Agenda item

Rhaglen Moderneiddio Ysgolion: Canlyniad yr Ymgynghoriad ar Gynnig Moderneiddio Ysgolion Gorllewin Pen-y-bont ar Ogwr

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Addysg a Chymorth i Deuluoedd, yn rhoi gwybod i'r Cabinet am ganlyniad yr ymgynghoriad ar gynnig moderneiddio ysgolion Gorllewin Pen-y-bont ar Ogwr, canfyddiadau'r ymgynghoriad ac yn ceisio cymeradwyaeth i symud ymlaen i gyhoeddi hysbysiad cyhoeddus fel y'i rhagnodwyd yn y Cod Trefniadaeth Ysgolion. Ychwanegodd fod Rheolwr y Rhaglen Ysgolion hefyd yn bresennol yn y cyfarfod, i ateb unrhyw gwestiynau manwl yngl?n â'r cynigion.

 

Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Addysg a Chymorth i Deuluoedd y cefndir a bod y Cabinet, yn ei gyfarfod ar 21 Ionawr 2020, wedi rhoi cymeradwyaeth i ddatblygu cynlluniau Gorllewin Pen-y-bont ar Ogwr drwy drefniadau ariannu'r Model Buddsoddi Cydfuddiannol (MIM). Y ffordd orau ar gyfer cynllun Gorllewin Pen-y-bont ar Ogwr oedd yr opsiynau addysg a ffefrir o ddarparu ysgol cyfrwng Saesneg newydd â dau ddosbarth mynediad ar safle sy’n addas ar gyfer Ysgolion Cynradd Afon y Felin a Chorneli gyda’i gilydd a darparu ysgol cyfrwng Cymraeg newydd â dau ddosbarth mynediad ar safle sy’n addas ar gyfer Ysgol Y Ferch O’r Sgêr wedi’i hehangu. Esboniodd fod y safleoedd a ffefrir ar gyfer yr ysgolion newydd yn cael eu pennu gan y Cabinet gan fod Cymoedd i'r Arfordir (V2C) yn berchen ar safle Ystâd Marlas a safle presennol Ysgol Y Ferch O'r Sg?r/ Canolfan Blant Integredig Corneli/Ysgol Gynradd Corneli. Yn ei gyfarfod ar 19 Ionawr 2021 rhoddodd y Cabinet ganiatâd i ymgynghori'n ffurfiol ar gynnig Gorllewin Pen-y-bont ar Ogwr. Amlinellodd yr adroddiad hwn yr ymatebion i'r ymgynghoriad ac roedd yn ceisio cymeradwyaeth i barhau â'r cynnydd i'r cam nesaf.

 

Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Addysg a Chymorth i Deuluoedd fod ymarferion ymgynghori wedi'u cynnal rhwng 25 Ionawr 2021 a 7 Mawrth 2021 yn unol â'r Cod Trefniadaeth Ysgolion statudol. Roedd y ddogfen ymgynghori yn gwahodd sylwadau a safbwyntiau i'w cyflwyno mewn perthynas â'r cynnig. Darparwyd crynodeb o'r materion a godwyd gan ymgyngoreion ac ymatebion yr awdurdod lleol yn yr adroddiad ymgynghori fel y nodir yn Atodiad A i'r adroddiad. Amlinellodd gamau nesaf y broses a chyfeiriodd at yr amserlen gan roi syniad o'r amserlenni tebygol dan sylw. 

 

Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Addysg a Chymorth i Deuluoedd, oblygiadau ariannol y cynigion a gofynnodd i'r Cabinet ystyried yr argymhellion fel y'u rhestrir yn yr adroddiad.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet - Addysg ac Adfywio, fod hon yn eitem gadarnhaol iawn ac yn newyddion cyffrous iawn i gymuned gogledd Corneli lle byddent yn derbyn dwy ysgol 21ain ganrif newydd. Menter gydweithredol oedd hon gyda'r gymdeithas dai, V2C. Roeddent wedi cael cyfarfodydd gyda hwy a'r aelodau lleol a bu’r rhain yn gyfarfodydd cadarnhaol iawn. Byddai'r cynllun yn cynnwys cyfnewid tir a oedd yn ffordd arloesol iawn o fynd ati i wneud hyn. Byddent hefyd yn sicrhau bod cymaint o barhad â phosibl yn ogystal â newid. Ni fyddai'n rhaid i unrhyw blentyn nac athro symud safle nes bod y cyfleusterau newydd yn barod a bod hynny wedi'i gynnwys yn y dilyniannu. Pwysleisiodd nad menter gwneud arian na thorri costau oedd hon. Rhaglen foderneiddio oedd hon gyda chyllid gan Lywodraeth Cymru a CBSP a buddsoddiad yn nyfodol Corneli, cymuned sy'n tyfu'n gyflym. Cyfeiriodd yr Aelod Cabinet - Addysg ac Adfywio, at hanes ysgolion yn ardal Corneli a newidiadau dros y blynyddoedd a'i empathi ei hun â'r ardal lle'r oedd yn byw pan briododd gyntaf.        

 

Ymatebodd yr Aelod Cabinet - Addysg ac Adfywio i rai amheuon a godwyd yn yr ymgynghoriad ynghylch uno Afon y Felin ag ysgol fwy. Roedd am dawelu meddyliau pobl nad oedd bod mewn ysgol fwy yn golygu y byddai plentyn yn cael ei golli, nac y byddai ethos yr ysgol fach yn cael ei golli. Roedd cyfyngiadau ar faint dosbarthiadau ysgol a byddent yn gweithio'n galed i sicrhau bod ethos ysgol bentref yn parhau mewn ysgol fwy. Awgrymodd, pan fyddai amodau'n caniatáu iddynt fynd â rhieni a llywodraethwyr ac athrawon i weld sefyllfaoedd tebyg ym Mhencoed a Brynmenyn lle'r oedd ysgol bentref wedi cael ei disodli gan ysgol 21ain ganrif newydd. O gael dewis, ni fyddai neb yno am fynd yn ôl.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet - Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar fod hyn yn gadarnhaol iawn a bwriad y Cabinet oedd i bob plentyn gael y profiad addysg gorau a'u bod yn darparu cyfleusterau dysgu o safon a phrofiadau sy'n ystyriol o'r gymuned. Gofynnodd pa adborth yr oeddent wedi'i gael gan lywodraethwyr ysgol yngl?n â'r broses. Atebodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Addysg a Chymorth i Deuluoedd fod gan CBSP lywodraethwyr ysgol rhagorol ar draws yr holl ysgolion ac, fel y soniwyd eisoes, anfonwyd dolen i'r ddogfen ymgynghori at yr holl randdeiliaid. Yn ogystal, cafwyd cyfarfod rhithwir gyda llywodraethwyr ac roedd canlyniad y cyfarfod yn yr adroddiad. At ei gilydd, roedd yr adborth yn gadarnhaol. Roedd ganddynt amrywiaeth o gwestiynau yn edrych ar staffio ac fe'u cynghorwyd bod hyn yn rhywbeth y byddent yn gweithio drwyddo. Roeddent yn mwynhau perthynas ragorol â llywodraethwyr yr ysgolion hyn a byddent yn parhau i weithio gyda nhw wrth i'r cynnig fynd rhagddo.

 

Roedd yr Arweinydd yn falch o weld bod cefnogaeth eang gan lywodraethwyr ar y cyfan. Yn ddealladwy, roedd cwestiynau ac ni fyddai rhai o'r manylion ar gael yn y cyfnod cynnar hwn. Rhan o ddiben yr ymgynghoriad oedd llunio'r cynigion wrth iddynt fynd rhagddynt a byddent yn parhau i weithio'n agos gyda'r tri chorff llywodraethu i'r perwyl hwn. 

 

Croesawodd yr Aelod Cabinet - Lles a Chenedlaethau'r Dyfodol yr adroddiad a chytunodd y dylent symud i'r cam nesaf i ymgynghori â'r cyhoedd. Gofynnodd beth a ddysgwyd o uno CCYD y gellid ei gyflwyno i'r prosiect hwn. O ran yr ymgynghoriad, gofynnodd am ddarparu ar gyfer plant ag anghenion dysgu ychwanegol, oherwydd ei bod wedi darllen gyda diddordeb yr adborth gan y disgyblion a llais y dysgwr. Dylai'r plant hynny nad ydynt yn gallu ymgysylltu â'r brif ffrwd hefyd gael cyfle i roi sylwadau ar y newidiadau. Yn rhywfaint o'r adborth roedd pryderon ynghylch colli cyfleusterau cymunedol a gofynnodd sut yr ymdrinnid â hyn yn ystod y gwaith adeiladu ac wedi hynny. Cyfeiriodd yr Aelod Cabinet hefyd at yr amserlen a gofynnodd beth fyddai'n digwydd rhwng 9 Mehefin 2021 ac 1 Medi 2023.    

 

Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Addysg a Chymorth i Deuluoedd, o ran gwersi dysgu o adeiladau blaenorol, gyda'r ysgolion Band A eu bod yn cynnull gr?p o'r holl benaethiaid a gyfarfu'n fisol. Mynychodd y cyfarfodydd hynny hefyd a lluniodd restr o elfennau allweddol a gafodd eu trosglwyddo wedyn i'r tîm Moderneiddio Ysgolion. Byddai Penaethiaid y cynlluniau newydd mewn cysylltiad â'r gr?p o'r cynllun blaenorol a byddai’n cael ei arwain ac yn rhannu profiadau. O ran y dysgwyr ag Anghenion Dysgu Ychwanegol, roeddent yn cydnabod bod angen iddynt ymgynghori â phob dysgwr. O ddechrau'r broses, roeddent wedi anfon dolen at yr holl rieni a gofalwyr felly roeddent yn ymwybodol o'r hyn a oedd yn digwydd ac roeddent hefyd wedi cyfarfod â'r Cynghorau Ysgol a chynrychiolwyr o'r ysgolion. Pe bai'r cynigion yn cael eu datblygu yna, fel gyda phob adeilad newydd, pan gyrhaeddon nhw'r cam dylunio byddent yn gweithio gyda phob disgybl i sicrhau bod eu hadborth yn rhan o'r broses ddylunio. Yn ogystal, roedd yn rhaid i bob ysgol newydd gydymffurfio'n llawn â gofynion y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd a mesurau rheoli adeiladu. Byddent hefyd yn gweithio'n agos gyda chydweithwyr yn y gwasanaeth cynhwysiant i sicrhau bod yr holl anghenion yn cael eu diwallu.        

 

Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Addysg a Chymorth i Deuluoedd mai'r elfen allweddol o ran defnydd cymunedol oedd caniatáu mynediad i'r gymuned. Roedd tri maes allweddol yr oeddent yn edrych arnynt, cyfleusterau dan do ac awyr agored priodol a mynediad wi-fi cymunedol yn yr adeilad a'r ystafelloedd pwrpasol y byddai'r corff llywodraethu'n penderfynu ar y defnydd ohonynt. 

 

Ychwanegodd Rheolwr y Rhaglen Ysgolion, mewn perthynas ag adeiladu CCYD a'r gwersi a ddysgwyd, ei bod yn bwysig iawn dod â'r ddwy ysgol at ei gilydd yn gynnar i sicrhau bod yr ethos yn cael ei drosglwyddo i'r ysgol newydd. Yr oedd honno'n wers enfawr ac yr oedd staff yr ysgolion a oedd yn rhan o'r cynigion newydd eisoes wedi gofyn am hyn er mwyn sicrhau eu bod yn dechrau ar y sylfaen orau a oedd yn galonogol iawn.    

  

Esboniodd yr Arweinydd fod llawer o wersi wedi'u dysgu dros y blynyddoedd o nifer o gyfuniadau a rhaglen resymoli felly roedd amrywiaeth o brofiadau gwahanol. Yr elfen hollbwysig oedd ymrwymiad yr ysgolion i gydweithio a gwneud llwyddiant o'r cynigion hyn. Mewn unrhyw ysgol newydd a oedd yn floc adeiladu sylfaenol i sicrhau amgylchedd llwyddiannus a chynaliadwy i blant.

 

Cyfeiriodd yr Aelod Cabinet - Cymunedau at atodiad 3 yr adroddiad ac yn arbennig y timau sy'n cyfarfod â'r Cyngor Ysgol, i dynnu sylw at yr hyn y mae'r plant yn ei wneud am y newid. Roedd dyfnder y cwestiynau a ofynnwyd gan y disgyblion yn ddiddorol ac roedd yn amlwg bod y plant yn deall yn union beth oedd yn digwydd. Cafodd y cwestiynau eu targedu a'u holi ac yn ôl y disgwyl, dangosodd fod addysg Gymraeg ym Mhen-y-bont ar Ogwr o ansawdd uchel iawn. Pan ofynnwyd i'r cynrychiolwyr a oedd hyn yn syniad da, roeddent i gyd yn cytuno ei fod ac yn hapus â'r cynigion. Diolchodd i'r holl swyddogion a gymerodd ran am eu gwaith caled, i'r perwyl hwn.

 

Cyfeiriodd yr Arweinydd at ddyfodol addysg cyfrwng Cymraeg yn y fwrdeistref a sut y gellid ymestyn mynediad i hyn ar yr un pryd â gwella'r cyfleusterau a'r adeiladau i blant yn yr addysg cyfrwng Saesneg. Gofynnodd i'r Cyfarwyddwr Corfforaethol - Addysg a Chymorth i Deuluoedd amlinellu'r cynlluniau presennol o ran addysg cyfrwng Cymraeg ar gyfer gorllewin y fwrdeistref.

 

Ailadroddodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Addysg a Chymorth i Deuluoedd, fod hyn yn flaenoriaeth enfawr i'r Gyfarwyddiaeth Addysg. Roedd hyn yn ymddangos fel rhan o Gynllun Gweithredu Ôl-arolygiad Estyn ac roeddent yn angerddol iawn am fodloni gofynion a'r targedau ar gyfer y gorllewin ac roedd hyn yn flaenoriaeth uchel. Roedd 2 elfen yn y gorllewin, gwelliant sylweddol i safle Ysgol Y Ferch O'r Sgêr gan ddarparu cyfleusterau o'r radd flaenaf i ddysgwyr yn yr ardal honno, a hefyd darnau o waith yn ymwneud â chynyddu'r ddarpariaeth ym Mhorthcawl. Roedd y rhain yn ddwy ran ar wahân ond pwysig iawn o'r rhaglen foderneiddio a'u bwriad i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg o fewn y fwrdeistref sirol, ychwanegodd.

 

Ychwanegodd yr Arweinydd ei fod, yn bersonol, yn gyffrous iawn am y cynigion ac roedd yn ymwybodol o ba mor gyffrous oedd aelodau'r gymuned yngl?n â'r cynnydd mewn addysg cyfrwng Cymraeg o fewn y dref.

 

Ategodd yr Aelod Cabinet - Addysg ac Adfywio nifer o bwyntiau. Roedd rhagdybiaethau a chamsyniadau yn yr adborth a'r angen i siarad â phobl i'w hargyhoeddi y byddai popeth yn iawn ac nad oedd angen poeni. Mynegwyd pryderon gan Afon y Felin y byddai disgyblion yn fwy dienw mewn ysgol fwy gyda dosbarthiadau mwy. Roedd yn bwysig dangos i ddisgyblion a rhieni beth a ddigwyddai mewn ysgol wedi'i moderneiddio a'r ffordd yr oedd yr ysgol a'r dosbarthiadau'n cael eu rheoli, er mwyn cadw ethos yr ysgol fach. Hefyd, tybiwyd pe baent yn ehangu yng Nghorneli, na fyddai darpariaeth ym Mhorthcawl ond roedd hynny'n anghywir. Roedd cynlluniau ar y gweill ar gyfer Porthcawl a byddai'r cynlluniau hynny'n cael eu llunio yn y dyfodol agos.   

 

Ychwanegodd yr Arweinydd nad oedd Ysgolion Cynradd Afon Y Felin a Chorneli ac Ysgol Y Ferch O'r Sgêr yn addas i'r diben. Roedd gan bob un ohonynt ôl-groniadau sylweddol o waith a gwaith cynnal a chadw a hyd yn oed pe bai'r gwaith hwn yn cael ei gwblhau ni fyddai'r ysgolion o'r safon ddisgwyliedig. Nid oedd am i'r awdurdod fod yn y sefyllfa lle'r oeddent yn ymateb i ôl-groniad o atgyweiriadau a hyd yn oed pe bai arian ar gael, ni fyddai'n gwneud yr ysgol yn addas ar gyfer y tymor hir.  Edrychodd ymlaen at gam nesaf y prosiect ac roedd am glywed barn pobl am sut y gallent wneud hyn yn un blaenllaw. Byddent yn gweithio gyda'r penaethiaid, yr athrawon, yr holl staff, llywodraethwyr a phobl ifanc.

 

PENDERFYNWYD            Bod y Cabinet wedi:

 

                                · Nodi canlyniad yr ymgynghoriad â phartïon â diddordeb fel y nodir yn yr adroddiad ymgynghori a'r atodiadau amgaeedig;

    · Cymeradwyo'r adroddiad ymgynghori i'w gyhoeddi;

    · Awdurdodi cyhoeddi hysbysiad cyhoeddus ar y cynnig; a

    · chymeradwyo gweithredu'r cynnig, pe na bai unrhyw wrthwynebiadau ar ddiwedd y cyfnod rhybudd cyhoeddus.

Dogfennau ategol: