Agenda item

Cynnig bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn llofnodi Siarter Creu Lleoedd Cymru.

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr Gr?p Gwasanaethau Cynllunio a Datblygu adroddiad, a phwrpas hwn oedd gofyn am gefnogaeth y Pwyllgor Rheoli Datblygu i’r cynnig bod y Cyngor yn llofnodi Siarter Creu Lleoedd Cymru.  

 

Cadarnhaodd fod creu lleoedd yn broses ragweithiol a chydweithredol o greu a rheoli lleoedd, oedd hefyd yn cefnogi polisïau cynllunio da ac effeithiol. Er y gellir ystyried mai’r Awdurdod Cynllunio Lleol yw’r prif gynigydd, mae agenda creu lleoedd yn mynd y tu hwnt i Gynllunio a swyddogaethau cysylltiedig y Cyngor ac mae iddo gysylltiadau trawsddisgyblaethol â llawer o feysydd gwasanaeth llywodraeth leol a’i phartneriaid cysylltiedig, er mwyn cyfrannu at greu lleoedd a’u rheoli’n effeithiol. Gwelir creu lleoedd fel proses allweddol i gyflawni dyletswyddau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a blaenoriaethau/strategaethau corfforaethol allweddol, gan gynnwys y Cynllun Corfforaethol a gobeithion Pen-y-bont ar Ogwr o leihau carbon erbyn 2030. Ymhellach, mae ei ofynion amlddisgyblaethol yn cyd-fynd yn dda â’r dull un Cyngor o gyflawni ei swyddogaethau.

 

Ychwanegodd Rheolwr Gr?p Gwasanaethau Cynllunio a Datblygu y bydd y Cyngor, wrth lofnodi Siarter Creu Lleoedd Cymru, yn dangos ei ymrwymiad i egwyddorion creu lleoedd a datblygu a gwella ei leoedd.

 

Datblygwyd Siarter Creu Lleoedd Cymru, a lansiwyd ym mis Medi 2020, gan Lywodraeth Cymru a Chomisiwn Dylunio Cymru mewn cydweithrediad â Phartneriaeth Creu Lleoedd Cymru. Mae hon yn cynnwys rhanddeiliaid sy’n cynrychioli amrywiaeth eang o ddiddordebau a sefydliadau sy’n gweithio o fewn yr amgylchedd adeiledig a naturiol. Bwriadwyd y Siarter i adlewyrchu ymrwymiad torfol ac unigol y sefydliadau hyn i gefnogi datblygu lleoedd o ansawdd da ar draws Cymru er budd cymunedau.

 

Roedd cydrannau’r Siarter wedi eu crynhoi yn yr adroddiad, a fersiwn lawn ynghlwm wrtho yn Atodiad A.

 

Cadarnhaodd Rheolwr Gr?p Gwasanaethau Cynllunio a Datblygu fod llofnodwyr Siarter Creu Lleoedd Cymru yn cytuno i hybu’r egwyddorion wrth gynllunio, dylunio a rheoli lleoedd newydd a rhai presennol, fel y manylwyd ym mharagraff 4.3 yr adroddiad.

 

Byddai hyn yn gofyn am ymrwymiad i’r egwyddorion a ddangoswyd mewn rhestr bwledi ym mharagraff 4.4 yr adroddiad, fyddai’n torri ar draws amrediad eang o adrannau a swyddogaethau’r Cyngor, y mae ganddynt i gyd eu rhan i’w chwarae mewn sicrhau bod datblygiad newydd a’r seilwaith cysylltiedig yn unol ag amcanion creu lleoedd.

 

Byddai llofnodi Siarter Creu Lleoedd Cymru hefyd o gymorth i ddylunio datblygiadau ac egwyddorion statudol, nodau ac amcanion Cynllun Datblygu Lleol y Cyngor. Câi Canllawiau Cynllunio Atodol hefyd eu cyflwyno o ganlyniad i ymrwymo i’r Siarter, ychwanegodd.

 

Teimlai Aelod y dylid cael, yn ogystal â hyrwyddwyr oedd yn Swyddogion, yn cefnogi Siarter Creu Lleoedd Cymru, Hyrwyddwr o blith yr Aelodau hefyd, Cadeirydd y Pwyllgor Rheoli Cynllunio o bosibl.

 

PENDERFYNWYD:                 (1)  Bod yr aelodau yn cymeradwyo bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cytuno i lofnodi Siarter Creu Lleoedd Cymru.

 

    (2)  Bod Rheolwr Gr?p Gwasanaethau Cynllunio a Datblygu yn dilyn yr uchod drwy’r Bwrdd Rheoli Corfforaethol a hefyd yn gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet a’r Cyngor i ymrwymo i’r Siarter.     

Dogfennau ategol: