Agenda item

Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) Arolwg o Ofal Cartref mewn Gofal Cymdeithasol i Oedolion Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Gwahoddwyr:

 

Claire Marchant - Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles

Cynghorydd Nicole Burnett - Aelod Cabinet - Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar

Jackie Davies - Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion

Carol Owen - Rheolwr Gwasanaeth Darparwyr - Cefnogaeth Cartref/Gwasanaethau Llety

Jane Lewis - Rheolowr Gwasanaethau Gweithredol

 

Cofnodion:

Cyflwynodd Gyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant yr adroddiad, a’i gyngor oedd ei bod hi’n bwysig i adrodd ar adroddiadau rheoliadol mewn perthynas â Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant, a oedd yn berthnasol i gylch gwaith y Pwyllgor Craffu hwn. Talodd deyrnged i Bennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion, fel yr unigolyn sy’n gyfrifol am y gwasanaeth, i’r staff a gweithlu’r rheng flaen, yn ogystal â’r Rheolwr Darparwr Gwasanaethau - Cymorth Cartref/Gwasanaethau Llety a’r Rheolwr Gwasanaethau Gweithredol a oedd yn bresennol yn y cyfarfod. Yna cyflwynodd Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion yr adroddiad.

 

Diolchodd Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar y Swyddogion a oedd yn bresennol am yr adroddiad a’r sylwadau cadarnhaol a dderbyniwyd gan bobl a oedd dan ofal. Roedd hi’n teimlo fod gweithwyr gofal yr Awdurdod yn haeddu derbyn y ganmoliaeth uchaf, ac roedd yn awyddus iawn i ddangos ein diolchgarwch am eu gwaith. Dywedodd ei bod mor falch a diolchgar o bawb am eu cyfraniad.

 

Gofynnodd yr Aelodau'r canlynol:

 

Nododd un Aelod ei bod hi’n bleser darllen yr adroddiad, gan nodi’r dyfyniad derbyniol ar bwynt 4.3 yr adroddiad. Fel Aelodau, roedd hi’n hawdd craffu a beirniadu ar unrhyw adeg, ond pan dderbynnir arolygiadau ac adroddiadau tebyg i’r rhain, fe ddylid rhannu’r clod hwnnw â phawb yn y Gwasanaeth.

 

Nododd Aelod arall ei bod hi’n falch o’r ffaith fod gan yr Awdurdod record dda o ran gofalu am bawb. Nododd fod lefelau salwch, heb gyfrif cyfnod y Pandemig, yn eithaf uchel yn y proffesiwn gofal, a bod hynny’n ddealladwy. Gofynnodd yr Aelod beth oedd y lefelau salwch yn ystod y pandemig.

 

Esboniodd Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion fod yna gyfnodau ers dechrau’r pandemig, lle’r oedd yr absenoldeb yn uwch. Roedd rhai o’r timau wedi gweld bod gostyngiad o 25% yn nifer y staff. Roedd rhai yn dioddef gyda salwch oedd yn gysylltiedig â Covid-19 a rhai’n hunanynysu fel canlyniad i’r broses profi ac olrhain. Yn y sector gofal, fe welwn fod ffigyrau uchel ymysg staff gofal uniongyrchol er, trwy gydol y pandemig, yr hyn oedd yn bosib oedd edrych ar y gweithlu’n gyffredinol, gyda staff yn barod i fynd i weithio mewn lleoliadau gwahanol er mwyn llenwi’r lefelau salwch hynny. Doedd gan Bennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion y lefelau salwch i law ond, yn y gwasanaethau i oedolion, roedd y sefyllfa ychydig bach yn uwch na’r hyn oedd y flwyddyn flaenorol ac roedd hynny’n cynnwys sefyllfaoedd Covid-19. Roedd rhannau o’r gwasanaeth lle cafwyd lefelau isel o salwch ac eraill lle gwelwyd timau cyfan yn sâl ar rai adegau. Yn ôl y dystiolaeth, yr hyn a ddangosodd yr adroddiad oedd, tra bod rhai lefelau o salwch, roedd y gwasanaeth yn parhau i gyflenwi gofal a chynlluniau cymorth i bawb ac yn gallu delio â phob rhan o’r gwasanaeth a oedd ar waith.        

 

Nododd un Aelod ardaloedd lle mae angen gwelliant yn 4.7 a gofyn sut y deliwyd â’r rhain. Nododd yr Aelod hefyd yn 4.8 y geiriad ‘ar sail angen gwybod’, gan holi am esboniad. 

 

Eglurodd Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion, ynghylch Rheoliad 60, hysbysiadau o dan y rheoliadau, fod meini prawf clir iawn yngl?n â phryd y dylid hysbysu AGC, sy’n digwydd trwy system electronig. Wedi i AGC edrych ar ffeiliau unigol, fe nodwyd fod rhai achosion y dylid fod wedi’u riportio heb eu riportio mewn modd swyddogol, er bod tystiolaeth eu bod wedi cael eu trin mewn modd priodol trwy’r atgyfeiriadau diogelu cyffredin. Fe aed i’r afael â hyn yn syth ac mae pob achos bellach yn cael eu riportio trwy’r system hysbysu yn y ffordd briodol. O ran polisïau a gweithdrefnau, roedd peth wmbredd a oedd gofyn cael eu cwblhau er mwyn cofrestru’r gwasanaeth a bod y rheini’n amrywio o ddiogelu, i reoli haint, i’r Polisïau AD Corfforaethol. Pan gofrestrwyd y gwasanaeth ym mis Ionawr 2020, roedd yr holl bolisïau a’r gweithdrefnau hynny eisoes wedi’u diweddaru. Roedd angen adolygu rhai o’r gweithdrefnau yn flynyddol, ond gall rhai eraill fod mewn lle am sawl blwyddyn, er bod rhai yn weithdrefnau cyffredinol i’r sir ac, felly, nid yn unig yn bolisïau a gweithdrefnau yn ymwneud â’r gwasanaeth.  Roedd mecanwaith yn ei le i edrych ar yr holl bolisïau a gweithdrefnau gyda rhaglen dreigl o adolygiadau ar eu cyfer.

 

Yn nhermau’r sylw yn 4.8, mae’n cyfeirio at adeg lle byddai problem diogelwch, e.e. camgymeriad gyda meddyginiaeth. Bryd hynny, fe ddylid atgyfeirio at y tîm diogelu ac yna anfon hysbysiad at AGC trwy eu system ar-lein. Roedd AGC yn tystio fod atgyfeiriadau diogelu wedi’u cynnal ond nid yr hysbysu. Felly, yr hyn sy’n cael ei ddweud ydy mai dim ond at y bobl ac sydd angen gwybod am yr achosion hynny y dylid anfon yr hysbysiadau, gan gynnwys AGC, y tîm diogelu, Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion fel yr Unigolyn Cyfrifol a reoleiddir, ynghyd â’r teuluoedd a’r bobl ynghlwm â’r achos.

 

Cyfeiriodd un Aelod at dudalen 15, paragraff 3, gan holi os oedd y gwasanaeth bellach wedi ailgydio mewn goruchwyliaethau ffurfiol. Cyfeiriodd yr Aelod hefyd at baragraff 4, gan ofyn am eglurder ynghylch a oedd yr adroddiad sicrwydd ansawdd wedi’i gwblhau a beth oedd y sefyllfa bresennol gyda’r adroddiad diweddaraf.

 

Yn nhermau’r adroddiad sicrwydd ansawdd, cadarnhaodd y Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion fod hyn bellach mewn llaw ac y byddai ar gael.

Eglurodd Rheolwr Gwasanaeth Darparwr - Gwasanaethau Cymorth Cartref/Llety, fod goruchwyliaeth mewn cartrefi gofal mewnol wedi parhau yn ystod y pandemig, gan fod arweinwyr tîm a rheolwyr preswyl ar y safleoedd. Roedd hi ychydig yn wahanol yn y gymuned, gyda staff cartref, gan eu bod yn gweithio ledled y fwrdeistref. Roedd hi’n bwysig iawn gwybod nad oedd modd cynnal cyfarfodydd wyneb-yn-wyneb, oherwydd y cyfyngiadau, er bod galwadau lles wedi parhau. Parhaodd arweinwyr tîm i gynnal ymweliadau ar y cyd i ddod â phobl i mewn i’r gwasanaeth ac ymgymryd ag asesiadau a chynlluniau cymorth, a gweld staff wyneb-yn-wyneb ar ambell un o’r ymweliadau hynny, lle bo’n bosib. Roedd y Tîm bellach yn ôl o ran bod goruchwyliaeth ac arfarnu wedi dechrau.     

 

Esboniodd Rheolwr Gwasanaethau Gweithredol, yn ei maes gwasanaeth hi, fod llawer o’r cymorth a oedd yn ei le wedi’i gynyddu i staff ar lefel goruchwyliaeth fwy ffurfiol trwy osod arweinwyr tîm ayyb., oddi fewn i wasanaethau yn barhaol. Heb allu gwneud defnydd o leoliadau swyddfa, roedd gofyn ystyried dulliau eraill o oruchwylio, e.e. yn rhithiol ayyb. O ran goruchwyliaeth wyneb-yn-wyneb uniongyrchol, roedd y Tîm bellach yn ôl ar waith, er bod gofyn parhau i fod yn ymwybodol o’r cyfyngiadau sydd dal yn bodoli ac addasu i’r rheini. Un maes a gynyddodd yn ystod yr amser oedd yr opsiwn goruchwyliaeth gr?p, yn hytrach nag un i un yn unig, a oedd yn ymddangos yn fodd effeithiol o gefnogaeth i staff ac yn rhywbeth sy’n cael ei gario ‘mlaen.     

 

Nododd yr Aelod Cabinet dros y Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar fod y gwasanaethau cymdeithasol a gofal cymdeithasol, yn benodol, yn parhau i fod dan straen anhygoel a bod y gweithlu dan bwysedd gyda phobl yn gadael y gwasanaeth gofal i fod yn ôl at swyddi manwerthu a lletygarwch wrth i’r economi ailgydio. Roedd anawsterau mawr o ran recriwtio ar gyfer y swyddi pwysig hyn ac fe apeliodd i Aelodau etholedig i hyrwyddo a chreu cyfleoedd i ledaenu cyhoeddusrwydd ar gyfer gyrfa mewn gofal cymdeithasol, ymysg y rhai hynny o fewn y gymuned a fyddai’n addas ar gyfer y gwaith ac sydd o bosib yn chwilio am waith.

 

Gofynnodd un Aelod os oedd yr un broblem yn bodoli oddi fewn i’r sectorau annibynnol hefyd ac yn bryder i’r awdurdod.

 

Dechreuodd Cyfarwyddwr Corfforaethol – Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant, trwy ategu’r hyn a ddywedodd yr Aelod Cabinet, fod cadw gweithwyr yn gyntaf oll, ond yna recriwtio i swyddi gofal yn heriol, yn y gwasanaeth mewnol, yn ogystal â’r sector annibynnol. Roedd gan bobl llawer o ddewis a gorau po fwyaf y gellir ei wneud, ar y cyd, i hyrwyddo gweithio a chyfleoedd o fewn i’r sector, gan gynnwys boddhad gwaith a’r gwahaniaeth y gallai pobl ei wneud.

 

Diolchodd y Cadeirydd i Gyfarwyddwr Corfforaethol – Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant a Phennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion am eu hadroddiad a rhoddodd ddiolch a llongyfarchiadau mawr i’r staff am adroddiad mor gadarnhaol, gan ddiolch hefyd iddyn nhw am eu gwaith caled a’u hymrwymiad parhaus. 

 

PENDERFYNWYD:          Bod y Pwyllgor yn nodi cynnwys yr adroddiad ac yn nodi cynnwys yr adroddiad arolygu terfynol a geir yn Atodiad A.

 

Dogfennau ategol: