Agenda item

Prosiect Rhwydwaith Gwres Tref Pen-y-bont ar Ogwr Cam 1

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Cymunedau a'r Prif Swyddog Dros Dro – Cyllid, Perfformiad a Newid adroddiad ar y cyd, a'i ddiben oedd:

 

·          rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cyngor am ddatblygu Prosiect Rhwydwaith Gwres Tref Pen-y-bont ar Ogwr;

·          ceisio cymeradwyaeth i gynnwys cyllideb o £3.4m o fewn rhaglen gyfalaf y prosiect;

·          ceisio cymeradwyaeth i fenthyciad o £1.821m gael ei wneud gan y Cyngor i'r Cyfrwng at Ddibenion Arbennig (SPV) arfaethedig. 

 

Dechreuodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Cymunedau, drwy gynghori bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr (CBSP) wedi dechrau edrych ar y cyfleoedd i ddatblygu rhwydweithiau gwres ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn 2012, gyda gyrwyr i brosiectau ar gyfer datgarboneiddio, rhesymau economaidd a chymdeithasol, fel yr ehangwyd ym mharagraff 3.1 o'r adroddiad.

 

Mae Prosiect Rhwydwaith Gwres Tref Pen-y-bont ar Ogwr wedi'i gynnwys fel prosiect yng Nghynllun Ynni Clyfar CBSP (a gymeradwywyd gan y Cabinet ym mis Chwefror 2019). Mae'r Cynllun hwn yn manylu ar y prosiectau y bydd CBSP yn rhan ohonynt yn ystod cyfnod 2019 - 2025. Mae hyn yn cynnig rhoi gwahanol dechnolegau, cynigion defnyddwyr a modelau busnes ar brawf er mwyn darparu llwybr at ddatgarboneiddio Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Roedd hefyd yn cyfrannu'n allweddol at strategaeth datgarboneiddio Llywodraeth Cymru (a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2019) "Ffyniant i Bawb: Cymru Carbon Isel".

 

Aeth ymlaen drwy ddweud bod Prosiect Rhwydwaith Gwres Tref Pen-y-bont ar Ogwr yn cynnig darparu gwres (gyda pheiriant gwres a ph?er cyfunedig wedi’i bweru gan nwy wedi’i leoli yn y Bridgend Life Centre) ar gyfer y Bridgend Life Centre, y Swyddfeydd Dinesig, a Neuadd Fowlio Pen-y-bont ar Ogwr. Byddai'r prosiect hefyd yn darparu trydan i'r Life Centre, i’r Swyddfeydd Dinesig, a’r Neuadd Fowlio.

 

Gwnaed cais am grant cyfalaf i Lywodraeth y DU drwy ei Rhaglen Buddsoddi mewn Rhwydwaith Gwres (HNIP) ym mis Ebrill 2019. Cymeradwywyd hyn ym mis Rhagfyr 2019 ar gyfer: (i) gwneud buddsoddiad cyfalaf o £1,000,000 tuag at adeiladu'r rhwydwaith gwres; a (ii) £241,000 ar gyfer gweithgareddau cyn adeiladu.

 

Aeth y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Cymunedau yn ei blaen drwy ddweud bod y Cabinet, yn ei gyfarfod ar 19 Ionawr 2021, wedi rhoi cymeradwyo parhau â phrosiect Rhwydwaith Gwres Ardal Tref Pen-y-bont ar Ogwr. Roedd parhau â’r cynllun yn golygu gwneud rhai penderfyniadau ariannol. Un ohonynt oedd nodi y bydd angen diwygio Strategaeth Reoli'r Trysorlys i alluogi'r Cyngor i wneud benthyciad o £1.821 miliwn i'r SPV; y byddai hyn yn cael ei adlewyrchu yn Strategaeth Rheoli ddrafft y Trysorlys 2021-22 a gyflwynwyd i'r Pwyllgor Archwilio ar 28 Ionawr 2021, ac yna wedyn i'r Cyngor i'w gymeradwyo ym mis Chwefror 2021.

 

Ychwanegodd fod y Cabinet hefyd wedi cytuno y dylid cyflwyno adroddiad i'r Cyngor, gan argymell diwygio'r rhaglen gyfalaf i gynnwys prosiect Rhwydwaith Gwres Ardal Tref Pen-y-bont ar Ogwr a bod y Cyngor yn cytuno ar y benthyciad i'r SPV, yn amodol ar gymeradwyaeth i newidiadau i Strategaeth Reoli'r Trysorlys. Fel y g?yr yr Aelodau, roedd y Cyngor wedi cymeradwyo hyn ers hynny yn ei gyfarfod blaenorol o'r Gyllideb.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Cymunedau fod y Cabinet wedi cymeradwyo caffael contractwr Dylunio Adeiladu Gweithredu Cynnal ar gyfer Rhwydwaith Gwres Ardal Pen-y-bont ar Ogwr drwy ddefnyddio'r weithdrefn a negodwyd gyda galwad ymlaen llaw am gystadleuaeth o dan Reoliadau Contract Cyfleustodau 2016. Cytunwyd mai Brodies LLP (cynghorwyr cyfreithiol y Cyngor ar y cynllun hwn) fyddai'n caffael y Contractwr Dylunio Adeiladu Gweithredu Cynnal  ar ran y Cyngor o dan y weithdrefn a negodwyd gyda galwad ymlaen llaw am gystadleuaeth o dan Reoliadau Contract Cyfleustodau 2016.

 

Mae adroddiad pellach wedi'i drefnu i'w gyflwyno i'r Cabinet, ar ôl i'r broses contractwr Dylunio Adeiladu Gweithredu Cynnal ddod i ben, er mwyn penderfynu a ddylid dyfarnu'r contract.

 

Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Cymunedau, o ran camau Rhwydwaith Gwres Ardal Tref Pen-y-bont ar Ogwr yn y dyfodol, fod y Cabinet hefyd wedi cymeradwyo caffael, ac yna phenodi, ymgynghorydd technegol/ariannol a chynghorydd cyfreithiol, a hynny er mwyn paratoi Achos Busnes Amlinellol ar gyfer Cam 2 Prosiect Rhwydwaith Gwres Tref Pen-y-bont ar Ogwr. Roedd hyn yn cynnwys dirprwyo awdurdod i'r Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau i dendro am ymgynghorydd technegol/ariannol ac i’r Cynghorydd Cyfreithiol baratoi Achos Busnes Amlinellol ar gyfer Cam 2 Prosiect Rhwydwaith Gwres Tref Pen-y-bont ar Ogwr, ac i ddyfarnu'r contractau i'r tendrwyr llwyddiannus, gyda thelerau cytundebol y contractau i'w cymeradwyo gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau mewn ymgynghoriad â'r Prif Swyddog – Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Rheoleiddiol.

 

Ychwanegodd y byddai adroddiad pellach ar greu'r Cyfrwng at Ddibenion Arbennig (SVP) a fydd yn darparu'r mecanwaith cyflenwi masnachol ar gyfer y prosiect hefyd yn cael ei gyflwyno i'r Cabinet maes o law.

 

Mae'r Cabinet wedi argymell i'r Cyngor y dylid diwygio'r Rhaglen Gyfalaf i werth llawn y prosiect fel yr amlinellir ym mharagraff 8 o'r adroddiad ac y dylid darparu benthyciad i'r SPV ar gyfer Prosiect Rhwydwaith Gwres Ardal Tref Pen-y-bont ar Ogwr.

 

Felly, roedd yr adroddiad gerbron y Cyngor yn ceisio cymeradwyaeth i gynnwys cyllideb o £3.4m o fewn y rhaglen gyfalaf ar gyfer Prosiect Rhwydwaith Gwres Tref Pen-y-bont ar Ogwr. Tynnwyd sylw at fanylion pellach am y dadansoddiad o'r cyllid ym mharagraff 8 o'r adroddiad. Daeth y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Cymunedau i gasgliad trwy ddweud ei bod yn debygol y bydd angen i'r Cyngor fenthyca'r cyllid ei hun (o fewn telerau Strategaeth Reoli gymeradwy'r Trysorlys), ac yna rhoi benthyg hyn i'r Cyfrwng at Ddibenion Arbennig arfaethedig. Bydd y gyfradd llog a godir ar y SPV yn sicrhau nad fydd unrhyw niwed i'r Cyngor.

 

Cadarnhaodd Aelod ei fod yn gefnogol i unrhyw beth a oedd yn gwella'r seilwaith Ynni Lleol. Fodd bynnag, ei ddealltwriaeth ef oedd bod gan Rwydweithiau Gwres Lleol fel hyn ‘gyfnod silff’, gan olygu y byddent yn dod yn llai effeithlon gydag amser. Gofynnodd beth oedd y ‘cyfnod silff’ disgwyliedig ar gyfer y Prosiect Rhwydwaith Gwres penodol hwn a pha fecanweithiau cymorth oedd ar waith yn y tymor hwy i'w uwchraddio yn ôl yr angen, fel bod ei lefel effeithlonrwydd yn cael ei chynnal.

 

Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Cymunedau mai hyd oes y prosiect fyddai 40 mlynedd, h.y. bydd yn cyd-fynd â chyfnod y benthyciad. Yr hyn a gynigiwyd ar hyn o bryd oedd Cam 1 y cynllun yn unig, a oedd yn cynnwys gwaith ar 3 adeilad. Fodd bynnag, byddai hyn yn cael ei ehangu i adeiladau eraill yn y sector cyhoeddus, er enghraifft fel Coleg Pen-y-bont ar Ogwr ac Ysbyty POW. Byddai hyn yn cynyddu capasiti a'n ehangu’r manteision a geir gan y Rhwydwaith Gwres ymhellach. Cydnabu y byddai elfennau technolegol y prosiect yn newid gydag amser, felly yn rhan o'r model ariannol ceir cronfa Cyfalaf Wrth Gefn er mwyn cefnogi'r gwaith o uwchraddio seilwaith dros oes y prosiect.

 

Dangosodd Tabl 3 yr adroddiad y costau amrywiol ar gyfer gweithredu'r prosiect, a byddai'r rhain yn sicrhau bod Prosiect y Rhwydwaith yn cael ei weithredu'n effeithlon wrth symud ymlaen. Byddai'r SPV hefyd yn cael ei gefnogi gan Fwrdd Cyfarwyddwyr a fyddai'n monitro ac yn darparu mwy o gymorth rheoli i'r prosiect.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet – Cymunedau y byddai cynigion yr adroddiad yn arwain at newid sylweddol i'r ffordd y darparwyd ynni ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Roedd hyn yn ofynnol er mwyn cydymffurfio â thargedau'r Llywodraeth o ryddhau ardaloedd rhag carbon. Dyma gynllun newydd ac arloesol, un y mae awdurdodau lleol eraill wedi'i ddilyn yn llwyddiannus gyda mentrau newydd. Byddai'r cynigion yn helpu i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd, a oedd yn rhan annatod o Strategaeth Dad-garboneiddio'r Cyngor.

 

Gofynnodd Aelod am sicrwydd na fydd unrhyw arian cyhoeddus a ymrwymwyd i Brosiect Rhwydwaith Gwres Pen-y-bont ar Ogwr, na'r elw sy'n deillio ohono, yn mynd i goffrau cwmnïau elw mawr sy’n cefnogi'r prosiect, gan gynnwys Bwrdd y Cyfarwyddwyr.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Cymunedau na fyddai Bwrdd y Cyfarwyddwyr yn derbyn unrhyw becyn cydnabyddiaeth ac y byddai unrhyw bobl allanol i'w gwahodd i eistedd ar y Bwrdd ond yn derbyn costau teithio. Byddai unrhyw gyfalaf a wneir o'r prosiect yn cael ei fwydo yn ôl i'w ddatblygiad pellach, a/neu i ymrwymo i gynigion effeithlonrwydd ynni eraill, megis mynd i'r afael â thlodi tanwydd.

 

Teimlai Aelod nad oedd yr amser yn iawn i gyflwyno'r prosiect a’i fod yn ormod o ymrwymiad ariannol, mewn blwyddyn lle'r oedd pobl wedi dioddef yn ariannol ac o safbwynt iechyd meddwl oherwydd pandemig Covid-19. Gwaethygwyd hyn gan bobl yn colli eu swyddi ac yn wynebu tlodi.

 

Atgoffwyd yr Aelodau gan y Prif Swyddog Dros Dro – Cyllid, Perfformiad a Newid, o ran ymrwymo unrhyw elw yn ôl i Brosiect Rhwydwaith Gwres Tref Pen-y-bont ar Ogwr, bod Strategaeth Rheoli'r Trysorlys wedi'i chymeradwyo yn y Cyngor diwethaf. Ar y cyd â hyn, roedd wedi gwneud y pwynt yn y cyfarfod hwnnw y byddai benthyciad y Cyngor ar gyfer cynnyrch yn unig yn creu sefyllfa lle na fyddai'r Awdurdod wedyn yn gallu benthyca ar gyfer unrhyw Gynlluniau Cyfalaf yn y dyfodol. Felly, ail-bwysleisiodd y byddai unrhyw incwm sy'n deillio o'r prosiect yn cael ei fwydo'n ôl i mewn iddo, yn hytrach na mynd i goffrau unrhyw gwmnïau sy'n ei gefnogi.

 

Daeth yr Arweinydd â’r ddadl ar yr eitem i ben trwy gynghori'r Aelodau, er bod gan y Cyngor rai dewisiadau a hyblygrwydd o ran cynlluniau ei Raglen Gyfalaf, nad oedd dewis o ran ble i ymrwymo'r grant £1m gan Lywodraeth y DU ar gyfer y prosiect penodol hwn. Pe na bai'r Cyngor yn ymrwymo i Brosiect Rhwydwaith Gwres Tref Pen-y-bont ar Ogwr, ni ellid defnyddio'r cyllid ar gyfer unrhyw beth arall, byddai'n rhaid dychwelyd yr arian. Atgoffodd yr Aelodau fod argyfwng hinsawdd a bod yn rhaid mynd i'r afael ag ef, a’i fod yn cael effaith andwyol ar gymunedau yn Ne Cymru, megis y problemau cynyddol gyda llifogydd, a chyda hyn mewn golwg, yr oedd yn hanfodol mynd ar drywydd datrysiadau ar frys er mwyn lleddfu'r problemau hyn.       

 

Gan nad oedd rhai Aelodau o blaid argymhellion yr adroddiad, cytunwyd y dylid cynnal pleidlais electronig, fel a ganlyn:-

 

O blaid: (argymhellion yr adroddiad)

 

Y Cynghorwyr SE Baldwin, T Beedle, JP Blundell, NA Burnett, M Clarke, N Clarke, RJ Collins, HJ David, P Davies, PA Davies, DK Edwards, J Gebbie, RM Granville, CA Green, G Howells, RM James, B Jones, M Jones, M Kearn, DRW Lewis, JE Lewis, JR McCarthy, D Patel, JC Radcliffe, B Sedgebeer, RMI Shaw, CE Smith, SG Smith, G Thomas, R Thomas , T Thomas, KJ Watts, DBF White, PJ White, AJ Williams, EM Williams ac RE Young = 37 pleidlais

 

Yn erbyn:

 

Y Cynghorwyr S Aspey, A Pucella, A Williams a J Williams = 4 pleidlais

 

Ymatal:

 

Y Cynghorwyr T Giffard, KL Rowlands, S Vidal ac L Walters = 4 pleidlais

 

Felly, cafwyd,

 

PENDERFYNIAD:                              Fod y Cyngor wedi:

 

1.          Cymeradwyo cynnwys Prosiect Rhwydwaith Gwres Tref Pen-y-bont ar Ogwr o fewn y rhaglen gyfalaf gyda chyllideb o £3.4m.

 

2.          Cymeradwyo benthyciad pellach o £1.821m i'r Cyfrwng at Ddibenion Arbennig ar y telerau a nodir yn yr adroddiad, ac i roi awdurdod dirprwyedig i'r Prif Weithredwr i gytuno ar delerau terfynol y Cytundeb Benthyca a'u cymeradwyo, a threfnu i'r Cytundeb Benthyca gael ei weithredu ar ran y Cyngor, gyda phwerau o'r fath yn cael eu harfer mewn ymgynghoriad â'r Prif Swyddog - Cyfreithiol Adnoddau Dynol a Gwasanaethau Rheoleiddio a'r Prif Swyddog Dros Dro, Cyllid, Perfformiad a Newid.

 

Dogfennau ategol: