Agenda item

Derbyn adroddiad yr Arweinydd

Cofnodion:

Roedd adroddiad yr Arweinwyr fel a ganlyn:

 

"Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i chi am fy ailethol yn Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

 

Mae'n fraint ac yn anrhydedd enfawr, a hoffwn ddiolch yn ddiffuant i'm haelodau.

 

Byddaf, wrth gwrs, yn parhau i roi fy sylw llawn a'm ffocws i'r rôl, ac yn gwneud fy ngorau glas i'r bobl yr ydym oll yn eu gwasanaethu.

 

Diolch am eich gwasanaeth, y Cynghorydd Watts. Roeddwn i’n disgwyl i chi wasanaethu'r gymuned gyda rhagoriaeth ac fe wnaethoch hynny. Fe wnaethoch gadeirio cyfarfodydd y cyngor yn fedrus iawn yn rhithwir, yn ddi-os y cyfarfod anoddaf i'w gadeirio. Rydych chi a Julia’n gwneud tîm gwych.

 

Llongyfarchiadau hefyd i'r cynghorwyr Giffard a Hussein am eu llwyddiant wrth ddod yn aelodau rhanbarthol o'r Senedd. Rwy'n si?r y byddant yn hyrwyddo llywodraeth leol a Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn eu rolau newydd.

 

Hoffwn gofnodi fy mod yn parchu'r cynghorwyr Cheryl Green a Norah Clarke yn ddwfn. Mae'r Cynghorydd Green yn ymddiswyddo fel cadeirydd y Pwyllgor Craffu, a'r Cynghorydd Clarke fel arweinydd yr wrthblaid.

 

Mae'r ddau wedi dal rolau arwain yn ystod eu cyfnod fel cynrychiolwyr etholedig, ac maen nhw bob amser wedi bod yn ddim llai nag adeiladol a pharchus tuag at eu cyd-aelodau wrth ymgymryd â'u dyletswyddau.

 

Maen nhw bob amser wedi rhoi buddiannau trigolion lleol wrth wraidd yr hyn a wnânt, ac rwyf am ddiolch yn gyhoeddus iddynt am eu cyfraniadau a'u gwasanaeth.

 

Fel arfer, byddai hyn yn gyfle i mi siarad am uchafbwyntiau'r cyngor dros y deuddeg mis diwethaf, ac edrych tuag at yr hyn y byddwn yn ceisio'i gyflawni yn y flwyddyn i ddod.

 

Fodd bynnag, mae'r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn bopeth heblaw normal. 

 

Mae bellach yn bedwar mis ar ddeg ers i bandemig y coronafeirws gychwyn, a'n gorfodi ni i gyd i osgoi cyswllt a gweithio gartref.

 

O'i gymharu â'r ffordd yr oedd pethau bryd hynny, mae'r rhagolygon bellach yn llawer gwell, gyda chyfraddau heintio'n gostwng, nifer y brechiadau'n cynyddu a’r cyfyngiadau yn dal i leddfu. Serch hynny, nid yw Covid-19 wedi diflannu, a byddai'n beth ffôl ymddwyn fel petai wedi mynd.

 

O'r herwydd, mae’r cyngor gan Lywodraeth Cymru i weithio gartref lle bynnag y bo modd yn dal i fod ar waith, ac mae'n debygol o fod felly am beth amser eto.

Meddyliais am hyn yn ddiweddar wrth ystyried beth i siarad amdano yma heddiw, ac fe'm hatgoffwyd o ddau beth.

 

Y cyntaf yw pa mor heriol y bu’r flwyddyn ddiwethaf, ond sut, pan oedd cymaint yn y fantol, y daeth pobl at ei gilydd a rhoi ymateb unedig.

 

Yn ôl ar ddechrau'r pandemig, ffurfiodd y cyngor gr?p llywio cynllunio a chydgysylltu coronafeirws, cam a oedd yn hanfodol er mwyn sicrhau y gallem ymateb i'r heriau a ddeuai yn sgil y pandemig yn gyflym ac yn effeithiol.

 

Cyn pen dim, fe rowliodd y diwrnodau gwaith hirion a’r nosweithiau byrion i’w gilydd, a’n profi’n ddifrifol fel unigolion ac fel sefydliad.

 

Fe wnaethom ddyfalbarhau a chwrdd â'r heriau hyn drwy ymuno â grwpiau, cyrff cyhoeddus a sefydliadau eraill i weithredu fel un wrth geisio amddiffyn ein cymunedau.

 

Yn ystod yr argyfwng, ffurfiwyd partneriaethau, ac mewn llawer o achosion eu hatgyfodi.

 

Daeth sefydliadau sy'n amrywio o gynghorau Pen-y-bont ar Ogwr, Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, Heddlu De Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru, at ei gilydd i rannu gwybodaeth ac adnoddau i gael yr effaith fwyaf posibl.

 

Mae'r dull hwn o gydweithredu yn parhau, ac rwy’n amau ei fod wedi gosod y sylfeini ar gyfer cydweithredu agos pellach, hyd yn oed ar ôl i'r pandemig ddod i ben.

 

Yr ail beth y cefais fy atgoffa ohono wrth ystyried yr hyn y byddwn yn ei ddweud yma heddiw oedd yr ymateb rhyfeddol gan weithlu'r cyngor yn wyneb Covid-19.

 

Fe wnaeth ein staff addasu, arloesi a dyfalbarhau o dan yr amgylchiadau anoddaf, gan weithio oriau hir heb unrhyw wobr ychwanegol ac, mewn rhai achosion, amlygu eu hunain i’r coronafeirws wrth iddynt fynd ati i sicrhau bod yr awdurdod yn gallu parhau i ddarparu gwasanaethau hanfodol.

 

Efallai y cofiwch sut yr ymgynghorwyd yn gyflym ag undebau llafur a sefydlu sut y gellid adleoli ac ail-flaenoriaethu staff, adnoddau a gwasanaethau er mwyn delio â'r argyfwng.

 

Un o'r pryderon mwyaf yn ystod y cam cychwynnol, wrth gwrs, oedd argaeledd hylif diheintio a chyfarpar diogelu personol addas i helpu i gadw ein gweithwyr yn ddiogel ac yn ddigon iach i allu parhau i gefnogi pobl.

Fe wnaeth y staff wyrthiau o ran sicrhau stociau digonol, ac fe wnaeth hyd yn oed athrawon o ysgolion lleol ymuno â’r gwaith o greu feisorau amddiffynnol, a mwy, gan ddefnyddio peiriannau argraffu 3D ac offer gweithdy arall.

 

Dydw i ddim yn gwybod a allwch chi gofio ble'r oeddech chi pan gyhoeddwyd, o’r diwedd, y cyfyngiadau symud gan arwain at ein strydoedd a chanol trefi i fod yn wag yn sydyn, ond roeddwn i yn y Swyddfeydd Dinesig yn Stryd yr Angel.

 

Cofiaf feddwl pa mor anarferol ydoedd i gerdded ar hyd swyddfeydd cynllun agored yr adeilad ac i beidio â gweld na chlywed aelod arall o staff.

Diolch byth, fe gyflawnodd tîm TGCh y cyngor wyrth fach yn y cyfnod yn arwain at y cyfyngiadau symud, ac o fewn ychydig wythnosau, roeddent wedi sicrhau bod gweithlu cyfan y cyngor yn gallu gweithio gartref.

 

Gwnaed ymdrech enfawr i annog preswylwyr i gyflawni eu busnes cyngor ar-lein neu dros y ffôn, a bu'n rhaid paratoi ystod eang o gyngor a chymorth i unigolion, busnesau a sefydliadau o bob math ac o bob maint ar frys.

 

Gyda’r cyhoeddiad bod y wlad yn mynd i gyfnod clo yn swyddogol, ac y bydd pobl yn gorfod aros gartref, caewyd ysgolion a chyfleusterau fel Amlosgfa Llangrallo yn gyflym, a chyflwynwyd rheolau llym newydd mewn cartrefi gofal i ddiogelu trigolion oedrannus rhag amlygiad.

Fe sicrhaodd ein staff gofal cymdeithasol nad oedd yn rhaid i unrhyw berson agored i niwed wynebu’r pandemig ar ei ben ei hun, ac fe aethant i drafferthion ychwanegol i sicrhau eu bod yn ddiogel.

 

Sefydlodd ein staff mewn ysgolion sesiynau dysgu ar-lein, a dosbarthu offer TG ac, mewn rhai achosion, gysylltiadau band eang, hyd yn oed, i sicrhau na fyddai unrhyw blentyn yn colli allan ar wersi.

 

Ochr yn ochr â’r ystod eang o sefydliadau ac asiantaethau a ddaeth at ei gilydd i weithio mewn partneriaeth ac i amddiffyn ein cymunedau lleol, sefydlwyd llawer iawn yn ystod wythnosau a misoedd cynnar y pandemig.

 

Roedd hyn yn cynnwys sefydlu chwe chanolfan gofal plant brys, yn llythrennol dros nos, er mwyn sicrhau y gallai gweithwyr allweddol hanfodol barhau i ddod i’r gwaith a chadw’r system i redeg yn esmwyth.

 

Fe wnaethom ddatblygu system dosbarthu parseli bwyd a sicrhaodd nad oedd mwy na 5,000 o blant a oedd â hawl i gael prydau ysgol am ddim yn mynd yn llwglyd, ac a’n galluogodd hefyd i ofalu am eu lles drwy gynnal gwiriadau diogelu a chyswllt uniongyrchol.

 

Cafodd depos y Cyngor eu trosi’n gyflym yn orsafoedd ambiwlans dros dro, ail-agorwyd Maenordy Abergarw fel cyfleuster cam-i-lawr dros dro i bobl sy’n gadael yr ysbyty, a sefydlwyd gr?p rhannu gwybodaeth gyda’r holl ddarparwyr gofal a gomisiynwyd.

 

Fe wnaethom sicrhau bod pob cartref gofal, yn breifat neu fel arall, yn cael y canllawiau diweddaraf i helpu i ddiogelu staff a phreswylwyr, ac fe wnaethom amrywiaeth o waith i gael pobl ddigartref oddi ar y strydoedd.

 

Fe wnaethom gefnogi’r gwaith o sefydlu canolfannau profi coronafeirws, gan ddod o hyd i leoliadau addas a sicrhau y gallent symud o amgylch y fwrdeistref sirol a thargedu cymunedau lle gallant fod o’r cymorth fwyaf.

 

Fe wnaethom weithio ochr yn ochr â BAVO a grwpiau cymunedol gwych i gefnogi miloedd o bobl agored i niwed a oedd yn cysgodi, a sefydlu system ymarferol, a reolir yn lleol, er mwyn profi, olrhain, ac amddiffyn, a hynny mewn pythefnos yn unig.

 

Er mwyn cefnogi busnesau lleol, gweithiodd ein staff yn ddiflino ac aberthu eu penwythnosau i brosesu miloedd o geisiadau am gyllid a arweiniodd at ddarparu miliynau o bunnoedd o gymorth ariannol.

 

Fe wnaethom hefyd roi cyngor ac arweiniad ymarferol i fusnesau ynghyd â deunyddiau fel gwarchodwyr tisian, lifrai palmant, posteri, arwyddion a mwy, a gynlluniwyd i gadw staff a chwsmeriaid yn ddiogel rhag cael amlygiad.

 

Yn ogystal, fe wnaethom rewi rhenti ar gyfer busnesau bach a chanolig eu maint, gan gynnwys y stondinau ym marchnadoedd Pen-y-bont ar Ogwr a Maesteg, a chychwyn cyfnodau o barcio ceir am ddim mewn ardaloedd fel Pen-y-bont ar Ogwr a Phorthcawl.

 

O ddechrau’r argyfwng, cafodd negeseuon allweddol a chyngor swyddogol eu monitro, eu rhannu a’u cynnwys yn ein cyfathrebiadau ein hunain, ac fe wnaethom waith mewnol digynsail a oedd yn ceisio gofalu am iechyd a lles staff y cyngor, a sicrhau eu bod yn parhau’n heini ac yn iach i ddarparu gwasanaethau hanfodol.

 

Erbyn diwedd y flwyddyn, roeddem wedi cyflwyno mwy na mil o ddatganiadau i’r wasg, a datblygu diweddariad dyddiol cynhwysfawr a oedd yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’n cynulleidfaoedd allweddol drwy gydol yr argyfwng.

 

Bu'n rhaid i ni hefyd gynllunio ar gyfer senarios lle gallai gwastraff ac ailgylchu fynd heb eu casglu a'u pentyrru pe bai gweithwyr Kier yn dod i gysylltiad torfol – rhywbeth na ddigwyddodd diolch byth, a bu Kier yn arbennig o weithgar o ran osgoi hyn.

 

Wrth gwrs, mae'n hawdd anghofio'r ansicrwydd yr oeddem yn delio ag ef bryd hynny. Ar y dechrau, nid oedd neb yn gwybod â sicrwydd am yr effaith bosibl y gallai'r pandemig ei chael, ac yr oedd llawer o bethau y bu'n rhaid inni gynllunio ar eu rhan, ond nad oedd yn rhaid eu gweithredu, diolch byth.

 

Ni fyddwn byth yn anghofio cadeirio cyfarfodydd lle'r oeddem yn cynllunio ar gyfer storio cyrff mewn storfa oer a hyd yn oed y posibilrwydd o gynnal claddedigaethau torfol wrth inni brofi'r ymchwydd cychwynnol mewn achosion a phan oedd ysbytai'n llawn cleifion.

Serch hynny, roedd hwn yn bosibilrwydd y bu’n rhaid inni fod yn barod amdano, a rhoddodd y cyngor a’i bartneriaid y cynlluniau ar waith, gan obeithio drwy’r amser y byddent yn ddiangen yn y pen draw.

 

Er na fu’n rhaid gweithredu’r rhain, diolch byth, cafwyd nifer o farwolaethau o ganlyniad i’r feirws.

Rydym i gyd yn adnabod rhywun a fu farw o ganlyniad i gontractio Covid-19, ac unwaith y dechreuodd y rhaglen cyflwyno brechlyn coronafeirws o ddifrif, ymgymerodd y cyngor unwaith eto â rôl hollbwysig a gweithiodd ochr yn ochr â’n partneriaid ym maes iechyd i sefydlu canolfannau brechu lleol.

 

Ar ôl ymweld â’r un yn Ravens Court ar gyfer fy mhigiad fy hun, gallaf ddweud yn onest ei fod yn broses dynn, effeithlon a hynod galonogol. Bellach, gyda chadarnhad yn ddiweddar gan Iechyd Cyhoeddus Cymru bod mwy na dwy filiwn o frechiadau wedi’u rhoi ledled Cymru, mawr obeithiaf fod y gwaethaf o’r pandemig y tu ôl inni.

 

Yn anffodus, fe ddaeth y pandemig yn sgil pethau fel Brexit a sawl digwyddiad arall sy’n dal i fod â goblygiadau enfawr i’r fwrdeistref sirol.

 

Ar ôl colli Ffatri Injan Ford ym Mhen-y-bont ar Ogwr, daeth y penderfyniad gan Ineos i adleoli eu busnes gweithgynhyrchu ceir i Ewrop, a’r cyhoeddiad gan y Ciner Group eu bod yn sefydlu eu gwaith poteli yng Nglyn Ebwy.

 

Dro ar ôl tro, rwyf wedi ailadrodd fy ngalwad i Lywodraeth y DU weithio ochr yn ochr â Llywodraeth Cymru i wneud ymdrechion o’r newydd i ddenu buddsoddiad newydd i’r ardal.

 

Nid wyf yn bwriadu gadael i hyn gael ei anghofio - mae buddsoddiad brys a gweithredu cyflym yn dal i fod yn hanfodol i ddiogelu cymunedau ac economi leol y fwrdeistref sirol.

 

Mae Llywodraeth Cymru yn ymdrechu i’n cefnogi, felly galwaf eto ar Lywodraeth y DU i ymuno â hwy, ac i beidio ag anghofio am Fwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

 

Mae arnom angen i’r ddau weithio gyda ni i ddod â buddsoddiad, busnesau a swyddi, ac i gefnogi cyflogwyr presennol, ac i sicrhau bod cyfleoedd ar gael o hyd ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

 

Er mor siomedig yw’r penderfyniadau hynny, fodd bynnag, nid ydynt wedi newid ein huchelgais na’n hawydd i sicrhau newid cadarnhaol i bobl y fwrdeistref hon.

 

Wrth i gyfyngiadau barhau i lacio, mae ein meddyliau wedi troi fwyfwy tuag at adferiad, a beth allai’r dyfodol ei gynnal.

 

Er gwaethaf yr aflonyddwch a achoswyd gan y pandemig a’r orfodaeth i ail-flaenoriaethu ein cynlluniau a’n gwasanaethau o’i herwydd, roeddem yn dal i allu parhau i gyflawni ystod eang o brosiectau a gwneud buddsoddiad newydd i gymunedau ledled y fwrdeistref.

 

Ym Mhen-y-bont ar Ogwr, mae cynnydd cyflym yn cael ei wneud ar bentref llesiant Sunnyside, sy’n werth £23 miliwn, mewn partneriaeth â Chymdeithas Tai Linc Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.

 

Bydd hwn yn ddatblygiad nodedig a fydd yn darparu bron i 60 o dai fforddiadwy, canolfan gofal iechyd newydd fodern gydag ystafelloedd ymgynghori a thrin, meddygfa, uned ddeintyddol arbenigol, fferyllfa a llawer mwy.

 

Ym Maesteg, mae’r gwaith o adfer ac ymestyn Neuadd y Dref - prosiect gwerth £7.9 miliwn - yn parhau, a phan fydd wedi’i gwblhau bydd yn darparu cyfleusterau newydd gan gynnwys atriwm gwydr newydd, theatr stiwdio a gofod ar gyfer sinema, caffi a bar mezzanine, canolfan dreftadaeth, llyfrgell fodern a mwy.

 

Ym Mhorthcawl, mae contractwyr ar fin dechrau gweithio ar gynllun amddiffyn rhag llifogydd newydd - sy’n werth £6.4m - a fydd yn canolbwyntio ar ardaloedd y Morglawdd Gorllewinol, y Promenâd Dwyreiniol a Thraeth Coney / Sandy Bay, ac mae ein cynllun adfywio parhaus yn gwneud cynnydd mawr yn Salt Lake.

 

At hynny, mae cynlluniau ar gyfer buddsoddi mewn cyfleusterau cymunedol newydd yn Cosy Corner ym Mhorthcawl wedi symud gam yn nes ar ôl i ni gytuno i gyfateb y cyllid gwerth £1m gan Lywodraeth Cymru gyda buddsoddiad ychwanegol o bron i £385,000.

 

Mae'r cyngor hefyd yn dal i fod yn un o'r awdurdodau blaenllaw yng Nghymru o ran meysydd fel ailgylchu gwastraff a'i ddargyfeirio oddi wrth safleoedd tirlenwi.

 

Yn y Pîl, rydym yn paratoi i ddechrau gweithio ar wella’r gyffordd ag Ystâd Ddiwydiannol Village Farm ar drothwy agor y ganolfan ailgylchu gymunedol newydd yn ddiweddarach yr haf hwn.

 

Bydd y ganolfan ailgylchu newydd yn fwy ac yn gallu delio â mwy o gerbydau, a bydd gwelliannau i’r gyffordd yn ei gwneud yn llawer haws mynd i mewn i’r ystâd a’i gadael. Rydym hefyd yn cwblhau’r gwaith o adeiladu’r ganolfan fenter newydd ar gyfer busnesau bach a microfusnesau.

 

Mewn mannau eraill, mae ein gwaith gyda chynghorau tref a chymuned yn helpu i ddatblygu cyfleusterau a fyddai fel arall dan fygythiad oherwydd pwysau cyllidebol.

 

Rydym wedi bod yn cefnogi amryw o geisiadau am gyllid i wneud pethau fel gwelliannau i ganolfannau cymunedol, mannau chwarae newydd, gwella caeau chwarae, gosod wyneb newydd ar lwybrau troed a mwy.

 

Yn yr un modd, mae ein proses trosglwyddo asedau cymunedol yn dal i sicrhau canlyniadau, ac ar hyn o bryd mae gennym tua 55 o geisiadau ar wahanol lefelau o gwblhau.

 

Mae ein rhaglen barhaus i foderneiddio ysgolion wedi datgelu cynlluniau ar gyfer darparu'r buddsoddiad mwyaf i ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg a chyfrwng Saesneg yn y Corneli ers dros 40 mlynedd, cynlluniau ar gyfer ysgol gynradd newydd o'r radd flaenaf ym Mynydd Cynffig, ac rydym yn datblygu pedair canolfan gofal plant newydd yn ardaloedd Melin Ifan Ddu, Betws, Pen-y-bont ar Ogwr a Phorthcawl fel rhan o fuddsoddiad gwerth £2.6m i addysg cyfrwng Cymraeg.

 

Ynghyd â'n partneriaid yn y bwrdd iechyd, rydym yn buddsoddi yn Nhrem y Môr yn ardal Betws i gefnogi gwaith tîm iechyd a gofal cymdeithasol integredig y fwrdeistref sirol.

 

Bydd hyn yn darparu cyfleusterau newydd i gefnogi hyfforddiant staff newydd sy'n gweithio mewn meysydd fel ail-alluogi, ffisiotherapi, nyrsio, gwaith cymdeithasol a therapi galwedigaethol, a bydd yn darparu digon o le profi ac arddangos ar gyfer offer teleofal a gynlluniwyd i helpu pobl ag anableddau synhwyraidd a chorfforol.

 

Mae ein rhaglen i ddod ag eiddo gwag yn ôl i ddefnydd hefyd yn llwyddiant cynyddol, gydag wyth eiddo eisoes wedi'u cymeradwyo ac ar wahanol gamau gwaith a chyda 23 o geisiadau eraill eisoes yn mynd drwy'r system.

 

Rydym wedi sefydlu canolfannau sbwriel arbenigol ac rydym yn gweithio ochr yn ochr â grwpiau cymunedol i fynd i'r afael â sbwriel, ac rydym wedi lansio tîm gorfodi newydd i helpu i frwydro yn erbyn tipio anghyfreithlon a materion gwastraff eraill ar draws y fwrdeistref sirol.

 

Manteisiodd ein rhaglen gwerth miliynau o bunnoedd o fuddsoddi mewn priffyrdd ar ffyrdd tawelach yn ystod y pandemig i wneud cynnydd ychwanegol, ac rydym eisoes yn dechrau ar y cylch nesaf o welliannau.

 

Un mater a ddatblygodd go iawn yn ystod y cyfnod clo oedd y ffordd y dechreuodd pobl gerdded a beicio fel rhan o'u hymarfer corff dyddiol, felly rydym yn manteisio ar hyn drwy fuddsoddi miliynau i ddatblygu llwybrau teithio llesol newydd.

 

Rydym yn archwilio opsiynau ar gyfer darparu mwy o bwyntiau gwefru ar gyfer cerbydau trydan fel rhan o strategaeth Cerbydau Allyriadau Isel Iawn Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, ac rydym yn hyrwyddo cynllun 'rhoi cynnig arni cyn prynu' i annog mwy o yrwyr tacsi i drosglwyddo i gerbydau trydan sy'n hygyrch i gadeiriau olwyn.

 

Mae gwaith ar bwynt gwefru tacsis ym Maes Parcio Hillsboro Place ym Mhorthcawl eisoes yn cael ei gynllunio, ac mae cyllid yn cael ei geisio hefyd ar gyfer mannau gwefru yn Ystâd Ddiwydiannol Brynmenyn, Canolfan Bywyd Pen-y-bont ar Ogwr, Porthcawl, Maesteg, canol tref Pen-y-bont ar Ogwr, Depo Bryncethin a maes parcio'r Swyddfeydd Dinesig.

 

Rydym hefyd wedi gwneud cynnydd o ran ein hymrwymiad tuag at strategaeth datgarboneiddio Pen-y-bont ar Ogwr 2030, Rhwydwaith Gwres Tref Pen-y-bont ar Ogwr a Chynllun Gwres Caerau ynghyd â buddsoddiad gwerth miliynau o bunnoedd mewn gwelliannau effeithlonrwydd ynni i'n hadeiladau.

 

Fel rhan o’n hymdrechion i gefnogi datgarboneiddio a lleihau allyriadau carbon deuocsid, mae gennym gynlluniau ar waith i blannu bron i 3,000 o goed newydd mewn ardaloedd fel Caeau Trecelyn, Fferm Sgêr, yr ardd gymunedol newydd yn Nant-y-moel, datblygiad Pentref Lles Sunnyside a mwy.

 

Rydym yn dechrau ar gamau olaf y Cynllun Datblygu Lleol sydd ar y gweill a fydd, o'i gymeradwyo o'r diwedd, yn pennu pa ddatblygiadau fydd yn digwydd yn y fwrdeistref sirol dros y 15 mlynedd nesaf.

 

Fel rhan o hyn, gallai safle adfeiliedig Ystâd Ddiwydiannol Heol Ewenni ym Maesteg gael trawsnewidiad gwerth £3.5 miliwn yn fuan diolch i gefnogaeth grant Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd.

 

Bydd hyn, yn ei dro, yn datgloi'r safle ar gyfer datblygu ac adfywio pellach, a dyma un o nifer o gynlluniau o'r fath sydd gennym ar waith.

 

Rydym am i'r Cynllun Datblygu Lleol adlewyrchu ein huchelgeisiau ar gyfer y fwrdeistref sirol, a chefnogi datblygiad 7,500 o swyddi newydd yn ogystal â 9,200 o gartrefi sydd eu hangen i letya'r boblogaeth leol sy'n tyfu dros y degawd a hanner nesaf.

 

Mae gennym hefyd gynlluniau helaeth ar gyfer datblygu a gwella cysylltiadau trafnidiaeth lleol, megis cyfleusterau parcio a theithio ar gyfer Porthcawl a gorsaf reilffordd arfaethedig Bracla, cyfleusterau parcio a theithio estynedig / newydd yn Heol Ewenni, Maesteg a Phencoed, a phont ffordd newydd newydd dros y rheilffordd ym Mhencoed.

 

Gyda dolen basio newydd a gwasanaethau rheilffordd hanner awr i Faesteg a gwelliannau newydd i goridorau bysiau, mae gwaith hefyd yn mynd rhagddo ar ddarparu estyniad newydd gwerth £5m yng ngorsaf reilffordd y Pîl a datblygu cyfleuster parcio a theithio newydd.

 

Gallai unrhyw un sy'n chwilio am enghraifft arall o uchelgais y cyngor hwn hefyd edrych tuag at ein Cynllun Meistr yng Nghanol Tref Pen-y-bont ar Ogwr – strategaeth adfywio sydd â'r potensial ar gyfer newid y ffordd rydym yn defnyddio ardal canol y dref am byth.

 

Drwy brosiectau fel y rhain y mae'r cyngor hwn yn parhau i fuddsoddi mewn seilwaith newydd ar gyfer y fwrdeistref sirol.

 

Rydym wedi ymrwymo i fanteisio i'r eithaf ar ddatblygiadau ledled y rhanbarth yn y dyfodol, gan weithio ochr yn ochr â phartneriaid, gan gynnwys Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, i sicrhau'r manteision mwyaf posibl, ac i ddarparu gwasanaethau a chyfleusterau o ansawdd uchel i'r bobl rydym yn eu gwasanaethu.

 

Rwyf yn edrych ymlaen at weld sut y mae'r uchelgeisiau hyn yn datblygu ymhellach yn y flwyddyn i ddod, a gwn fod pob aelod hefyd.

 

Yn fy rôl fel Arweinydd, rwy’n dibynnu ar gefnogaeth ddiwyro fy Nghyd-Aelodau yn y Cabinet.

 

Hoffwn gydnabod eu hymroddiad a'u hymrwymiad parhaus, a chadarnhau hefyd y bydd rhai newidiadau i strwythur y Cabinet ar gyfer y flwyddyn i ddod.

 

Mae'r Cynghorydd Richard Young yn camu o’r neilltu fel yr Aelod Cabinet dros Gymunedau, a bydd y Cynghorydd Stuart Baldwin yn ymgymryd â'r rôl.

 

Y Cynghorydd Young yw'r unig aelod presennol o Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a fu hefyd yn gwasanaethu ar hen Gyngor Sir Morgannwg Ganol. Mae dros 30 mlynedd o gynrychioli ei dref a'r fwrdeistref sirol yn gyflawniad eithriadol ac yn gofnod o ymroddiad yn ôl safon unrhyw un.  

Mae ei angerdd a'i gred mewn chwyldro ynni gwyrdd yn hollol glir i unrhyw un sy'n gwrando ac mae ei arweinyddiaeth a'i gefnogaeth i'r agenda honno wedi arwain, yn ddi-os, at gynnydd mewn rhwydweithiau gwres ardal a chartrefi di-garbon, etifeddiaeth y gall fod yn falch iawn ohoni.

 

Yn ogystal â bod yn wleidydd profiadol, mae Richard yn gyn-filwr a wasanaethodd ein cenedl yn y Llynges Frenhinol am dros 8 mlynedd ac mae bob amser wedi ymrwymo i anrhydeddu ein cyfamod fel Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog, felly rwyf wedi gofyn iddo barhau yn y rôl honno.

 

Mae profiad, doethineb a phen c?l y Cynghorydd Young yn ased amhrisiadwy, ac rwyf wedi gallu dibynnu arno fel cydweithiwr uchel ei barch, ac fel ffrind.

 

Mae'r Cynghorydd Baldwin wedi dangos egni ac ymrwymiad eithriadol, a gwn ei fod yn mwynhau her y rôl bwysig hon.

Ynghyd â'm cyd-Weinidogion yn y Cabinet, hoffwn estyn croeso cynnes iddo.

 

Rydym hefyd am ddiolch yn ddiffuant i'r Cynghorydd Young am y cyfraniad gwerthfawr y mae wedi'i wneud.

 

Nid wyf yn bwriadu gwneud newidiadau pellach i bortffolios presennol y Cabinet, ond hoffwn gloi fy adroddiad drwy fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i'r cynghorwyr Patel, Smith, Burnett a Williams am eu cefnogaeth barhaus a gwerthfawr. Mae'n cael ei werthfawrogi, fel pob tro.

 

Diolch.”