Agenda item

Adolygiad o Strategaeth Dysgu a Datblygu Aelodau Etholedig a Rhaglen Sefydlu Aelodau Etholedig

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Gr?p Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd adroddiad, a'i bwrpas oedd:

 

  • adolygu Strategaeth Dysgu a Datblygu Aelodau Etholedig;

 

  • ystyried Fframweithiau Sefydlu a Datblygu drafft Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC).

 

Esboniodd fod y Cyngor wedi cymeradwyo’r Strategaeth ym mis Tachwedd 2017 ac ers y dyddiad hwnnw, roedd wedi darparu'r fframwaith ar gyfer darparu a chyflwyno prosesau Datblygu Aelodau ar gyfer Aelodau Etholedig o’u cyfnod sefydlu ac wedi hynny trwy gydol eu tymor yn y swydd.

 

Esboniodd y Rheolwr Gr?p Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd, gan fod y Strategaeth yn dod i ddiwedd ei hoes bresennol ac wrth baratoi ar gyfer Etholiadau Llywodraeth Leol 2022 ac ymsefydlu aelodau newydd eu hethol wedi hynny, cynhaliwyd adolygiad bwrdd gwaith o'r Strategaeth i sicrhau ei bod yn addas at y diben ac wedi'i diweddaru i adlewyrchu nifer o ffactorau a oedd wedi newid ers cymeradwyo'r Strategaeth wreiddiol. Rhannwyd y strategaeth arfaethedig yn 5 cam a nodwyd ym mharagraff 4.2 o'r adroddiad.

 

Gofynnodd Rheolwr y Gr?p Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd i'r Pwyllgor ystyried y Strategaeth sydd ynghlwm yn atodiad A a hefyd ystyried a oedd yn cwrdd â'r disgwyliadau a'r canlyniadau fel y nodir ym mharagraff 4.6 o'r adroddiad.

 

Esboniodd ymhellach, fod Fframwaith Sefydlu drafft WLGA sydd ynghlwm yn Atodiad 2 i'r adroddiad, yn amlinellu'r cwricwlwm ar gyfer sefydlu Aelodau yng Nghymru, yn arwain at ac yn dilyn yr etholiadau lleol yn 2022. Ni ddyluniwyd y fframwaith i fod yn rhagnodol ond yn hytrach i ddarparu arweiniad ar gyfer yr hyn y dylid ei ystyried wrth ddatblygu rhaglenni lleol. Datblygwyd y Fframwaith gan awdurdodau lleol yng Nghymru sy'n gweithio gyda'r CLlLC. Ychwanegodd bod Fframwaith Datblygu drafft CLlC yn Atodiad 3 i’r adroddiad a bod hwn yn amlinellu'r hyn a ddisgwylid gan Aelodau o ran gwybodaeth a'u hymddygiad. Mae rhagor o wybodaeth am y fframweithiau wedi'u cynnwys ym mharagraffau 4.9 a 4.10 o'r adroddiad.

 

Gofynnodd Aelod, ar ddiwrnod yr etholiad pan gyhoeddwyd y canlyniadau, ei fod yn brofiad dysgu. Gofynnodd a fyddai’n bosibl creu dogfen wybodaeth fer fel y byddai Aelodau etholedig yn gwybod pa ddogfennaeth yr oedd ei hangen arnynt, h.y. manylion cyswllt hanfodol a phecyn Sefydlu Aelodau ynghyd â gwybodaeth allweddol a defnyddiol arall, ac ati.

 

Dywedodd Rheolwr y Gr?p Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd fod pecyn sefydlu yn cael ei ddarparu i Aelodau sydd newydd eu hethol naill ai ar noson yr etholiadau yn y Cyfrif, neu cyn gynted â phosibl wedi hynny. Fodd bynnag, byddai'n edrych i weld pa wybodaeth a ddarparwyd, i weld a ellid gwella neu ychwanegu at hyn.

 

Esboniodd yr Aelod y gallai papur byr a oedd â gwybodaeth generig ynddo ar gyfer yr holl Aelodau hefyd gael ei ddarparu, er mwyn i Gynghorwyr gael syniad o'r hyn i'w ddisgwyl pan ddaethant yn Aelod CBSPAO, ac y byddai'n ddefnyddiol cyn derbyn y pecyn sefydlu, oherwydd ei bod weithiau yn cymryd nifer o ddyddiau i’w gasglu o'r Gwasanaethau Democrataidd yn achos rhai Aelodau, yn dibynnu ar yr amser yr oedd y Cyfrif wedi gorffen neu pryd y gallent ymweld â Swyddfeydd Dinesig i gasglu eu pecyn Sefydlu, yn dilyn dyddiad yr etholiad.

 

PENDERFYNWYD:                 Bod y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd:

 

  • wedi adolygu'r Strategaeth sydd ynghlwm fel Atodiad 1 a chymeradwyo ei chyflwyno i'r Cyngor i'w chymeradwyo;

 

  • wedi ystyried Fframweithiau Sefydlu a Datblygu drafft CLlLC sydd ynghlwm fel Atodiad 2 a 3 i'r adroddiad.

 

Dogfennau ategol: