Agenda item

Datganiad Llywodraethu Blynyddol 2020-21

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog Dros Dro – Cyllid, Perfformiad a Newid adroddiad, a'i ddiben oedd cyflwyno Datganiad Llywodraethu Blynyddol 2020-21 (AGS) i'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio i'w gymeradwyo a'i gynnwys yn Natganiad Cyfrifon 2020-21 (heb ei archwilio).

 

Cyflwynwyd yr eitem hon gan y Prif Weithredwr.

 

Atgoffodd yr adroddiad yr Aelodau, fod Rheoliad 5 (2) o Reoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2014, yn ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod gynnal, fel rhan o'i drefniadau ar gyfer llywodraethu corfforaethol, adolygiad blynyddol o lywodraethu ac i adrodd ar reolaeth fewnol.

 

Eglurodd y Prif Weithredwr fod llywodraethu corfforaethol da angen cyfranogiad gweithredol Aelodau a swyddogion ar draws y Cyngor. Caiff y trefniadau hyn eu hadolygu'n flynyddol a defnyddir y canfyddiadau i ddiweddaru'r AGS. Mae hyn yn helpu i sicrhau bod diwylliant llywodraethu corfforaethol y Cyngor yn gwella'n barhaus. Roedd cynnwys y Datganiad Llywodraethu Blynyddol yn y Datganiad o Gyfrifon yn rhoi arfarniad cyffredinol i'r Pwyllgor o'r rheolaethau sydd ar waith i reoli risgiau allweddol y Cyngor ac wedi nodi lle mae angen gwneud gwelliannau. 

 

Adolygwyd AGS drafft 2020-21 gan y Bwrdd Rheoli Corfforaethol (CMB) a'r Cabinet. Roedd y AGS drafft ynghlwm yn Atodiad A i'r adroddiad.

 

Cadarnhaodd y Prif Weithredwr fod rhai heriau sylweddol iawn i'w datrys wrth symud ymlaen, er enghraifft TGCh, gweithio gartref, cyflawni darpariaethau penodol yn Neddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, felly byddai angen adolygu'r ffordd y mae'r Cyngor yn gweithredu yn barhaus er mwyn goresgyn y rhain wrth barhau.

 

Cadarnhaodd hefyd y bydd yr AGS yn cael ei adolygu fel rhan o'r archwiliad allanol ar y Datganiad o Gyfrifon ac y dylai adlewyrchu unrhyw faterion llywodraethu hyd at y dyddiad y bydd Archwilydd Cyffredinol Cymru yn llofnodi Datganiad Cyfrifon 2020-21.

 

Canmolodd y Cadeirydd y ddogfen a oedd yn cefnogi'r adroddiad eglurhaol ac roedd yn falch o weld bod ôl gwaith ar ei naratif a'i fod yn hawdd ei ddefnyddio. Roedd yn nodi’r camau yr oedd yr Awdurdod wedi'u cymryd i reoli materion gwaith a llywodraethu yn ystod y pandemig yn glir, yn ogystal â'r effaith y mae hyn wedi'i chael ar fusnes y Cyngor.

 

Cyfeiriodd Aelod at dudalen 212 o'r adroddiad a'r Tabl a nodai'r nodau/amcanion llesiant, a holodd pam nad oedd tic yn erbyn yr amcan o'r enw 'Cymru Gydnerth – a Helpu pobl mewn Cymunedau i fod yn fwy Iach a Gwydn.'

 

Cadarnhaodd y Prif Swyddog Dros Dro – Cyllid, Perfformiad a Newid fod rheswm dros hyn a byddai'n cadarnhau hyn i'r Aelod y tu allan i'r cyfarfod.

 

Gofynnodd yr Aelod gwestiwn pellach yngl?n â thudalen 216 a'r Tabl yn manylu ar Hawliadau Cronfa Caledi Llywodraeth Cymru, lle cadarnhawyd fod categorïau penodol wedi'u hatal rhag gwneud ceisiadau i Lywodraeth Cymru o ran adennill costau ac ad-daliadau incwm, gan gynnwys costau TGCh.

 

Cadarnhaodd y Prif Weithredwr fod TGCh wedi ariannu 50% o gostau TGCh, gyda'r Cyngor yn ariannu'r 50% arall. Yn y rhan fwyaf o achosion, fodd bynnag, roedd ceisiadau a wnaed i Lywodraeth Cymru wedi bod yn weddol lwyddiannus ar y cyfan, ers dechrau Covid-19.

 

Ychwanegodd y Prif Swyddog Dros Dro – Cyllid, Perfformiad a Newid fod rhai ceisiadau wedi bod yn aflwyddiannus gan fod y Cyngor wedi gwneud penderfyniad lleol i ddarparu rhywbeth ei hun neu i barhau i ddarparu rhywbeth, er enghraifft parcio am ddim yng nghanol trefi, ac o’r herwydd roeddent yn anghymwys i gael ad-daliad cost o dan feini prawf Cronfa Caledi Llywodraeth Cymru.

 

Nododd y Cadeirydd nad oedd adolygiad o Reolau Gweithdrefn Ariannol y Cyngor wedi'i gynnal yn llawn ers 2017, ac felly gofynnodd a oedd unrhyw fwriad i adolygu'r rhain yn y dyfodol agos.

 

Sicrhaodd y Prif Swyddog Dros Dro – Cyllid, Perfformiad a Newid yr Aelodau fod y rhain wedi'u gwneud lle bu angen newidiadau o bryd i'w gilydd. Byddai diwygiadau pellach fel rhan o astudiaeth bwrdd gwaith yn y dyfodol yn cael eu hargymell gan y Tîm Cyllid i'r Cyngor llawn, maes o law.

 

PENDERFYNIAD:                            Bod y Pwyllgor wedi cymeradwyo Datganiad Llywodraethu Blynyddol drafft 2020-21 yn Atodiad A a chytuno i'w gynnwys yn Natganiad Cyfrifon 2020-21 (heb ei archwilio).

 

Dogfennau ategol: