Accessibility links

1
Dewis iaith

Agenda item

Bwrdeistref Ddoethach - Teledu Cylch Cyfyng (CCTV)

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid Dros Dro adroddiad yn rhoi’r cefndir, y datganiad sefyllfa cyfredol a chynnig i’r Cabinet i argymell i’r Cyngor y dylid cynnwys cyllideb o £595,000 yn y rhaglen gyfalaf ar gyfer gweithredu’r cynnig Bwrdeistref Ddoethach - Teledu Cylch Cyfyng (CCTV). Esboniodd fod y system teledu cylch cyfyng bresennol ar draws y fwrdeistref wedi bod mewn gwasanaeth ers 20 mlynedd, ac yn ystod yr amser hwnnw, uwchraddiwyd y system sawl tro i'w chadw'n weithredol heb orfod gwario symiau mawr. Roedd y system bellach wedi cyrraedd y pwynt lle roedd yr offer ar ddiwedd ei oes waith ac roedd problemau cydweddoldeb yn dod i’r golwg yn amlach gan nad oedd rhannau newydd yn cael eu cynhyrchu mwyach gan arwain at ddadgomisiynu camerâu.

 

Esboniodd y Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid Dros Dro fod gwasanaeth teledu cylch cyfyng y Cyngor wedi helpu'r Cyngor a'r Heddlu i ymgymryd â dull un sector cyhoeddus wrth atal a mynd i'r afael â materion â blaenoriaeth fel ymddygiad gwrthgymdeithasol, trais, lladrad ac wedi cael effaith sylweddol ar sut mae preswylwyr yn teimlo’n ddiogel. Roedd y ddarpariaeth teledu cylch cyfyng ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cyfrannu'n amlwg at ostwng y cyfraddau troseddu cyffredinol yn yr ardal a gwelwyd tystiolaeth o'r ffigurau digwyddiadau rhwng Mehefin 2017 a Mai 2019 a nododd fod y gwasanaeth teledu cylch cyfyng a ddarparwyd gan CBSPAO wedi cynorthwyo’n llwyddiannus gydag ymchwiliadau 1484 o ddigwyddiadau ym Mhen-y-bont ar Ogwr, 146 o ddigwyddiadau ym Maesteg, 89 o ddigwyddiadau ym Mhorthcawl, a 29 o ddigwyddiadau ym Mhencoed.  Roedd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu (CSP) wedi nodi’n ddiweddar y gallai fod yn barod i wneud cyfraniad parhaus at wasanaeth cynaliadwy. Roedd trafodaethau yn parhau ar hyn o bryd ochr yn ochr â thrafodaethau â Llywodraeth Cymru a’r Llywodraeth Ganolog ynghylch cyfraniad cyfalaf tuag at gynnig Bwrdeistref Ddoethach - Teledu Cylch Cyfyng.

 

Esboniodd y Pennaeth Partneriaethau y byddai unrhyw uwchraddiad i'r ddarpariaeth teledu cylch cyfyng yn cydymffurfio â Chod Ymarfer Teledu Cylch Cyfyng Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth a deddfwriaeth diogelu data.  Amlinellodd gostau refeniw blynyddol cyfredol rhedeg y gwasanaeth teledu cylch cyfyng 24/7 fel y nodwyd ym mharagraff 8.2 o'r adroddiad. Rhagwelwyd, o dan y cynnig newydd, y byddai cyfanswm y costau rhwydwaith, cynnal a chadw a meddalwedd parhaus yn gostwng £20,000 y flwyddyn yn amodol ar ymarfer caffael llwyddiannus.

 

Esboniodd y Pennaeth Partneriaethau y byddai Bwrdeistref Ddoethach yn helpu'r Cyngor i fonitro a rheoli adnoddau, gyda'r nod o arbed amser ac arian. Byddai'r rhwydweithiau a'r gwasanaethau presennol yn cael eu gwneud yn fwy effeithlon trwy ddefnyddio technolegau digidol er budd preswylwyr a busnesau yn yr ardal. Byddai'r technolegau hyn yn helpu i ddarparu gwell rheolaeth traffig, parcio craff, gwell gwasanaethau d?r a gwastraff, goleuadau mwy effeithlon a defnyddio ynni’n fwy effeithlon mewn adeiladau a seilwaith mwy diogel, ymhlith buddion eraill. Gallai’r Cyngor ddarparu gwasanaeeth Wi-Fi trwy osod gwasanaethau Wi-Fi ar y seilwaith Teledu Cylch Cyfun presennol. Byddai mabwysiadu model “defnydd cyhoeddus diderfyn am ddim” yn annog defnyddwyr i ymweld â thudalen glanio Wi-Fi y Cyngor i gael mynediad at wybodaeth a gwasanaethau yn ddiogel.

 

Diolchodd yr Aelod Cabinet dros Gymunedau i'r swyddogion am yr adroddiad ac am y newyddion bod trafodaethau yn parhau gyda'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu gan ei fod yn credu bod yr heddlu yn un o brif fuddiolwyr y system teledu cylch cyfyng. Roedd y cynigion yn mynd gryn dipyn ymhellach na'r system teledu cylch cyfyng gyfredol a gellid eu hystyried fel y camau cyntaf wrth greu bwrdeistref wifi. Roedd yn gyffrous gweld sut y gallai'r datblygiad hwn fynd â'r Fwrdeistref yn ei blaen o ran gweithio mewn partneriaeth a gwasanaethau i breswylwyr. 

 

Roedd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar yn arbennig o gyffrous fel un o Aelodau Canol y Dref a'r gwelliannau i ganfyddiad preswylwyr o ddiogelwch yn y dref. Roedd hi'n teimlo'n gryf bod gallu cyrchu wifi am ddim yn hawl i bawb ac roedd hyn wedi bod yn arbennig o bwysig yn ystod y cyfnod clo diweddar wrth helpu teuluoedd i gael mynediad at gynnwys digidol.

 

Cytunodd yr Arweinydd ac ychwanegodd fod darpariaeth teledu cylch cyfyng yn offeryn hanfodol o ran diogelwch cymunedol ac atal troseddau ledled y fwrdeistref.

 

Cytunodd yr Aelod Cabinet ar gyfer Lles a Chenhedlaeth y Dyfodol â'r sylwadau a wnaed a gofynnodd am sicrwydd ynghylch GDPR a rhyddid sifil oherwydd gallai fod yn bryder i rai preswylwyr. Atebodd y Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid Dros Dro nad oedd y cynnig yn annhebyg i'r hyn a oedd gennym ar hyn o bryd ac wrth iddo fynd yn ei flaen, byddai'r awdurdod yn mynd trwy reolau a rheoliadau GDPR. Ychwanegodd y Pennaeth Partneriaethau y byddai'n cydymffurfio â chod Swyddfa'r Comisiynwyr Gwybodaeth o ran darpariaeth teledu cylch cyfyng. 

 

Gofynnodd yr Aelod Cabinet dros Les a Chenedlaethau'r Dyfodol am adroddiad pellach pan fyddai’r cynlluniau yn cael eu datblygu. Esboniodd y Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid Dros Dro mai'r bwriad oedd mynd â'r adroddiad i'r Cyngor ym mis Mehefin ac yn dilyn hynny i sicrhau darparwr i roi'r rhwydwaith i mewn ac o'r pwynt hwnnw byddent yn dod yn ôl gyda gwahanol opsiynau. 

 

Ychwanegodd yr Arweinydd eu bod yn cael eu rheoleiddio gan fframwaith deddfwriaethol cynhwysfawr a bod yn rhaid iddynt gofnodi a chofrestru defnydd mewn ffordd benodol a dim ond at ddibenion penodol y gellid defnyddio teledu cylch cyfyng a hynny gyda chaniatâd swyddogion dynodedig o fewn y sefydliad. Roedd hyn er mwyn sicrhau tryloywder.

 

Gofynnodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar am ychwanegu camerâu ychwanegol i'r system ar gyfer materion fel parcio y tu allan i ysgolion a gofynnodd a oedd lle i ysgolion brynu i mewn i sicrhau diogelwch y cyhoedd a hefyd gamerâu symudol ar gyfer mannau problemus. Atebodd Rheolwr y Gr?p Trawsnewid a Gwasanaethau Cwsmeriaid y byddai adeiladu'r seilwaith teledu cylch cyfyng a'i uwchraddio yn rhoi cyfle i edrych ar osod camerâu symudol i gwmpasu problemau posibl ac ymddygiad gwrthgymdeithasol gan gynnwys parcio. Byddai hyn yn rhan o'r ail gam. Cadarnhaodd y byddent yn defnyddio'r dechnoleg ddiweddaraf a chamerâu IP gyda gwell technoleg i roi delweddau gwell a chwmpas ehangach a fyddai'n hanfodol o ran canfod troseddau ac erlyn.

 

Ychwanegodd y Dirprwy Arweinydd fod yr awdurdod wedi manteisio i’r eithaf ar y system bresennol a oedd yn cael ei gwerthfawrogi gan yr heddlu a'r cyhoedd. Roedd preswylwyr yn dawel eu meddwl eu bod nhw a'u plant yn cael eu hamddiffyn. Roedd llawer mwy i hyn na rhaglen adnewyddu teledu cylch cyfyng; roedd yn ymwneud â chreu bwrdeistref sirol ddoeth a chraff. Roedd y cyfleoedd yn gyffrous ac o fudd i ddinasyddion lleol.

 

PENDERFYNWYD:             Bod y Cabinet wedi ystyried yr adroddiad ac yn argymell adroddiad i'r Cyngor yn cymeradwyo cynnwys y cynnig Teledu Cylch Cyfyng (CCTV) yn y rhaglen gyfalaf gyda chyllideb o £595,000.     

Dogfennau ategol:

 

Chwilio A i Y

  1. A
  2. B
  3. C
  4. D
  5. E
  6. F
  7. G
  8. H
  9. I
  10. J
  11. K
  12. L
  13. M
  14. N
  15. O
  16. P
  17. Q
  18. R
  19. S
  20. T
  21. U
  22. V
  23. W
  24. X
  25. Y
  26. Z