Agenda item

Y wybodaeth ddiweddaraf am Sefydlu Fframwaith Maethu Cenedlaethol (NFF) a Gwaith Cyfredol mewn perthynas â Darpariaeth Gofal Maeth Mewnol

Cofnodion:

Croesawodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles y cyfle i drafod maethu yn y Pwyllgor Rhianta Corfforaethol a thynnodd sylw at y ffaith bod y gwasanaeth gofal maeth, ar gyfer Pen-y-bont ar Ogwr, yn rhan hanfodol o'r hyn a wnaeth y Cyngor i fod yn rhieni corfforaethol da. Bu eleni wedi yn flwyddyn eithriadol, yn enwedig i'r teuluoedd maeth a'r plant. Diolchodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles i ofalwyr maeth am bopeth yr oeddent wedi'i wneud drwy gydol y pandemig, gan eu cydnabod fel arwyr di-glod am y cyfnod hwnnw.

Ym Mhen-y-bont ar Ogwr, roedd y gwasanaeth maethu, dan arweiniad Rheolwr y Gr?p - Gwasanaethau Lleoliadau a Darparwyr, yn rhan o ddull system gyfan o ddarparu ar gyfer plant a phobl ifanc. Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles eu bod am barhau i ehangu’r gwasanaeth gofal maeth, o ran recriwtio yn ogystal ag o ran cadw staff, a nododd bod y ffigurau ynghylch recriwtio, sefydlogrwydd lleoliadau, a chadw gofalwyr maeth yn galonogol.

Cyflwynodd Rheolwr y Gr?p - Gwasanaethau Lleoliadau a Darparwyr adroddiad, a'i ddiben oedd rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor Rhianta Corfforaethol am hynt y gwaith a wnaed ar sefydlu Fframwaith Maethu Cenedlaethol yng Nghymru ynghyd â gwybodaeth wedi'i diweddaru am ddarpariaeth gwasanaeth Gofal Maeth Pen-y-bont ar Ogwr a'r adolygiad o wasanaethau maethu a datblygiadau a oedd ar y gweill. Cytunodd â'r sylwadau a wnaed gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles a diolchodd i'r gofalwyr maeth a'r tîm a oedd yn eu cefnogi mewn blwyddyn arbennig o anodd.

Eglurodd Rheolwr y Gr?p - Lleoliadau a Gwasanaethau Darparwyr fod yr adroddiad yn dilyn gwybodaeth a gyflwynwyd ynghynt i'r Pwyllgor Rhianta Corfforaethol gan Bennaeth y Gwasanaethau yn ôl yn 2018. Amlinellodd gam un, cam dau, a cham tri, pan benodwyd rheolwyr datblygu rhanbarthol ledled Cymru i ymgysylltu â'r ffrydiau gwaith cenedlaethol a chydlynu cynlluniau ar gyfer cyflawni yn eu hardaloedd. Amlinellodd Rheolwr y Gr?p - Lleoliadau a Gwasanaethau Darparwyr y sefyllfa bresennol a bod Pen-y-bont ar Ogwr, ers mis Ebrill 2019, yn rhan o Bartneriaeth/Bwrdd Iechyd Rhanbarthol Cwm Taf Morgannwg. Cynhaliwyd swydd Rheolwr Datblygu Rhanbarthol y rhanbarth hwn gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (RhCT). Er mwyn cefnogi'r gwaith o weithredu'r Fframwaith Maethu Cenedlaethol ar draws y rhanbarth, roedd gr?p strategol wedi'i sefydlu i ddarparu trosolwg a chraffu er mwyn monitro perfformiad ffrydiau gwaith y Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol ar lefel leol a rhanbarthol. Cefnogwyd y gr?p strategol gan gr?p gweithredol i gyflawni'r blaenoriaethau a nodwyd a chytunwyd ar Raglen Waith ranbarthol i gefnogi'r Fframwaith Maethu Cenedlaethol.

Roedd Rheolwr y Gr?p - Lleoliadau a Gwasanaethau Darparwyr yn falch o adrodd fod y Drws Ffrynt Rhanbarthol yn fyw ers 1 Ebrill  ac roeddent eisoes wedi bod yn derbyn galwadau ffôn ar ran Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr gydag ymholiadau gan bobl a oedd am fod yn ofalwyr maeth a chafwyd ymweliad cyntaf â darpar ofalwr maeth newydd. Y maes gwaith nesaf oedd datblygu 'Cynnig Awdurdod Lleol' rhanbarthol ac roedd pob un o'r tri ALl wedi cwblhau'r templed cynnig craidd cenedlaethol a gynlluniwyd gan y Rheolwr Datblygu Rhanbarthol, a oedd wedi casglu ac amlygu’r cysondeb/gwahaniaethau ar draws y rhanbarth. Roedd gwaith wedi'i wneud i ddatblygu polisi Adnoddau Dynol newydd ar gyfer pob ALl gyda'r bwriad o'u sefydlu fel "Sefydliadau sy'n Ystyriol o Faethu".

Eglurodd Rheolwr y Gr?p - Lleoliadau a Gwasanaethau Darparwyr fod ffioedd a lwfansau yn faes allweddol i gysoni taliadau ar gyfer pob gofalwr maeth. Roedd pob un o'r tri ALl wedi cysylltu â'r gweithgor cenedlaethol ar gyfer y maes datblygu hwn ac roeddent yn y camau cynnar o ystyried opsiynau a fyddai'n cefnogi dull rhanbarthol o dalu gofalwyr.

Daeth Rheolwr y Gr?p - Lleoliadau a Gwasanaethau Darparwyr i'r casgliad drwy ddweud bod y cydweithio ar draws y rhanbarth yn gadarnhaol iawn o ran cyfarfodydd chwarterol, o ran cael cynrychiolaeth o bob ALl mewn grwpiau gorchwyl a gorffen rhanbarthol, o ran y gr?p strategol rhanbarthol, ac o ran lansiad cyfarfodydd gr?p gweithredol bob deufis.

Eglurodd Rheolwr y Gr?p - Lleoliadau a Gwasanaethau Darparwyr y cynigiwyd yn 2018 y byddai 6 Gofalwr Maeth Trosiannol yn cael eu recriwtio a fyddai'n bont i bobl ifanc sy'n dod allan o'r unedau preswyl cyn cael eu rhoi mewn lleoliad teuluol neu leoliad annibynnol hirdymor. Dim ond 3 Gofalwr Maeth Trosiannol a lwyddodd y cynllun ei recriwtio, a chymeradwywyd hwy ddechrau 2019, ond cafodd hyn effaith ar lwyddiant cyffredinol. Ym mis Ionawr 2021 cynhaliwyd adolygiad o'r cynllun hwn, gydag un o'r gofalwyr maeth trosiannol blaenorol yn ganolog i'r trafodaethau/penderfyniadau ac yn eu llywio, ac roeddent ar hyn o bryd yn ceisio recriwtio 5 gofalwr ychwanegol.

Cyfeiriodd y Dirprwy Arweinydd at y 6 gofalwr maeth trosiannol a gofynnodd beth fyddai'n cael ei wneud yn wahanol y tro hwn a pha mor hyderus oedd y tîm y byddai'r swyddi'n cael eu llenwi. Dywedodd Rheolwr y Gr?p - Gwasanaethau Lleoliadau a Darparwyr y byddai polisi clir ar waith i gefnogi gwaith y gofalwyr maeth trosiannol, fel y gallent ddeall beth i'w ddisgwyl gan y gwasanaeth o ran y cymorth fyddai ar gael a sut y byddai'n cael ei ddarparu. O adborth a gafwyd yn flaenorol, gwelwyd bod gofalwyr maeth a ddaeth i mewn i'r rôl yn gorfod gwneud rôl ychydig yn wahanol i’r hyn a ddywedwyd wrthynt ee, y gofalwr yn credu mai dim ond dros gyfnodau rhagarweiniol hir y byddai ganddynt blentyn, ac y byddent wedi dod i adnabod y plentyn yn gyntaf, ond y gofynnwyd iddynt ofalu am blant ar fyr rybudd ac mewn argyfyngau. Doedd rhywfaint o'r gefnogaeth ddim ar gael iddynt, fel cyfnodau seibiant.

Diolchodd y Dirprwy Arweinydd i Reolwr y Gr?p - Lleoliadau a Gwasanaethau Darparwyr am ei ateb cynhwysfawr a gofynnodd sut y gellid rhoi cymorth heb dîm llawn. Holodd beth oedd yn cael ei wneud i ddenu gofalwyr cymdeithasol i'r gwasanaeth, a oedd taliadau'n gystadleuol gydag awdurdodau cyfagos, a beth oedd y gwahaniaethau rhwng y gwasanaeth mewnol a'r sector annibynnol?

Atebodd Rheolwr y Gr?p - Lleoliadau a Gwasanaethau Darparwyr fod cael tîm llawn o ofalwyr maeth trosiannol yn arwyddocaol, yn ogystal â chael tîm staff llawn. Ers mis Tachwedd 2019 roedd ganddynt gyllid ar gyfer pedwar gweithiwr ailuno fel rhan o'r gefnogaeth, rhywbeth a oedd yn ychwanegol at yr hyn oedd yno o'r blaen. O ran gofalwyr maeth, ni fyddai'r arian a delir i'r gofalwyr maeth yr un fath ag asiantaeth faethu annibynnol. Fodd bynnag, roedd cymorth i ymgymryd â'r rôl yn chwarae rhan sylweddol wrth ddenu gofalwyr maeth ac roedd yn bwysig sicrhau bod y gofalwr maeth yn teimlo fel rhan o dîm proffesiynol.

Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles fod cael seibiant rheolaidd o ofalu maeth, o ystyried dwyster y gwaith, yn bwysig. Nid oedd hwn yn wasanaeth annibynnol ac roedd yn rhan o'r ailfodelu cyffredinol a oedd yn gysylltiedig â'r hyn a wnaed drwy Maple Tree a'r gweithlu yno. Roedd dadansoddwr ymddygiadol wedi'i recriwtio ac roedd wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol o ran y cymorth ymarferol ar sut i ddelio â sefyllfaoedd. Byddai'r holl bethau hyn yn hanfodol er mwyn sicrhau ei fod yn deg yn ariannol i ofalwyr maeth.

Gwnaeth y Rheolwr Tîm - Gwasanaethau Lleoli gyflwyniad sef, "Diweddariad Gofal Maeth Pen-y-bont ar Ogwr". Yn y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2020, eglurodd y cafwyd 142 o ymholiadau cychwynnol, cynhaliwyd 40 o ymweliadau cychwynnol, dechreuon nhw 21 o asesiadau maethu a chymeradwyo 8 gofalwr maeth. Cyflawnwyd cyfradd trosi o 5.6% yn CBSP, o'i gymharu â 2.6% ar gyfer RhCT a 6.5% ar gyfer Merthyr. Yn 2021 roedd cyfyngiadau ar symud oherwydd y pandemig ac addasodd y tîm sut roedden nhw'n gweithio gyda gofalwyr fel rhan o'u proses asesu, gan gynnal asesiadau rhithwir a thrwy ddefnyddio ffonau clyfar a thechnoleg. Ni chymeradwywyd asesiad mewn apêl heb o leiaf un asesiad wyneb yn wyneb.

Amlinellodd y Rheolwr Tîm – Gwasanaethau Lleoli y newidiadau i hyfforddiant cyn cymeradwyo, sy’n gyfle eithriadol o bwysig i sicrhau bod y gofalwyr maeth yn ymwybodol o'r heriau a'r materion y gallent orfod ymdrin â hwy a'r boddhad mawr a geir o faethu. Rhoddodd amlinelliad o Bythefnos Gofal Maethu, sef ymgyrch genedlaethol flynyddol y Rhwydwaith Maethu i godi proffil maethu dros gyfnod o bythefnos, a chwaraeodd fideo o wraig ifanc a oedd yn derbyn gofal yn flaenorol ac a oedd yn dal i fyw gyda'r un gofalwr maeth o dan drefniant 'pan fydda i'n barod'. 

Cyflwynodd y Rheolwr Tîm – Gwasanaethau Lleoli y canfyddiadau ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2021, pan gafwyd 104 o ymholiadau cychwynnol, cynhaliwyd 43 o ymweliadau cychwynnol, dechreuwyd 27 o Asesiadau Maethu, a chymeradwywyd 16 o ofalwyr maeth. Roedd hyn yn gynnydd o 100% mewn cymeradwyaethau a chyfradd trosi uwch o 15.3%.

Rhoddodd y Rheolwr Tîm – Gwasanaethau Lleoli fanylion am yr asesiadau Personau Cysylltiedig, gyda 53 ohonynt eisoes wedi dechrau. Ychwanegodd eu bod, wrth edrych i'r dyfodol, wedi dysgu gwerth straeon personol a'u bod yn gweithio i nodi gofalwyr a phobl ifanc i fod yn rhan o ymgyrchoedd recriwtio. Byddent yn parhau i ddefnyddio'r cyfryngau cymdeithasol yn helaeth o fewn gweithgarwch ymgyrchu. Byddai ymgyrch Genedlaethol Maethu Cymru yn hyrwyddo manteision gofal maeth awdurdodau lleol i'w galluogi i adeiladu ar y sylfaen hon, a byddai dull rhanbarthol o recriwtio yn eu galluogi i rannu arfer gorau a gwneud rhagor o welliannau i sgrinio yn ystod y cam ymweld cychwynnol.

Diolchodd y Cadeirydd i'r Rheolwr Tîm – Gwasanaethau Lleoli a Rheolwr y Gr?p – Lleoliadau a Gwasanaethau Darparwyr. Diolchodd hefyd i'r gofalwyr maeth a phawb a oedd yn ymwneud â'r timau maeth.

Canmolodd yr Aelod y gwaith gwych roedd y gofalwyr maeth yn ei wneud. Teimlai fod y ffilm yn deimladwy iawn, ac yn dangos ymdeimlad o berthyn, a diolchodd i'r Rheolwr Tîm - y Gwasanaethau Lleoli a'r tîm am yr holl waith yr oeddent yn ei wneud.

Diolchodd y Prif Weithredwr i'r Rheolwr Tîm – Gwasanaethau Lleoli am y cyflwyniad pwerus. Gwnaeth ymgysylltiad a llwyddiant y storïau a’r cyfryngau cymdeithasol argraff arno, ac roedd ganddo ddiddordeb mewn gwybod beth allai'r Cyngor ei wneud ar draws ei holl adnoddau a staff i helpu i adeiladu ar y llwyddiant yr oeddent eisoes wedi'i gael.

Dywedodd y Rheolwr Tîm – Gwasanaethau Lleoli y byddai'n ddefnyddiol pe gallai pobl rannu eu negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol a sicrhau bod y lleoliadau'n cael eu gosod i'r cyhoedd. Byddai hefyd yn hapus i fynd i amgylcheddau gwahanol a chyflwyno cyflwyniadau am faethu. Roedd wedi rhoi cyflwyniad yng Ngharchar y Parc ac yn sgil hynny daeth rhywun i’r fei a gafodd ei asesu a'i gymeradwyo i fod yn ofalwr maeth.

Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles, wrth adnewyddu'r Strategaeth Rhianta Corfforaethol, y dylid ystyried sut y gallai'r cyngor cyfan gyfrannu a pha bethau fyddai'n gwneud gwahaniaeth i ofalwyr maeth.

Cydnabu Rheolwr y Gr?p – Lleoliadau a Gwasanaethau Darparwyr fod y Tîm Cyfathrebu wedi gwneud gwaith gwych i gefnogi'r tîm ac y byddai eu cefnogaeth barhaus yn cael ei werthfawrogi.  Heriodd aelodau i adnabod unigolion a'u rhoi ar ben ffordd, gan eu hannog i fod yn ofalwr maeth ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Gofynnodd y Cadeirydd am fwy o hyfforddiant i Gynghorwyr i’w helpu i recriwtio o fewn eu hamgylcheddau, a’r hyn y dylent gadw llygad amdano a’r wybodaeth y gallent ei rhannu ag unigolion.

Llongyfarchodd yr Arweinydd y tîm ar eu perfformiad, a wnaed tra'n cynnal safonau uchel ac o leiaf un ymweliad â chartref. Gofynnodd yr Arweinydd a oedd unrhyw ffigurau ar ailuno a sefydlogrwydd y gallent eu defnyddio fel meincnod yn erbyn awdurdodau eraill. Gofynnodd a oedd ganddynt gysylltiadau ag eglwysi lleol a phobl â meddylfryd cadarnhaol a allai ddarparu cartrefi gofalgar a sefydlog i blant. Gofynnodd hefyd a oedd cefnogaeth i frodyr a chwiorydd a phlant biolegol gofalwyr maeth. Roeddent yn rhan bwysig o amgylchedd y teulu ac roedd rhai lleoliadau wedi chwalu oherwydd nad oedd y berthynas gyda phlant biolegol yn gweithio.

Cadarnhaodd y Rheolwr Tîm – Gwasanaethau Lleoli ei bod wedi cwrdd â thri offeiriad yn yr ardal a oedd yn frwdfrydig ac yn gefnogol iawn ac yn hapus i weithio gyda nhw yn y dyfodol. Efallai y bydd ganddynt sianeli cyfryngau cymdeithasol hefyd y gellid eu harchwilio. O ran plant biolegol gofalwyr maeth, roedd gwaith rhagorol wedi'i wneud yn yr ardal honno ac roedd gweithiwr cymdeithasol penodedig yn y swydd a oedd wedi trefnu gweithgareddau/teithiau amrywiol gyda hwy, a rhan o'r cynllun gweithredu oedd ail-ddechrau'r gweithgareddau hyn pan fydd hynny’n ddiogel. Cadarnhaodd fod yr adborth gan blant gofalwyr wedi bod yn dda iawn a'u bod yn rhannu'r un gwerthoedd â'u rhieni a’u bod yn ymroddedig i'r amgylchedd maethu. Yr adborth arall a gafwyd yn gyson oedd y gefnogaeth a roddwyd gan y gweithwyr cymdeithasol sy’n goruchwylio, lle trafodwyd yr aelwyd ac nid gofalwyr neu blant yn unig. Roedd ymestyn y ddarpariaeth hyfforddiant i ar-lein wedi galluogi plant gofalwyr maeth i fanteisio ar yr hyfforddiant hwnnw hefyd ac i ehangu eu dealltwriaeth.

O ran y partneriaid rhanbarthol a pherfformiad o ran ailuno a sefydlogrwydd lleoliadau, dywedodd y byddai angen iddynt edrych ar Ffurflenni'r Fframwaith Maethu Cenedlaethol am dystiolaeth. Yr oedd yn rhywbeth y gellid edrych arno ac y mae wir yn cyd-fynd â’r dull rhanbarthol, â rhannu arferion, ac â cheisio gwella pethau fel rhanbarth a thargedu ardaloedd.

Gofynnodd yr Aelod Cabinet dros Les a Chenedlaethau'r Dyfodol pa ran oed gan lais y plentyn sy'n derbyn gofal yn yr ailstrwythuro, a sut y byddai profiad y plentyn yn llywio'r gwasanaeth wrth symud ymlaen. Hefyd mewn perthynas â thai, roeddent wedi nodi rhai nodweddion penodol, megis statws perthynas, fel rhwystr posibl i faethu a gofynnodd a oedd tai wedi'u nodi fel rhwystr posibl, ac a ellid gwneud rhywbeth gyda phartneriaid tai i helpu i’w oresgyn. 

Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles fod swydd Swyddog Rhianta Corfforaethol yn cael ei chreu i sicrhau bod lleisiau’r plant a phobl ifanc yn cael eu clywed, ac y byddai gan y swydd honno rôl benodol o ran ymgysylltu a chyfranogi â’r holl blant sy'n derbyn gofal yn ogystal â’r rhai sy'n gadael gofal. Byddent yn gweithio ar draws partneriaethau a gwahanol adrannau a chyda'r trydydd sector, gyda LCCs, a chydag Iechyd, ac adlewyrchwyd hyn yn eu gwaith rhianta corfforaethol.

Cytunodd y Rheolwr Tîm – Gwasanaethau Lleoli fod tai wedi bod yn her, yn enwedig wrth gael mynediad at berson cysylltiol fel rhan o achos llys. Nid oedd yn briodol peidio â lleoli plentyn gyda rhywun a oedd â'r gallu i ddarparu cartref parhaol i blentyn pan mai'r unig fater oedd mynediad i dai. Cai’r mater ei drafod fesul achos, ac roedd yr holl asiantaethau tai yn gefnogol o ran trosi ystafelloedd ac ati.

Ychwanegodd y Cadeirydd fod hwn yn gadarnhaol iawn a chytunodd y gallai tai fod yn rhwystr i'r rhai a oedd am faethu ac y byddai'n ddefnyddiol sefydlu system gymorth.

PENDERFYNIAD:            Nododd Rhianta Corfforaethol Pwyllgor y Cabinet y wybodaeth ddiweddaraf yn yr adroddiad a chefnogodd ddatblygiad pellach gwasanaeth Gofal Maeth Pen-y-bont ar Ogwr fel y nodir yn yr adroddiad.

Dogfennau ategol: