Agenda item

Cyn Ystâd Ddiwydiannol Ffordd Ewenni : Cyllid CCR ac Ailddatblygiad Arfaethedig

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau adroddiad, a'i ddiben oedd rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cabinet am y cynnydd sydd wedi'i wneud er mwyn cyflwyno adfywiad defnydd cymysg o hen Ystâd Ddiwydiannol Ffordd Ewenni, Maesteg, a cheisio cymeradwyaeth i symud ymlaen â’r cyfnod diwydrwydd dyladwy ar gyfer cais am arian grant er mwyn sicrhau cyllid Cardiff Capital Region (CCR) ar gyfer y seilwaith a'r gwaith adfer angenrheidiol. Darparodd yr adroddiad y wybodaeth ddiweddaraf hefyd am y berthynas barhaus â Pontardawe Coal & Metals Company Limited (PCMCL) a’r bwriad ar y cyd gyda’r partïon i hwyluso'r gwaith o adfer, marchnata a gwerthu tir yn Ffordd Ewenni (Hen Safle Cooper Standard), Ystâd Ddiwydiannol Ewenni, Maesteg.

 

Fe esboniodd ei bod yn hen safle Ystad Ddiwydiannol Ffordd Ewenni yn ardal wag o 19.71 erw o dir sy'n eiddo’n rhannol i CBSPAO ac yn rhannol gan PCMCL. Mae PCMCL yn is-gwmni i Clowes Development (UK) Ltd, cwmni datblygu eiddo a buddsoddi sylweddol sy'n eiddo i'r teulu sydd wedi’u lleoli yn Derby. 

 

Roedd CBSPAO yn berchen ar 7.52 erw (Cyn Safle Cooper Standard) tra bod PCMCL yn berchen ar 12.19 erw (Cyn Safle Budel Pac Cosi), gyda hyn yn adlewyrchu rhaniad perchnogaeth o ran y nifer o erwau o tua 40% CBSPAO a 60% o dir sy'n eiddo i PCMCL. Mae'r ddwy ochr wedi cwblhau gwaith dymchwel a chlirio safleoedd yn barod i'w ddatblygu o'r blaen er bod y diffyg hyfywedd wedi arwain at y safle 19.71 erw yn parhau heb ei ddatblygu ac mewn cyflwr adfeiliedig.

 

Yn dilyn asesiad o'r cais, penderfynodd y Pwyllgor Rheoli Datblygu gymeradwyo'r cais yn amodol ar gwblhau'r rhwymedigaethau cynllunio. Diwygiwyd y cynnig cychwynnol hwn wedyn mewn ymgais i wella hyfywedd y cynllun a phenderfynodd y Pwyllgor hwn i roi caniatâd cynllunio ar gyfer y cynllun diwygiedig hwn ym mis Mehefin 2016. Cytunwyd hefyd yn flaenorol  â PCMCL ar gyfer gwaredu tir sy'n eiddo i CBSPAO ac awdurdodwyd y rhain gan y Cabinet ar 10 Mai 2016.

 

Yna amlinellodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Cymunedau wybodaeth benodol, fel y crybwyllwyd yn yr adroddiad, am waith angenrheidiol pellach ar y safle hwn, er mwyn ei wella. O ystyried y costau sy'n gysylltiedig â'r gwaith hwn, yn ol y Cyfarwyddwr nid oedd datblygu'r ardal bellach yn hyfyw yn ariannol heb gymorth ariannol ychwanegol.

 

Ym mis Medi 2020 fe lansiwyd y Cardiff Capital Region (CCR) Housing Viablility Gap Fund. Mae'r gronfa hon yn rhaglen buddsoddi tai sy’n werth £35 miliwn wedi'i thargedu i oresgyn methiannau tystiolaethol yn y farchnad mewn perthynas â hyfywedd ariannol ledled De-ddwyrain Cymru. Roedd swyddogion wedi cydweithio â PCMCL i baratoi cyfres gynhwysfawr o ddogfennau cais a chyflwyno'r cynllun i'w ystyried fel rhan o'r gronfa hon.

 

Yn dilyn cyfnod o werthuso gan CCR a CBRE, fe nododd adroddiad i Gabinet CCR ar 15 Mawrth 2021 amserlen ddangosol o safleoedd a oedd wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer cyllid, gyda Hen Ystâd Ddiwydiannol Ffordd Ewenni, ar y rhestr fer gyda chyllid o £3.5 miliwn.

 

Parhaodd Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau, drwy ddweud mai bwriad y CCR Viablility Gap Fund oedd datgloi datblygiadau a oedd yn arwain at godi tai ar safleoedd lle mae'r costau seilwaith ymlaen llaw yn golygu nad yw'r cynllun yn hyfyw ac yn cael ei atal o ganlyniad i hynny. Mae Cronfa CCR yn ceisio sicrhau'r enillion economaidd gorau posibl drwy fuddsoddi yn y safleoedd sydd wedi'u lleoli'n fwyaf strategol sy'n sicrhau'r gwerth gorau am arian.  Roedd Rhaglen Gyllido’r CCR wedi'i strwythuro i dargedu'r ardaloedd oedd leiaf gystadleuol yn economaidd o fewn y rhanbarth, fel y'i hysbyswyd gan Fynegai Cystadleurwydd y DU 2019. Roedd hyn i'w gyflawni drwy ddull blaenoriaethu'r gronfa hollt a nodir ym mharagraff 4.1 o'r adroddiad.

 

Yn ogystal â'r ddwy is-gronfa £15 miliwn a amlinellwyd yn rhan uchod o’r adroddiad, roedd £5 miliwn ychwanegol o gyllid gan Lywodraeth Cymru ar gael ar gyfer cynlluniau a allai fodloni gofynion penodol. Nid oedd CBSPAO yn gymwys ar gyfer is-gronfa 1 ac nid oedd amodau ariannu Llywodraeth Cymru yn briodol, gan eu bod yn ei gwneud yn ofynnol i bob uned breswyl fodloni safonau gofod na ellir eu cyflawni ar gyfer safle Ffordd Ewenni. O'r herwydd, roedd y safle'n gymwys ar gyfer ei chyflwyno iâr gyfer ei hystyried fel rhan o'r is-gronfa 2 sy’n werth £15 miliwn.

 

Yn dilyn cyfnod o asesu a diwydrwydd dyladwy cychwynnol, rhyddhaodd CCR restr fer ddangosol ym mis Mawrth 2021 ac a gymeradwywyd gan Gabinet CCR ar 15 Mawrth 2021. Roedd y rhestr fer hon yn cynnwys hen gynllun Ffordd Ewenni lle mae uchafswm o £3.5 miliwn o gyllid wedi'i glustnodi ar ei gyfer.

 

Dywedodd Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau felly, ei bod hi bellach yn angenrheidiol gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet i gyflwyno'r cais llawn. Byddai swyddogion yn adrodd yn ôl i'r Cabinet i geisio cymeradwyaeth i dderbyn cytundeb cyllido, pe byddai'r cais yn llwyddiannus.

 

Roedd gweddill adrannau'r adroddiad yn cynnwys gwybodaeth am ddiwygiadau sy'n ofynnol i'r Uwch Gynllun yn y cam drafft, er mwyn sicrhau bod cynigion yn cynnwys ar gyfer adfywio ymysg ar y safle, (fel y nodir ym mharagraff 4.9 o'r adroddiad), y gydberthynas â PCML a'r camau nesaf i'w cymryd o hyn ymlaen.

 

Cwblhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau ei hadroddiad, drwy gyfeirio at y goblygiadau ariannol o ran y cynigion.

 

Canmolodd yr Aelod Cabinet dros Gymunedau yr adroddiad a'i gynigion, a oedd, yn ei dro, yn bennaf oherwydd bod y Cyngor yn rhan o drefniant Bargen Ddinesig Prifddinas- Ranbarth Caerdydd, a fyddai'n darparu cyllid grant ar gyfer yr hyn a gynigiwyd ar y safle. Byddai datblygu'r safle yn rhoi'r gallu i CBSPAO wneud cais am gyllid Metro, er mwyn creu cyfleuster Parcio a Theithio yn Ffordd Ewenni. Byddai'r cynigion datblygu hefyd yn cynorthwyo agenda gwyrdd yr Awdurdod, h.y. gyda darparu cerbydau trydan, yn ogystal ag ardal chwarae i blant.

 

Adleisiodd yr Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio bwysigrwydd bod y Cyngor yn rhan o Brifddinas-Ranbarth Bargen Caerdydd, a oedd yn cynorthwyo i gefnogi gwaith datblygu ar y safle hwn, yn ychwanegol i’r orsaf trafnidiaeth arfaethedig ym Mhorthcawl ynghyd a gwell cysylltiadau trafnidiaeth yng ngorsaf y Pîl. Fe ychwanegodd hefyd y byddai prosiectau eraill hefyd yn dilyn hyn. Roedd yn falch o weld cyfres mor amrywiol o gynigion datblygu mewn un lleoliad, a oedd yn safle tir llwyd, yn cynnwys canolfan drafnidiaeth, ynghyd â datblygiadau preswyl a masnachol, ymhlith elfennau eraill.

 

Roedd yr Arweinydd hefyd yn falch o weld ymrwymiad yn cael ei wneud tuag at adeiladu dros 180 o gartrefi a oedd yn cynnwys tai fforddiadwy i bobl leol, a fyddai'n golygu mai hwn fyddai'r datblygiad tai mwyaf ym Maesteg, ynghyd â chyfleuster parcio a theithio a chanolfan fenter newydd a fyddai’n gwasanaethu Cwm Llynfi. Doedd hyn i gyd ond yn cael ei wireddu o fod yn aelod o Fargen Dinas Caerdydd. Nododd yn ei ddiweddglo mai hwn hefyd oedd y prosiect adfywio mwyaf a ymgymerwyd ag ef ym Maesteg o fewn cenhedlaeth.

 

PENDERFYNWYD:                                          Fod y Cabinet wedi:

 

• Nodi'r cynnydd a wnaed mewn cysylltiad â chynigion adfywio ar gyfer hen Ystâd Ddiwydiannol Ffordd Ewenni, y bwriad i adfer, marchnata a gwaredu'r safle er mwyn hwyluso adfywio defnydd cymysg;   

• Swyddogion awdurdodedig i barhau i gysylltu â CCR ar y cyflwyniad terfynol ar gyfer grant y Gronfa Housing Viability Gap Fund lle’ oedd y safle wedi cyrraedd y rhestr fer.

• Cytunwyd i dderbyn adroddiad yn y dyfodol ar y telerau cytundebol y dylid cytuno arnynt gyda PCMCL ar y bwriad i ailddatblygu'r safle.

• Cytunwyd i dderbyn adroddiad yn y dyfodol ar unrhyw oblygiadau ariannol i'r awdurdod o ran datblygu'r ailddatblygiad arfaethedig.

• Dirprwyo derbyn grant tuag at ailddatblygu Hen Ystâd Ddiwydiannol Ffordd Ewenni i Gyfarwyddwr Cymunedau a Swyddog Adran 151.

Dogfennau ategol: