Agenda item

Adroddiad Archwilio Mewnol Blynyddol 2020-21

Cofnodion:

Diben yr adroddiad hwn yw rhoi Barn Flynyddol y Pennaeth Archwilio Mewnol ar amgylchedd rheoli'r Cyngor mewn perthynas â llywodraethu, rheoli risg, a rheolaeth fewnol ac i hysbysu'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio o waith a pherfformiad Archwilio Mewnol ar gyfer y Flwyddyn Ariannol 2020-21.

 

Mae Safonau Archwilio Mewnol y Sector Cyhoeddus yn ei gwneud yn ofynnol i'r Pennaeth Archwilio Mewnol ddarparu Adroddiad Blynyddol i gefnogi'r Datganiad Llywodraethu Blynyddol. Dylai'r adroddiad:

 

  • Gynnwys barn ar ddigonolrwydd ac effeithiolrwydd fframwaith llywodraethu, rheoli risg, a rheolaeth fewnol y Cyngor;
  • Cyflwyno crynodeb o'r gwaith archwilio a wnaed;
  • Tynnu sylw at unrhyw faterion a allai effeithio ar lefel y sicrwydd a ddarperir;
  • Darparu crynodeb o berfformiad y gwasanaeth;
  • Trafod y cydymffurfiad â Safonau Archwilio Mewnol y Sector Cyhoeddus.

 

Roedd y cynllun archwilio drafft ar gyfer 2020-21 i fod i gael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Archwilio ym mis Ebrill 2020, ond roedd Covid-19 wedi arafu’r broses gynllunio gan fod yn rhaid ystyried risgiau newydd sylweddol a ffyrdd newydd o weithio i lywio'r Cynllun.  Felly cymeradwywyd Cynllun Archwilio Mewnol 2020-21 ar 10 Medi 2020.  Roedd y cynllun yn cydnabod y byddai pwyslais gwahanol oherwydd effaith COVID-19; risgiau penodol sy'n deillio o COVID-19, argaeledd staff archwilio a staff gwasanaeth, a heriau sy’n deillio o weithio o bell. Roedd y cynllun cymeradwy hefyd yn fwy hyblyg er mwyn gallu ymateb i amgylchiadau a digwyddiadau newidiol yn ystod y flwyddyn o ganlyniad i'r pandemig.

 

Mae pandemig Covid-19 wedi cael effaith fawr ar sut mae'r Cyngor wedi gorfod gweithredu, ac ar y trefniadau a'r prosesau llywodraethu a roddwyd ar waith i sicrhau y gallai barhau i gefnogi trigolion a busnesau yn ystod y flwyddyn anodd a heriol hon.

 

Oherwydd Covid-19, newidiwyd sut y cafodd gwaith archwilio ei wneud yn 2020-21 hefyd, ac mae'r holl staff wedi gweithio gartref am y flwyddyn. Cynhaliwyd archwiliadau o bell gan ddefnyddio amryw ddatrysiadau digidol, trwy gynnal cyfarfodydd o bell, rhannu sgriniau, ac anfon data a thystiolaeth yn electronig.

 

Ceir Adroddiad Blynyddol yr Archwiliad Mewnol yn Atodiad A, ac mae’n rhoi crynodeb o’r adolygiadau a gynhaliwyd yn ystod 2020-21 gan gynnwys unrhyw waith gwrth-dwyll, yr argymhellion a wnaed, ac unrhyw faterion rheoli a nodwyd. Cwblhawyd cyfanswm o 26 o adolygiadau gyda barn archwilio, a gwnaed cyfanswm o 38 o argymhellion canolig. Mae dadansoddiad manwl wedi'i gynnwys yn Atodiad 1 o'r atodiad.

 

Ceir cynnydd yn erbyn Cynllun Seiliedig ar Risg 2020-21 yn Atodiad 2. Mae hyn yn manylu ar statws pob adolygiad arfaethedig. Dylid nodi nad oes gan rai adolygiadau a restrir farn archwilio, er enghraifft: cyngor ac arweiniad, cyswllt Archwilio Allanol, Twyll, a gwaith Afreoleidd-dra. Y rheswm am hyn yw bod y gwaith archwilio a wnaed mewn perthynas â'r eitemau hyn wedi'i gynllunio ond nad yw natur y gwaith yn arwain at brofion a ffurfio barn archwilio.

 

Gan ystyried canlyniadau'r adolygiadau archwilio mewnol a gwblhawyd yn ystod 2020-21, yr argymhellion a wnaed, a’r ffynonellau eraill o sicrwydd, barn flynyddol y Pennaeth Archwilio Mewnol ar ddigonolrwydd ac effeithiolrwydd fframwaith llywodraethu, rheoli risg a rheolaeth fewnol y Cyngor ar gyfer 2020-21, oedd bod sicrwydd rhesymol. Ni nodwyd unrhyw faterion rheoli trawsbynciol sylweddol a fyddai'n effeithio ar amgylchedd rheoli cyffredinol y Cyngor ac mae'r gwendidau a nodwyd yn benodol i wasanaethau.

 

PENDERFYNIAD:                       Bod Aelodau’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio wedi rhoi ystyriaeth briodol i'r Adroddiad Archwilio Mewnol Blynyddol ar gyfer Blwyddyn Ariannol 2020-21, gan gynnwys Barn Flynyddol y Pennaeth Archwilio Mewnol ar ddigonolrwydd ac effeithiolrwydd fframwaith llywodraethu, rheoli risg, a rheolaeth fewnol y Cyngor.

 

Dogfennau ategol: