yn sicrhau cadwraeth Bryn Bragle fel man agored gwyrdd. "

 

Mae Erthygl 11.01 o Gyfansoddiad y Cyngor yn caniatáu i'r Cyngor ymgymryd â threfniadau ar y cyd â chyrff eraill er mwyn hybu llesiant, a'r pwerau hyn yn cael eu rhoi gan Ddeddf Llywodraeth Leol 2000.

 

I gydnabod y pwerau hyn, y rôl hanfodol y mae mannau gwyrdd yn ei chwarae yn ein lles emosiynol a chorfforol, yn enwedig yn anterth pandemig byd-eang, ac ymrwymiad presennol CBSP i beidio â datblygu ar Fryn Bragle, a yw'r Aelod Cabinet yn cytuno i ddilyn addewid y Cynghorydd Burnet i gadw Bryn Bragle fel man agored gwyrdd a dechrau'r broses o weithio gyda Meysydd Chwarae Cymru ar unwaith i ddiogelu, yn gyfreithiol, Bryn Bragle a'r man agored gwyrdd yn Channel View a Foxfields drwy Weithred o Ymroddiad?

           

 

Cofnodion:

 

Cwestiwn gan Mr A Drury

 

Roeddem wrth ein boddau bod aelodau Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, yn sgil astudiaeth ddichonoldeb Brackla Hill, wedi cydnabod gwerth mannau gwyrdd i les eu trigolion a'u cymunedau. Mae'r Arweinydd wedi cydnabod "gwerth y man gwyrdd agored cyhoeddus hwnnw i gymuned Bracla", dywedodd yr Aelod Cabinet – Addysg ac Adfywio ei fod yn ei natur erioed i “gadw mannau agored", ac aeth yr Aelod Cabinet – Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar cyhyd â dweud “bydd y gwaith helaeth sydd wedi'i wneud hyd yma yn ddigon i sicrhau cadwraeth Brackla Hill fel man agored gwyrdd." Mae Erthygl 11.01 o Gyfansoddiad y Cyngor yn caniatáu i'r Cyngor ymgymryd â threfniadau ar y cyd â chyrff eraill er mwyn hybu llesiant, rhoddwyd y pwerau hyn gan Ddeddf Llywodraeth Leol 2000.

 

I gydnabod y pwerau hyn a’r rôl hanfodol y mae mannau gwyrdd yn ei chwarae yn ein lles emosiynol a chorfforol, yn enwedig yn anterth pandemig byd-eang, yn ogystal ag ymrwymiad presennol CBSP i beidio â datblygu ar Brackla Hill, gofynnaf a yw'r Aelod Cabinet – Cymunedau yn cytuno i gynnal addewid yr Aelod Cabinet – Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar, i gadw Brackla Hill fel man agored gwyrdd ac i ddechrau'r broses o weithio gyda Fields in Trust ar unwaith i ddiogelu Brackla Hill mewn cyfraith, ac i ddiogelu’r man gwyrdd yn Channel View a Foxfields gyda Gweithred Gyflwyno?

 

Ymateb gan yr Aelod Cabinet – Cymunedau

 

Yn ddiweddar, ymrwymodd y Cyngor i gadw Brackla Hill fel man agored gwyrdd, a hynny oherwydd ei fod yn rhoi cydnabyddiaeth lwyr i werth mannau agored i les emosiynol a chorfforol trigolion a chymunedau.

 

Bydd y man agored hwn yn cael ei ddiogelu drwy Gynllun Datblygu Lleol Pen-y-bont ar Ogwr (CDLl) gan mai dyma'r brif ddogfen cynllunio defnydd tir strategol sy'n llywio datblygiadau yn y Fwrdeistref Sirol yn y dyfodol.  Dyma'r brif ystyriaeth hefyd wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio, gan fod cyfraith cynllunio yn mynnu bod yn rhaid i'r penderfyniadau cynllunio ystyried darpariaeth y cynllun datblygu.

 

Mae ardal Brackla Hill eisoes wedi'i diogelu yn y CDLl presennol ac mae wedi'i dyrannu'n benodol o dan Bolisi COM13(5) – Darparu Mannau Gwyrdd Naturiol Hygyrch (gan gynnwys mannau agored cyhoeddus) ynghyd â nifer o fannau agored allweddol eraill yn y Fwrdeistref Sirol.  Gallai unrhyw ddatblygiad ar yr ardaloedd hyn o dir arwain at wyro oddi wrth y cynllun datblygu, a byddai'n wynebu heriau o ran cynllunio.

 

Disgwylir i'r CDLl drafft newydd gael ei gyhoeddi yn ddiweddarach eleni a bydd yn cynnwys darpariaeth benodol i fannau agored hygyrch yn seiliedig ar dystiolaeth gyfredol ac archwiliadau o fannau agored.  Bydd y cynllun yn agored ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus a bydd unrhyw sylwadau yn cael eu hystyried cyn i Arolygydd Cynllunio allanol graffu ar y cynllun gyda'r bwriad o'i fabwysiadu yn y pen draw yn 2022.  Mae’r ddarpariaeth o fannau agored mewn cymunedau a’i bwysigrwydd wedi’i amlinellu ym maes polisi cynllunio cenedlaethol h.y. Dyfodol Cymru 2040 a Pholisi Cynllunio Cymru, y mae'r ddau ohonynt yn berthnasol i'r cynllun sydd ar y gweill.

 

Er ei fod yn deall cysyniad Fields in Trust, mae'n well gan y Cyngor weithio mewn partneriaeth lle y bo'n bosibl, gyda Chynghorau Tref a Chymuned. Felly, er mwyn diogelu'r defnydd ohono yn y dyfodol, ond hefyd i wella a buddsoddi yn y ddarpariaeth yn Brackla Hill, gellid trosglwyddo'r ardal drwy drosglwyddiad asedau cymunedol i Gyngor Cymuned lleol Bracla. Efallai y bydd gr?p Save Our Fields am ystyried cysylltu â'r cyngor lleol yn hyn o beth.