Cofnodion:
Cyflwynodd y Swyddog Monitro adroddiad, i hysbysu’r Cyngor o Adroddiad Blynyddol Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol mewn perthynas â lefel ac ystod y gydnabyddiaeth ariannol y mae'n rhaid i'r Awdurdod ei darparu i'w Aelodau etholedig ar gyfer blwyddyn y cyngor 2021/22.
Hwn oedd 13eg Adroddiad Blynyddol Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol (y Panel), a'r degfed a gyhoeddwyd o dan ofynion Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 (ynghlwm yn Atodiad 1 i'r adroddiad). Ymestynnodd y Mesur gyfrifoldebau'r Panel a'i bwerau o dan Adran 142 i benderfynu (rhagnodi) taliadau i aelodau awdurdodau perthnasol.
Cadarnhaodd y Swyddog Monitro fod cynrychiolwyr y Panel wedi cynnal cyfarfodydd ymgynghori ar eu cynigion, a fynychwyd gan Bennaeth Gwasanaethau Democrataidd yr Awdurdod. Roedd y Panel wedi cydnabod pob un o'r 39 ymateb i'r ymgynghoriad ar yr adroddiad drafft ac wedi ateb yr holl ymholiadau a godwyd mewn perthynas â hyn.
Dangoswyd Penderfyniadau'r Panel ar gyfer 2021/22 yn Atodiad 1 i'r Adroddiad Blynyddol (o dudalen 51 ymlaen).
Esboniodd mai’r Cyflog Sylfaenol yn 2021/22 ar gyfer aelodau etholedig prif gynghorau fydd £14,368 o 1 Ebrill 2021 (Penderfyniad 1). Telir y cyflog hwn gan bob prif awdurdod i bob un o'i aelodau etholedig oni bai bod unrhyw aelod unigol yn dewis yn bersonol ac yn ysgrifenedig i gael swm is. Mae addasiadau’r blynyddoedd diwethaf wedi cyd-fynd ag egwyddor y Panel y dylai ei benderfyniadau fod yn fforddiadwy ac yn dderbyniol. Cynhelir yr egwyddor hon yn y cynnydd o £150 yng nghyflog sylfaenol aelodau etholedig ar gyfer 2021/22.
Bydd y lefelau cyflog uwch yn 2021-22 ar gyfer aelodau prif gynghorau fel y nodir yn Nhabl 3, tudalen 14 yr Adroddiad Blynyddol (mae Atodiad 1 yn cyfeirio at hyn). Roedd y Panel o'r farn mai'r rolau arwain a gweithredol sydd â'r atebolrwydd unigol mwyaf a bod maint y boblogaeth yn parhau i fod yn ffactor o bwys wrth ddylanwadu ar lefelau cyfrifoldeb ac felly mae'r defnydd o'r grwpiau poblogaeth wedi'i gadw.
Mae Cyflog yr Arweinydd a'r Dirprwy Arweinydd wedi'i seilio ar boblogaeth y Fwrdeistref Sirol (100,000 i 200,000). Mae gan yr Arweinydd hawl i dderbyn £49,974 a'r Dirprwy Arweinydd £35,320. Bydd gan Aelodau'r Cabinet hawl i gael uwch gyflog o £30,773.
Pan fydd Cadeiryddion Pwyllgorau yn cael eu talu, telir cyflog o £23,161 iddynt. Dywedodd y Panel unwaith eto mai mater i awdurdodau unigol yw penderfynu pa Gadeiryddion sy'n cael eu talu. Yn ei Gyfarfod Blynyddol ym mis Mai 2020, penderfynodd y Cyngor y dylid talu Cadeiryddion am Bwyllgorau, fel y dangosir ym mharagraff 4.2.4 o'r adroddiad.
Roedd y Panel wedi penderfynu bod yn rhaid i'r Cyngor sicrhau bod uwch gyflog o £23,161 ar gael i arweinydd y gr?p gwrthblaid mwyaf.
O ran cyflogau Dinesig, mae Cynghorau wedi mynegi'n gryf wrth y Panel nad yw Aelodau Etholedig yn dymuno gwneud unrhyw ddewisiadau sy'n ei gwneud yn ofynnol i’r Cynghorau eu hunain ddewis a chyfateb lefel gweithgarwch neu ddyletswyddau aelod penodol i ystod benodol o lefelau cyflog ar gyfer rôl. Mae'r Panel wedi penderfynu (Penderfyniad 3) ei bod yn rhaid (pan fo'n cael ei dalu) talu cyflog o £23,161 i Bennaeth Dinesig (Maer) a (pan gaiff ei dalu) bod yn rhaid talu cyflog o £18,108 i Ddirprwy Bennaeth Dinesig (Dirprwy Faer) o 1 Ebrill 2021.
Rhoddodd gweddill yr adroddiad wybodaeth mewn perthynas â'r canlynol:-
PENDERFYNIAD: Bod y Cyngor wedi nodi Adroddiad Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol 2021 a chymeradwyo:
· mabwysiadu penderfyniadau perthnasol y Panel a gynhwysir yn ei Adroddiad Blynyddol (Atodiad 1 i'r adroddiad);
· y swyddi hynny (fel y dangosir yn Rhestr Gydnabyddiaeth Ariannol ddiwygiedig yr Aelodau yn Atodlen 1 i'r adroddiad), a fydd yn cael cyflog uwch/dinesig;
· lefel y gydnabyddiaeth i’r Cyflogau Uwch a Dinesig (lle bo hynny'n briodol);
· rhestr Ddiwygiedig yr Aelodau o Gydnabyddiaeth Ariannol yn Atodiad 2, ac iddo ddod i rym ar 1 Ebrill 2021;
· bod Atodlen Dâl yr Aelodau yn cael ei diweddaru gydag unrhyw newidiadau i swyddi Cyflogau Uwch/Dinesig a wnaed wedi hynny gan y Cyngor yn ystod blwyddyn y cyngor 2021-22.
· i’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd adolygu'r darpariaethau ar y cyfraniad tuag at Gostau Gofal a Chymorth Personol fel y nodir ym mharagraff 4.5 o'r adroddiad.
Dogfennau ategol: