Agenda item

Datganiad o Gyfrifon 2020-21 (heb eu harchwilio)

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr y Gr?p – Prif Gyfrifydd adroddiad gyda'r Datganiad o Gyfrifon (heb ei archwilio) ar gyfer 2020-21 i'w nodi.

 

Dywedodd fod Datganiad Cyfrifon y Cyngor heb ei archwilio ar gyfer y flwyddyn ariannol a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2021 wedi'i atodi yn Atodiad A i'r adroddiad. Roedd y Datganiad Cyfrifon yn cynnwys nifer o ddatganiadau gwahanol yn ymwneud â pherfformiad ariannol a chronfeydd wrth gefn, yn ogystal â'r Datganiad Llywodraethu Blynyddol. Bydd y Datganiad Llywodraethu Blynyddol yn cael ei lofnodi gan Arweinydd y Cyngor a'r Prif Weithredwr unwaith y bydd yr archwiliad wedi'i gwblhau.

 

Mae'r Cyfrifon yn cynnwys y Datganiadau Ariannol craidd canlynol (tudalennau 16 i 19 o'r Cyfrifon):

 

· Datganiad Incwm a Gwariant Cynhwysfawr

· Datganiad Symudiad yn y Cronfeydd Wrth Gefn

· Mantolen

· Datganiad Llif Arian Parod

 

Darparodd Rheolwr y Gr?p – Prif Gyfrifydd ffigurau yn ymwneud â chronfeydd wrth gefn y Cyngor ac amlinellodd y meysydd allweddol. Rhestrwyd y ffigurau yn adran 4 yr adroddiad.

 

Eglurodd Rheolwr y Gr?p – Prif Gyfrifydd mai cyfanswm y gwariant cyfalaf yn ystod 2020-21 oedd £23.461 miliwn. Roedd asedau a grëwyd, a wellwyd, neu sy'n cael eu datblygu o ganlyniad i'r gwariant hwn yn cynnwys:

 

· Hwb y Dwyrain yn Ysgol Brynteg

· Ystafelloedd dosbarth symudol newydd yn Ysgol Gynradd Mynydd Cynffig

· Hwb Diwylliannol Neuadd y Dref Maesteg

 

Eglurodd Rheolwr y Gr?p – Prif Gyfrifydd fod y datganiad o gyfrifon bellach yn cael ei archwilio gan Archwilio Cymru ac y byddai fersiwn derfynol o'r cyfrifon yn cael ei ddychwelwyd i'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yn y cyfarfod ym mis Gorffennaf 2021. Aeth ymlaen i amlinellu adrannau datganiad ariannol Atodiad 1 a oedd yn cwmpasu'r canlynol:

 

  • Dadansoddiad Gwariant ac Ariannu
  • Nodyn i'r Dadansoddiad Gwariant ac Ariannu
  • Gwariant ac Incwm a Ddadansoddwyd yn ôl Natur
  • Praeseptau ac ardollau
  • Treth y Cyngor
  • Grantiau
  • Cronfeydd wrth gefn y gellir eu defnyddio

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r tîm am yr adroddiad gan nodi fod y wybodaeth a ddangoswyd wedi'i ddadansoddi’n dda a'i bod yn haws ei darllen eleni.

 

Gofynnodd yr Aelod Lleyg a oedd disgwyl i'r Cyngor danwario am y flwyddyn, o ystyried yr anawsterau a wynebir ers dechrau’r Pandemig.

 

Eglurodd y Prif Swyddog – Perfformiad Cyllid a Newid fod CBSP wedi llwyddo cael gwarged bach o arian parod, ond o ystyried y pwysau tebygol a ddaw yn sgil cau’r cronfeydd caledi ar gyfer busnesau a’r grantiau eraill, fod y gwarged wedi’i ddefnyddio i chwyddo cronfeydd wrth gefn a glustnodwyd, a byddai hynny'n cael ei ddefnyddio i helpu gyda'r pwysau a ragwelir.

 

Gofynnodd Aelod a ystyriwyd y bobl a oedd wedi cael Covid-19 ac yn dal i fod â symptomau 'covid hir' ac angen cefnogaeth.

 

Eglurodd y Prif Swyddog – Perfformiad Cyllid a Newid fod cronfa Covid-19 wrth gefn yn bodoli a oedd wedi'i defnyddio ar gyfer argyfyngau. Roedd y gronfa hefyd wedi cael ei chynyddu ar ddiwedd y flwyddyn. Ychwanegodd y byddai'r gronfa'n parhau hyd y gellir rhagweld, ac y byddai'n cwmpasu nifer o agweddau ar faterion sy'n ymwneud â Covid.

 

Gofynnodd y Cadeirydd am y gorddrafft ar dudalen 92, a’r manylion yngl?n â hynny.

 

Eglurodd Rheolwr y Gr?p – Prif Gyfrifydd fod arian i fod i ddychwelyd i'r cyfrifon ar y 31 Mawrth 2021, ond na ddychwelwyd tan ar ôl diwedd y flwyddyn. Dychwelwyd yr arian ychydig ddyddiau'n ddiweddarach, a gofynnodd y tîm am ragor o arian oherwydd y taliadau llog a ysgwyddwyd, ac fe’i dalwyd.

 

Gofynnodd y Cadeirydd am ddyledwyr, gan fod ffigurau’r tabl ar dudalen 129 wedi codi o 25,168 i 43,489. Gofynnodd beth oedd y rhesymau am hyn.

 

Eglurodd Rheolwr y Gr?p – Prif Gyfrifydd fod elfen fawr o hyn o ganlyniad i'r trefniant ariannu ar y cyd ar gyfer gofal preswyl rhwng y gwasanaethau cymdeithasol, Bwrdd Iechyd Cwm Taf, Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf a Chyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr. Roedd angen gwneud taliad o £9 miliwn ar gyfer gofal preswyl. Roedd cynnydd o £4.75 miliwn mewn dyled cyfriflyfr gwerthiant flwyddyn ar ôl blwyddyn wedi cyfrannu at y ffigur hwn hefyd, ac roedd darpariaeth dyledwyr y Dreth Gyngor wedi cynyddu £2.4 miliwn. Roedd grantiau i fod i gael eu derbyn yn ystod y flwyddyn, ond ni chyrhaeddodd tan ar ôl diwedd y flwyddyn, felly cynyddodd lefel y dyledwyr  o £6 miliwn mewn cyfanswm. Roedd y rhan fwyaf o'r materion hyn yn faterion amseru, a byddai llawer ohono'n cael ei adennill drwy gydol y flwyddyn ganlynol.

 

PENDERFYNIAD:                                   Bod y Pwyllgor wedi nodi’r Datganiad Cyfrifon 2020-21 heb ei archwilio yn Atodiad A i'r adroddiad.

 

Dogfennau ategol: