Agenda item

Argymhellion y Panel Adfer Trawsbleidiol ac Ymateb Cynnydd y Cabinet.

Gwahoddwyr:

 

Cynghorydd Huw David – Arweinydd

Mark Shephard - Prif Weithredwr

 

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Uwch Swyddog Gwasanaethau Democrataidd - Craffu ymateb cynnydd y Cabinet i Argymhellion y Panel Adfer Trawsbleidiol, sydd ynghlwm yn Atodiad A, ac Argymhellion diweddaraf y Panel Adfer Trawsbleidiol, sydd ynghlwm yn Atodiad B, i’r Pwyllgor.

 

Gofynnodd Aelodau’r Pwyllgor y canlynol:

 

Gwnaeth Aelod bwynt cyffredinol gyda golwg ar yr argymhellion a gofynnodd sut y byddai’r Pwyllgor yn sicrhau bod yr argymhellion, oedd wedi cael eu derbyn gan y Cabinet a’u cau, neu oedd yn dal i fynd ymlaen, yn cael eu holrhain wrth symud ymlaen. Sut byddai’r Pwyllgor yn mesur llwyddiant wrth symud ymlaen ac i ba raddau yr oedd modd cyflawni yn erbyn argymhellion y panel.

 

Teimlai’r Prif Weithredwr fod y cwestiwn hwn o gymorth a rhoddodd gyd-destun pwrpas y panel yn gryno. Teimlai ef y dylai’r materion a godid gan y panel, wrth symud ymlaen, ddod yn rhan o’r busnes arferol, ac y dylai’r materion hynny oedd yn fwy perthnasol gael eu gweld fel rhan o weithgaredd craffu arferol, e.e. tai a digartrefedd, egwyddorion cyngor cydweithredol, ac yn y blaen. Fel rhan o adferiad y cyngor, roedd yna bethau newydd ac efallai bethau pwysicach o bosibl, i ganolbwyntio a threulio amser arnynt yn awr megis iechyd a chydraddoldebau, gwrth-dlodi, digidol, y model newydd o weithredu ar gyfer y cyngor, iechyd meddwl ac agenda 2030, oedd wedi codi allan o’r pandemig, a dylid rhoi blaenoriaeth i’r rhain, yn hytrach nag i un neu ddau o bethau oedd yn anochel yn berthnasol iawn efallai ar y pryd. Roedd hi i fyny i’r Aelodau ddethol a dewis rhai o’r argymhellion oedd yn bod eisoes ond hefyd efallai rai newydd lle roedd yr elfennau hynny o’r adferiad yn haeddu mwy o ffocws ac y gellid eu codi fel rhan o’r agenda graffu arferol ar gyfer pob un o’r pwyllgorau.

 

Gofynnodd Aelod, mewn perthynas ag argymhelliad 1, a fyddai yna ail gymesuro cyllidebau i ganiatáu i Gyfarwyddiaeth Cymunedau ail wyrddio neu ailwampio lleoedd eraill ar wahân i Halo, Awen a’r parciau a’r caeau chwarae.

 

Eglurodd y Prif Weithredwr fod yn rhaid i’r ymateb fod yn un cyfannol, ac yn sicr fod rhan o'r ymateb yn ymwneud â chanolfannau hamdden, a chyfleusterau diwylliant a chwaraeon i ysgolion, ond y bwriad hefyd oedd ceisio creu mwy o leoedd gwyrdd, lle bo modd, yng nghanol trefi. Cydnabyddid bod gwerth diwylliant, hamdden a mannau gwyrdd wedi bod yn allweddol yn y pandemig a bod llwybrau troed hefyd wedi bod yn anhygoel o werthfawr. O ran y gyllideb, yn nwylo’r Aelodau roedd hyn a mater i’r Cyngor ydoedd, pan fyddai cyllidebau yn cael eu pennu. Fodd bynnag, byddai argymhellion y Panel Adfer yn dylanwadu ar brosesau’r gyllideb wrth symud ymlaen.  Efallai y bydd rhai pethau, a ystyrid yn hanesyddol yn llai pwysig, yn dod yn bethau i fuddsoddi ynddynt ac ailganolbwyntio arnynt, yn enwedig o ystyried y newidiadau sylweddol yn y ffordd y mae pobl yn byw eu bywydau. Roed buddsoddi mewn diwylliant, hamdden a mannau gwyrdd yn sicr yn cael ei gydnabod eisoes, a byddai hynny’n parhau, ond efallai y byddai rhannau eraill yn dod yn bwysicach hefyd. Newydd ddechrau yr oedd ymgynghoriad y Cynllun Datblygu Lleol a disgwylid y byddai nifer o’r ymatebion yn ymwneud â lle gwyrdd a chefnogaeth i ddiogelu lle gwyrdd yn ogystal.

 

Awgrymodd yr Arweinydd mewn ymateb i’r cwestiynau ar yr argymhellion, pe bai modd cynnwys unrhyw rai o’r gweithgareddau oedd yn mynd ymlaen yn nhrefniadau adolygu perfformiad chwarterol y craffu arferol, yna y byddai’n ceisio gwneud hynny. Gyda golwg ar fannau gwyrdd, gofynnodd yr Aelod gwestiwn perthnasol oedd wedi cael ei adlewyrchu mewn trafodaethau gydag aelodau lleol, gan gynnwys yr adborth o gwmpas cynlluniau ar gyfer y Llyn Halen ym Mhorthcawl a’r angen i sicrhau bod mannau gwyrdd yn rhan greiddiol o adfywiad, gan nodi bod cynlluniau i ymestyn Parc Griffin. Roedd yn hollol glir bod pobl yn gwerthfawrogi’r mannau gwyrdd lleiaf hyd yn oed, yn enwedig mewn amgylcheddau trefol, ac felly byddai’r Awdurdod yn ceisio gwneud mwy o hynny wrth i gynlluniau pellach gael eu hystyried, ar draws y fwrdeistref, gan sicrhau bod y lle gwyrdd o’r ansawdd gorau a bod gwerth ecolegol unrhyw le gwyrdd yn cael ei ystyried. Roedd yna ddyletswydd i hybu bioamrywiaeth, oedd hefyd yn nodwedd o gynllunio wrth symud ymlaen.

 

Nododd Aelod y cynnydd mewn atgyfeiriadau hawliau tramwy, a gofynnodd a oedd yna ddigon o staff yn eu lle i ddelio â’r rhain. At hynny mynegodd bryder bod Awen yn ddiweddar wedi trosglwyddo Parc Litchard yn ôl i’r Cyngor a gofynnodd beth oedd yn cael ei wneud i sicrhau eu bod yn parhau gyda mannau gwyrdd ac na fyddent yn eu rhoi yn ôl.

 

Nododd y Prif Weithredwr, ar fater penodol Parc Litchard, mai mater a etifeddwyd yw hwn o ran yr arbediad MTFS blaenorol ar Awen cyn y pandemig. Cymerwyd arian oddi ar Awen ac felly roeddent wedi adolygu beth y gallent ei wneud o ran eu ffi rheoli. Nid oedd yn tybio bod ganddynt unrhyw uchelgais ehangach i drosglwyddo lle gwyrdd yn ôl ac roeddent yn bartner gwerthfawr, yn gweithio’n effeithiol gyda’r Cyngor. O ran hawliau tramwy, roedd dau fater gwahanol. Roedd atgyfeiriadau Aelodau wedi dyblu bron, o bosibl o ganlyniad i’r ffordd y mae pawb yn gweithio erbyn hyn. Roedd adolygiad yn mynd ymlaen, ynghylch yr holl system o atgyfeirio gan aelodau, er bod hynny wedi cymryd ychydig mwy o amser nag y disgwylid oherwydd y pandemig. Rhan o’r ateb hwnnw fyddai mwy o hunangymorth i aelodau o ran cysylltiadau a medru dod o hyd i wybodaeth drwy fynd i ddolennau cyswllt ar y wefan. Yn y cyfamser, roedd adnoddau wedi cael eu cynyddu ar gyfer hawliau tramwy, fel cydnabyddiaeth o’r galw cynyddol, ond roedd terfyn ar yr adnodd hwn. Teimlai ef y gallai rhai o’r blaenoriaethau newid wrth fynd ymlaen, o ganlyniad i’r pandemig. Efallai y byddai hawliau tramwy a lleoedd gwyrdd yn haeddu mwy o flaenoriaeth wrth fynd ymlaen, ond roedd hynny’n dod gyda dewis ynghylch beth na fyddai’n cael buddsoddiad. Teimlai ef fod ar Aelodau eisiau mwy o ffocws ar fuddsoddi yn y mathau hyn o bethau, a bod hynny’n rhywbeth y gellid ei fwydo drwy broses y gyllideb ac yn wir drwy BREP, fel rhan o ddylanwadu ar y broses.

 

Adleisiodd Aelod sylwadau’r Aelodau blaenorol a dywedodd ei fod yn deall o’r blaen mai mater o staffio ydoedd, oedd yn achosi’r prif ôl-groniad. Yn awr a Swyddog Chwilio wedi cael ei recriwtio, a allai’r Prif Weithredwr gadarnhau bod lefelau’r staffio a’r adnoddau’n ddigonol i fynd i’r afael â’r ôl-groniad o broblemau gyda hawliau tramwy.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr ei fod yn dod yn ôl i flynyddoedd o ddiffyg buddsoddi mewn pethau fel hawliau tramwy gyda maint y tîm yn lleihau’n eithaf sylweddol, yn iawn efallai neu efallai ddim, pan ystyrid pethau fel hawliau tramwy yn llai pwysig. Roedd mwy o gydnabyddiaeth o werth pethau fel hawliau tramwy, yn dilyn y pandemig, ac felly nid mater o ymateb i’r sefyllfa bresennol yn unig ydoedd ond ceisio lliniaru blynyddoedd o ddiffyg buddsoddi. Ni allai warantu y byddai gan y Cyngor yr adnoddau ar gyfer popeth a ddymunai Aelodau ond, yn anffodus, dyna oedd y sefyllfa i lawer yn y sefydliad. Roedd y pwysau wedi cael eu cydnabod a’r adnoddau wedi eu cynyddu, a châi’r sefyllfa ei hadolygu. Pe bai’n dod yn amlwg wrth fynd ymlaen fod hyn yn annigonol yna, fel rhan o broses y gyllideb, fe fyddai’n benderfyniad i Aelodau ei wneud a oeddent yn dymuno gwneud rhagor o fuddsoddiad yn y maes hwn.

 

Gofynnodd Aelod, mewn perthynas ag Argymhelliad 2, a gâi’r hyfforddiant ei ymestyn i gyd-daro â diwedd y cyfnod ffyrlo, gan nodi bod cadw pellter cymdeithasol o bosibl yn mynd i barhau tan ddiwedd y flwyddyn galendr o leiaf.

 

Esboniodd y Prif Weithredwr fod yr Uned Datblygu Economaidd wedi dweud y byddent yn trafod nid gyda busnesau’n unig ond y trydydd sector ac elusennau hefyd i benderfynu beth oedd y flaenoriaeth yn awr o safbwynt hyfforddiant. Yn bendant roedd yna ymrwymiad i ddarparu’r hyfforddiant angenrheidiol, ond efallai y byddai yna bethau eraill y byddai’r sefydliadau hynny bellach yn teimlo eu bod o fwy o werth. Roedd yna ymrwymiad yn sicr i barhau i weithio gyda hwynt a darparu hyfforddiant digonol ac felly teimlai ef y byddai yna raglen o waith fyddai’n dod i’r amlwg drwy’r trafodaethau hynny. 

 

Cyfeiriodd Aelod at Argymhelliad 3 a nododd fod cryn bryder o ran PPE pan ddechreuodd y pandemig. Er bod gweithdrefnau yn eu lle erbyn hyn, gofynnodd am sicrwydd na fyddai yna brinder yn y dyfodol.

 

Roedd y Prif Weithredwr yn cydnabod bod cael PPE digonol wedi bod yn destun pryder dilys iawn ar ddechrau’r pandemig. Roedd Llywodraeth Cymru (LlC) ers hynny wedi cyd-drefnu a chyllido hyn yn dda iawn. Roedd bellach storfa ganolog a gallai’r holl ddarparwyr, nid darparwyr y cyngor yn unig, gael mynediad at PPE drwy archebu o’r storfa honno. Hyd y gwyddai, roedd hyn wedi gweithio’n llwyddiannus iawn ers yr hydref ac felly roedd yn rhesymol gyfforddus bod y system bresennol yn gweithio’n dda.

 

Cadarnhaodd yr Arweinydd fod pentwr o stoc ar gael, hyd yn oed pe bai’r cyflenwadau rheolaidd yn dod i ben. Roedd y Deyrnas Unedig a Llywodraeth Cymru wedi gweithio’n agos gyda diwydiant i sicrhau bod cyflenwyr yn y wlad hon oedd yn gallu gwneud a chynhyrchu’r PPE, oherwydd mai un o’r heriau a wynebwyd o’r blaen oedd bod llawer o’r cyflenwyr wedi eu lleoli dramor. At hynny roedd PPE wedi cael ei gyflenwi am ddim i ddarparwyr gofal yng Nghymru, oedd wedi bod yn gymorth neilltuol i’r trydydd sector ac i ddarparwyr gofal cymdeithasol annibynnol.

 

Nododd Aelod fod Argymhelliad 6 wedi cau ond gofynnodd am ychydig yn rhagor o wybodaeth am ba effaith wirioneddol y byddai’r cynlluniau yn eu cael ar yr Awdurdod Lleol.

 

Cadarnhaodd y Prif Weithredwr fod cyfarfodydd yn mynd rhagddynt, yn wythnosol, gyda’r Prif Weithredwr a Chadeirydd y Bwrdd Iechyd ac Aelodau Uwch o’r staff ynghylch cynlluniau adfer ar gyfer rhestrau aros a llawdriniaethau dewisol, er enghraifft, a sut y gellid ymdrin â hyn wrth symud ymlaen. Roedd sgwrs gyfannol yn mynd ymlaen am y ffordd y byddai Iechyd yn ymadfer o’r pandemig, gan gydnabod y gellid eto gael trydedd ton, ond roedd llawer mwy o bwyslais yn amlwg a mwy o adnoddau yn cael eu cynnwys yn yr hyn a ddigwyddai dros y 2 neu 3 blynedd nesaf, er mwyn cael yn ôl i sefyllfa fwy normal. Roedd darn mwy o waith yn mynd ymlaen, y disgwyliai ef iddo fynd ymlaen dros nifer o flynyddoedd.

 

Nododd yr Arweinydd fod LlC wedi cyhoeddi £30 miliwn ychwanegol i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg i fod o gymorth i fynd i’r afael â pheth o’r ôl-groniad oedd yn ganlyniad y pandemig. Roedd y cyllid hwn ar gyfer iechyd meddwl ac iechyd corfforol, ac roedd ef yn croesawu hyn oherwydd ei bod yn amlwg bod hyn yn flaenoriaeth enfawr. Byddai’r Cyngor yn gweithio gyda’r Bwrdd Iechyd ac yn ei gynorthwyo i gyflawni’r agenda honno, oherwydd bod y dull yn un system gyfan, gan fod pwysau sylweddol fwy wedi bod ar y gwasanaethau cymdeithasol oherwydd bod ar laweroedd o’r bobl oedd yn cael eu rhyddhau o’r ysbyty angen pecynnau gofal. At hynny, roedd cyllid wedi cael ei ddarparu drwy gronfa galedi LlC, yn darparu cymorth yn uniongyrchol i wasanaethau oedd yn cael eu darparu ac i wasanaethau a gomisiynid mewn gofal cymdeithasol, ond y disgwyliad oedd mai dim ond tyfu wnâi’r pwysau hynny.

 

Cadarnhaodd Aelod ei fod ef wedi cael tawelwch meddwl drwy glywed yr atebion a roddwyd i’w gwestiynau, ond gobeithiai am fwy o ddeialog o ran mynediad at ofal iechyd sylfaenol yn ardal Porth y Cymoedd, yng ngoleuni’r datblygiad tai eithaf sylweddol. 

 

Dywedodd y Prif Weithredwr nad oedd ganddo ateb i fater gofal sylfaenol ym Mhorth y Cymoedd yn benodol, ond y byddai’n hapus i godi’r mater yn y cyfarfod yr wythnos ddilynol.

 

Ychwanegodd yr Arweinydd y gellid gweld buddsoddiad mawr, sef yr un buddsoddiad mwyaf mae’n debyg mewn gofal iechyd sylfaenol, yn natblygiad newydd Sunnyside, fyddai’n gwasanaethu llawer o dref Pen-y-bont ar Ogwr, yn ogystal â’r cyfleuster gofal iechyd newydd ym Mhorthcawl, ond bod angen mwy. Yn sicr ceid cyfeiriad yn y Cynllun Datblygu Lleol at yr angen mwy yn ardal Porth y Cymoedd a chynigion i fynd i’r afael â hynny. Câi trafodaethau pellach eu cynnal gyda’r Bwrdd Iechyd oherwydd ei fod yn un o’r materion pwysicaf i’r cyhoedd ac i aelodau etholedig, sef wrth gynllunio datblygiadau mawr bod rhaid cael cynlluniau ar gyfer gofal iechyd gymaint ag unrhyw seilwaith arall.

 

Gofynnodd Aelod mewn perthynas ag Argymhelliad 8, a oedd disgwyl y byddai nifer y rhai digartref yn cynyddu wedi i’r cyfnod ffyrlo ddod i ben, gan nodi y byddai llawer o bobl, wrth i’r rheolau ynghylch troi tenantiaid allan newid, yn cael eu hunain mewn sefyllfa anodd.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr ei fod ef yn deall bod y Panel Adfer Trawsbleidiol wedi edrych ar faterion tai a digartrefedd ar wahân. Am y tro roedd cymorth ariannol LlC yn dal i gynorthwyo awdurdodau lleol gyda digartrefedd ond, wrth edrych i’r dyfodol, roedd ef yn bryderus pe bai’r cymorth hwnnw’n dod i ben, y byddai disgwyliad bellach iddynt fedru delio’n effeithiol â’r holl bobl ddigartref yn yr ardal. Pe bai’r cynnydd sylweddol hwnnw yn y galw’n digwydd, yna byddai’r Awdurdod yn gobeithio y byddai LlC yn darparu’r adnoddau ac yn ariannu hyn yn iawn pe bai baich ychwanegol yn syrthio ar yr Awdurdod Lleol. Teimlai ef fod digartrefedd a sut mae’r Awdurdod yn ymdopi yn enghraifft, mae’n debyg, o fater y byddai angen ei ystyried wrth symud ymlaen oherwydd bod yna bethau, oedd yn dal heb fod yn hysbys eto, a phosibilrwydd o gynnydd yn y galw.

 

Gofynnodd Aelod mewn perthynas ag Argymhelliad 16, yngl?n â dod yn gyngor cydweithredol, pam nad oedd y Cyngor wedi ymuno.

 

Nododd y Prif Weithredwr fod hyn wedi cael ei drafod yn helaeth yn CMB y Cabinet a daeth i lawr i drafodaeth ynghylch pa werth ychwanegol fyddai yna mewn mynd drwy’r broses ffurfiol pan oedd llu o raglenni eisoes, yn sicr yn dilyn y pandemig, yr oedd y Cyngor wedi ymrwymo i’w cyflawni. Teimlai ef, gan gydnabod bod llawer o egwyddorion cyngor cydweithredol yn cyd-fynd hefyd â phethau fel Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru), a’r Ddyletswydd Gymdeithasol-economaidd a phethau fel cynnwys pobl leol, mai’r peth synhwyrol a chymesur i’w wneud oedd gweld sut yr oedd hynny’n mynd dros y flwyddyn nesaf. Pe bai’n cael ei ystyried yn flaenoriaeth wleidyddol yn dilyn yr etholiad, gallai pwy bynnag fyddai’n ffurfio’r weinyddiaeth reoli yr adeg honno wneud hynny fel rhan o’u blaenoriaeth wrth fynd ymlaen.

 

Nododd yr Arweinydd fod cyfraniad ariannol yn aml yn ofynnol a’r hyn a ystyrid y cam pwysicaf oedd bod y Cyngor yn gweithredu fel cyngor cydweithredol, yn hytrach na llofnodi i fod yn un, oherwydd mai’r ffordd yr oeddech yn gweithredu a’ch gwerthoedd oedd yn cyfrif. Roedd gan y Cyngor hanes rhesymol o ran gweithio gyda Halo, yn nhermau datblygu Awen a gweithio gyda chynghorau Tref a Chymuned, ac felly teimlai ef fod y gwerthoedd hynny yno. Yr hyn fyddai’n cael ei wneud fyddai meddwl a oedd mwy o gamau gweithredu y gellid eu cymryd, yn hytrach na dim ond llofnodi i fod yn gyngor cydweithredol.

 

Roedd Aelod, mewn perthynas ag Argymhelliad 15 ynghylch â chael gwared â thir dros ben y Cyngor, yn derbyn y sylwadau a’r ymateb ond roedd ganddo rai pryderon o hyd, yn rhannol oherwydd bod yr ymateb wedi ei roi o safbwynt ariannol. Teimlai ef fod yna ddeddfwriaeth, y gellid ei defnyddio i ryddhau tir ar gyfer tai cymdeithasol heb orfod ystyried y gost ariannol yn unig.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr ei fod yn deall y cyfeiriad yr oedd yr Aelodau yn dod ohono ac yn sicr bod yr esboniad wedi cael ei roi mewn sgyrsiau blaenorol, ei bod yn ofynnol i’r Awdurdod sicrhau gwerth gorau neu’r ystyriaeth orau yn nhermau cael gwared â thir, ond ei fod yn derbyn y pwynt ynghylch y ffordd y gellid arddangos gwerth gorau neu ystyriaeth.

 

Pan oedd yr Awdurdod yn berchen ar ddarnau gwerthfawr o dir, roedd angen ystyriaeth ofalus ynghylch rhoi hwnnw i ffwrdd am ddim, oherwydd na fyddai hynny efallai yn ddoeth. Roedd yna hefyd, fodd bynnag, ddarnau bychain amrywiol o dir, yn enwedig yn y Cymoedd, lle na fyddai gwerth ariannol o bwys, ac yn yr achosion hynny gellid ystyried ffordd wahanol ymlaen, p’un ai ar gyfer tai cymdeithasol, mannau gwyrdd neu fudd cymunedol arall. Yr her fwy eto oedd darparu’r adnoddau o fewn y Landlord Corfforaethol i wneud hynny i gyd, yn aml ar gyfer darnau bychain o dir ledled y Fwrdeistref Sirol, pan oedd ganddynt hefyd raglenni blaenoriaeth sylweddol ar gyfer cynlluniau adfywio mawr iawn. Cytunai ag Aelodau ac nid oedd yn meddwl bod rhaid i bob darn o dir fod o werth ariannol, ond roedd rhaid bod gwerth cymdeithasol neu ryw werth arall i’w ddangos i’r Gymuned yn gyfnewid am ei roi i ffwrdd am ddim.

 

Diolchodd Aelod i’r Prif Weithredwr am gydnabod y problemau yn ardal y Cymoedd, a theimlai fod angen cydbwysedd weithiau rhwng yr elw ariannol mwyaf ar gynlluniau mawr a thalu peth sylw i’r Cymoedd, drwy gael gwared ar rai o’r darnau o dir llai oedd ym meddiant y Cyngor.

 

Cytunai’r Arweinydd yngl?n â phwysigrwydd gwerth gorau yn ei ystyr ehangaf, nid gwerth ariannol yn unig, a phwysigrwydd adfywio’r Cymoedd. Roedd y Cabinet wedi ei wneud yn glir, mai un o’r blaenoriaethau oedd bod safleoedd yn cael eu datblygu ymhellach, yn enwedig safleoedd bychain a safleoedd tir llwyd mawr a allai ei gwneud yn bosibl datblygu cartrefi newydd. Nid mater o bris prynu oedd hyn a gwerth y tir yn unig, a allai fod yn ystyriaeth eilradd yn llawer o Gymunedau’r Cymoedd ond, yn aml, y gost fwyaf fyddai adeiladu ac adfer y safle. Fodd bynnag, roedd yn ymwneud â dod o hyd i ddatblygwr a’i gael i gytuno i ddod â’r rhai o’r safleoedd hyn ymlaen.

 

Dywedodd yr Aelod mai’r allwedd yn aml oedd darganfod datblygwr oedd â diddordeb. Awgrymodd y gellid gosod rhai o’r safleoedd bychain iawn, oedd ym meddiant y cyngor, ar gael i adeiladwyr bychain neu ar gyfer hunanadeiladu. Nid dod o hyd i ddatblygwr oedd yr anhawster bob tro cyn rhyddhau safle ac nid oeddent i gyd yn safleoedd tir llwyd ac roedd yna lwybrau eraill, pe bai’r darnau bychain hyn o dir yn dod ar gael.

 

Daeth y Prif Weithredwr â’r drafodaeth i ben drwy ddweud bod rhai pwyntiau dilys iawn wedi cael eu mynegi, er bod y pethau hyn i gyd yn dod yn ôl i flaenoriaethau’r Cyngor. Nododd ei fod wedi clywed galw am adnoddau ychwanegol ar gyfer hawliau tramwy, o ran digartrefedd ac o ran y landlord corfforaethol. Teimlai fod yr holl ddadleuon ynghylch y 3 maes hwn yn ddilys, ond yn y pen draw yr her gyffredinol oedd sut i fforddio’r pethau hyn i gyd o fewn cyllideb gyfyngedig. Roedd ceisio dod o hyd i'r adnoddau i wneud popeth bob amser yn her.

 

PENDERFYNWYD:  Bod y Pwyllgor yn nodi ymateb cynnydd y Cabinet i Argymhellion y Panel Adfer Trawsbleidiol sydd ynghlwm yn atodiad A ac yn cadarnhau’r Canfyddiadau ac Argymhellion ynghlwm yn Atodiad B, i’w cyflwyno i’r Cabinet ar yr 22ain o Fehefin 2021.

 

Dogfennau ategol: