Agenda item
Derbyn cyhoeddiadau gan:
(i) Maer (neu’r person sy’n llywyddu)
(ii) Aelodau’r Cabinet
(iii) Prif Weithredwr
Cofnodion:
Y Maer
Drannoeth y cyfarfod blynyddol, cefais wahoddiad i fod yn bresennol mewn cyfarfod o bell â Chlwb Ieuenctid KPC. Cynhelir y sgwrs dros baned yma'n rheolaidd i bawb o’r clwb gael dod ynghyd. Roedd yn hyfryd cael cwrdd â'r holl wirfoddolwyr ymroddedig yn rhithiol, a chlywed am y cynlluniau sydd ganddynt ar y gweill - cychwyn cadarnhaol iawn i'm blwyddyn fel Maer.
Wedi hynny, aeth y Dirprwy Faer a minnau i gasglu ein cadwynau swydd mewn seremoni fer breifat ym Mharlwr y Maer gyda fy ngwraig (y Faeres), y Prif Weithredwr a'r Arweinydd.
Yn rhan o'r Wythnos Gwirfoddolwyr, cefais wahoddiad i ymweld â'r Gylchfa yng nghanol tref Pen-y-bont ar Ogwr. Fel y gwyddoch mae'n debyg, canolfan i deuluoedd yw'r Gylchfa a sefydlwyd i gefnogi pob aelod o'r gymuned. Bydd gwirfoddolwyr y ganolfan yn rhoi cymorth ac arweiniad ar amrywiaeth fawr o faterion. Roedd hi'n ddiddorol cael cwrdd â'r staff a chael gwybod sut maent wedi addasu a pharhau â'u gwaith yn ystod y pandemig. Ar fater tebyg, cefais hefyd ymweld a Chanolfan Gofalwyr Pen-y-bont ar Ogwr yn ystod yr Wythnos Gofalwyr, i gwrdd a dweud diolch wrth yr holl staff sy'n gwneud gwaith mor anhygoel drwy gydol y flwyddyn.
Ymhlith digwyddiadau eraill ar fy nghalendr oedd ymweliad â Gwarchodfa Natur Parc Slip fore Sadwrn gyda Iolo Williams, sy'n darlledu'n fyw ar y BBC ac ar ddydd Llun - cinio gyda'r Uchel-Siryf.
O ran fy ngwaith codi arian, rwyf ar ganol trefnu digwyddiadau ac mae gen i ddau ddyddiad amodol ar gyfer eich dyddiaduron.
Dydd Sadwrn 13 Awst - naid awyr ar y cyd â'r Faeres, ym maes awyr Abertawe, a dydd Sadwrn 18 Medi - Her 3 Chopa Cymru, gan obeithio y bydd 2 fws mini o leiaf ar gael ar gyfer oddeutu 20 o gyfranogwyr.
Os hoffech gyfrannu at fy achosion elusennol, gallwch wneud hynny drwy fynd i dudalen y Maer ar wefan CBSPO a chlicio ar y botwm Elusen - bydd hynny'n eich tywys i dudalen gyfrannu. I'ch atgoffa, fy elusennau yw "Lads and Dads" a "Chanolfan Gofalwyr Pen-y-bont ar Ogwr".
Y Dirprwy Arweinydd
Mae gwaith bellach wedi dechrau ar wella'r fynedfa i Stad Ddiwydiannol Village Farm yn y Pîl.
Mae hyn yn cael ei gyflawni cyn y bwriedir agor canolfan ailgylchu gymunedol newydd sbon y Stad yn ddiweddarach yn y flwyddyn.
Er mwyn gwella llif y traffig, osgoi tagfeydd ac atal cerbydau rhag gorfod ciwio, mae lôn newydd bwrpasol yn cael ei chreu er mwyn troi i mewn ac allan o'r stad oddi ar yr A48.
Yn rhan o'r gwaith, mae goleuadau traffig newydd yn cael eu gosod, a bydd y ffordd ger Heol Mostyn yn cael ei hailwynebu.
Disgwylir y bydd hi'n cymryd hyd at 12 wythnos i gwblhau'r gwelliannau, ac mae pob ymdrech yn cael ei wneud i sicrhau cyn lleied o anghyfleustra â phosib.
Pan fydd yn agor yn ddiweddarach eleni, bydd y Ganolfan Ailgylchu Gymunedol newydd yn cynnwys cilfachau parcio ar gyfer 31 o geir, capasiti ciwio ar y safle ar gyfer hyd at 72 o gerbydau ar y tro, a mynediad haws ar hyd lonydd newydd o'r ffordd osgoi.
Rwy'n credu y bydd pobl yn croesawu'r ganolfan ailgylchu newydd ar ôl gweld faint yn haws yw hi i'w defnyddio, ac rwy'n edrych ymlaen i roi mwy o fanylion ichi'n fuan.
Yr Aelod Cabinet - Cymunedau
Efallai y bydd yr aelodau am atgoffa eu hetholwyr fod ymgynghoriad cyhoeddus ar y gweill ar gynigion a allai arwain at ddatblygu fferm wynt newydd ar y tir rhwng cymoedd Llynfi ac Afan.
Mae'r datblygiad fferm wynt, Y Bryn, wedi cael ei gynnig gan y cwmnïau ynni, Coriolis Energy ac ESB.
Os bydd yn llwyddiannus, mae'r cynllun hwn yn addo cyflenwi digon o ynni glân i bweru dros 125,000 o gartrefi.
Fodd bynnag, byddai hefyd yn cael effaith weledol sylweddol, oherwydd y tyrbinau 250 metr o uchder fyddai'r tyrbinau talaf a welwyd hyd yma yn y DU.
Ar hyn o bryd mae'r prosiect yn cynnwys hyd at 26 o dyrbinau a seilwaith cysylltiedig fel cyfleuster storio batri, is-orsafoedd ar-safle a thraciau mynediad.
Byddai'n cael ei rannu rhwng dau floc o goedwigoedd ar dir sy'n eiddo i Lywodraeth Cymru ac a reolir gan Gyfoeth Naturiol Cymru.
Mae'n bwysig nodi nad yw'r prosiect hwn wedi cael ei gynnig gan gynghorau Pen-y-bont ar Ogwr na Chastell-nedd Port Talbot, a Llywodraeth Cymru fydd piau penderfynu a fydd y prosiect yn mynd rhagddo ai peidio.
Mae arddangosfeydd yn cael eu cynnal i'r cyhoedd ar hyn o bryd. Cynhaliwyd un arddangosfa ddydd Llun diwethaf yng Nghlwb Rygbi a Phêl Droed Maesteg. Bydd ail arddangosfa yn cael ei chynnal yng Nghlwb Athletau Cefn Cribwr rhwng 1pm a 7pm ddydd Iau 24 Mehefin.
Mae gwefan hefyd wedi cael ei sefydlu i roi manylion llawn am y prosiect, yn ogystal â gwybodaeth am y dulliau amrywiol y gall preswylwyr eu defnyddio i ddweud eu dweud.
Cewch hyd i'r wefan yn www.ybryn-windfarm.cymru.
Rwy'n gobeithio y bydd pobl yn manteisio'n llawn ar y cyfle hwn i astudio'r cynnig yn fanylach, i ofyn cwestiynau ac i ddweud eu dweud.
Aelod Cabinet - Llesiant a Chenedlaethau'r Dyfodol
Efallai y bydd gan yr aelodau ddiddordeb i wybod bod dros 1,500 o bobl yn byw yn y fwrdeistref sirol wedi'u cofrestru ar hyn o bryd fel gwirfoddolwyr gyda Chymdeithas Sefydliadau Gwirfoddol Pen-y-bont ar Ogwr.
Mae pob un ohonom wedi gweld sut mae gwirfoddolwyr wedi camu i'r bwlch yn ystod pandemig y coronafeirws.
Boed hynny drwy alw heibio ar ymweliadau llesiant, siopa am neges, casglu meddyginiaethau, rhoi lifft i bobl i apwyntiad neu gefnogi'r rhaglen frechu barhaus, mae pob un ohonom yn ymwybodol o'r rhan bwysig y mae gwirfoddolwyr wedi'i chwarae.
Dathlwyd eu cyfraniad yn ddiweddar yn rhan o'r Wythnos Gwirfoddolwyr flynyddol ac oedd yn cael ei chynnal am y 37fed tro. Nod y digwyddiad oedd diolch i wirfoddolwyr a chydnabod eu hymdrechion i helpu ein cymunedau.
Mae gwirfoddolwyr yn parhau i chwarae rhan bwysig ym mhob agwedd ar fywyd y gymuned, felly roedd hyn yn gyfle i ddweud 'diolch' wrthyn nhw, ac i roi gwybod iddyn nhw faint rydyn ni'n gwerthfawrogi eu cymorth a'u cefnogaeth.
Rydym yn dal i fod yn eithriadol o ddiolchgar am eu holl gymorth, ymroddiad a gofal.
Dylai unrhyw un sydd am wybod mwy am gyfleoedd gwirfoddoli ymweld â gwefan BAVO.
Yr Aelod Cabinet - Y Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar
Yn ddiweddar, ymwelodd yr Arweinydd a mi nifer o'n staff gofal cartref mewn lleoliadau a oedd yn amrywio rhwng Depo Bryncethin a chyfleuster Glyncynffig ym Mynydd Cynffig a'r unedau byw gyda chymorth pwrpasol newydd ym Maesteg.
Roeddem am ddiolch yn bersonol i'r staff am y gwaith rhagorol maen nhw'n parhau i'w wneud, ac am y rôl bwysig maen nhw'n ei chyflawni yn ein cymunedau lleol.
Roedd yr ymweliadau'n cyd-daro ag adroddiad a luniwyd gan Arolygiaeth Gofal Cymru ar y gwasanaeth cymorth yn y cartref, ac roeddwn wrth fy modd o weld pa mor gadarnhaol oedd yr adroddiad hwnnw.
Tynnodd arolygwyr sylw at y ffaith bod pawb yr oedden nhw'n siarad â nhw yn canmol y staff gofal, ac yn teimlo eu bod yn darparu gwasanaeth a oedd yn bodloni eu hanghenion.
Roedden nhw'n canmol y strwythur rheoli clir, y cymorth da a'r cyfleoedd sydd ar gael i ddatblygu, a'r adborth cadarnhaol gan staff a ddywedodd eu bod yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u cefnogi.
Dywedodd y bobl sy'n derbyn gofal a chymorth hefyd wrth yr arolygwyr eu bod yn hyderus wrth adael i weithwyr gofal ddod i mewn i'w cartrefi am eu bod yn cadw'r holl arferion hylendid.
Rydym yn falch dros ben o'n timau gofal, ac mae'r ymrwymiad a'r ymroddiad y maen nhw'n dal i'w arddangos wedi cael ei adlewyrchu yn y sylwadau a gafwyd gan y bobl maen nhw'n eu cefnogi.
Ar unrhyw bryd, mae oddeutu 1,200 o bobl yn defnyddio'r gwasanaeth, ac wrth ychwanegu rhagor o wybodaeth ar wefan y Cyngor, rydym yn mynd ati i annog mwy o bobl i ystyried yn fanylach a allent fod yn aelod o'r tîm cymorth yn y cartref.
Yr Aelod Cabinet - Addysg ac Adfywio
Mae'r arbenigwyr adeiladu, Knights Brown, yn gwneud cynnydd cryf gyda'r cynllun amddiffyn rhag llifogydd gwerth £6.4 miliwn a fydd yn amddiffyn Porthcawl rhag unrhyw gynnydd yn lefelau'r môr yn y dyfodol.
Maen nhw wedi sefydlu compownd ar y tir yn Salt Lake, ac wedi cychwyn cam cyntaf y gwaith, sy'n canolbwyntio ar forglawdd eiconig y Gorllewin.
Gan fod strwythur mewnol y morglawdd 200 oed yn dal i gynnwys y craidd pren mewnol, mae angen ei adnewyddu a'i ailwampio'n helaeth i sicrhau y gall barhau i sefyll yn wyneb y llanw a'r tywydd garw ar y môr.
Mae Knights Brown hefyd wedi dechrau uwchraddio Promenâd y Dwyrain i greu gwell amddiffynfeydd rhag llifogydd rhwng Marina Porthcawl a Thraeth Coney. Bydd y gwaith wedyn yn ymestyn at Sandy Bay ac mor bell a Thrwyn Rhych, lle bydd gwaith yn cael ei gyflawni i amddiffyn rhag llifogydd a gwarchod y twyni.
Bydd y prosiect o gymorth i sicrhau datblygiad yn ardal Salt Lake ym Mhorthcawl yn y dyfodol, gan gadw dros 500 o gartrefi a thros 170 o fusnesau'n ddiogel.
Mae'r cynlluniau ar gyfer Cosy Corner hefyd yn mynd rhagddynt. Mae Croeso Cymru yn bwrw ymlaen â chais am £1m o gyllid, ac mae'r Cyngor wedi cytuno i ddarparu £885,000 o arian cyfatebol ar gyfer hyn.
Mae'r cyfleusterau a gynllunnir yn cynnwys adeilad newydd sbon wedi'i orchuddio â cherrig a gwydr, a fydd yn cynnig eiddo newydd sy'n addas i fusnesau manwerthu a busnesau sy'n dechrau, man cyfarfod i'w ddefnyddio gan y gymuned, sgwâr orymdeithio ar gyfer Cadetiaid y Môr, swyddfa i'r harbwrfeistr a chyfleusterau newydd i ddefnyddiwyd y farina gyfagos.
Os bydd cyllid yn caniatáu, ceir cynlluniau hefyd i ychwanegu at y cynllun drwy gynnwys gwaith tirweddu newydd, seddau i'r cyhoedd, ardal chwarae i blant a chanopi a fydd yn gallu cynnig cysgod cyffyrddus y tu allan rhag y glaw a'r haul.
Yn y Cabinet ddoe, cymeradwywyd buddsoddi mewn addysg gynradd yng Ngogledd Corneli, ac mewn addysg bellach ac uwch yng nghanol tref Pen-y-bont ar Ogwr.
Byddaf yn rhoi mwy o newyddion wrth i'r prosiectau hyn ddatblygu.
Y Prif Weithredwr
Roeddwn yn meddwl y byddai'r aelodau am gael gwybod lle'r ydym arni o ran y rhaglen frechu rhag coronafeirws.
Mae'r ffigurau diweddaraf gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wedi cadarnhau bod mwy na 529,600 o frechiadau bellach wedi'u rhoi ledled y rhanbarth.
Mae'r ffigur hwn yn cynnwys bron 318,800 o bobl sydd wedi derbyn eu dos cyntaf, a thros 210,800 o bobl wedi derbyn eu hail ddos.
Ar gyfer Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, mae'n golygu bod cyfanswm cronnus o 167,775 o frechiadau bellach wedi cael eu rhoi i breswylwyr lleol.
O ran cynnydd, mae'r brechlynnau ar gyfer y pum gr?p cyntaf â blaenoriaeth oll wedi'u cwblhau.
Mae hyn yn cynnwys preswylwyr a staff cartrefi gofal i oedolion h?n, pobl 65 ac 80 oed ac yn h?n, pobl sydd yn eithriadol o fregus yn glinigol, a gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol ar y rheng flaen.
Yn ogystal â hynny, mae oddeutu 76 y cant o bobl 16 i 64 oed a chanddynt gyflyrau iechyd sylfaenol wedi cael eu brechu'n llawn, ac mae meddygon teulu'n parhau i gwblhau'r gr?p blaenoriaeth hwn.
Mae gofalwyr di-dâl nad ydynt eto wedi cael eu brechu o fewn eu grwpiau blaenoriaeth yn cael gwahoddiad i gysylltu â'u bwrdd iechyd i drefnu apwyntiad, tra bo 89 y cant o bobl 60 oed a throsodd wedi cael eu brechu'n llawn.
Yn ystod yr wythnos ddiwethaf, mae 85 y cant o bobl 55 oed a h?n wedi cael eu brechu'n llawn, tra bo'r gr?p blaenoriaeth i bobl 50 oed a h?n newydd basio hanner ffordd, sef 53 y cant wedi'u cwblhau.
Mae'r gr?p blaenoriaeth olaf yn cynnwys gweddill y boblogaeth o oedolion cymwys.
Ar hyn o bryd mae apwyntiadau ar gyfer ail ddosau'n cael eu rhoi i bobl rhwng 40 a 49, ac mae pawb 30-39 oed bellach wedi cael cynnig eu brechlyn cyntaf.
Mae tua 58 y cant o bobl 18 i 29 oed hefyd wedi derbyn eu dos cyntaf, ac mae llythyrau apwyntiad yn parhau i gael eu hanfon.
Mewn newyddion cysylltiedig, byddwch wedi gweld mai amrywiolyn Delta bellach yw'r straen mwyaf cyffredin mewn achosion newydd o Covid-19.
Er nad oes tystiolaeth i awgrymu bod amrywiolyn Delta yn fwy peryglus, y mae prawf pendant ei fod yn heintus iawn.
Mewn astudiaeth ddiweddar a gynhaliwyd gan Iechyd Cyhoeddus Lloegr, mae'n werth nodi bod gan ddau o brif frechiadau'r DU, Pfizer ac AstraZeneca, effeithiolrwydd o 33 y cant yn erbyn amrywiolyn Delta ar ôl un brechlyn, a thros 80 y cant o effeithiolrwydd ar ôl ail ddos.
Mae hyn yn dangos yn glir pa mor bwysig yw hi i bobl gael eu brechu'n llawn.
Ynghyd â'n partneriaid, rydym yn atgoffa pobl ynghylch pwysigrwydd peidio llaesu dwylo, ac i ddilyn yr holl reolau a gweithdrefnau er mwyn helpu i gadw ein cymunedau'n ddiogel.
Mae hyn yn arbennig o arwyddocaol wrth i bobl geisio mwynhau tywydd braf yr haf neu ddathlu digwyddiadau fel yr Ewros.
Efallai yr hoffai aelodau atgoffa eu hetholwyr fod cyfleusterau profi symudol yn parhau i fod ar gael o fewn y fwrdeistref sirol, ac mae manylion llawn i'w cael ar dudalen gynghori Covid-19 ar wefan y Cyngor.