Accessibility links

1
Dewis iaith

Agenda item

Derbyn cyhoeddiadau gan yr Arweinydd

Cofnodion:

Efallai fod yr Aelodau'n gwybod y bydd Diwrnod y Lluoedd Arfog yn cael ei gynnal eleni ar ddydd Sadwrn 26 Mehefin.

 

Er bod cyfyngiadau'r pandemig wedi cyfyngu ar y modd y gallwn nodi'r achlysur pwysig hwn, mae baner y Lluoedd Arfog wedi bod yn hedfan o flaen y Swyddfeydd Dinesig i gydnabod y digwyddiad.

 

Rydym hefyd yn defnyddio'r achlysur i atgoffa aelodau cyfredol ac aelodau sy'n gwasanaethu yn y fyddin fod Cyfamod Cymunedol y Lluoedd Arfog wedi'i sefydlu i roi cymorth a chefnogaeth iddynt.

 

Mae'r cyfamod, sydd wedi bod ar waith ers 2013, yn addo cyd-gefnogaeth rhwng pobl Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, cymuned y lluoedd arfog, sefydliadau gwasanaeth cyhoeddus, busnesau lleol a'r sectorau elusennol a gwirfoddol.

 

Mae'n dod â sefydliadau ynghyd ar raddfa leol i weithio mewn partneriaeth a defnyddio eu gwybodaeth, eu profiad a'u medrusrwydd arbenigol i roi cymorth, cefnogaeth a chyngor priodol i gymuned y lluoedd arfog.

 

Ar hyd y blynyddoedd, mae'r cyfamod cymunedol wedi cael ei ddatblygu a'i ehangu i gynnig ystod o fanteision.

 

O ganlyniad i hyn, bydd ymgeiswyr tai sydd angen llety wedi'i addasu oherwydd anafiadau a gawsant wrth wasanaethu, neu a allai fod angen rhywle i fyw ar ôl gadael y Lluoedd Arfog, yn cael blaenoriaeth.

 

Mae Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor wedi cael ei ddiwygio fel nad yw pensiynau gweddwon rhyfel yn cael eu cynnwys mwyach wrth gyfrifo incwm yr unigolyn.

 

Mae'r Polisi Dyrannu Lleoedd Ysgol hefyd yn sicrhau nad yw cyn-filwyr dan anfantais wrth ddychwelyd i Fwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

 

Gall aelodau o'r fyddin a chyn-filwyr fwynhau sesiynau am ddim ym mhyllau nofio lleol Halo ledled y fwrdeistref sirol, a gallant wneud cais i gronfa'r cyfamod cymunedol am gymorth ariannol sydd wedi'i gynllunio i'w helpu i integreiddio i fywyd sifil.

 

Mae Cyfamod Cymunedol y Lluoedd Arfog yn ei gwneud hi'n haws i aelodau o'r fyddin, eu teuluoedd a chyn-filwyr dderbyn y cymorth, y gefnogaeth a'r gydnabyddiaeth y maen nhw'n eu llawn haeddu.

 

Yn ogystal â bod yn arwydd o barch, mae'r cyfamod cymunedol yn dangos nad yw pobl Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi anghofio gwasanaeth, aberth ac ymroddiad ein lluoedd arfog.

 

Mae rhagor o wybodaeth am Gyfamod Cymunedol y Lluoedd Arfog, a'r modd y gall roi cymorth i bobl leol, ar gael ar wefan y Cyngor.

 

Hoffwn atgoffa'r aelodau mai'r dyddiad cau ar gyfer gwneud cais i'r Cynllun Preswylio'n Sefydlog i Ddinasyddion y DU yw 30 Mehefin.

 

Os oes gennych etholwyr yn eich ward sydd yn ddinasyddion yr UE, dyma eu cyfle olaf i wneud cais i barhau i fyw a gweithio yn y DU, er bod y Llywodraeth hefyd wedi cadarnhau y ceir estyniad o 28 diwrnod i bobl a chanddynt esgus rhesymol dros yr oedi.

 

Mae gwefan y Cyngor yn cynnwys llawer o wybodaeth am y cynllun preswylio'n sefydlog, ac yn cynnwys manylion am y cymorth a'r cyngor sydd ar gael.

 

Gallwch hefyd ymweld â thudalen we Llywodraeth y DU ar gyfer y Cynllun Preswylion'n Sefydlog i Ddinasyddion y DU.

 

Yn olaf, rydym ar ganol cyflawni cam olaf ein buddsoddiad parhaus mewn seilwaith priffyrdd, gyda chynllun gwella ffyrdd gwerth £2.7 miliwn sy'n targedu 40 o ffyrdd lleol.

 

Mae gwaith ailwynebu eisoes wedi'i gwblhau ar ffyrdd o fewn ardaloedd Porthcawl, Notais, Caerau, Cefn Glas a Stad Ddiwydiannol Bracla, a bydd gwaith yn cael ei gyflawni ar Heol Maesteg A4063 yn Nhondu, a hefyd ar ffyrdd yn Nantymoel, Bracla, Llangeinor, Shwt a Phontycymer.

 

Bydd gwaith trwsio ac ailwynebu pellach hefyd yn cael ei gyflawni'n ddiweddarach yn y flwyddyn, a bydd mwy o fanylion am hyn yn cael eu cadarnhau'n fuan.

 

Mewn digwyddiad diweddar yr oeddwn i a'r Maer yn bresennol ynddo, gofynnodd Iolo Williams i bob Cyngor yn y DU leihau'r graddau y caiff llystyfiant ar ymylon ffyrdd ei dorri. Nod hynny oedd gwella nodweddion bioamrywiaeth ardaloedd o'r fath, sy'n hollbwysig er mwyn cysylltu ein hadnoddau natur gwasgaredig, fel rydyn ni'n ei wneud yn CBSPO, oherwydd y bygythiad i fioamrywiaeth, ac i greu terfynau ar gyfer bywyd gwyllt ar draws awdurdodau Cymru.

 

 

Chwilio A i Y

  1. A
  2. B
  3. C
  4. D
  5. E
  6. F
  7. G
  8. H
  9. I
  10. J
  11. K
  12. L
  13. M
  14. N
  15. O
  16. P
  17. Q
  18. R
  19. S
  20. T
  21. U
  22. V
  23. W
  24. X
  25. Y
  26. Z