Agenda item

Adroddiad Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio - Archwilio Cymru

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Archwilio Ariannol adroddiad a oedd yn nodi'r cynnydd ar gyfer y flwyddyn, gan gynnwys y wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith archwilio ariannol a pherfformiad a wnaed, ac sydd i'w wneud, gan Archwilio Cymru, ac i gyflwyno cyflwyniad i'r Pwyllgor ar y Fenter Twyll Genedlaethol.

 

Amlinellodd Cynrychiolydd Archwilio Cymru y gwaith archwilio ariannol a oedd yn cwmpasu statws y pynciau a restrir yn Atodiad A i'r adroddiad.

 

Eglurodd Cynrychiolydd Archwilio Cymru fod cynnydd pellach wedi'i wneud gyda'r rhain a dywedodd fod y llythyr terfynol ar bwnc Cynllunio Adferiad newydd gael ei anfon at y cyngor yr wythnos hon. Ychwanegodd fod adroddiad terfynol hefyd wedi'i gyhoeddi ar bwnc y Cyngor Digidol. Esboniodd fod nifer o'r pynciau yn y camau cynnar ac nad oeddent wedi dechrau eto ond bod llawer wedi dechrau a'u bod yn y cyfnod cwmpasu.

 

Cydnabu'r Cadeirydd fod nifer o ddarnau o waith yn y cyfnod cwmpasu, ond ni ddarparwyd dyddiadau i ddangos pryd y byddent yn debygol o gael eu cwblhau. Gofynnodd a fyddai'r dyddiadau hyn, neu ddyddiadau bras, ar gael i'r Pwyllgor, gan ei bod yn ymwybodol o'r posibilrwydd y gallai staff CBSP gael eu llethu o dderbyn yr holl waith ar unwaith.

 

Eglurodd Cynrychiolydd Archwilio Cymru eu bod yn bwriadu cwblhau'r darnau hyn o waith o gwmpas tymor yr Hydref, ond roedd llawer iawn o waith cwmpasu i'w wneud o hyd, felly ni allai sicrhau amserlen benodol ar hyn o bryd.

 

Gofynnodd yr Aelod Lleyg am yr hyn a ddysgwyd o'r flwyddyn ddiwethaf, y newid a ddechreuwyd, ac os manteisiwyd ar unrhyw gyfleoedd a gafwyd, a beth oedd y cynlluniau i gydweithio a rhannu gwybodaeth â Llywodraeth Cymru yn hyn o beth. Dywedodd Cynrychiolydd Archwilio Cymru fod y tîm a fu'n gweithio ar hyn yn cyfarfod â CLlLC i drafod hyn yn y dyfodol. Yn sgil sgyrsiau gydag Awdurdodau Lleol eraill, cydnabuwyd bod angen cydweithio, a dyna oedd consensws cyffredinol pob sgwrs wrth drafod y dyfodol.

 

Gofynnodd y Cadeirydd i ble yr anfonwyd adroddiadau o fewn CBSP, gan fod nifer o adroddiadau yn rhai mwy amhenodol a gallai fod yn llai amlwg i ba le'r oedd angen iddynt fynd, h.y. y pwynt cyswllt. Dywedodd Cynrychiolydd Archwilio Cymru fod nifer o gysylltiadau allweddol wedi’u defnyddio a’u bod yn credu y byddai'r adroddiadau hyn yn cael eu dosbarthu i uwch swyddogion CBSP, ond y byddai'n gwirio manylion hyn, ac yn dychwelyd at y Pwyllgor gyda'r manylion.

 

Rhoddodd Cynrychiolydd Archwilio Cymru gyflwyniad ar y Fenter Twyll Genedlaethol (NFI) gan roi manylion ar y Fenter ei hun, a chynnwys elfennau cysylltiedig â hyn. Byddai'r cyflwyniad yn cael ei rannu â'r Aelodau yn dilyn y cyfarfod.

 

Gofynnodd Aelod a oedd unrhyw risgiau diogelwch gyda'r system NFI.

 

Eglurodd Cynrychiolydd Archwilio Cymru fod yr holl ddata wedi’u trin yn unol â chyfreithiau Diogelu Data, a phan oedd data newydd yn cael ei gyflwyno bod sgyrsiau wedi'u cynnal gyda'r Comisiynydd Gwybodaeth i sicrhau fod y data hwnnw yn cael eu trin yn yr un modd. Pan fo angen gweithredu, byddai swyddogion y Fenter yn darparu digon o dystiolaeth o dwyll neu'r risg o gyflawni twyll. Ychwanegodd bod y wybodaeth a gedwir wedi'i harchwilio yn unol â safonau diogelwch cenedlaethol Llywodraeth Cymru.

 

Gofynnodd Aelod sut y daethpwyd o hyd i dwyll hunaniaeth o ran pasbortau a thrwyddedau gyrwyr pan oedd y deiliad wedi marw. Eglurodd Cynrychiolydd Archwilio Cymru fod dulliau o baru manylion o fewn y Fenter wedi helpu i atal camddefnydd o’r math hwn o adnabyddiaeth. Un enghraifft oedd gwybodaeth a rannwyd gan Heddlu Metropolitanaidd er mwyn helpu i baru data.

 

Gofynnodd Aelod faint o'r arian a nodwyd mewn twyll a gafodd ei ddychwelyd i'r pwrs cyhoeddus.

 

Eglurodd Cynrychiolydd Archwilio Cymru fod y swm tua 50% o’r arian, a bod hyn oherwydd nifer o resymau, un ohonynt oedd bod llawer o'r twyllwyr eisoes wedi gwario'r arian cyn iddynt gael eu dal ac felly nad oedd modd iddynt ei ad-dalu.

 

Gofynnodd Aelod a oedd y Fenter yn edrych ar batrymau neu dueddiadau o ran canfod twyll. Dywedodd cynrychiolydd Archwilio Cymru nad oedd unrhyw broffilio wedi'i wneud, ac ymdriniwyd â phob achos o dwyll ar sail unigol.

 

Gofynnodd Aelod a oedd unrhyw broblemau gyda'r Fenter a/neu ganfod twyll a oedd yn werth ei nodi. Dywedodd Cynrychiolydd Archwilio Cymru fod ambell i bariad a wneir ddim yn dwyll neu'n gamgymeriadau, ond yn hytrach o ganlyniad i faterion ansawdd data neu ganlyniadau cadarnhaol anghywir. Ychwanegodd fod yn rhaid ystyried y wybodaeth yn ofalus, wrth ddarparu gwybodaeth yn ôl i gyrff, gan nad oedd yr holl wybodaeth o'r fath a ddarparwyd yn dwyllodrus.

 

Gofynnodd Aelod a ellid defnyddio'r system NFI er budd pobl a oedd â hawl i gael mwy o fudd-daliadau, a hefyd i atal pobl a oedd yn gor-hawlio'n anfwriadol rhag parhau i wneud hynny, fel y gallent osgoi gorfod ad-dalu swm sylweddol o arian yn y dyfodol pe bai'n cael ei adnabod fel twyll posibl.

 

Eglurodd Cynrychiolydd Archwilio Cymru nad oedd y system yn gallu gwneud hynny ar hyn o bryd ac roedd y ddeddfwriaeth hefyd yn atal y Fenter rhag gwneud hynny. Pe bai hynny'n newid yn y dyfodol, yr oedd yn rhywbeth gwerth ei nodi a’i ymchwilio.

 

PENDERFYNIAD:                                     Bod y Pwyllgor wedi nodi Adroddiadau Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio Cymru yn Atodiad A ac Atodiad B i'r adroddiad, a'r llythyr gan Archwilio Cymru yn Atodiad C, yn ogystal â'r cyflwyniad ar y Fenter Twyll Genedlaethol.

 

Dogfennau ategol: