Agenda item

Ail-gomisiynu Gwasanaethau Byw â Chymorth Arbenigol

Cofnodion:

Fe gyflwynodd  y Cyfarwyddwr Corfforaethol, Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles adroddiad er mwyn:-

 

·         Gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet i weithredu'r cynllun ail-gomisiynu arfaethedig ar gyfer gwasanaethau Byw â Chymorth Arbenigol, ar gyfer pobl ag anabledd dysgu, ar draws Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr;

·         Gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr (y Cyngor) i gynnal ymarfer caffael i wahodd tendrau i sefydlu Cytundeb Fframwaith ar gyfer darparwyr sy’n darparu gwasanaethau arbenigol;

·         Ceisio awdurdod i amrywio'r contract presennol gyda DRIVE Ltd mewn perthynas â'r gwasanaethau byw â chymorth arbenigol yn Clos Penglyn, a hynny trwy ymestyn y tymor presennol am 12 mis arall, yn unol â Rheol Gweithdrefn y Contract (CPR) 3.2.9.3.

 

Dechreuodd drwy ddweud bod y Cyngor, ers 2015, mewn cydweithrediad â chydweithwyr ym maes iechyd, wedi caffael tri gwasanaeth byw â chymorth arbenigol i bobl ag anableddau dysgu. Roedd y gwasanaethau hyn wedi'u lleoli mewn tai o'r enw Clos Penglyn, Condors Rest a Viesther, a adwaenir ar y cyd fel y prosiect Closer to Home, ac fe'u meddiannwyd gan un ar ddeg o unigolion. 

 

Nod y prosiect Agosach at y Cartref (Closer to Home) oedd darparu gwasanaethau byw â chymorth lleol ac arbenigol i bobl ag anabledd dysgu oedd a lefel uchel o anghenion iechyd a gofal cymdeithasol. Unigolion a fyddai fel arall yn byw y tu allan i'w hardal leol mewn darpariaeth breswyl fwy arbenigol. Roedd gan yr holl bobl a oedd yn byw yn y cynlluniau hyn eu tenantiaeth eu hunain a threfniadau cymorth pwrpasol wedi'u cynllunio o amgylch eu hanghenion unigol.

 

Cadarnhaodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles fod grwpiau gweithredol a strategol hefyd a oedd yn goruchwylio'r gwaith o reoli'r cynlluniau o ddydd i ddydd ynghyd a chyfeiriad strategol y prosiect Agosach at y Cartref.

 

Yn dilyn adolygiad manwl o'r cynlluniau generig yn 2018-19 a gynhaliwyd gan dîm Trawsnewid ac Adolygu Gofal Cymdeithasol i Oedolion y Cyngor ar effeithiolrwydd y gwasanaethau a ddarperir ynghyd a'r canlyniadau, daethpwyd i'r casgliad y byddai tri o'r cynlluniau a adolygwyd yng Nglyn y Mel, Pencoed, Byngalo Tregroes, Pencoed a 107 Cwrt Coed Parc, Maesteg yn fwy addas i'w cynnwys o fewn trefniant gwasanaeth arbenigol, oherwydd anghenion y saith unigolyn sy'n byw yn y lleoliadau hyn. Penderfynwyd grwpio pob un o'r chwe cynllun gyda'i gilydd o dan y categori Gwasanaeth Agosach at y Cartref.  Roedd gan y cynlluniau hyn a nodwedd gyffredin hefyd, swf bod elfen o gyllid yn dod gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg ym mhob un ohonyn nhw.

 

Dywedodd ei fod wedi’i gytuno gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg fod angen Strategaeth Comisiynu Agosach at y Cartref newydd a bod gr?p cynllunio newydd wedi'i ffurfio i baratoi’r dadansoddiad o’r anghenion a chreu'r gwasanaethau llety a gofal a chymorth gorau posibl.  

 

Gan droi at y sefyllfa bresennol, cadarnhaodd Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles fod digwyddiad profi'r farchnad wedi'i gynnal ar 19 Ebrill 2021 lle rhoddodd y darparwyr a oedd yn bresennol adborth gadarnhaol iawn ar sut yr oedd cynlluniau byw â chymorth y Cyngor wedi'u hailgomisiynu yn 2020.  Roedd yn amlwg o'r cyfarfod hwn mai'r dewis a ffefrir ar gyfer ailgomisiynu Gwasanaethau Byw â Chymorth Arbenigol oedd defnyddio model tebyg ar gyfer paratoi’r manyleb ar gyfer y gwasanaeth, lle byddai pwyslais clir ar gyd-gynhyrchu a chreu gwell cysylltiadau cyfathrebu rhwng y darparwyr a chomisiynwyr y gwasanaeth.  Fel gyda'r fframwaith byw â chymorth, y cynnig yw ein bod yn cynnig Cytundeb Fframwaith pedair blynedd, a fydd yn sicrhau bod y ddau fath o wasanaeth yn cyd-fynd â'i gilydd.

 

Roedd y cynigion yma fel a ganlyn:

 

a.          Cam 1 – Cynnal ymarfer caffael ym mis Mai 2021 i sefydlu Cytundeb Fframwaith gyda nifer o ddarparwyr gwasanaethau sy'n bodloni'r fanyleb ansawdd a nhw fyddai wedyn yn cael eu hystyried ar gyfer cyflawni'r Cynlluniau Byw â Chymorth Arbenigol rhestredig yn y dyfodol (y "Gwasanaeth Arbenigol") – y Cytundeb Fframwaith i'w ddyfarnu erbyn mis Tachwedd 2021;

 

b.          Cam 2 – Ymgymryd â chyfres o dendrau yn ol y gofyn o dan y Cytundeb Fframwaith ar gyfer pob Gwasanaeth Arbenigol.  Bydd hon yn broses caffaeliad graddol a fydd yn cael ei gweithredu dros nifer o fisoedd ar ôl dyfarnu'r Cytundeb Fframwaith.

 

Aeth ymlaen i gadarnhau bod y Cyngor wedi ymrwymo i weithio gyda darparwyr gwasanaethau profiadol o ansawdd uchel, a byddai pwyslais cryf iawn ar ansawdd fel rhan o broses gwerthuso tendrau'r Cytundeb Fframwaith. Er mwyn galluogi hyn, bydd y gymhareb cost:ansawdd o 20:80 yn cael ei phwysoli'n gryf o blaid ansawdd a fyddai'n cael ei gwerthuso drwy'r ymatebion ysgrifenedig gan y darparwyr, yn ogystal â chyflwyniadau a/neu gyfweliadau sy'n rhan o'r broses dendro.

 

           Mae’r tabl ym mharagraff 4.8 o'r adroddiad yn nodi'r amserlenni caffael arfaethedig ar gyfer Cam 1 ar gyfer gweithredu'r cynllun ailgomisiynu.

 

Cynigiwyd ymhellach bod y Cyngor yn cynnal ymarfer caffael (Cam 2) dros y 12 mis nesaf er mwyn ail-gomisiynu’r gwasanaethau hynny sydd wedi’u rhestru.

 

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles adroddiad, a'i ddiben oedd ceisio awdurdod i amrywio'r contract presennol gyda DRIVE Ltd mewn perthynas â'r gwasanaeth byw â chymorth arbenigol yng Nghlos Penglyn, a hynny trwy ymestyn y tymor presennol am 12 mis arall, yn unol â Rheol Gweithdrefn y Contract (CPR) 3.2.9.3. Cafodd y disgrifiad swydd a'r arbedion cost diwygiedig eu hamlinellu yn yr adroddiad hefyd.

 

Roedd y gwaith cysylltu angenrheidiol bellach wedi'i wneud, ond er mwyn alinio'r holl Gynlluniau Byw â Chymorth Arbenigol a sicrhau cydymffurfiaeth â Rheolau Gweithdrefn Contract y Cyngor, fe gynigiwyd bod y Cyngor yn awdurdodi ymestyn y telerau presennol ar gyfer Clos Penglyn am 7 mis arall hyd at 31 Mawrth 2022 , yn unol â CPR 3.2.9.3.

 

Cwblhawyd yr adroddiad drwy amlinellu'r goblygiadau ariannol sy'n gysylltiedig â chynigion yr adroddiad.

 

Gofynnodd yr Arweinydd a fydd y defnyddwyr gwasanaeth a'u teuluoedd, lle'r oedd yn briodol, yn cymryd rhan yn y trefniadau comisiynu arfaethedig o ran y gofal a'r cymorth a ddarperir iddynt drwy'r gwasanaeth. Roedd gan rai o'r cleientiaid hyn anghenion cymhleth iawn. Yn ail, gofynnodd i ble y byddai'r gwasanaethau cymorth hyn yn cael eu lleoli ledled y Fwrdeistref Sirol.

 

Cadarnhaodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar fod ganddi brofiad uniongyrchol o weld yn uniongyrchol yr anghenion cymhleth sydd gan rai o'r bobl ifanc hyn gan fod angen y gwasanaethau cymorth hyn arnynt a faint o fewnbwn y mae gwasanaethau allweddol fel y rhai a enghreifftiwyd yn yr adroddiad yn effeithio ar benderfynu ar y dyfodol y maent am ei arwain mewn bywyd. Dyma ddechrau eu taith a byddai'r cymorth arbenigol a ddarperir drwy'r cyfleusterau y cyfeirir atynt yn yr adroddiad yn eu helpu i fynd ymlaen i fyw'r bywyd gorau posibl. Fe ychwanegodd ei bod yn bwysig mabwysiadu strategaethau sy'n canolbwyntio ar bob unigolyn. Byddai hynny yn ei dro yn helpu'r bobl ifanc hyn i fyw bywyd annibynnol gyda chefnogaeth. Fel y crybwyllodd yr Arweinydd, roedd yn bwysig iawn ymgysylltu â'r unigolion a'u teuluoedd/gofalwyr, er mwyn sicrhau bod y cymorth priodol ar gael i bob unigolyn a bod y gofynion gwahanol hynny sydd ganddynt yn derbyn cefnogaeth.

 

Dywedodd Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles y byddai gan ddefnyddwyr gwasanaethau a'r rhai a oedd yn eu cefnogi, drwy'r broses gomisiynu, 'lais a dewis', o ran y math o gymorth a'r lefel o gymorth a roddwyd ar waith ar eu cyfer. Byddai arbenigwyr fel y rhai mewn Gofal Cymdeithasol, Iechyd a'r Anabledd Dysgu yn sicrhau bod hyn yn digwydd, drwy weithio mewn modd integredig. Byddai Pobl yn Gyntaf hefyd yn darparu cymorth o gynnal cysylltiad parhaus drwy'r broses ail-gomisiynu. Roedd trefniadau eiriolaeth annibynnol hefyd yn hollbwysig wrth i'r gwasanaeth newid, ychwanegodd. O ran y llety cefnogol, byddai 3 o'r fath ar gael ym Mhencoed ac 1 yr un yn ardaloedd Tondu, Cwmfelin a Maesteg. Y weledigaeth tymor hir oedd ychwanegu at y rhain i gynnwys rhannau eraill o'r Fwrdeistref Sirol.  

 

PENDERFYNIAD:                            Fod y Cabinet wedi:

 

  • Cymeradwyo'r cynllun ail-gomisiynu a gynigiwyd ar gyfer gwasanaethau Byw â Chymorth Arbenigol ym Mhen-y-bont ar Ogwr;
  • Cymeradwyo gwahoddiad tendrau i sefydlu Cytundeb Fframwaith ar gyfer darparwyr arbenigol a gomisiynwyd;
  • Fod y Cabinet yn awdurdodi addasu'r contract presennol gyda DRIVE Ltd mewn perthynas â Chlos Penglyn drwy ymestyn y tymor presennol am 12 mis arall hyd at 31 Awst 2021, yn unol â CPR 3.2.9.3.

Nodwyd y byddai adroddiad pellach yn cael ei gyflwyno i'r Cabinet, yn gofyn am gymeradwyaeth i ymrwymo i Gytundeb Fframwaith ar gyfer gwasanaethau Byw â Chymorth a gomisiynwyd yn allanol ac i weithredu'r broses o gaffael tendrau Gwasanaeth Arbenigol yng Nghyfnod 2.

Dogfennau ategol: