Agenda item

Strategaeth Gyllido Tymor Canol 2021-22 i 2024-25

Cofnodion:

Dywedodd yr Uwch Swyddog Gwasanaethau Democrataidd - Craffu gan fod y cyfarfod cyfunol hwn o’r holl Bwyllgorau Craffu yn barhad o’r cyfarfod a ohiriwyd o Ddydd Iau, yr 21ain o Ionawr, y byddai’r Cynghorydd Cheryl Green yn parhau fel Cadeirydd ar gyfer y cyfarfod.

 

Addysg a Chymorth i Deuluoedd

 

Cyfeiriodd Aelod at ESF2 a’r tendrau a dderbyniwyd ar gyfer cludiant i’r ysgol a gofynnodd am sicrwydd bod yna gadernid ynghylch y broses ddethol a’r ffordd yr oedd yr Awdurdod Lleol yn sicrhau gwerth am arian.

 

Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Addysg a Chymorth i Deuluoedd ei fod yn hapus iawn i gynnig sicrwydd i’r Aelod y byddai’n broses gadarn iawn. Byddai swyddogion o fewn Addysg a Chymorth i Deuluoedd yn gweithio’n agos iawn gyda Swyddogion Cyfreithiol a Chaffael i sicrhau. cydymffurfiaeth â’r holl brosesau sy’n gysylltiedig â’r weithdrefn dendro.

 

Gwnaeth Aelod y sylw bod cludiant o’r Cartref i’r Ysgol wedi bod yn cael ei adolygu ers amser maith ac apeliodd am i hyn gael ei symud ymlaen.

 

Cytunai’r Cyfarwyddwr Corfforaethol - Addysg a Chymorth i Deuluoedd â’r Aelod a dywedodd ei fod wedi bod yn destun pryder ers peth amser. Cafodd cryn dipyn o waith ei wneud ar yr adolygiad ers y flwyddyn ddiwethaf. Roedd yr Awdurdod Lleol yn gobeithio gweld adolygiad Llywodraeth Cymru o nifer o’r materion, oedd i fod i ddwyn ffrwyth ddiwedd mis Mawrth. Gobeithio y byddai’r wybodaeth hon, ar y cyd â’r wybodaeth a sicrhawyd, yn galluogi’r Awdurdod Lleol i symud hyn ymlaen yn gyflym.

 

Cyfeiriodd Aelod at SCH1 a dywedodd y dylid ailystyried yr arbedion effeithlonrwydd gan roi’r gorau i dorri gwasanaethau canolog gan fod hynny’n niweidio pob ysgol.

 

Cyfeiriodd Aelod hefyd at SCH1 a mynegodd, er nad oedd ar neb eisiau gwneud toriadau, ei fod yn teimlo bod angen rhannu’r baich yn gyfartal ac y dylid cael rhywfaint o doriad eleni.

 

Cyfeiriodd Cynrychiolydd Cofrestredig yr Eglwys yng Nghymru hefyd at SCH1 gan ddweud bod Pen-y-bont ar Ogwr wedi bod ar y ris isaf os nad y gwaelod am y nifer ddiwethaf o flynyddoedd o ran y swm oedd yn cael ei wario ar addysg fesul disgybl. Dywedodd y byddai unrhyw doriad i gyllideb yr ysgolion yn drychinebus, nid yn unig yn y flwyddyn gyfredol ond yn arbennig yn y blynyddoedd i ddod.

 

Esboniodd Aelod ei bod hi wedi bod mewn cyfarfod gyda’r Gweinidog dros Dai a Llywodraeth Leol ac wedi ei herio yngl?n â’r setliad. Roedd y Gweinidog wedi dweud, er nad oedd yn gyllideb twf, na ddylai unrhyw Awdurdod fod yn colli nac yn bwriadu colli unrhyw staff, oherwydd dylai fod yn gyllideb ddigyfnewid. Dywedodd pe bai unrhyw Awdurdodau’n dweud eu bod yn mynd i golli staff, yna roedd ar Lywodraeth Cymru eisiau gwybod ar unwaith gan eu bod wedi dweud na fyddai hynny’n ddichonadwy wrth symud ymlaen.

 

Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Addysg a Chymorth i Deuluoedd ei fod yn gwerthfawrogi sylwadau’r Aelodau’n fawr a bod y darlun yn un heriol iawn i’r sefydliad cyfan. Roedd yr holl feysydd a nodwyd yn anodd; nid oedd yr un ohonynt yn hawdd ac ar ôl gwaith sylweddol yr oeddent wedi eu cyrraedd. Roedd cydbwysedd i’w gael o ran cefnogi ysgolion, a’r pwyntiau yr oedd nifer o Aelodau wedi eu gwneud, gyda golwg ar y sefyllfa ariannol heriol yr oedd rhai ysgolion ynddi. Roedd yr Awdurdod Lleol yn ymwybodol bod rhaid cefnogi ysgolion drwy’r cyfnod anodd oedd o’u blaenau ond hefyd cael y cydbwysedd o gynnal y gwasanaeth canolog i ddarparu cymorth i bob ysgol. Byddai angen iddo ystyried y sylwadau mewn perthynas â’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, gan mai dyma’r tro cyntaf iddo glywed am hyn gan Lywodraeth Cymru, ac eto byddai hynny’n rhywbeth y byddai’n hapus i’w ystyried gyda chydweithwyr a’r Bwrdd Rheoli Corfforaethol (CMB).

 

Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles a’r Swyddogion oedd yn gyfrifol am yr ymateb manwl iawn a’r wybodaeth ychwanegol a ddarparwyd. 

 

Cyfeiriodd Aelod at dudalen 42, SSW2 mewn perthynas ag addasiadau tai a gofynnodd a ellid adnewyddu ac ail-ddefnyddio yn unrhyw ffordd, offer sydd weithiau’n ddrud, gan arbed arian i’r awdurdod, yn enwedig gan fod symudiad i ddod â materion yn fewnol.

 

Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles fod Grantiau Cyfleusterau i’r Anabl (DFG) yn enghraifft allweddol o faes lle gallai buddsoddi mewn gwasanaeth ataliol leihau anghenion gofal a chymorth parhaus. Roedd hi’n gwybod am lawer o enghreifftiau ledled Cymru lle roedd dull gwirioneddol gadarnhaol a rhagweithiol o ailgylchu offer, peth ohono’n bwrpasol iawn i unigolion. Gellid adnewyddu offer arall a’i lanhau ac yn y blaen a’i ddefnyddio’n dda iawn. Roedd hyn yn rhywbeth y dylid ei gynnwys mewn targedau perfformiad ar gyfer y gwasanaeth, wrth iddo gael ei dynnu i mewn. Cadarnhaodd y byddai’n rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau mewn cydweithrediad â chydweithwyr ym maes Tai, oedd yn arwain y gwaith o ddarparu Grantiau Cyfleusterau i’r Anabl.

 

Gofynnodd Aelod hefyd a ellid ymchwilio i’r arfer mewn perthynas â’r ystâd ddiogel.

 

Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles fod yr Aelodau’n tynnu sylw’n glir at yr awydd am fwy o wybodaeth ynghylch offer gan gynnwys faint o offer oedd yn cael ei roi allan, faint o’r offer hwnnw oedd wedi’i deilwra i unigolion, boed hynny yn yr ystâd ddiogel neu yn eu cartrefi eu hunain yn y gymuned, yn ogystal â pha mor dda y câi’r offer hwnnw ei ddefnyddio a’i ailgylchu. Byddai hi’n gweithio gyda chydweithwyr i baratoi nodyn briffio a fyddai’n egluro hyn. Roedd angen sicrhau bod yr Awdurdod Lleol mor effeithlon ac effeithiol ag y gallai fod a byddai’n sicr yn casglu’r data ar gyfer y maes hwn.

 

Adleisiodd Aelod deimladau’r Cadeirydd yngl?n â’r wybodaeth ychwanegol fanwl a ddarparwyd a gofynnodd am fwy o fanylion ac astudiaethau achos yn y dyfodol wrth symud ymlaen. Gofynnodd pa mor gynaliadwy oedd y toriadau hyn wrth symud ymlaen o ystyried y tebygolrwydd y byddai cyflyrau pobl yn dirywio ac y byddent yn debygol o fod angen cymorth cynyddol gan yr Awdurdod Lleol.

 

Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles mai un o’i blaenoriaethau hi fel Cyfarwyddwr newydd oedd sicrhau bod yna gynlluniau strategol ynghyd â thystiolaeth dda, wrth symud ymlaen, ar draws yr holl brif grwpiau poblogaeth y mae arnynt angen gofal a chymorth, sy’n edrych ar y cynnydd yn y boblogaeth a’r pethau sydd eu hangen i ddiwallu’r anghenion hynny, yn y ffordd fwyaf cost-effeithiol. Mae hyn hefyd yn sicrhau’r canlyniadau gorau i unigolion ac i gefnogi hynny byddai achosion busnes, a fyddai naill ai’n gofyn am fwy o fuddsoddiad neu a allai barhau i weld gostyngiadau yng nghost gwasanaethau wrth symud ymlaen. Byddai’n gwahaniaethu o’r naill boblogaeth i’r llall a byddai angen achosion busnes gwahanol o amgylch y mathau o wasanaethau yr oedd angen eu datblygu i ddiwallu’r anghenion yn y ffordd fwyaf cost effeithiol. 

 

Dywedodd yr Aelod mai’r hyn oedd arno eisiau oedd sicrwydd, pe bai amgylchiadau pobl yn newid yr wythnos ganlynol, er enghraifft, y byddai’r Awdurdod Lleol mewn sefyllfa i’w helpu gyda chynllun gofal arall a allai gostio mwy.

 

Ymatebodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles i roi’r sicrwydd hwnnw ac esboniodd fod pecynnau gofal yn cael eu hadolygu’n rheolaidd, o leiaf unwaith y flwyddyn, ond droeon yn amlach na hynny, a gallai’r rhain gynyddu yn ogystal â lleihau. Eglurodd fod yr arbedion yn cynrychioli gostyngiad net cyffredinol.

 

Roedd Aelod yn llwyr gefnogi adolygu swyddogaethau ond gofynnodd am sicrwydd y câi adolygiadau statudol eu cynnal yn amlach, ac y byddai gan y staff oedd yn darparu’r gwasanaeth y gallu i wneud yr argymhellion hynny. Gofynnodd hi hefyd am sicrwydd, o ran unrhyw ddarpariaeth nyrsio, mai’r GIG ddylai dalu’r bil, yn hytrach na’r Awdurdod Lleol. Gyda golwg ar y Papur Gwyn, dylai holl staff y sector gofal gael y cyflog byw gwirioneddol gan gynnwys unrhyw wasanaethau a gomisiynid, a byddai hefyd ar yr un sbectrwm â’r agenda ar gyfer newid yn y GIG, a fyddai â goblygiadau cost sylweddol i’r Awdurdod Lleol.

 

Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles ei fod yn gyfnod diddorol iawn i fod yn gweithio yn y gwasanaethau cymdeithasol a chyfeiriodd at y Papur Gwyn, a gyhoeddwyd yn ddiweddar, oedd yn destun ymgynghoriad. Roedd hwn yn cydnabod gwerth a phwysigrwydd pendant waith y gweithlu gofal uniongyrchol. Credai’n gryf eu bod yn arbenigwyr yn yr hyn yr oeddent yn ei wneud a phe baent yn gwneud argymhellion bod ar rywun angen mymryn bach mwy neu ychydig llai, yna bod hynny’n bwysig iawn am eu bod hwy yn treulio eu hamser ddydd ar ôl dydd gyda phobl ag anghenion gofal a chymorth ac y byddent, wrth wneud yr argymhellion hynny, yn siarad am berson yr oeddent yn ei adnabod yn dda. O ran yr ail bwynt, roedd gan Ben-y-bont ar Ogwr dimau integredig a cheid cydweithio da rhwng staff nyrsio cymunedol, yn enwedig, gweithwyr cymdeithasol a therapyddion galwedigaethol yn y gymuned, oedd yn gwneud dull cyfannol yn bosibl. Bu tensiynau erioed ar y rhyngwyneb hwnnw rhwng sefydliadau, ond os oedd yr ymarfer yn iawn ac yn gweithio yn y ffordd seiliedig ar gryfder ar draws y sbectrwm iechyd a gofal cymdeithasol, roedd yr Awdurdod Lleol mewn sefyllfa well o lawer gyda chydweithwyr iechyd i wneud yr hyn sy’n cyfrif ac i gael y pecynnau gofal cywir gyda’r cyfraniadau cywir ar draws asiantaethau sy’n bartneriaid. Wrth symud ymlaen, byddai’r Awdurdod Lleol yn edrych ar yr hyn y byddai integreiddio pellach yn ei olygu a byddai angen rhai trafodaethau pwysig iawn gyda’r Bwrdd Iechyd ynghylch eu cyfraniadau at gadw pobl yn ddiogel mewn cymunedau. Llawer o’r pethau oedd yn gyrru costau gofal cymdeithasol oedd yr anghenion iechyd sylfaenol, ac felly roedd yn ymwneud â’u cynorthwyo i fuddsoddi yn y gwasanaethau cywir, a allai leihau’r gost ar draws sectorau’n gyffredinol.

 

Cymunedau

 

Cyfeiriodd Aelod at dudalen 41, COM1 a mynegodd bryder ynghylch cyflogi ymgynghorydd i adolygu Parc Maesteg a Chaeau Trecelyn. Gofynnodd am i’r gost gael ei darparu a gwybodaeth p’un a oedd yna awydd i drosglwyddo, cyn cyflogi rhywun i gynnal yr adolygiad.

 

Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau fod pob parc yn y fwrdeistref wedi mynegi diddordeb mewn edrych ar y broses o Drosglwyddo Asedau Cymunedol (CAT). Wrth edrych ar safleoedd cymhleth mawr, gyda nifer o ddefnyddwyr, roedd yn bwysig edrych yn fanwl ar yr hyn a fyddai’n gysylltiedig â throsglwyddo’r ased hwnnw. Roedd cyngor ymgynghorydd wedi’i ddarparu i sicrhau bod popeth yn cael ei gynnwys er mwyn gwybod beth oedd goblygiadau llawn y gost a chostau rhedeg y cyfleusterau dros oes gyfan a sicrhau, pe caent eu trosglwyddo, y câi hynny ei wneud yn y ffordd gywir. O ran Parc Lles Maesteg a Chaeau Trecelyn teimlid bod angen gwneud gwaith manylach ar y ddwy ardal hynny’n arbennig.

 

Gofynnodd yr Aelod beth oedd cost cyflogi’r ymgynghorwyr.

 

Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau nad oedd y gost ganddi wrth law ond y byddai’n darparu’r wybodaeth honno.

 

Gofynnodd Aelod beth fyddai’n digwydd pe na châi Parc Lles Maesteg neu Gaeau Trecelyn eu trosglwyddo. Beth oedd safbwynt gwirioneddol neu ddiogel yr Awdurdod Lleol ar y ddau hyn.

 

Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau pe na bai’r ddwy ardal yn cael eu trosglwyddo, y byddent yn parhau dan reolaeth y cyngor bwrdeistref ac y gofelid amdanynt am byth. Gobeithiai am ryw drefniant o drosglwyddo asedau, ond roedd y rhain, wrth gwrs, yn safleoedd cymhleth, mawr, ac roedd pentwr o waith i’w wneud er mwyn sicrhau bod CAT yn briodol ac y gellid ei reoli yn y ffordd gywir.

 

Cydnabyddai Aelod y Cabinet dros Gymunedau gymhlethdod y broses CAT mewn perthynas â’r ddwy ardal, oedd yn ganlyniad i’r ffaith fod lleiniau, mewn rhai achosion, yn gorgyffwrdd â’i gilydd, ac felly roedd llawer o waith angen ei wneud gyda dau bwyllgor rheoli’r clybiau penodol hynny. Wrth ateb y cwestiwn, beth fyddai’n digwydd, roedd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau yn hollol gywir. Nod y strategaeth a ddefnyddiwyd oedd gwneud arbedion. Roedd arbedion yn dod i’r amlwg ac roedd y clybiau eu hunain, oedd yn ymrwymo i drosglwyddiadau CAT, yn dechrau gweld manteision y trosglwyddiadau, ond roedd yn deg dweud, er bod awydd ar y clybiau yn y ddwy ardal, pe bai’n amhosibl trosglwyddo’r rheiny, yna byddai’r Awdurdod Lleol mewn sefyllfa i gefnogi’r clybiau, er y byddai’n golygu na châi’r arbedion hynny eu gwneud. Roedd yn eithaf hyderus y gellid dod o hyd i ffordd ymlaen ar y ddau faes cymhleth yma, a rhoddodd sicrwydd i’r Aelodau ynghylch awydd y clybiau oedd yn ymwneud â’r ddwy ardal hynny.

 

Dywedodd Aelod ei bod yn croesawu’r ymgynghorwyr allanol ond ei bod hi, fel Cynghorydd Tref Pen-y-bont ar Ogwr, wedi gweld y briff i’r ymgynghorwyr ac nad oedd yn sôn yn unman am ystyried Caeau Trecelyn yn orlifdir. Roedd hi’n bryderus nad oedd gan yr ymgynghorwyr yr arbenigedd o bosibl i ddelio â gorlifdiroedd ac amheuai a fyddai’r argymhellion a geid ganddynt yn cynnwys y costau hynny mewn gwirionedd. 

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau y gallai roi sicrwydd yngl?n â hynny. Roedd mater y gorlifdir yn bwysig iawn ac roedd yn rhan o’r briff. Er na fu efallai yn rhan o’r tendr, byddai’n un o’r pethau cyntaf a drafodid gyda’r ymgynghorwyr wrth edrych drwy’r mapiau, y dopograffeg ac ardal y parciau hynny. Byddai’n un o’r ystyriaethau pwysicaf ar gyfer y cynllun hwnnw a byddai’n cael ei gynnwys.

 

Cyfeiriodd Aelod at y cronfeydd wrth gefn defnyddiadwy a dywedodd y byddai’n ddefnyddiol efallai pe bai’r Aelod Cabinet dros Gyllid a’r Prif Swyddog Dros Dro Cyllid, Perfformiad a Newid yn gwneud sylwadau ynghylch a oeddent yn teimlo y dylid defnyddio’r cronfeydd wrth gefn defnyddiadwy yn ystod y cyfnod hwn o ansicrwydd.  

 

Eglurodd y Cadeirydd fod hwn yn gwestiwn a gynhyrchwyd oherwydd yr ymateb i COM1, ond roedd hi’n hapus i’r Prif Swyddog Dros Dro Cyllid, Perfformiad a Newid roi ymateb cyffredinol.

 

Eglurodd y Prif Swyddog Dros Dro Cyllid, Perfformiad a Newid mai’r ateb byr oedd ‘na’. Nid oedd hi’n credu y dylai’r Awdurdod Lleol fod yn defnyddio cronfeydd wrth gefn defnyddiadwy. Roedd y £64 miliwn y cyfeiriwyd ato yn cynnwys dros £9 miliwn o gronfa’r Cyngor a £55 miliwn o gronfeydd wrth gefn a glustnodwyd. Er ei fod yn edrych fel ffigwr mawr, roedd y £9 miliwn yng nghronfa’r Cyngor yn unol ag egwyddorion y Strategaeth Ariannol Tymor Canol (MTFS), o ran cronfeydd wrth gefn. Cymeradwywyd y rhain gan y Cyngor fel rhan o’r MTFS ac fe’u hailadroddwyd mewn gwahanol ddogfennau a dderbyniodd y Cyngor. Fe’u diwygiwyd y llynedd drwy BREP ac yna drwy gymeradwyaeth gan y Cyngor. Cadarnhaodd fod cronfa’r Cyngor yn cyd-fynd â’r egwyddor honno, 5.27% o’r gyllideb net ac eithrio ysgolion, ac mae’r egwyddor yn dweud y dylai fod o leiaf 5%.

 

O ran y cronfeydd wrth gefn a glustnodwyd, roedd llawer o’r rheiny’n cefnogi’r rhaglen gyfalaf, tua £20 miliwn. Roedd £4.5 miliwn arall yn cefnogi rheoli asedau, mân waith, atgyweiriadau a gwaith dymchwel. Roedd cronfa Covid-19 o £3 miliwn bellach yn £2.5 miliwn gydag arian yn cael ei drosglwyddo i gronfa argyfwng, y rhan fwyaf ohono eisoes wedi cael ei ddefnyddio. Roedd grantiau a chyfrifon cydraddoli hefyd, oedd yn £4 miliwn arall, na ellid ei wario ar unrhyw beth arall, neu byddai’n rhaid ad-dalu’r rhain yn ôl i Lywodraeth Cymru. Roedd y gweddill yn gronfeydd wrth gefn ar draws y cyngor, hawliadau mawr, ad-drefnu gwasanaethau ac yswiriant, ac yn y blaen. Câi cronfeydd wrth gefn eu clustnodi i bwrpas a byddent yn derbyn sylw bron bob mis yn yr Adran Gyllid. Adroddid am y rhain drwy fonitro’r gyllideb bob chwarter ac roedd y Prif Swyddog Dros Dro Cyllid, Perfformiad a Newid wedi bod yn wyliadwrus o ran datod unrhyw gronfa wrth gefn nad oedd wedi symud neu nad oedd yn angenrheidiol mwyach. Edrychodd yr Archwilwyr arnynt yn ofalus iawn, a byddent yn codi cwestiwn pe na bai eu hangen neu, pe baent yn edrych fel pe baent wedi’u neilltuo ar gyfer rhywbeth cyffredinol iawn, byddent yn wyliadwrus yn eu cylch. Roedd balansau ysgolion yn anhygoel o isel. Er ei bod yn deall y gallai Aelodau feddwl, wrth edrych ar y math hwnnw o ffigur, fod modd ei ddefnyddio, nid oedd yn bosibl ei ddefnyddio.

 

Dywedodd y Dirprwy Arweinydd nad oedd ganddo unrhyw beth i’w ychwanegu mewn gwirionedd at yr hyn yr oedd y Prif Swyddog Dros Dro Cyllid, Perfformiad a Newid wedi’i ddweud, ond rhoddodd sicrwydd, fel Aelod o’r Cabinet, fod cronfeydd wrth gefn a glustnodwyd yn cael eu hadolygu’n gyson. Roedd y broses yn cael ei hadolygu’n barhaus ac, mewn cyfarfodydd gyda’r Tîm Cyllid, sicrheid bod swm priodol i ddarparu ar gyfer pwysau hysbys ac y rhoddid pwysau ymlaen i geisio datod a chadw’r gronfa wrth gefn honno mor gywir â phosibl. Roedd y gronfa gyffredinol yn cyd-fynd ag argymhellion yr archwiliad, y prif swm a bennid yn flynyddol gan y Cyngor. Ni fyddai’r Dirprwy Arweinydd o blaid lleihau’r swm hwnnw islaw’r hyn a argymhellwyd gan Archwilio Cymru.

 

Cyfeiriodd Aelod at COM1 a gofynnodd am eglurhad pellach, pe na bai’r dichonoldeb yn dod i fod, beth fyddai lefel y gwaith cynnal a chadw, e.e. a fyddai’n aros ar y lefel y mae yn awr neu’n mynd yn ôl i’r sefyllfa wrth gefn o gael ychydig iawn o waith cynnal a chadw.

 

Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau ei bod yn bwysig cadw parciau yn y cyflwr yr oeddent yn ei haeddu ond, yn erbyn cefndir o gyni ariannol, ei bod yn anhygoel o anodd. Pe baent yn aros ym mherchnogaeth y Cyngor a’r trosglwyddiadau ddim yn llwyddiannus, byddai ganddynt drefn gynnal a chadw gynhwysfawr, fel oedd ganddynt ar hyn o bryd, ar y safleoedd hynny ar gyfer y flwyddyn nesaf. Byddai’r hyn a fyddai’n digwydd ar ôl hynny, wrth gwrs, yn dibynnu ar setliadau’r gyllideb.

 

Sicrhaodd Aelod y Cabinet dros Gymunedau yr Aelod fod gan yr Awdurdod Lleol gyfrifoldeb i’r clybiau a’r cynghreiriau, oedd yn disgwyl safon benodol, ac felly byddai’n rhaid eu cadw i fyny at y safonau hynny o leiaf. Dywedodd, fel y dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau, y byddai’n rhaid adolygu’r sefyllfa o flwyddyn i flwyddyn. Byddai’r Awdurdod Lleol yn parhau i fonitro’r sefyllfa ac yn cysylltu â chlybiau.

 

Nododd Aelod fod y wybodaeth ychwanegol yn dweud bod pob clwb wedi mynegi diddordeb, a bod hynny, yn ei farn ef, er mwyn osgoi cynnydd mewn ffioedd oherwydd, pe na baent yn gwneud hynny, naill ai byddai’r ffioedd yn codi neu byddai’r safleoedd yn cau. Nid oedd yn anghytuno â phroses CAT, ond roedd yn anodd gwybod sut y byddai codi tâl ar glwb i dalu am waith cynnal a chadw yn gweithio mewn mannau agored mawr oherwydd bod y cyhoedd yn gyffredinol hefyd yn defnyddio’r ardaloedd hynny ar gyfer hamdden anffurfiol. Mynegodd bryder nad oedd yn ymddangos bod yna gostau unigol fesul safle ac o ganlyniad holodd sut y gellid dileu’r swm hwn o’r gyllideb. Mynegodd bryder ynghylch cyflogi ymgynghorwyr a theimlai nad oedd y gwasanaeth yn wydn mwyach. Cadarnhaodd ei brofiad helaeth mewn parciau a mannau gwyrdd ac roedd wedi cynnig rhywfaint o’r profiad hwnnw i’r Aelod Cabinet yn y gorffennol. Roedd yn teimlo’n siomedig gyda’r geiriad ar gau ardaloedd chwarae plant a theimlai y dylid dileu hyn oherwydd bod buddsoddi mewn mannau chwarae i blant yn y rhaglen gyfalaf ar gyfer y flwyddyn nesaf. Teimlai y dylid dileu’r targed o £300 mil ac y dylid ailfuddsoddi unrhyw arbedion a wneid mewn parciau a mannau agored, ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

 

Ailadroddodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau ei bod yn deall pryderon yr Aelod ac yn cydnabod ei drafodaethau gyda’r tîm yngl?n â phroses drosglwyddo CAT. Fe’i sicrhaodd o ran y broses CAT, gan esbonio nad oedd yn orfodol, ond yn rhywbeth yr anogid clybiau i’w wneud, oedd yn rhoi mwy o reolaeth iddynt dros eu meysydd, ond dim ond os oedd hyn yn hyfyw yn ariannol ac yn gyfreithiol gywir. Cydnabyddai ei ddiddordeb yn y dadansoddiadau manwl o’r ffigurau, ond ni ellid eu darparu ar hyn o bryd. Roedd hi’n fodlon bod y broses yn gadarn a bod pob CAT yn cael ei ystyried yn ofalus ac na ofynnid i unrhyw un ymgymryd â CAT pe na bai’r clwb yn barod, a’u bryd ar hynny neu’n ewyllysgar.

 

Cyfeiriodd Aelod at yr ymateb a gafwyd mewn perthynas â COM1, y gallai clybiau gynnal cyfleusterau am gostau fyddai’n sylweddol is na BCBC, a gofynnodd a oedd BCBC wedi bod yn aneffeithlon wrth redeg y rhain o’r blaen ac, os oedd yn hysbys ble y gellid gwneud arbedion, pam nad oeddent wedi cael eu gwneud yn gynt.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau ei bod yn sicrhau’r Aelod nad dyna’r naratif y tu ôl i’r sylw ac esboniodd fod pawb, fel Cyngor Bwrdeistref, yn derbyn cyflogau, yn derbyn pensiynau ynghyd â’r holl gostau ychwanegol. Telid i staff weithio ar draws ystod o safleoedd, ac felly byddai’n ddrutach i’r Cyngor nag y byddai i glwb, fyddai, er enghraifft, yn torri eu glaswellt eu hunain gyda’r peiriannau yr oeddent yn berchen arnynt; byddai’r Cyngor yn gorfod symud peiriannau o un rhan o’r Fwrdeistref i’r llall. Telid i’w gweithwyr yn ôl cyfraddau safonol y Cyngor a chaent yr amddiffyniad oedd yn dilyn o fod yn weithwyr i’r Cyngor. Pwysleisiodd nad oedd y gwasanaeth yn aneffeithlon o gwbl, ond yn hytrach ei fod yn effeithlon ac yn ddarbodus ac felly nad oedd llawer o wytnwch. Gallai defnyddio staff a gwirfoddolwyr y clwb leihau costau rhedeg y clybiau hynny’n sylweddol.

 

Dywedodd Aelod y Cabinet dros Gymunedau mewn perthynas â CATau, nad oedd yn teimlo bod y system yn ddiffygiol. Cydnabyddai fod rhai problemau o ran Caeau Trecelyn a Pharc Lles Maesteg, gan fod y cyfleusterau hyn yn cael eu defnyddio gan aelodau o’r cyhoedd, nid clybiau chwaraeon yn unig, a bod hyn yn ei wneud yn gymhleth. Ni fyddai’r Awdurdod Lleol wedi gallu cynnal y cyfleusterau hyn wrth symud ymlaen, oherwydd y cyni, hyd at y pwynt lle byddai’r cyfleusterau’n cau ohonynt eu hunain am na fyddent yn cyrraedd safonau’r clybiau neu’r sefydliadau y mae’r clybiau hynny’n eu cynrychioli. Rhoddodd CAT ddewis i glybiau a theimlai fod y rhan fwyaf o glybiau bellach yn gweld manteision hynny. Credai fod y penderfyniad a wnaed bryd hynny wedi caniatáu i gyfleusterau, ac yn enwedig y rhai a gymerwyd drosodd drwy CAT, aros ar gael i’r cyhoedd.

 

Dywedodd Aelod, mewn perthynas â COM1, fod sôn am leihau ardaloedd torri glaswellt, parcdir a gynhelir, a lleihau nifer y mannau chwarae i blant.


O ran Cynghorau Tref a Chymuned yn cymryd cyfrifoldeb am dorri glaswellt a pharciau chwarae plant, teimlai y gallai cyfathrebu fod yn well. Gofynnodd am eglurhad ar leihau’r gwaith cynnal a chadw mewn perthynas â pharciau chwarae.

 

 

Roedd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau’n deall pryderon yr Aelod a byddai trosglwyddo unrhyw waith torri glaswellt ar fannau chwarae a/neu dorri glaswellt yn gyffredinol yn cael ei drafod gyda’r Cynghorau Tref a Chymuned, a byddai angen iddo gael ei adlewyrchu yn eu praesept. O ran iechyd a diogelwch, nid lefel ofynnol oedd yna ond safon ar gyfer iechyd a diogelwch. Nid oedd torri glaswellt yn achosi’r un peryglon ond, gyda golwg ar iechyd a diogelwch a chwarae plant, roedd yna safon i’w chyrraedd. Byddai’n falch o gael y sgyrsiau hynny gyda’r Cynghorau yn y dyfodol.

 

Cyfeiriodd Aelod at COM1 a’r dadansoddiad o’r £300 mil a gofynnodd pa mor gyraeddadwy oedd y targed yn y pen draw eleni. 

 

Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau mai dyma’r targed yr oeddent yn anelu ato. Roedd y targed yn uchelgeisiol iawn, i gael 10 trosglwyddiad CAT arall drwy’r system, fyddai’n gwneud y targed yn gyraeddadwy. Byddai hyn yn cael ei fonitro a phe teimlid na fyddai hyn yn digwydd, yna byddai angen gwneud yr arbediad drwy leihau’r gwaith o dorri glaswellt, ac yn y blaen. 

 

Teimlai Aelod yn bryderus ynghylch y sylw a wnaed, pe na ellid gwneud yr arbediad drwy’r CAT, y byddai’n rhaid gwneud toriadau mewn mannau eraill, gan gynnwys lleihau torri glaswellt. Roedd hwn yn wasanaeth rheng flaen a dylid ei ddiogelu.

 

Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau, o ran y sylw ar dorri glaswellt, fod hynny’n ymwneud â thorri glaswellt o fewn mannau chwarae, ac nid torri glaswellt yn gyfan gwbl ar draws y fwrdeistref. Yr hyn yr oedd angen ei wneud, a’r hyn oedd yn ddoeth ac yn ddarbodus, oedd parhau i adolygu’r targed, yr oedd yn gobeithio ei gyrraedd. Pe na cheid yr arbediad drwy CAT, byddai’n rhaid iddo wedyn ddod o  rannau eraill o’r Gyfarwyddiaeth. Yr oedd pob toriad yn eithriadol o anodd a phob gostyngiad mewn gwasanaethau.

 

Dywedodd y Cadeirydd fod pawb oedd yn dymuno siarad, eisoes wedi siarad ac felly nid oedd unrhyw gwestiynau pellach i’r holl wahoddedigion a diolchodd yn fawr iddynt am eu presenoldeb, yn enwedig ar fyr rybudd o’r fath, a dywedodd fod hynny’n cael ei werthfawrogi’n fawr. 

 

Gan fod hyn yn dirwyn y ddadl i ben ar yr eitem hon, diolchodd y Cadeirydd i’r holl Wahoddedigion am ddod i’r cyfarfod ac ymateb yn gadarnhaol i gwestiynau gan Aelodau ac, yn dilyn hynny, gadawsant y cyfarfod.

 

Argymhellion:

Ar ôl ystyried yr adroddiad ar Strategaeth Ariannol Tymor Canolig 2021-22 i 2024-25, ac ar ôl clywed ymatebion Gwahoddedigion i gwestiynau’r Aelodau ar gynigion y gyllideb ddrafft a phwysau cyllidebol, gwnaeth Cyfarfod Cyfunol yr holl Bwyllgorau Craffu y sylwadau a’r argymhellion canlynol:

 

1. Argymhellodd y Pwyllgor fod y Cabinet yn lobïo Llywodraeth Cymru er mwyn sicrhau y byddai’r cyllid canlyniadol yn dod gyda’r ddeddfwriaeth ychwanegol er mwyn osgoi rhoi’r Awdurdod Lleol o dan bwysau ariannol diangen ychwanegol o gyllidebau presennol. (CEX5 Cyllid Digartrefedd). 

 

2. Argymhellodd y Pwyllgor y dylid ystyried cyfathrebu mwy â’r cyhoedd gan egluro costau gwasanaethau a sut y mae’r Cyngor yn gwario arian.

 

3. Argymhellodd y Pwyllgor y dylid gofyn am eglurhad yngl?n â datganiad y Gweinidog Llywodraeth Leol fod y setliad eleni yn gyllideb wastad nad yw’n gofyn am ddiswyddo neb.

 

4. Argymhellodd y Pwyllgor y dylid gofyn i’r Bwrdd Rheoli Corfforaethol a’r Cabinet adolygu a diffinio beth yw rôl a chyfrifoldeb BREP ac ymateb i Drosolwg Corfforaethol a Chraffu i’w ystyried. 

 

5. Argymhellodd y Pwyllgor ofyn i’r Cabinet ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i argraffu arnynt yr angen i lobïo San Steffan oherwydd, er bod amddiffyniadau cyflogau Staff y GIG ac Athrawon wedi cael eu datganoli i Lywodraeth Cymru, bod staff Llywodraeth Leol ar Delerau ac Amodau’r NJC, ac nad yw’n gyllideb ddatganoledig, ac y byddant yn destun rhewi cyflogau. At hynny, mae’r Papur Gwyn ar gyfer y sector gofal yn mynnu y dylid talu cyflog byw gwirioneddol i wasanaethau a gomisiynir ar yr un telerau ac amodau â staff yr ALl.

 

6. Mynegodd y Pwyllgor bryder ynghylch y ddarpariaeth Seicoleg Addysg a’r pwysau ychwanegol a osododd y pandemig ar y gwasanaeth ac argymhellodd gynnydd yn y gyllideb ar gyfer 2021-22 i liniaru’r galw enfawr tebygol oddi wrth bobl iau o ganlyniad i effaith y pandemig, yn ogystal â mwy o anghenion dysgu ychwanegol. (EFS7).

7. Mynegodd y Pwyllgor bryder nad oedd y targed o £300 mil ar gyfer 2021-22 yn realistig ac argymhellodd y dylid ei ddileu. Er ei fod yn cefnogi’r broses CAT, teimlid y dylid ailfuddsoddi unrhyw arbedion yn y gwasanaeth. Os na ellir dileu’r targed hwn ar gyfer 2021-22, yna mae’r Pwyllgor yn argymell y dylid lledaenu’r targed o £300 mil dros 3 blynedd o 2022-23 ymlaen. (COM1).

 

8. Argymhellodd y Pwyllgor y dylid diwygio’r naratif, gan ei fod yn nodi "gallai hyn effeithio ar yr hyn sydd ar gael i gynnal y nifer bresennol o ardaloedd chwarae i blant", ond mae’r Rhaglen Gyfalaf yn buddsoddi mewn mannau chwarae. (COM 1)

 

9. Argymhellodd y Pwyllgor y dylai Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Pwnc 3 fonitro cynnydd Trosglwyddo CAT hanner ffordd drwy’r flwyddyn. (COM1).

 

10. Argymhellodd y Pwyllgor y dylid adolygu’r polisi Ffioedd a Thaliadau yn 2021-22 i’w newid o "chwyddiant o +1%", i "chwyddiant" yn unig gyda’r bwriad o’i weithredu o’r gyllideb yn 2022-23.

 

11. Roedd y Pwyllgor yn pryderu am effaith torri’r Contract Rheoli Plâu yn gyfan gwbl oherwydd yr effaith ar y rhai sy’n derbyn budd-daliadau ac argymhellodd y dylid gohirio cynnig yr Arbedion Rheoli Plâu nes i’r Cabinet adolygu’r cynnig. (CEX2).

12. Argymhellodd y Pwyllgor fod gweithgor yn mynd ati i ystyried nodi buddsoddiadau untro cymharol fychan ar lwybrau diogel i ysgolion a allai wrthbwyso costau parhaus rhywfaint o gludiant o’r Cartref i’r Ysgol. (EFS2/Pwysau Cyllidebol EFS7).