Agenda item

Gwarchodfeydd Natur Lleol Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Cymunedau, a'i ddiben oedd ceisio cymeradwyaeth i ddatgan bod Parc Bedford yn Warchodfa Natur Leol ac i ymestyn ffin Gwarchodfa Natur Leol bresennol Frog Pond i gynnwys yr ardal a elwir Village Farm Meadow.  Roedd yr adroddiad hefyd yn gofyn am gymeradwyaeth ar gyfer dulliau rheoli ac adnoddau ar gyfer y ddau safle yn y dyfodol. 

 

Er gwybodaeth gefndirol, dywedodd fod Gwarchodfeydd Natur Lleol yn bodoli i ddiogelu cynefinoedd a rhywogaethau a darparu cyfleoedd i gynyddu ymwybyddiaeth o'r amgylchedd naturiol mewn cymunedau.  Caiff Gwarchodfeydd Natur Lleol eu sefydlu a'u rheoli gan awdurdodau lleol, yn dilyn ymgynghoriad â Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) o dan Ddeddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad 1949. Er mwyn i safle ddod yn Warchodfa Natur Leol, rhaid iddo fod â nodweddion naturiol o ddiddordeb arbennig i'r ardal leol, a rhaid i'r awdurdod naill ai fod â buddiant cyfreithiol yn y tir neu fod â chytundeb gyda'r perchennog i reoli'r tir fel gwarchodfa. Yng Nghymru mae Gwarchodfeydd Natur Lleol wedi'u dynodi dros nifer o flynyddoedd, o 1970 hyd heddiw, ac maent yn parhau.

 

Ar hyn o bryd mae pum Gwarchodfa Natur Leol ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Mae Gwarchodfa Natur Leol Cynffig hefyd yn Warchodfa Natur Genedlaethol nad yw bellach yn cael ei rheoli gan CBSP.  Mae'r ardaloedd hyn yn cael eu dosbarthu fel Gwarchodfeydd Natur Lleol oherwydd y rhywogaethau a'r cynefinoedd penodol sy'n bodoli ynddynt. Y gwarchodfeydd yw:

 

           Comin Locks, Porthcawl

           Craig y Parcau, Pen-y-bont ar Ogwr

           Frog Pond Wood, y Pîl

           Coed Tremains, Bracla

           Gwarchodfa Natur Cynffig, Cynffig

 

Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Cymunedau, fod dynodi Parc Bedford yn Warchodfa Natur Leol ac ymestyn Gwarchodfa Natur Leol Frog Pond Wood i gynnwys Village Farm Meadow, yn rhywbeth yr oedd gan CBSP y p?er i'w wneud ac wedi’i alinio â pholisïau cenedlaethol a lleol.

 

Esboniodd fod Parc Bedford a Village Farm Meadow yn Safleoedd o Bwysigrwydd ar gyfer Cadwraeth Natur (SINC) o dan ddarpariaethau Polisi ENV4 Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) 2013-2022 a fabwysiadwyd gan Ben-y-bont ar Ogwr. Y sail ar gyfer y dynodiadau hyn yw bod gan y ddau safle gynefinoedd a rhywogaethau o arwyddocâd lleol, rhanbarthol a chenedlaethol y mae angen eu diogelu o dan y System Cynllunio Gwlad a Thref.

 

At hynny, roedd y CDLl yn cynnwys Polisi ENV5, sy'n hyrwyddo'r cysyniad o ddull Seilwaith Gwyrdd. Ystyriwyd bod Seilwaith Gwyrdd yn rhwydwaith wedi'i gynllunio a'i gyflenwi'n strategol o fannau gwyrdd (tir) a glas (d?r) naturiol a rhai a wnaed gan ddyn sy'n cynnal prosesau naturiol.  Fe'i cynlluniwyd a'i reoli fel adnodd amlswyddogaethol sy'n gallu sicrhau ystod eang o fanteision amgylcheddol ac ansawdd bywyd i gymdeithas.  CBSP oedd y cyngor cyntaf yng Nghymru i ymgorffori polisi o'r fath yn ei CDLl, ychwanegodd.

 

Cadarnhaodd yr Aelod Cabinet – Addysg ac Adfywio ei fod yn hapus i gefnogi argymhellion yr adroddiad a theimlai fod hon yn fenter ragorol ac y byddai cost y cynigion, mewn gwirionedd, yn fuddsoddiad y gallai'r cyhoedd ei fwynhau am byth.

 

Teimlai'r Aelod Cabinet – Lles a Chenedlaethau'r Dyfodol fod diogelu'r ardaloedd hyn yn cydymffurfio â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol ac, o ganlyniad i hyn, byddai bwriadau'r adroddiad yn gwasanaethu'r cyhoedd yn dda o ran ymweld â'r ardaloedd hyn at ddibenion eu mwynhau yn y dyfodol. Gofynnodd a ellid rhoi eglurhad pellach, o ran rheoli'r ardaloedd, h.y. beth fyddai hyn yn ei olygu.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Cymunedau, fod hyn yn golygu staff yn gofalu am yr ardaloedd ac yn eu cynnal a'u cadw ac i ofalu am elfennau ecoleg y bywyd gwyllt a fyddai'n dod o hyd i'w cynefin yno. Roedd y rhain yn cynnwys cynnal ardal ar gyfer ystlumod, darparu blychau ystlumod a sicrhau bod amodau ar waith i bathewod ffynnu yno hefyd. Byddai byrddau gwybodaeth hefyd yn cael eu rhoi yn y lleoliad, er mwyn rhoi gwybod i'r cyhoedd am y bywyd gwyllt a fydd yn gwneud yr ardaloedd hyn yn gartref iddynt.

 

Ychwanegodd yr Arweinydd y byddai'r cynigion uchod yn sicrhau y byddai'r ardaloedd dan sylw yn dod yn lleoliadau bioamrywiaeth allweddol, y gallai trigolion cyfagos eu mwynhau, gan fod y rhain hefyd yn agos at laswelltiroedd Cefn Cribwr, Gwarchodfa Natur Parc Slip a hen safle Glo Brig, a oedd yn feysydd eraill o ddiddordeb a/neu safleoedd gwarchodedig.

 

Gofynnodd yr Arweinydd i Warchodfa Natur Leol Parc Bedford gael ei henwi i adlewyrchu hunaniaeth a hanes yr ardal a'r defnydd o'r Gymraeg drwy ymgorffori Waun Cimla yn enw'r warchodfa natur leol newydd. Nodwyd mai Waun Cimla oedd yr ardal a'r enw a ddefnyddid mewn mapiau a dogfennau eraill.

 

Daeth yr Aelod Cabinet – Cymunedau â’r ddadl i ben ar yr eitem hon, drwy ddweud ei fod yn cael ei annog i weld yr awdurdod lleol yn cadw'r ecoleg mewn rhannau o'r Fwrdeistref

Sirol, fel y rhain a enghreifftiwyd yn yr adroddiad a rhai fel Parc Bedford a'i Waith Haearn.

 

PENDERFYNWYD:                          Bod y Cabinet wedi:-

 

  • Datgan yn ffurfiol bod Parc Bedford yn Warchodfa Natur Leol newydd a bod ffin Gwarchodfa Natur Leol Frog Pond Wood yn cael ei hymestyn i gynnwys Village Farm Meadow;

 

  • Awdurdodi’r Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau, mewn ymgynghoriad â'r Prif Swyddog - Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Rheoleiddiol, i sefydlu cynllun rheoli newydd ar gyfer Parc Bedford a chynllun rheoli diwygiedig ar gyfer Frog Pond Wood yn unol â'r dull a amlinellir yn adran 4 o'r adroddiad, gyda'r adnoddau a amlinellir yn adran 8. 

 

Dogfennau ategol: