Agenda item

Derbyn cyhoeddiadau gan y Maer newydd

Cofnodion:

Rhoddodd y Maer newydd ar gyfer 2021-22, y Cynghorydd Spanswick, y cyhoeddiad canlynol.

 

'Yn gyntaf, Mr. Maer, hoffwn groesawu'r holl Gynghorwyr, gwesteion a theulu a all fod yn bresennol yma gyda ni heddiw, diolch i'r ffyrdd newydd o weithio gyda chyfarfodydd rhithwir.

 

Mae cael fy ethol i swydd Maer Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ar gyfer y flwyddyn 2021 – 2022 yn anrhydedd ac yn rhywbeth yr wyf yn ddiolchgar amdano. Dros y blynyddoedd nid yw wedi bod yn rhywbeth yr oeddwn wir yn disgwyl iddo ddigwydd neu anelu ato, ond mae'n debyg ar ôl dechrau ar fy nhrydedd blwyddyn ar hugain fel Cynghorydd Bwrdeistref Sirol a bron i 30 mlynedd fel Cynghorydd Cymuned, yr oedd yn amser i mi ymgymryd â'r rôl.

 

Serch hynny, ni fyddaf yn ymgymryd â'r rôl hon ar fy mhen fy hun ac rwy’n falch o'ch hysbysu mai fy nghonsort am y flwyddyn fydd fy ngwraig, Susan Spanswick, a fydd, yr wyf yn si?r, yn fy nghadw i mewn golwg ac yn rhoi gwybod i mi os byddaf yn camu allan o linell. Mae Susan wedi fy nghefnogi dros yr holl flynyddoedd gyda fy ngwaith yn y gymuned; tra wyf wedi bod allan yn mynychu cyfarfodydd, ac ati, mae hi wedi bod yn gweithio'n rhan-amser fel gweithiwr Gofal Cartref ac yn bwrw ymlaen â bywyd teuluol gan fagu ein 3 phlentyn ac, yn fwy diweddar, yn helpu gyda'n 4 o wyrion (ac un arall yn fuan ym mis Gorffennaf), ond am flwyddyn yn unig bydd Susan yn camu ymlaen gyda mi i helpu i gynrychioli Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

 

Gan fynd yn ôl at yr hyn y mae'r anrhydedd hwn yn ei olygu i mi, meddyliais y byddai'n briodol rhoi ychydig o fewnwelediad i chi o ble rwy’n hanu. Ddim yn bell, a dweud y gwir. Cefais fy magu yn Nant-y-moel yn nyffryn hyfryd Ogwr, ac er nad ydw i’n byw yno mwyach, rwy’n dal i fwynhau gyrru i fyny drwy’r cwm tuag at fynydd Bwlch. Wrth dyfu i fyny, efallai na wnes i sylwi ar bobl gyhoeddus a chynghorwyr y dydd, ond dw i’n cofio un yn arbennig o flynyddoedd fy arddegau ar ddiwedd y 1970au, sef y Cynghorydd Muriel Williams o Gyngor Bwrdeistref Ogwr, yn fwy cyfarwydd fel Muw o’r Rhiw gan fod swyddfeydd y Cyngor ar y pryd wedi’u lleoli ar draws yr afon o’r fan lle maen nhw heddiw, ochr yn ochr â chanolfan siopa’r Rhiw. Daeth Muriel yn Faer Cyngor Bwrdeistref Ogwr ac rwy’n hynod falch o fod yn Faer y Fwrdeistref Sirol hon gyda threftadaeth Nant-y-moel.

Yn ystod y 1980au, bûm yn ffodus i fod yn Brentis Gofalwr Tir gyda Chyngor Bwrdeistref Ogwr ym Mharc Griffin ym Mhorthcawl a bu’n rhaid i mi deithio bob dydd o Nant-y-meol ar fy moped 50cc. Doedd hyn ddim yn brofiad gwych ar ddiwrnod gwlyb a gwyntog. Y blynyddoedd hynny yn yr 1980au cynnar a fagodd ddiddordeb yndda i mewn gwleidyddiaeth a’r gymuned leol, ac mae’r gweddill, fel y maen nhw’n ei ddweud, yn hanes. Byddaf yn ddiolchgar am byth i Gyngor Bwrdeistref Ogwr am fy nghefnogi ar fy llwybr gyrfa mewn parciau a mannau gwyrdd a wnaeth fy arwain i at dreulio 39 mlynedd mewn llywodraeth leol a chael, o’r diwedd, y swydd Rheolwr Parciau a Chefn Gwlad ym Mwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn 2016.

 

O ran mannau gwyrdd a'n hamgylchedd awyr agored, mae hwn yn faes y bwriadaf ei hyrwyddo dros y flwyddyn i ddod ac, yn benodol, y gwaith o blannu a chynnal a chadw coed, ynghyd â diogelu ein mannau gwyrdd. Pa etifeddiaeth well y gallwn ei gadael i'n plant na phlannu cymaint o goed â phosibl (o'r rhywogaethau cywir ac yn y lleoliad cywir) a diogelu mannau gwyrdd ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Mae rhywfaint o waith cychwynnol eisoes wedi dechrau o ran plannu coed, gyda phrosiect yn cael ei arwain gan Goleg Pen-y-bont ar Ogwr i blannu 60,000 o goed erbyn 2025. Rwyf eisoes wedi mynychu gweithgor sy'n cynnwys swyddogion o'r awdurdod hwn, Coleg Pen-y-bont ar Ogwr, V2C, yr Awdurdod Tân, Groundwork ac eraill i ystyried cydweithio ar hyn a byddwn yn cyfarfod eto ddechrau mis Mehefin. Er ei fod yn ofyn mawr, rwy’n gobeithio y gellir cynyddu'r targed o 60,000 o goed i tua 145,000 a fyddai'n cyfateb yn fras i un goeden ar gyfer pob aelod o boblogaeth y Fwrdeistref Sirol.

 

Ni allai amseriad hyn fod yn well gan fod cynllun Canopi Gwyrdd y Frenhines wedi'i lansio'r wythnos hon i annog pobl i blannu coed o ddechrau'r tymor plannu ym mis Hydref 2021 hyd at ddiwedd 2022, i nodi ei 70 mlynedd ar yr orsedd. Bydd pobl ledled y DU yn cael eu gwahodd i blannu 'coed brodorol iach' y flwyddyn nesaf ar gyfer Jiwbilî Blatinwm y Frenhines. Mae'r Tywysog Siarl wedi disgrifio’r broses o blannu coeden fel "datganiad o obaith a ffydd yn y dyfodol". Mae hyd yn oed wedi’i alw’n ‘tree-bilee’. Bydd mwy o newyddion yn y dyfodol am hynny ac erbyn diwedd fy mlwyddyn yn y swydd efallai y byddwch wedi blino braidd arnaf yn mynd ymlaen am goed a mannau gwyrdd.

 

Rwyf am geisio cyflawni a hyrwyddo rôl a swydd y Maer hyd eithaf fy ngallu drwy gefnogi digwyddiadau cymunedol lle bynnag a phryd bynnag y bo modd, heb unwaith anghofio’r angen i bob un ohonom aros yn ddiogel wrth i ni ddod allan o’r pandemig. Rwy'n mawr obeithio dychwelyd i Nant-y-moel yn ystod fy mlwyddyn sydd i ddod yn y swydd a helpu i hyrwyddo Cwm Ogwr ynghyd â'r holl ardaloedd gwych eraill sydd gennym ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

 

Yn awr, gadewch i mi sôn am yr elusennau a ddewiswyd gennyf am y flwyddyn ac, fel y gwyddom i gyd, mae wedi bod yn gyfnod anodd i godi arian, ond rwy'n gobeithio y byddwch yn gallu fy nghefnogi gyda'r dasg hon. Dydw i ddim yn si?r faint ohonoch fydd wedi clywed am Lads & Dads, ond gr?p cymorth lleol yw hwn a sefydlwyd ym Mracla ym mis Hydref 2019 i helpu dynion, hen ac ifanc, gyda'u lles meddyliol yn sgil pryderon am y nifer cynyddol o ddynion ifanc sy’n diweddu eu bywydau eu hunain. Ei strapline yw ‘Talking, Walking, Thinking, Supporting’.  Fe wnes i helpu’r syflaenwr (Rob Lester) i sefydlu’r ychydig gyfarfodydd cyntaf yng Nghanolfan Gymunedol Bracla i roi cyfle i bobl ddod i sgwrsio mewn lleoliad cyfrinachol. Erbyn hyn mae gan y gr?p dros 400 o aelodau o’r ardal leol a thu hwnt, ac mae gwaith gwych yn cael ei wneud gyda mwy a mwy o ddynion yn siarad yn gyfrinachol am faterion sy’n peri pryder iddynt. Er mai fi yw Ysgrifennydd y gr?p ar hyn o bryd, byddaf yn camu o’r neilltu o hyn yn yr wythnosau i ddod i roi cyfle i rywun fynd â’r gr?p ymlaen gyda’r ymddiriedolwyr eraill. Yr elusen leol arall y byddaf yn ei chefnogi yw Canolfan Gofalwyr Pen-y-bont ar Ogwr sy'n ymgymryd â rôl hanfodol wrth gefnogi gofalwyr di-dâl ledled y Fwrdeistref Sirol ac maent wedi wynebu llawer o heriau yn ystod y pandemig ac yn dal i wneud hynny wrth i ni geisio dychwelyd i'r normal newydd, beth bynnag fo hyn.

 

Yn olaf, hoffwn ddymuno’n dda i’r Maer sy'n ymadael, y Cynghorydd KJ Watts, a'i gonsort, y Cynghorydd J Williams. Rwy'n sylweddoli efallai nad yw wedi bod fel y byddech wedi disgwyl, gyda digwyddiadau cyfyngedig, a chyfarfodydd yn cael eu cynnal yn rhithwir, ond bu’n fraint cael bod yn ddirprwy i chi a gweithio gyda chi dros yr wyth mis diwethaf.

 

Yn olaf, rwy’n gobeithio mai dim ond mater o amser ydyw cyn inni ddychwelyd at ryw fath o normalrwydd gyda chyfarfodydd yn Siambr y Cyngor, ac yn hynny o beth rwy’n si?r y byddwch i gyd yn barod i brofi fy amynedd fel Cadeirydd y cyfarfod. Ond cadwch olwg, efallai fod taith arw o’n blaenau.