Accessibility links

1
Dewis iaith

Agenda item

Cynllun Datblygu Lleol Newydd - Dogfen Ymgynghori Cyhoeddus Y Cynllun Adneuo

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau adroddiad yn gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet i gyhoeddi Drafft Adneuo’r Cynllun Datblygu Lleol Newydd (LDPDD) ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus ym mis Mehefin 2021 am gyfnod o 8 wythnos yn unol â’r Cytundeb Datblygu a gymeradwywyd gan y Cyngor a Llywodraeth Cymru ym mis Hydref 2020.

 

Esboniodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau fod y LDPDDD wedi ei baratoi gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i fod yn sail i baratoi CDLl Newydd 2018-2033. Roedd y ddogfen yn destun ymgynghoriad cyhoeddus yn unol â Rheoliad 17 o Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Cynllun Datblygu Lleol) (Cymru) 2005. Ar ôl ei gwblhau a'i fabwysiadu, byddai'r CDLl Newydd yn disodli'r CDLl presennol (2006-2021) fel y Cynllun Datblygu statudol ar gyfer y Fwrdeistref Sirol. Pwysleisiodd mai dogfen ymgynghori oedd hon a byddai'r holl sylwadau a dderbynnir yn cael ystyriaeth ddyledus cyn anfon fersiwn derfynol at Lywodraeth Cymru i'w mabwysiadu. Yna byddai archwiliad Llywodraeth Cymru yn cael ei gynnal yn gyhoeddus a byddent yn craffu ar y ddogfen eto. Ar yr adeg hon, gallai'r Arolygydd ychwanegu neu dynnu rhannau o’r cynllun ac yna byddent yn adrodd yn ôl gyda'r cynllun yr oeddent am i'r Cyngor ei fabwysiadu. Yna cyfrifoldeb y Cyngor llawn fyddai mabwysiadu'r CDLl ai peidio. 

 

Esboniodd Rheolwr y Gr?p Gwasanaethau Cynllunio a Datblygu ar gyfer y rhai nad oeddent yn gyfarwydd â'r broses, fod y CDLl yn strategaeth lefel uchel y mae'n rhaid i'r Cyngor ei chynhyrchu. Roedd yn rhoi mewn termau defnydd tir nodau a dyheadau cyffredinol yr awdurdod ac amcanion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a blaenoriaethau Cynllun Llesiant Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Pen-y-bont ar Ogwr. Roedd yn ddarn sylweddol, hanfodol o waith y byddai'r awdurdod hebddo yn agored i ddatblygiadau hapfasnachol a chynllunio trwy apêl.

 

Amlinellodd y Rheolwr Cynllunio Strategol a Thrafnidiaeth rai o'r agweddau eraill a fyddai'n cael eu darparu gan y CDLl newydd gan gynnwys lleoedd cynaliadwy trwy nodi lleoedd. Byddai'r CDLl yn ceisio darparu cartrefi di-garbon sy'n cefnogi'r strategaeth datgarboneiddio. Ychwanegodd y byddai'r pwysigrwydd sydd ynghlwm wrth y CDLl presennol yn lleihau'n raddol o 2021 gan roi'r Cyngor mewn sefyllfa lle byddai'n agored i heriau gan y diwydiant datblygu. Felly roedd yn hanfodol eu bod yn parhau i ddatblygu’r CDLl newydd.  Esboniodd strwythur y ddogfen ac amlinellodd y gwahanol gydrannau. 

 

Roedd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar yn gwerthfawrogi'r holl waith mawr a oedd wedi mynd i'r ddogfen ers ei thrafod gyntaf yn y Pwyllgor Rheoli Datblygu. Gallai weld y pwyslais ar adeiladu cymunedau newydd a mynd i'r afael â'r angen am fwy o dai yn y cymunedau. Roedd yna gynlluniau a allai fod yn ddadleuol i rai preswylwyr ond pwysleisiodd mai hwn oedd y cam ymgynghori. Gofynnodd am sicrwydd y byddent yn buddsoddi yn y cymunedau a oedd ganddynt eisoes yn ogystal â buddsoddi mewn rhai newydd ac a fyddai'r Cyngor yn gweithio ar anghenion tai mewn ffordd gyfannol. Roedd demograffeg yn newid gyda mwy o bobl sengl ac roedd yn rhaid iddynt ystyried gwahanol strategaethau fel y cynllun rhentu ystafell ac edrych ar y cyfan yn gyfannol.

 

Diolchodd Aelod y Cabinet dros Addysg ac Adfywio i'r tîm am y ffordd yr oeddent wedi cyflawni'r dasg. Roedd yn falch eu bod wedi cynnwys Cynghorau Tref a Chymuned yn gynnar yn y broses. Roedd hefyd yn hapus bod yr adroddiad wedi'i gyflwyno fel dogfen ymgynghori ar ôl gweld newyddion ffug a chamwybodaeth eisoes. Roedd hon yn ddyletswydd statudol a dylai pob Cyngor fod yn ei wneud a byddai'r rhai a fyddai’n methu â gwneud hynny yn agored i geisiadau marchnad rydd, hap-geisiadau a datblygiad annymunol. Credai fod y farchnad dai wedi methu gyda gormod o dai o'r math anghywir a dim digon o'r math cywir. Roedd tai anfforddiadwy, ail gartrefi a chydbwysedd anghyfartal rhwng cynghorau a datblygwyr y sector preifat. Gallai CDLl cadarn gefnogi datblygwyr ac amddiffyn preswylwyr rhag cynigion annymunol. Roedd ganddo 3 neges allweddol i'r cyhoedd, roedd safleoedd ymgeisiol yn rhai ymgeisiol yn unig, roedd y cynllun yn agored i ymgynghori a byddai pobl yn gwrando ar sylwadau ac yn gweithredu arnynt a dylai preswylwyr anfon eu sylwadau a fyddai'n cael eu hystyried ar sail cynllunio. Byddai'n cymryd rhan yn yr ymgynghoriad fel aelod o'r ward ac yn ei rinwedd ei hun yn seiliedig ar resymau cynllunio.  

 

Cydnabu'r Aelod Cabinet dros Gymunedau yr holl waith rhyfeddol a’r ymroddiad a oedd wedi mynd i'r ddogfen gan dalu teyrnged i'r Rheolwr Gr?p ar gyfer Gwasanaethau Cynllunio a Datblygu a'r Rheolwr Cynllunio a Thrafnidiaeth Strategol.  Dywedodd y byddai yn ei ffurf derfynol yn gweithredu fel amddiffyniad i'r Fwrdeistref Sirol ac yn amddiffyn yr amgylchedd, ardaloedd trefol a thrigolion a dyna'r rheswm pam ei fod mor bwysig o ran cynllunio. Roedd yn arbennig o falch o weld bod gan yr Agenda Werdd amlygrwydd o fewn y CDLl gan roi amddiffyniad ychwanegol. Roedd y ddogfen hon yn amddiffyniad i CBSPAO ac adleisiodd y ple i breswylwyr gymryd rhan ac ymgysylltu â'r broses. Credai, wrth i Lywodraeth Cymru graffu ar y ddogfen, y byddai’r ddogfen yn cael ei hystyried yn un gadarn.

 

Adleisiodd yr Arweinydd ddiolch cydweithwyr i'r swyddogion yn y tîm a oedd wedi gweithio'n galed ar yr ymgymeriad enfawr hwn. Byddai'r manylion ymgynghori cyhoeddus ar gael ym mis Mehefin ac roeddent am i gynifer o bobl â phosibl gymryd rhan yn y broses ymgynghori. Byddai'n effeithio ar bawb ac roedd yn ymwneud â swyddi, ysgolion, ynni gwyrdd a chartrefi newydd i'r boblogaeth sy'n tyfu ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Heb gartrefi newydd byddai cynnydd mewn digartrefedd. Roedd cartrefi fforddiadwy a chymdeithasol wrth wraidd cynlluniau a safleoedd strategol. Ar ôl cwblhau'r ymgynghoriad, byddai ymatebion yn cael eu hystyried a newidiadau’n cael eu gwneud i'r cynllun. Byddai’n mynd at yr Arolygydd fel cam arall a byddai’r Arolygydd yn llunio barn. Pe na bai'r cynllun yn ddigon cadarn neu'n seiliedig ar dystiolaeth ffeithiol yna gallai wrthod y cynlluniau a gallai o bosibl fwrw ymlaen â set wahanol o gynlluniau. Byddai'r cynllun yn y pen draw yn dod yn ôl i'r Cyngor Llawn ar gyfer penderfyniad. Ychwanegodd y Rheolwr Cynllunio Strategol a Thrafnidiaeth, pan fyddent yn cyflwyno'r cynllun i Lywodraeth Cymru, eu bod am i’r fersiwn honno fod y cynllun terfynol. Pe bai safleoedd nad oeddent yn cael eu cefnogi gan dystiolaeth gadarn yna gallai'r Arolygydd ychwanegu neu ddileu safleoedd. 

 

Diolchodd y Dirprwy Arweinydd i'r swyddogion am y cynllun a oedd yn amlwg yn ddarn sylweddol o waith. Roedd yn seiliedig ar lawer o dystiolaeth ac yn cwrdd â'r holl ofynion deddfwriaethol. Gofynnodd pa bwysau fyddai barn y cyhoedd yn ei gael ar y cynllun oherwydd gallai fod rhai elfennau na fyddai'n plesio pawb. Atebodd y Rheolwr Cynllunio Strategol a Thrafnidiaeth bod

ymgynghori cyhoeddus yn hynod bwysig i'r broses, nid o reidrwydd nifer y gwrthwynebiadau ond ystyriaethau cynllunio perthnasol. Fe wnaethant annog aelodau'r cyhoedd i ganolbwyntio ar faterion fel traffig, tagfeydd, 

effaith datblygiad o ran edrych dros gartrefi neu effaith ar hawliau tramwy. Roedd sylwadau yn seiliedig ar ystyriaethau cynllunio perthnasol yn bwysig iawn.

 

Pwysleisiodd yr Arweinydd fod hwn yn gyfle i helpu i lunio'r CDLl. Gallai pawb sydd â diddordeb gymryd rhan gan gynnwys grwpiau fel pobl ifanc a phlant i helpu i gynllunio ar gyfer eu dyfodol tymor hir.

 

Gofynnodd yr Arweinydd a allent gadarnhau, o ddatblygiadau mawr i ddatblygiadau ar raddfa gymharol fach, y byddai gofyniad sylfaenol ar gyfer tai cymdeithasol a fforddiadwy. Y llynedd gwnaeth 1500 o bobl gyflwyniadau i CBSPAO ar sail digartrefedd a rhoddwyd llety dros dro i 1000 o bobl oherwydd eu bod yn ddigartref. Cadarnhaodd Rheolwr y Gr?p Gwasanaethau Cynllunio a Datblygu y byddai gofyniad ac y byddai polisi ar dai fforddiadwy. Byddent yn cael cyfle i ddatblygu eu Canllawiau Cynllunio Atodol eu hunain ar dai fforddiadwy. Roeddent yn edrych i ddod â nifer o dai ymlaen ac o'r rheini, byddai 2000 yn fforddiadwy felly roedd hyn yn hollbwysig.

 

Gofynnodd yr Aelod Cabinet dros Les a Chenedlaethau’r Dyfodol iddynt beidio â defnyddio’r termau tai fforddiadwy a thai cymdeithasol yn gyfnewidiol. Roeddent yn wahanol fathau o dai ac roedd mwyafrif yr aelodau'n cefnogi'r syniad o dai cymdeithasol ychwanegol a oedd yn wahanol i dai fforddiadwy. O ran yr ymgynghoriad roedd hi'n gobeithio bod yr ymgynghoriad ar ffurf hygyrch gyda fersiwn hawdd ei ddarllen a fersiwn Gymraeg. Atebodd y Rheolwr Cynllunio Strategol a Thrafnidiaeth ei fod wedi gweithio gyda'r Tîm Ymgysylltu i ddatblygu crynodeb annhechnegol o'r ddogfen a cheisio ei gwneud mor hygyrch â phosibl. Roedd Llywodraeth Cymru wedi rhagnodi bod angen cyflwyno rhai tablau felly pe bai adborth negyddol yn cael ei dderbyn byddent yn bwydo hynny yn ôl i LlC. 

 

Gofynnodd yr Arweinydd a allent sicrhau aelodau bod y seilwaith trafnidiaeth wrth galon y CDLl ac y byddai'n gwasanaethu'r gymuned a hefyd yr effaith ar aneddiadau cyfagos. Byddai'r cyhoedd hefyd yn holi am leoedd ysgol ac addysg a darparaeth gofal iechyd sylfaenol ac ati. Atebodd y Rheolwr Cynllunio Strategol a Thrafnidiaeth fod y rhain wedi'u nodi yn y dogfennau o ran cynlluniau trafnidiaeth mawr. O ran seilwaith ffyrdd a'r effaith ar gymunedau lleol, roedd dogfen strategol yn cael ei pharatoi i fynd i'r afael â hyn. Roedd hwn yn ddarn enfawr o waith ac yn dal i fynd yn ei flaen. O ran cyfleusterau addysg newydd, roedd y gogwydd tuag at safleoedd hunangynhwysol mawr a fyddai’n gallu cynnwys eu hysgolion cynradd eu hunain. Byddai'r safleoedd hynny'n cael eu gwerthuso i sicrhau y gallent gyflawni hyn. O ran cyfleusterau iechyd, roeddent wedi ymgysylltu â'r bwrdd iechyd lleol i sicrhau y byddai lefel y twf a gynigiwyd yn gallu cyrchu cyfleusterau meddygol digonol.    

 

PENDERFYNWYD:               Bod y Cabinet:

 

a) Yn nodi a chymeradwyo'r Dogfennau Sylfaen Tystiolaeth Ategol a ddisgrifir yn y Tabl ym Mharagraff 4.27 o'r Adroddiad;

b) Yn cymeradwyo Drafft Adneuo’r Cynllun Datblygu Lleol Newydd ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus ym mis Mehefin 2021 am gyfnod o 8 wythnos yn unol â'r Cytundeb Datblygu cymeradwy; a

c) Yn awdurdodi'r Cyfarwyddwr Corfforaethol Gymunedau a’r Rheolwr Gr?p - Datblygu Gwasanaethau Cynllunio a Datblygu i wneud unrhyw welliannau terfynol i'r ddogfen ymgynghori, papurau cefndir ategol a thystiolaeth dechnegol sy'n ofynnol cyn ymgynghori â'r cyhoedd ac i gyhoeddi'r Drafft Adnau a chynnal yr ymgynghoriad cyhoeddus.

Dogfennau ategol:

 

Chwilio A i Y

  1. A
  2. B
  3. C
  4. D
  5. E
  6. F
  7. G
  8. H
  9. I
  10. J
  11. K
  12. L
  13. M
  14. N
  15. O
  16. P
  17. Q
  18. R
  19. S
  20. T
  21. U
  22. V
  23. W
  24. X
  25. Y
  26. Z