Agenda item

Contract Rheoli Plâu

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid Dros Dro adroddiad yn rhoi’r cefndir, y sefyllfa bresennol a’r opsiynau i’r Cabinet i bennu’r ffordd ymlaen a ffefrir o ran gwasanaeth rheoli plâu yn dilyn adroddiad blaenorol y Cabinet ar 19 Ionawr 2021 pan gytunwyd i archwilio opsiynau amgen pellach. Cymeradwyodd y Cabinet hefyd atal y rhannau perthnasol o Reolau Gweithdrefn Gontract y Cyngor i ymrwymo i gontract tymor byr gyda'r darparwr gwasanaeth rheoli plâu cyfredol Rentokil tra bod opsiynau pellach yn cael eu harchwilio. Dywedodd fod Rentokil wedi cytuno i ymestyn y contract cyfredol tan fis Hydref 2021, a’u bod wedi dweud hefyd mai hwn oedd yr estyniad hiraf y byddent yn cytuno iddo o dan delerau'r contract cyfredol.

 

Esboniodd y Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid Dros Dro y cyflwynwyd tri opsiwn i'r Cabinet ym mis Ionawr 2021 ond y penderfyniad a gymerwyd gan y Cabinet oedd ymestyn y contract cyfredol wrth archwilio opsiynau pellach. Roedd ymgynghoriad cyhoeddus ‘Llunio Dyfodol Pen-y-bont ar Ogwr’ 2019 wedi gofyn am farn ar gynigion penodol i leihau cyllideb ar draws cyfarwyddiaethau’r Cyngor ac roedd yn cynnwys cwestiwn i gael barn preswylwyr ar wasanaeth rheoli plâu. Nododd 58% o'r ymatebwyr eu bod o'r farn nad y Cyngor oedd yn y sefyllfa orau i ddarparu gwasanaeth rheoli plâu. Gofynnwyd cwestiwn atodol i ymatebwyr ynghylch a ddylai'r cyngor ystyried codi tâl am y gwasanaethau hyn a dim ond 16% o'r ymatebwyr i'r cwestiwn hwn a nododd y dylai'r gwasanaeth barhau i fod yn rhad ac am ddim i breswylwyr.

 

Cyfeiriodd y Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid Dros Dro at y gofyniad i'r contractwr ymateb i bob cais am drin pla yn y cartref o fewn 3 diwrnod gwaith. Nid oedd hyn yn ddelfrydol oherwydd bod gofyn wedyn i’r preswylwyr aros am yr ymweliad gan nad oedd modd cytuno ar amser ymlaen llaw. Oherwydd hyn, gwnaed lefel uchel o alwadau yn ofer gan nad oedd preswylwyr yn yr eiddo pan gyrhaeddodd y technegydd rheoli plâu. Roedd hyn yn bwysig ar gyfer contract newydd o ran manyleb. Mae’r arwyddion o’r farchnad yn awgrymu y bydd cost contract y dyfodol yn debygol o gynyddu.

 

Esboniodd y Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid Dros Dro fod y Rheolwr Gweithredol ar gyfer Gwasanaethau Cwsmeriaid yn cysylltu â'r 21 awdurdod lleol arall yng Nghymru i nodi pa wasanaeth rheoli plâu domestig sy’n cael ei gynnig i'w preswylwyr. O'r 21 awdurdod y cysylltwyd â nhw, ar wahân i ddau opsiwn arall a nodwyd ym Mhen-y-bont ar Ogwr, ni ddarparodd unrhyw awdurdod unrhyw opsiynau amgen pellach gan fod y mwyafrif naill ai'n darparu gwasanaeth y mae’n rhaid talu amdano’n llawn, neu heb ddarparu gwasanaeth o gwbl. Amlinellodd y Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid Dros Dro y pum opsiwn i'w hystyried.

 

Diolchodd yr Aelod Cabinet dros Les a Chenedlaethau'r Dyfodol i'r swyddogion am eu gwaith a dywedodd y byddai'n well ganddi opsiwn a oedd yn rhad ac am ddim. O'r 5 opsiwn, roedd 2 yn cynnwys codi tâl a byddai'n well ganddi i'r 2 hynny beidio â chael eu datblygu ymhellach gan y dylid cael gwasanaeth rheoli plâu am ddim. Digwyddodd yr ymgynghoriad cyn y pandemig ac ni allent ddibynnu ar y canlyniad. Bu cynnydd sylweddol yn nifer yr atgyfeiriadau yn ystod y pandemig ac os gofynnwyd yr un cwestiwn i breswylwyr eto, credai y byddent yn cael ymateb gwahanol iawn. Roedd hefyd wedi gweld tystiolaeth o hyn o'i gwaith achos ei hun a thrafodaethau gydag aelodau eraill. Awgrymodd yr Aelod Cabinet y dylai'r awdurdod barhau â gwasanaeth am ddim ac archwilio naill ai opsiwn 3, 4 neu 5.

 

Atebodd y Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid Dros Dro, pe byddent yn dewis opsiwn 3, byddai angen iddynt ymgynghori. Roedd pethau’n dynn iawn o ran amserlenni a byddai'r ymgynghoriad hwn yn cymryd 3 mis. Nid oedd angen ymgynghori ag opsiynau 4 a 5. Cadarnhaodd yr Aelod Cabinet dros Les a Chenedlaethau'r Dyfodol y byddai'n hapus i symud ymlaen gydag opsiynau 4 neu 5.

 

Cytunodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar gyda'r Aelod Cabinet dros Les a Chenedlaethau'r Dyfodol ac roedd yn well ganddynt hefyd opsiynau 4 neu 5. Nid oedd yn teimlo bod darparwr allanol wedi'i gymell yn ddigonol i fynd i'r afael â'r broblem a'i datrys. Nid oedd y problemau yn y gymuned yn cael sylw ac roedd hynny'n gofyn am ddull cydgysylltiedig sy'n gysylltiedig â gorfodi ac iechyd yr amgylchedd. Pwy oedd yn gyfrifol am y boblogaeth llygod mawr? Roedd angen ystyried nifer o faterion mewn ffordd fwy strategol a dim ond yr awdurdod a allai wneud hynny. Roedd angen datrysiad tymor hir ac nid ateb dros dro ac roedd yn rhaid i’r ateb fod yn rhad ac am ddim. 

 

Dywedodd y Dirprwy Arweinydd nad oedd llygod mawr yn briodol mewn unrhyw amgylchedd boed yn wledig neu'n drefol. O ran yr ymgynghoriad cyhoeddus, credai 59% nad y Cyngor oedd yn y sefyllfa orau i ddarparu'r gwasanaeth. Gofynnodd a oedd y rhai yr ymgynghorwyd â hwy yn ymwybodol bod darparwr trydydd parti ac roedd hyn yn arwydd nad oeddent yn hapus gyda'r gwasanaeth. Hefyd roedd arwydd y byddai llai nag 1 o bob 5 yn hapus i dalu. Roedd yn cofio pan aeth hyn i’r pwyllgor trosolwg a chraffu, roedd pryder am yr effaith ar aelwydydd incwm isel a phwy oedd yn berchen ar y llygoden fawr. Pe byddent yn dechrau codi tâl ni fyddai unrhyw un yn ffonio'r Cyngor i gael gwared ar y llygoden fawr. Cyfrifoldeb y Cyngor oedd rheoli'r boblogaeth llygod mawr. Nid oedd peidio â darparu'r gwasanaeth yn opsiwn. Roedd yn well ganddo opsiwn 4 neu 5 er nad oedd unrhyw arwydd o bris ar gyfer opsiwn 4. Credai y dylent fynd allan i dendr i ddarparu gwasanaeth rheoli llygod mawr strategol gan ddarparu'r gwerth gorau am arian.

 

Roedd yr Aelod Cabinet dros Gymunedau hefyd yn gwyro tuag at opsiynau 4 a 5. Nid oedd yn synnu bod y boblogaeth llygod mawr yn mudo yn sgil cau bwytai a chaffis. Gallai hyn newid yn y dyfodol wrth i fusnesau ailagor. Yn syml, roedd hyn wedi gwneud y cyhoedd yn ymwybodol o'r boblogaeth llygod mawr yn eu hamgylchedd. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad cyn y pandemig ac efallai y byddai'r canfyddiadau bellach yn wahanol. Roedd dod â'r gwasanaeth i ben yn rhywbeth na ellid ei ddychmygu ac roedd yn hapus gydag opsiynau 4 neu 5.

 

Esboniodd y Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid Dros Dro y byddai angen i'r awdurdod, yn ôl y disgwyl, fynd am yr opsiwn sy’n rhoi’r gwerth gorau. O ran y cwestiwn pwy oedd yn berchen ar y llygoden fawr, darparodd opsiwn 3 ddatrysiad fel petai’r llygoden yn y t?, a bod gwasanaeth am ddim. Er mwyn sicrhau gwerth am arian, byddai'n rhaid iddynt fynd allan i dendro gyda manyleb a gweld beth fyddai'r farchnad yn ei ddarparu o ran gwell gwasanaeth.

 

Gofynnodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar iddynt edrych ar strategaeth i ddifa yn hytrach na rheoli poblogaeth y llygod mawr ac y dylai'r tendr adlewyrchu hyn. Credai y byddai arbedion tymor hir pe bai hyn yn cael ei drin yn iawn yn y lle cyntaf. Ychwanegodd y Dirprwy Arweinydd y byddai llygod mawr yn bresennol bob amser ac felly roedd yn bwysig cael cyfuniad o wasanaeth rhagweithiol ac adweithiol.     

 

Dywedodd yr Arweinydd na ellid mynd i’r afael â’r mater gan un asiantaeth yn unig a bod angen strategaeth amlasiantaethol ar draws y fwrdeistref. Gallent hefyd ystyried ymgynghori gyda’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus.

 

Esboniodd Rheolwr y Gr?p Trawsnewid a Gwasanaethau Cwsmeriaid fod cymal i gynnal perthnasoedd gwaith agos ag SRS yn y contract cyfredol. Cysylltodd Rentokil ag SRS i fynd i'r afael â materion fel sbwriel yn yr ardd a byddai'n gweithio i fynd i'r afael â’r materion. Byddent yn sicrhau y byddai hynny'n cael ei ystyried yn y fanyleb yn y dyfodol.

 

Esboniodd y Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid Dros Dro fod dwy ran i hyn, y strategaeth sef rhan SRS a rheoli plâu a oedd ar ben hynny. Roedd dull strategol ar fod eisoes. 

 

Atebodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar ei bod yn ymwybodol ohono a bod ganddi brofiad ohono ac yn ei barn hi nid oedd yn symud yn ddigon cyflym nad oedd yn ddigon effeithiol. Roedd yna lawer o symud pethau yn ôl ac ymlaen ac nid oedd ymgais i ddarganfod a datrys yr achos sylfaenol yn ddigon effeithiol. Dywedodd y Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid Dros Do y byddent yn mynd â hyn trwodd i’r Bwrdd SRS.  

 

PENDERFYNWYD:               Bod y Cabinet:

 

·      Wedi ystyried yr opsiynau a amlinellwyd yn yr adroddiad ac wedi cytuno i gyhoeddi tendr.

·      Eisiau darparu gwasanaeth am ddim ac yn ffafrio opsiynau 4 a 5 fel y cyfeirir atynt yn yr adroddiad.

 

Dogfennau ategol: