Y Cynghorydd Ross Penhale-Thomas i'r Arweinydd
Beth mae'r awdurdod lleol yn ei wneud i helpu i fynd i'r afael â thlodi ac anfantais ar draws ein cymunedau yma ym Pen-y-bont ar Ogwr
Y Cynghorydd Tim Thomas i Aelod y Cabinet - Cymunedau
Pa ganran o hawliau tramwy cyhoeddus Bwrdeistref y Sir sy'n hygyrch i'r cyhoedd ac sydd o safon foddhaol
Cofnodion:
Y Cynghorydd Ross Penhale-Thomas i'r Arweinydd
Beth mae'r awdurdod lleol yn ei wneud er mwyn helpu i fynd i'r afael â thlodi ac anfantais ar draws ein cymunedau yma ym Mhen-y-bont ar Ogwr?
· Cefnogi economi lwyddiannus a chynaliadwy
· Helpu pobl a chymunedau i fod yn fwy iach a gwydn
· Defnydd doethach o adnoddau
· Meithrin sgiliau meddal a hyder i greu mwy o gydnerthedd ac annibyniaeth
· Cynnig gwella sgiliau i gynyddu cyflogadwyedd
· Cymorth i chwilio am swydd a'i chadw
· Darparu cyfrifiaduron glin a donglau wi-fi er mwyn helpu i oresgyn rhwystrau i lythrennedd digidol a mynediad digidol
· Cefnogaeth ar gyfer lleoliadau gwirfoddoli i leihau unigrwydd cymdeithasol a rhyngweithio â chymunedau - sydd hefyd yn rhoi profiad gwaith i'w gynnwys ar CV.
4.1 Hyd yma, mae'r rhaglen wedi sicrhau dros 1200 o ganlyniadau swydd.
· Problemau dyled ac anhawster ariannol
· Diweithdra (hawlio budd-daliadau, gan gynnwys Credyd Cynhwysol (CC))
· Methiant i gyllidebu neu reoli materion ariannol yn effeithiol
· Rhai sy'n profi 'tlodi mewn gwaith'
· Rhai sydd angen gwybodaeth a chymorth i gynnal cyfrifiadau 'ar eich ennill'.
5.1 Mae FASS wedi bod yn allweddol wrth roi cymorth i'r rhai dan anfantais o ganlyniad i'r pandemig, yn enwedig y rhai sydd wedi'u cael eu hunain mewn trafferthion ariannol, lle'r oedd 80% o'u hincwm wedi'i dalu drwy'r cynllun ffyrlo, ond nad oedd hynny'n anffodus yn ddigon i dalu costau eu haelwyd.
· cynllun gostyngiadau'r dreth gyngor - cymorth i breswylwyr ar incwm isel i dalu eu treth gyngor. Yn ogystal â hyn, cynigiodd y Cyngor opsiynau hyblyg i breswylwyr dalu'r dreth Gyngor y llynedd, a pharhau i alluogi pobl i dalu dros gyfnod hwy, ac mae nodynnau atgoffa'r Dreth Gyngor yn cyfeirio pobl i dderbyn cymorth oddi wrth Step Change, Y Gwasanaeth Cynghori Ariannol, Undeb Credyd Lifesavers Pen-y-bont ar Ogwr a Chyngor ar Bopeth, y mae rhai ohonynt yn helpu gyda phroblemau'n gysylltiedig â thlodi.
· cyngor ar dai a chymorth digartrefedd- gall trigolion sydd mewn perygl o fod yn ddigartref, neu sydd yn ddigartref, gysylltu â ni'n uniongyrchol neu drwy borthol Housing Jigsaw i gael gwybod am yr amrywiaeth o gymorth sydd ar gael, a dilyn eu cynllun tai personol i'w helpu i sicrhau llety.
· cymorth budd-daliadau tai
· datblygu Fframwaith Dyfodol Economaidd newydd y fwrdeistref sirol a fydd yn cynnig gweledigaeth strategol hirdymor ar gyfer ein huchelgais o ran twf economaidd, ac yn nodi'r camau â blaenoriaeth i'w cyflawni gan y Cyngor yn y misoedd nesaf, gyda ffocws ar gefnogi ein hadferiad economaidd.
· datblygu strategaethau caffael a all roi hwb i'r economi sylfaenol a chreu cyfoeth o fewn ein cymunedau lleol
6.1 Mae'r Cyngor yn cydnabod pwysigrwydd ei drefniadau partneriaeth a'i gydweithrediad â rhanddeiliaid allweddol, er enghraifft drwy'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a'r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol. Roedd y cydweithredu traws-sector hwn yn hollbwysig i'n hymateb yn ystod y pandemig. Drwy'r rhaglen Cymunedau Cydnerth, dros y flwyddyn ddiwethaf, cynigiodd 1300 o wirfoddolwyr i helpu i gefnogi dros 4444 o unigolion ar draws nifer o feysydd, gan gynnwys iechyd meddwl, gorbryder, diogelwch ariannol, camddefnydd o alcohol a sylweddau a gostyngiad mewn symudedd/bregusrwydd.
Mae arlwywyr ysgolion ac awdurdodau lleol yn annog pobl i fanteisio ar brydau ysgol am ddim, ac rydym yn cydgysylltu darpariaeth parseli bwyd prydau ysgol am ddim yn ystod cyfnodau gwyliau'r ysgol.
Mae Dechrau'n Deg yn rhoi cymorth a chefnogaeth yn rhad ac am ddim i blant dan bedair oed mewn ardaloedd penodol. Ei nod yw rhoi gwell siawns iddynt a 'dechrau teg' wrth fynd i'r ysgol, gyda'r cymorth canlynol:
· Gofal plant rhan-amser o ansawdd uchel (hyd at 30 awr) i blant bach dwy a thair oed;
· ymwelydd iechyd a Gweithiwr Cymorth i Deuluoedd i roi cymorth dwys i'r teuluoedd hynny y tu allan i god post cymwys Dechrau'n Deg;
· mynediad at gymorth magu plant; a
· chymorth gyda datblygiad ieithyddol cynnar
Rhaglen addysg a gynhelir mewn ysgolion yw'r Rhaglen Cyfoethogi Gwyliau Ysgol. Mae'n darparu sesiynau addysg bwyd a maeth, gweithgareddau corfforol, cyfoethogi a phrydau iach i blant dros wyliau haf yr ysgolion mewn ardaloedd lle ceir amddifadedd cymdeithasol.
Caiff staff eu hyfforddi i ddarparu 'GroBrain' yn ystod beichiogrwydd ar ôl yr enedigaeth er mwyn helpu rhieni i ddeall sut i wella'r ymlyniad rhyngddyn nhw a'u plentyn, ac i greu cysylltiadau cadarnhaol yn ymennydd eu babi.
Rhaglen meithrin - cymorth magu plant i rieni plant dan 5 oed fel arfer, yn gweithio ar gryfderau'r plentyn ac yn dathlu eu rhinweddau, sy'n gwella ymlyniad a pherthnasoedd o fewn y teulu.
Gwasanaeth gwirfoddol yw Cymorth Cynnar, sy'n anelu i roi'r cymorth cywir i unigolion a'u teuluoedd i'w helpu i newid er gwell. Mae'r gwasanaeth yn canolbwyntio ar:
· siarad am gryfderau yn ogystal ag agweddau y gellid eu gwella;
· cael y cymorth cywir i chi ar yr adeg gywir;
· dod â thîm o'r bobl iawn ynghyd a all helpu eich teulu;
· gwrando arnoch chi a rhoi dewis i chi; a
· chymorth i fagu plant/cymorth iechyd meddwl/mynediad at gyllid a budd-daliadau perthnasol/tai
Cwestiwn atodol gan y Cynghorydd Ross-Penhale Thomas
I ba raddau y mae'r awdurdod lleol ar hyn o bryd yn cynnwys pobl sydd wedi profi tlodi yn eu bywyd, yn ei brosesau penderfynu, ac a wnaiff yr Arweinydd ystyried y posibilrwydd o sefydlu Comisiwn Gwirionedd Tlodi ym Mhen-y-bont ar Ogwr, fel y ceir mewn lleoliadau eraill, er mwyn inni gael datguddio a bod yn dryloyw ynghylch realiti a heriau tlodi, a chydweithio er mwyn cyd-greu atebion ar gyfer problem sy'n bodoli go iawn.
Ymateb
Yn sicr, gallwn ystyried yr awgrym hwnnw, hy ceisio sefydlu Comisiwn o'r fath ac ystyried sut mae ardaloedd eraill wedi'i ddefnyddio, a pha effaith wirioneddol y mae hynny wedi'i gael ar rai sy'n profi tlodi yn eu bywyd. Bydd CBSPO bob amser yn ceisio ymgysylltu'n agos â phob unigolyn ledled y Fwrdeistref Sirol, gan gynnwys rhai sydd mewn tlodi, er mwyn gwella ein gwasanaethau a'r modd yr ydym yn eu darparu. Mae Dechrau'n Deg a'r Gwasanaeth Cyflogadwyedd ymhlith enghreifftiau o wasanaethau o'r fath. Mae'r ddau yn enghraifft o ymgysylltu'n llwyddiannus drwy estyn allan i'n hetholwyr. Serch hynny, mae lle bob amser i wneud mwy a cheisio gwella gwasanaethau ac ymgysylltu ar draws y Fwrdeistref Sirol, gan gynnwys mewn ardaloedd lle ceir tlodi ac anfantais.
Ail gwestiwn atodol gan y Cynghorydd Jon-Paul Blundell
Pa gamau a gymerwyd i fynd i'r afael â thlodi bwyd a'r rhai sydd dan anfantais yn CBSPO, drwy'r rhaglen prydau ysgol am ddim.
Ymateb
Bydd yr aelodau'n ymwybodol o'r ddarpariaeth a roddwyd ar waith er mwyn sicrhau nad oedd unrhyw blentyn yn llwglyd ar ddechrau'r pandemig. Darparwyd pecynnau bwyd i ginio a pharseli bwyd, ac mae'r parseli bwyd yn dal i gael eu darparu gyda chymorth Llywodraeth Cymru. Gwnaed hyn nid yn unig yn ystod y tymor ysgol ond yn ystod gwyliau'r ysgol hefyd. Cafwyd adborth cadarnhaol gan rieni o ganlyniad i hyn, gyda miloedd o deuluoedd yn elwa ar y cymorth a gyrhaeddodd dros 5,000 o blant. Roedd y Cyngor hefyd yn ceisio annog mwy o bobl i gofrestru i dderbyn prydau ysgol am ddim, ac roedd hyn yn flaenoriaeth wrth symud ymlaen, gan fod rhai teuluoedd heb fod yn hawlio prydau ysgol am ddim er eu bod yn gymwys i'w derbyn. Roedd rhai bellach yn gymwys o ganlyniad i'r pandemig ac wedi i aelodau o'r teulu golli swydd. Roedd Llywodraeth Cymru hefyd yn ariannu Rhaglen Cyfoethogi'r Ysgolion, er mwyn i hyd yn oed mwy o blant allu elwa eleni, drwy gyfleoedd chwarae a dysgu yn ystod gwyliau'r ysgol. Roedd hyn yn cynnwys pryd iach a maethlon amser cinio, er mwyn annog plant i fwyta'n iach o oed ifanc.
Trydydd cwestiwn atodol gan y Cynghorydd S Dendy
Yn adroddiad adfywio'r cymoedd 2019, rhoddir trosolwg o'r problemau a wynebir mewn ardaloedd i'r gogledd o'r M4, gan gyfeirio hefyd at y ffaith bod ardal 'Y Cymoedd' yn cynnwys 13 o ardaloedd cynnyrch ehangach haen is, sydd ymhlith 20% o'r ardaloedd mwyaf amddifadus yng Nghymru.
Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at rai ffeithiau syfrdanol:
Bod gan 27% o bobl yng Nghwm Garw salwch hirdymor sy'n cyfyngu ar eu bywyd, a’u bod yn profi cyfyngiadau ar fynediad at ddarpariaeth gofal iechyd.
Nad oes gan 35% o oedolion yng Nghwm Garw ei hun unrhyw gymwysterau.
Bod prinder difrifol o gyfleoedd am swyddi yn y Cymoedd.
Bod adeiladau mawr gwag sydd wedi mynd a'u pen iddynt yn hagru ardaloedd, gan amharu ar lesiant meddyliol ac ar falchder cymunedau.
A'r angen dybryd am drafnidiaeth gyhoeddus, gyda 27% o aelwydydd yng Nghwm Garw ei hun heb gar a, fel y gwyddom dros y blynyddoedd diwethaf, mae'r cymorthdaliadau wedd cael eu cwtogi a nifer y llwybrau teithio wedi gostwng.
Er bod yr ystadegau hyn yn berthnasol i Gwm Garw, mae cymunedau Ogwr a Llynfi y wynebu'r un problemau.
Mae hyn oll yn cyfrannu at greu tlodi yn y cymunedau hyn. A yw'r Cyngor wedi ymrwymo i gyflawni'r fframwaith hwnnw, drwy ymdrin â'r problemau sy'n cyfrannu at y tlodi a brofir yn y cymunedau hyn?
Ymateb
Rwy'n cytuno'n llawn â rhai o'r pwyntiau teg a godwyd. Mae enghreifftiau fel yr uchod wedi amharu ar ein cymunedau ers cenedlaethau, yn enwedig colli'r diwydiant glo fu'n ergyd aruthrol i rai ardaloedd yn y cymoedd. Roedd hi'n anodd adfer cymunedau ar ôl hyn, er ein bod o hyd yn ystyried sut i wneud hynny. Un o'm hadegau mwyaf balch ers dod yn Arweinydd, oedd gweld yr Awdurdod yn agor dwy ysgol newydd ym Metws - un ysgol cyfrwng Saesneg ac un ysgol cyfrwng Cymraeg - y swm mwyaf erioed a fuddsoddwyd yng Nghwm Garw. Rwyf hefyd yn falch iawn o weld pobl ifanc yn elwa ar gyfleusterau o'r radd flaenaf yng Ngholeg Cymunedol y Dderwen, lle caiff plant o Fro Ogwr a Bro Garw eu haddysgu. Pleser hefyd yw cael cyhoeddi y byddwn yn cynnal seremoni a fydd yn torri tir newydd yr wythnos hon ar gyfer cyfleuster gofal plant newydd cyfrwng Cymraeg ym Melin Ifan Ddu, ac rydym hefyd yn datblygu cyfleuster tebyg yng Nghwm Garw. Y rheswm am hyn yw bod ymchwil a thystiolaeth yn dangos y gall problemau gofal plant fod yn rhwystr o bwys sy'n atal rhieni rhag manteisio ar gyfleoedd cyflogaeth a dyrchafiad yn y gwaith. Byddai'r rhain yn bodloni angen dybryd am drefniadau gofal plant gwell yng Nghwm Ogwr/Garw, fel y nodwyd yn yr Arolwg Gofal Plant Blynyddol diwethaf. Enghreifftiau o ddatblygiadau adfywio yw'r uchod, ond o safbwynt ehangach maent hefyd yn cynrychioli dilyniant addysgol. Roedd y Cyngor hefyd yn ystyried gwelliannau i'r seilwaith trafnidiaeth ar draws lleoliadau'r cymoedd, gan ystyried datblygu Hyb a chyfleuster trafnidiaeth ar safle Heol Ewenni, Maesteg, a oedd wedi cael ei gefnogi yn rhan o fenter Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd.
Y Cynghorydd Tim Thomas wrth yr Aelod Cabinet - Cymunedau
Pa ganran o hawliau tramwy cyhoeddus y Fwrdeistref Sirol sydd yn hygyrch i'r cyhoedd ac yn cyrraedd safon foddhaol?
Ymateb
Mae gan Ben-y-bont ar Ogwr 800 o hawliau tramwy cyhoeddus unigol a chyfanswm hyd y rhwydwaith yw 613.72km. Mae'r llwybrau hyn yn cynnwys Llwybrau Troed Cyhoeddus (84% o'r rhwydwaith), Llwybrau Ceffylau Cyhoeddus (14.6%), Cilffyrdd Cyfyngedig (0.1%) a Chilffyrdd sydd ar agor i Bob Traffig (1.3%).
Mae gan y Cyngor Bwrdeistref Sirol gyfrifoldeb cyffredinol dros gynnal a chadw'r rhwydwaith, a dyletswydd hefyd i warchod hawliau'r cyhoedd i ddefnyddio'r rhwydwaith, ac i atal rhwystrau ar lwybrau. Fodd bynnag, mae cyfrifoldeb hefyd ar dirfeddianwyr yn yr ystyr eu bod fel arfer yn gyfrifol am gynnal a chadw strwythurau, hy, camfeydd, giatiau mochyn, giatiau cae ac ati, ar lwybrau, er bod modd iddynt adennill rhai costau gan y Cyngor am hyn.
Drwy Raglen Cymru ar gyfer Gwella, roedd hi'n arfer bod yn ofynnol i'r Cyngor adrodd yn flynyddol ar gyflwr y rhwydwaith hawliau tramwy cyhoeddus drwy ddefnyddio Dangosydd Perfformiad a fabwysiadwyd yn genedlaethol, sef 'Llwybrau sy'n rhwydd i'w defnyddio'. Rhoddwyd y gorau i adrodd yn genedlaethol ar y Dangosydd tua 8 mlynedd yn ôl, er iddo gael ei adrodd yn fewnol am rai blynyddol wedi hynny, gan gynnal yr arolwg hapsampl 5% olaf yn 2016. Er hynny, cynhaliodd y Cyngor arolwg o'r rhwydwaith cyfan y llynedd wrth baratoi i adolygu Cynllun Gwella Hawliau Tramwy'r Cyngor.
Mae gwybodaeth o'r arolwg hwnnw wedi cael ei dadansoddi, a dyma'r canlyniadau:
• Mae 69.5% o gyfanswm y llwybrau sydd wedi'u pennu'n llwybrau sydd ar gael i'w defnyddio, tra bo
• 59.5% o gyfanswm hyd y llwybrau wedi'u pennu'n llwybrau sydd ar gael i'w defnyddio.
Mae'n amhosib dweud ar unrhyw bryd pa lwybrau sydd ar gael, gan fod y sefyllfa, oherwydd natur y llwybrau eu hunain, yn newid o hyd. Am sawl rheswm, gallai llwybr a ystyrir yn llwybr y gellir cerdded ar ei hyd y naill ddiwrnod, fod yn annefnyddadwy y diwrnod nesaf am amrywiaeth o resymau. Gall tirfeddiannwr diegwyddor rwystro llwybr yn fwriadol, neu gall llwybrau dyfu'n wyllt, neu gall strwythurau ddadfeilio gan nad ydynt yn cael eu defnyddio neu eu cynnal yn ddigonol, hyd yn oed o fewn cyfnod byr.
Ar ôl cael gwybod am unrhyw un o'r problemau hyn, byddwn yn ceisio datrys ac ailagor llwybrau cyn gynted ag sy'n bosibl. Rydym yn gweithio gyda thirfeddianwyr i gael gwared â rhwystrau a thrwsio strwythurau a chyda llawer o Gynghorau Tref a Chymuned a chanddynt Gytundebau Asiantaeth â ni i gael gwared â llystyfiant. Fodd bynnag, rydym wedi gweld cynnydd lluosog yn y defnydd o'r rhwydwaith hawliau tramwy ers dechrau'r pandemig, ac mae ein swyddog cynnal a chadw wedi gweld cynnydd yn nifer y problemau yr adroddir amdanynt, yn ychwanegol at orfod ymdrin â chanlyniadau'r arolwg o'r rhwydwaith cyfan.
Er nad yw'r Dangosydd Perfformiad yn cael ei adrodd yn genedlaethol mwyach, gwnaed ymdrech i gysylltu â thimau Hawliau Tramwy eraill ledled Cymru i ganfod beth yw eu sefyllfa bresennol. O'r nifer fach o ymatebion a gafwyd hyd yma, dim ond un awdurdod sydd wedi penderfynu parhau i gasglu'r data hynny, gyda'r gweddill yn nodi nad ydynt wedi gwneud oherwydd diffyg adnoddau.
O ran hygyrchedd i bobl â phroblemau symud, mae'r is-adran hawliau tramwy wedi cyflwyno gwelliannau lle bo cyllid ar gael, ac mae'n parhau i wneud hynny, yn arbennig drwy ddefnyddio cyfalaf mewnol a chyllid grant oddi wrth Lywodraeth Cymru neu grwpiau eraill fel Y Cerddwyr. Roedd hyn yn cynnwys cael gwared â chamfeydd a gosod giatiau mochyn, a chyflwyno gwelliannau i wynebau lle bo modd. Dylid cofio bod rhan helaeth o'r rhwydwaith hawliau tramwy yn croesi tir amaethyddol, a bod eu harwynebedd felly ar ffurf naturiol, a heb ei wynebu. Ar ben hynny, mae'n rhaid i strwythurau fod wedi'u diogelu rhag da byw.
Cwestiwn atodol gan y Cynghorydd. T Thomas
Rwy'n cydnabod bod tirfeddianwyr yn rhwystro rhai Hawliau Tramwy, gan gynnwys rhai ym Mhorth y Cymoedd. Mae hon yn broblem sy'n bodoli ers tro ac yn destun rhwystredigaeth, yn enwedig wrth fynd ar drywydd cwynion yn gysylltiedig â hyn drwy broses atgyfeirio'r aelodau. A wnaiff yr Aelod Cabinet - Cymunedau ymuno â mi ac amryw o etholwyr i gerdded ar hyd y llwybrau hyn i weld y problemau ac ystyried sut i'w datrys?
Ymateb
Gwnaf wrth gwrs. Cysyllta â mi a gallwn drefnu dyddiad addas ar gyfer hyn.
Ail gwestiwn atodol gan y Cynghorydd Ken Watts
Lle bo tystiolaeth o or-aredig llwybrau troed, a allaf gael sicrwydd y bydd camau'n cael eu cymryd i adfer y llwybrau, neu fod Gorchmynion Gwyro yn cael eu sefydlu yn lle hynny. Rwyf wedi cael atgyfeiriad(au) gan Aelod ynghylch hyn hefyd.
Ymateb
Os rhowch fanylion pellach am hyn imi, gan gynnwys yr atgyfeiriad, byddaf yn ymchwilio i'r mater ar eich rhan.
Trydydd cwestiwn atodol gan y Cynghorydd Sorrel Dendy
O ran hygyrchedd i Hawl Tramwy Cyhoeddus, mae rhai llwybrau ar dir garw. A oes modd sefydlu system raddio, fel bod pobl sy'n ystyried mynd arnynt yn ymwybodol o'u hyd a'u goledd ac ati. Rydym yn ystyried hyn yn achos llwybrau troed yng Nghwm Garw, fel bod aelodau o'r cyhoedd yn ymwybodol o gyflwr y llwybrau troed hynny, ac ystyried eu lefelau ffitrwydd a'u gallu i gerdded ar eu hyd.
Ymateb
Gan nad oes gennyf wybodaeth am hyn wrth law, er mwyn rhoi ymateb manwl ichi, byddaf yn cyfeirio'r mater hwn i'w ystyried gan y Swyddog Hawliau Tramwy Cyhoeddus, a byddaf finnau neu yntau'n cysylltu eto â chi y tu allan i'r cyfarfod.