Agenda item

Argyfwng yr Hinsawdd - diweddariad ar Agenda Datgarboneiddio 2030

Cofnodion:

Cyflwynodd Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau gyda chymorth Rheolwr Gr?p yr Economi, Adnoddau Naturiol a Chynaladwyedd, adroddiad, a phwrpas hwn oedd rhoi diweddariad byr ar raglen waith datgarboneiddio Cyngor Bwrdeistref Sirol (CBS) Pen-y-bont ar Ogwr a chodi materion oedd yn berthnasol i Gynghorau Tref a Chymuned yn eu gwaith hwy o ddatgarboneiddio.

Cadarnhaodd fod Llywodraeth Cymru (LlC) wedi datgan Argyfwng yr Hinsawdd ym mis Ebrill 2019 ac wedi gosod ei blaenoriaethau i fynd i’r afael â newid i Gymru er mwyn adeiladu gwytnwch. Ym mis Gorffennaf 2020, ymrwymodd Llywodraeth Cymru i sicrhau sector cyhoeddus sero carbon net yng Nghymru erbyn 2030. Roedd yr ymrwymiad hwn yn cynnwys y sector cyhoeddus yn ei gyfanrwydd, gan gynnwys Cynghorau Tref a Chymuned.

Mae Pen-y-bont ar Ogwr yn cefnogi’r nod o sero net ac wedi ei mabwysiadu yn ei Gynllun Corfforaethol ar gyfer 2021-2022 wedi ei ddiweddaru. At hynny, mae’r Cyngor yn ymrwymedig i gyd-drefnu gweithredu er mwyn cynorthwyo meysydd eraill o’r economi i gymryd cam pendant yng nghyfeiriad datgarboneiddio, drwy ymgysylltu a thrafod gyda chyrff eraill yn y sector cyhoeddus (yn cynnwys Cynghorau Tref a Chymuned), y byd academaidd, diwydiant a’r trydydd sector.

Eglurodd Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau mai’r meysydd ffocws ar gyfer ein hymdrechion mewnol i ddatgarboneiddio yw ynni, cludiant, adeiladau, caffael a mannau agored. Byddai CBS Pen-y-bont ar Ogwr yn gwneud y defnydd gorau o adeiladau, gan leihau’r defnydd o ynni, dylunio adeiladau newydd i’r safonau uchaf o effeithlonrwydd ynni, sicrhau defnydd doeth o’i fannau agored i wella bioamrywiaeth ac atafaelu carbon drwy blannu coed, edrych am gyfleoedd ynni adnewyddadwy, a phrynu’n well yn gyffredinol. Yn bwysicaf, byddai CBS Pen-y-bont ar Ogwr yn cael sgyrsiau’n fewnol ar draws yr Awdurdod fel y gallai’r staff uno o gwmpas uchelgais a rennir yn wirioneddol i wneud newid mawr sylweddol mewn perthynas ag effaith ar yr hinsawdd.

Aeth ymlaen i ddweud ymhellach fod 99% o allyriadau o fewn ffiniau’r fwrdeistref sirol yn dod o sectorau ar wahân i’r sector cyhoeddus. Roedd gan y Cyngor swyddogaeth glir i arwain, gyrru a hwyluso newid ar draws yr holl Awdurdod. Felly, mae alinio strategaethau carbon isel a rhannu arfer gorau gyda Byrddau Partneriaeth Lleol, cymdogion rhanbarthol, cymunedau a busnesau, gan gynnwys Cynghorau Tref a Chymuned, yn hanfodol er mwyn mynd i’r afael ag ystod lawn yr allyriadau, gan gynnwys y rheiny o nwyddau a gwasanaethau a brynir.

Mae angen i’r holl gyrff cyhoeddus fynd i’r afael â dod yn Niwtral o ran Carbon erbyn 2030, ar sail delio â’r allyriadau mewn gwahanol gwmpasau fel yr eglurir yn yr adroddiad. Roedd partneriaethau’r sector cyhoeddus wrthi’n sefydlu eu gwaelodlinau carbon ac yn ceisio mynd i’r afael â’r un materion. Roedd busnesau hefyd yn nodi eu cyfrifoldebau corfforaethol a chymdeithasol i ddelio â’r newid yn yr hinsawdd er mwyn lleihau eu heffaith a gwella lles cymdeithasol. Roedd dull cydweithredol ar draws sectorau felly’n rhywbeth i’w ddymuno ac yn ymarferol hefyd.

Mae symud i system garbon isel yn cynyddu allbwn economaidd ac mae’n rhan o’n cynlluniau adfer cenedlaethol. Bydd strategaeth CBS Pen-y-bont ar Ogwr a’r cynllun gweithredu ar gyfer niwtraliaeth carbon felly’n cyfrannu at ffyniant economaidd lleol.

Mae CBS Pen-y-bont ar Ogwr hefyd wedi ymgysylltu â’r Ymddiriedolaeth Garbon i gynnal archwiliad gwaelodlin o’n hallyriadau Cwmpas 1, 2 a 3. Defnyddir y waelodlin hon i baratoi cynllun ar gyfer datgarboneiddio llawn erbyn 2030.

Amcangyfrif dros dro oedd bod oddeutu 60% o’n hallyriadau yn dod o gaffael. Bydd ein gwaith gyda’n cyflenwyr a’r gadwyn gyflenwi yn allweddol i sicrhau cynnydd cyflym tuag at sero net.

Ni all y Cyngor gyrraedd ei nod o ddatgarboneiddio ar ei ben ei hun ac felly bydd yn ymgysylltu’n eang â phartneriaid i rannu profiadau, gwybodaeth a chyflawni ein nodau. Caiff ei gynllun gweithredu drafft ei rannu’n eang ar gyfer ymgynghori er mwyn i aelodau’r cyhoedd, cymdeithas sifil, a’r holl randdeiliaid gael cyfle i siapio ein gwaith.

Rhoddwyd cyflwyniad ar y pwnc pwysig hwn hefyd gan Swyddogion, i ategu’r adroddiad.

Diolchodd yr Arweinydd i’r Swyddogion am eu cyflwyniad ac ychwanegodd fod y Newid yn yr Hinsawdd yn cael effaith ddinistriol ar y blaned ac yn lleol ar gymunedau a’i fod bellach yn cael ei ystyried yn swyddogol fel argyfwng. Felly, roedd angen newid pethau yn y dyfodol, er mwyn gwella’r sefyllfa.

Teimlai Aelod ei bod yn bwysig lleihau cyflymder traffig ar y ffyrdd a rhwydwaith y priffyrdd yn gyffredinol, a byddai hynny’n lleihau allyriadau carbon, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig fel mannau lle ceid ysgolion.

Dywedodd yr Arweinydd fod yna gynlluniau ar waith a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru i ystyried gweithredu parthau terfyn cyflymder o 20mya o fewn ardaloedd trefol, adeiledig ac roedd hyn yn rhywbeth oedd yn destun peilot ar hyn o bryd. Cadarnhaodd Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau fod hynny’n digwydd, gan ychwanegu y byddai’r prosiect hwn yn effeithio ar ffyrdd mawr ac ardaloedd preswyl ledled Cymru, gyda dyddiad cwblhau ar ddiwedd 2023 yn cael ei dargedu. Byddai CBS Pen-y-bont ar Ogwr yn ystyried hyn y tu allan i leoedd fel ysgolion a lleoliadau Gofal, ymhlith eraill.

O ran gwefru cerbydau trydan, dywedodd Aelod ei fod yn ofyniad statudol i Gyngor Pen-y-bont ar Ogwr drosi ei fflyd o gerbydau diesel/petrol i gerbydau trydan a darparu pwyntiau gwefru ar gyfer y cerbydau newydd hyn. Gofynnodd ble y câi’r pwyntiau gwefru hyn eu darparu ac a fyddai rhai yn cael eu gosod lle y gallai’r cyhoedd eu defnyddio, megis mewn meysydd parcio oedd ym mherchnogaeth CBS Pen-y-bont ar Ogwr neu a gâi eu rhedeg ganddo.

Dywedodd yr Arweinydd fod Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd wedi cymryd yr awenau o ran llywio a rhwymo buddsoddiad i ddarparu pwyntiau gwefru cerbydau trydan ac y câi nifer eu darparu yn y Fwrdeistref Sirol mewn mannau megis, er enghraifft, Porthcawl, Pen-y-bont ar Ogwr, Brynmenyn, Bryncethin, Maesteg ac wrth y Swyddfeydd Dinesig ac ar oddeutu 112 safle ar draws yr holl Fwrdeistref Sirol.

Dywedodd Aelod fod angen i’r Cyngor weithio gyda rhanddeiliaid a busnesau allweddol, er mwyn argraffu arnynt bwysigrwydd y newid i gerbydau trydan, megis y cyhoedd yn gyffredinol oedd yn berchen ar geir preifat a chwmnïau/gyrwyr tacsis, gan eu bod ar y ffordd yn fwy o lawer na chludiant cyhoeddus arall megis bysiau ac yn y blaen. Teimlai hi y dylid rhoi cymorth nid yn unig i drosi cerbydau megis y rheiny oedd yn cael eu darparu gan First Cymru o ynni confensiynol i ynni trydan, ond meddwl yn ogystal am ddarparu mwy o wasanaethau cludiant cyhoeddus yn nifer fwy o’n cymunedau gwledig yn ogystal â threfi.

Cadarnhaodd yr Arweinydd y byddai yna 15 o safleoedd gwefru trydanol ar gyfer cerbydau cludiant cyhoeddus mawr megis bysiau a’i fod ef yn deall ac yn cydnabod yr angen i dacsis drosi i ynni trydan hefyd, oedd yn fwy cyfeillgar i’r defnyddwyr.

Ychwanegodd Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau fod yr awdurdod lleol wedi rhwymo £500 mil i’r uchod ac y byddai’n ymroi i weithio gyda’i randdeiliaid, yn ogystal â chyda Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, er mwyn edrych ar ffynonellau ariannu posibl pellach, er mwyn sicrhau’r newidiadau trosi arfaethedig. Ychwanegodd y gwneid ymdrech bellach i hyrwyddo defnyddio Teithio Llesol a darparu mwy o lwybrau cludiant i fod ar gael ar draws y Fwrdeistref Sirol gyda darparwyr cludiant tebyg i First Cymru. Roedd Llywodraeth Cymru hefyd yn dal i gynorthwyo gyda chyllido teithiau bysiau ar draws Cymru, fel rhan o ailgyflwyno cludiant cyhoeddus ac annog y cyhoedd i ddefnyddio hwn, gan iddo gael ei atal yn ystod y cyfnodau clo.

Dywedodd Aelod y Cabinet dros Gymunedau fod gan Gyngor Pen-y-bont ar Ogwr yn awr Strategaeth Ddatgarboneiddio 2030 ac y câi ei farnu ar nodau ac amcanion hon ac yn y pen draw gyflawniadau’r strategaeth wrth iddi fynd rhagddi. Golygai hyn newid y ffordd y byddai’n cynnal ei fusnes yn y dyfodol a’r ffordd y byddai’n darparu mathau gwahanol o ynni. Roedd hyn yn cynnwys teithio a'r ffordd y byddem yn cynhesu ein cartrefi. Esboniodd fod gwir angen dull Un Cyngor er mwyn cyflawni hyn. O ran cyfleoedd teithio ehangach, ychwanegodd yr Aelod Cabinet dros Gymunedau fod Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd hefyd yn ariannu darpariaeth Cludiant Metro.

Teimlai Aelod y byddai cynigion yr agenda Ddatgarboneiddio ar raddfa ehangach yn effeithio ar y Grid Cenedlaethol.

Cadarnhaodd yr Arweinydd hyn drwy ddatgan bod y cyflenwad a’r galw tebygol ym Mhen-y-bont ar Ogwr wedi cael ei fapio eisoes.

Ychwanegodd Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau, yn ogystal â mathau trydanol o ynni, y byddai yna le i edrych ar fathau ‘cyfeillgar’ eraill o ynni, megis paneli haul a melinau gwynt. Gyda golwg ar gyfleusterau gwefru trydanol yn cael eu darparu mewn amrywiol leoliadau, roedd yn rhaid i’r rhain hefyd gyflenwi digon o ynni i wefru’r nifer disgwyliedig o gerbydau oedd i gael eu gwasanaethu yno. Byddai’n rhaid edrych yn fanwl ar faterion capasiti a’u monitro.

Roedd Aelod y Cabinet dros Gymunedau yn cydnabod y ffaith y câi’r Grid Cenedlaethol drafferth i ymdopi â’r ymchwydd disgwyliedig o ynni gwahanol pan ddeuai hyn i fod. Ar wahân i enghreifftiau eraill o ffynonellau ynni adnewyddadwy gwahanol a awgrymwyd, roedd ynni adnewyddadwy o’r môr hefyd yn ddewis hyfyw i ymchwilio iddo.

Awgrymodd Aelod y gellid trafod gyda Chynghorau Tref a Chymuned er mwyn eu cynorthwyo gyda’r lefelau o gyllid fyddai’n ofynnol ar gyfer pethau fel pwyntiau gwefru trydanol. Gellid gosod paneli haul hefyd ar adeiladau’r Cyngor, y gallai partneriaid/rhanddeiliaid y Cyngor gynorthwyo i’w hariannu.

Cytunai Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau y gellid dilyn y cynnig hwn ymhellach.

Gofynnodd Aelod a oedd cysylltu’r Pîl â Phen-y-bont ar Ogwr a Phorthcawl drwy gyfrwng tram wedi cael ystyriaeth bellach.

Cadarnhaodd Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau y byddai yna orsaf derfynol bysiau yn cysylltu cysylltiadau cludiant rhwng Porthcawl a’r Pîl fel rhan o ddatblygiad y Llyn Halen. Gellid gwneud cysylltiad pellach wedyn o’r Pîl i Ben-y-bont ar Ogwr ar y trên.

Teimlai Aelod fod angen edrych am ffyrdd o ddarbwyllo pobl rhag teithio mewn ceir, gan ei bod hi’n ystyried bod gormod o lawer o geir ar y ffordd. Dylid edrych hefyd ar leihau’r defnydd o ynni yn adeiladau’r Cyngor, yn enwedig mewn rhai o’r ysgolion h?n lle roedd y ffenestri mewn cyflwr gwael.

Cadarnhaodd Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau fod adran Landlord Corfforaethol y Cyngor yn ymgymryd â gwaith ailgymhwyso mewn ysgolion, h.y. darparu ffenestri, drysau ac inswleiddio newydd. Roedd hyn yn mynd ymlaen drwy fenthyciad ailgymhwyso fyddai’n cael ei dalu’n ôl dros 7 mlynedd, allan o’r arbedion ynni fyddai’n ganlyniad y gwaith hwn. Mewn ysgolion newydd oedd wedi eu hadeiladu’n ddiweddar, neu y cynigid eu hadeiladu yn y dyfodol, byddai effeithlonrwydd ynni wedi ei adeiladu i mewn i’w gwneuthuriad, meddai.        

PENDERFYNWYD:         Bod y Fforwm yn nodi'r adroddiad.

Dogfennau ategol: