Cofnodion:
Cyflwynodd yr Uwch Swyddog Gwasanaethau Democrataidd - Craffu amlinelliad o’r Flaenraglen Waith ddrafft arfaethedig (Atodiad A) i'r Pwyllgor gael ei thrafod a'i hystyried; gofynnodd am unrhyw wybodaeth benodol y mae’r Pwyllgor wedi’i nodi y dylid ei gynnwys yn yr eitemau ar gyfer y ddau gyfarfod nesaf, gan gynnwys gwahoddedigion y maent yn awyddus i’w cael; gofynnodd i'r Pwyllgor nodi unrhyw eitemau pellach i'w hystyried ar y Flaenraglen Waith, gan roi sylw i'r meini prawf dethol ym mharagraff 4.6; a gofynnodd i'r Pwyllgor nodi y byddai'r Blaenraglenni Gwaith drafft arfaethedig ar gyfer y Pwyllgor yn cael eu hadrodd i gyfarfod nesaf COSC, ynghyd â sylwadau pob Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Pwnc perthnasol, yn dilyn ystyriaeth yn eu cyfarfodydd Pwyllgor ym mis Mehefin.
Gofynnodd aelodau'r Pwyllgor am wybodaeth i'w chynnwys mewn adroddiadau FWP sydd ar y gweill:
1. Cynnydd Strategaeth Datgarboneiddio Pen-y-bont ar Ogwr 2030 (Cerbydau Allyriadau Isel Iawn) – 19 Gorffennaf 2021
· Manylion am ble yn y fwrdeistref sirol y mae pwyntiau gwefru i’w cael, ynghyd â pha fath o bwyntiau gwefru ydynt, a faint ohonynt sydd yno. Hefyd pryd/ble/ faint fydd yn cael eu darparu yn y dyfodol.
· Rhagor o wybodaeth am bwyntiau gwefru o ran y rhan sy’n cysylltu â’r ceir, a fydd cysylltydd safonol? E.e. mae gan Tesla ei hun ar hyn o bryd, ond ni all ceir eraill ei ddefnyddio.
· Osgoi dyblygu pwyntiau gwefru os nad ydynt yn rhai safonol.
· I’r adroddiad gynnwys manylion am berfformiad y 6 cerbyd trydan a gafaelwyd gan y Gyfarwyddiaeth Gymunedau ar ddechrau'r pandemig.
2. Y wybodaeth ddiweddaraf am Gontract y Gwasanaeth Gwastraff 2024 – 19 Gorffennaf 2021
· Llinell amser.
· Sicrhau bod y swyddogion cywir yn cael eu gwahodd i ateb cwestiynau.
· Manylion am yr opsiwn mewnol hefyd, manylion am gostau ailgylchu ac incwm, a safleoedd ailgylchu.
· Cyflwyno'r contract i osgoi materion a welwyd yn y gorffennol rhwng diwedd un contract a dechrau nesaf e.e. dim bagiau ailgylchu ar gael, trosglwyddo, ac ati.
· Anawsterau casglu sbwriel oherwydd ardaloedd a reolir gan y Cyngor e.e. priffyrdd, llinellau melyn dwbl, ceir wedi'u parcio, ac ati.
· Dadansoddiad o atgyfeiriadau Aelodau cysylltiedig dros y 12/18 mis diwethaf er mwyn deall problemau ac effaith y contract presennol, a'r gwersi a ddysgwyd ohono, a hynny er mwyn bwydo i mewn i ddyluniad contract newydd.
· Rhoi adborth a diweddariadau rheolaidd i SOSC3 wrth i'r llinell amser fynd yn ei blaen fel bo modd parhau i ofyn cwestiynau.
· Cynnwys gwybodaeth am gaffael cerbydau
3. Newidiadau mewn Cyllid Economaidd Allanol - Datblygu Economaidd – 29 Medi 2021
· Darparu gwybodaeth mewn perthynas â goblygiadau posibl gadael yr UE (e.e. CBSP/Caerffili wedi'u heithrio rhag derbyn rhywfaint o'r cyllid).
4. Prosiectau Trafnidiaeth yn y Fwrdeistref Sirol - 16 Chwefror 2022
· Mae angen gwahodd cynrychiolwyr Network Rail a Thrafnidiaeth Cymru i’r cyfarfod.
· Cynnig i osod dolen ar y rheilffordd – pam fod hyn wedi'i ohirio.
·
Manylion am yr adolygiad o
wasanaethau bysiau
5. Gofynnwyd am gadarnhad y bydd y Sesiwn Datblygu Aelodau sy’n ymwneud â’r broses ar gyfer blaenoriaethu cynnal a chadw priffyrdd, llwybrau troed, goleuadau stryd, adeiladau, technoleg, ynghyd â Theithio Llesol, yn cael ei threfnu ym mis Hydref 2021 cyn yr adroddiad i'r Pwyllgor ar 24 Tachwedd 2021 ynghylch: Darparu Seilwaith (gan gynnwys ffyrdd, goleuadau stryd, adeiladu a thechnoleg).
Ni nodwyd unrhyw eitemau pellach i'w hystyried ar y Flaenraglen Waith, gan roi sylw i'r meini prawf dethol ym mharagraff 4.6, a gellid ailedrych ar hyn yn y cyfarfod nesaf.
PENDERFYNIAD: Bod y Pwyllgor wedi ystyried a chytuno ar y Flaenraglen Waith amlinellol ddrafft arfaethedig yn Atodiad A, wedi nodi gwybodaeth / gwahoddedigion penodol yr oedd y Pwyllgor am eu cynnwys yn yr adroddiadau a restrir uchod, ac wedi nodi y byddai'r Blaenraglenni Gwaith drafft arfaethedig ac unrhyw ddiweddariad gan y Pwyllgor yn cael eu hadrodd i gyfarfod nesaf COSC.
Dogfennau ategol: