Accessibility links

1
Dewis iaith

Agenda item

Datblygu Hwb Plant Brynmenyn

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles adroddiad a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cabinet am:

 

  • datblygiadau Maple Tree House (uned argyfwng ac asesu plant/Canolfan Leoli Plant") mewn perthynas â'r cynlluniau i adleoli'r gwasanaeth, ac;

 

  • yn gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet i Bennaeth Gofal Cymdeithasol Plant (yn rhinwedd ei swydd fel Unigolyn Cyfrifol ar gyfer y gwasanaeth) oruchwylio a monitro gweithrediad y cynlluniau fel y nodir yn yr adroddiad hwn.

 

Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles ei bod yn flaenoriaeth i sicrhau bod lleihad diogel yn digwydd yn nifer y Plant sy'n Derbyn Gofal, ond roedd yr un mor bwysig bod pob plentyn yn gallu cael asesiadau amserol, ymyriadau therapiwtig, gofal, llety, a chymorth.

 

Amlinellodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles y sefyllfa bresennol fel y nodir yn adran 4 o'r adroddiad. Amlinellodd y dyluniadau a'r cynlluniau ar gyfer datblygiad newydd arfaethedig ar gyfer Hwb Lleoli Plant sydd wedi'i gynllunio'n arbennig a’i adeiladu’n bwrpasol, un a allai ddarparu'r model gwasanaeth sydd newydd ei weithredu yn effeithiol.

 

Amlinellodd fod cyfanswm o £2.25 miliwn o gyllid cyfalaf wedi'i sicrhau ar gyfer datblygu'r Ganolfan newydd, wedi'i dadansoddi fel y nodir isod:

 

· Cymeradwywyd Cais Cyfalaf CBSP o £600k, a gynhwyswyd yn wreiddiol yn y Rhaglen Gyfalaf ar gyfer 2018/19, ac a gyflwynwyd wedyn o ganlyniad i'r oedi a amlinellir uchod;

 

· Mae £750k wedi'i glustnodi o gronfeydd wrth gefn a glustnodwyd gan CBSP; a

 

· Dyrannwyd Cyllid Cyfalaf ICF (Cronfa Gofal Integredig) o £900k i CBSP hefyd, sy'n cynnwys £164k yn 2020/21 a £736k yn 2021/22.

 

Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles y gwnaed cais am arian ychwanegol gan ICF rhanbarthol er mwyn ariannu'r dodrefn angenrheidiol. Ychwanegodd fod gweithredu'r model newydd eisoes wedi arwain at arbedion MTFS rheolaidd o £245k, ac roedd y gwasanaeth wedi ymrwymo'n llwyr i'r model newydd gan ddisgwyl y gellid gwneud arbedion ychwanegol yn y dyfodol, yn ogystal â galluogi gostyngiad yn y ddibyniaeth ar leoliadau costus y tu allan i'r Sir.

 

Croesawodd yr Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar yr adroddiad a mynegodd ei balchder o gael cyfleuster fel hwn yn y sir. Eglurodd fod y plant hyn wedi cael ystod eang o brofiadau trawma a bydd y cyfleuster newydd yn darparu'r lleoliad gorau ar eu cyfer ac yn caniatáu darparu ar eu cyfer mewn ffordd gyfannol, therapiwtig, sy'n canolbwyntio ar y plentyn.

 

Gofynnodd yr Aelod Cabinet lles a Chenedlaethau'r Dyfodol am ragor o wybodaeth am yr ymgysylltu â'r gymuned sy'n gysylltiedig â'r cynllun hwn.

 

Eglurodd Pennaeth Gofal Cymdeithasol y Plant fod cynlluniau'n cael eu trafod gydag Aelodau lleol, a bod cynlluniau pellach yn cael eu gwneud i'w trafod gyda'r trigolion lleol a'r gymuned ehangach. Ychwanegodd fod datganiad i'r wasg wedi'i gyhoeddi a bod trafodaethau gyda'r datblygwr wedi digwydd a'u bod wedi datgan y byddai rhagor o wybodaeth drwy daflenni yn cael ei darparu i drigolion lleol i amlinellu'r dyddiadau dechrau a cherrig milltir eraill yn ymwneud â'r gwaith. Ychwanegodd eu bod wedi ymgynghori â'r Aelod Seneddol a’r Aelod o’r Senedd hefyd a'u bod yn cefnogi'r cynllun.

 

PENDERFYNIAD:                                Fod y Cabinet wedi:

 

·         Nodi cynnwys yr adroddiad hwn; a

 

·                      Chymeradwyo fod Pennaeth Gofal Cymdeithasol Plant (yn rhinwedd ei swydd fel Unigolyn Cyfrifol ar gyfer y gwasanaeth) yn goruchwylio a monitro'r broses o weithredu'r cynlluniau fel y nodir yn yr adroddiad hwn

 

Dogfennau ategol:

 

Chwilio A i Y

  1. A
  2. B
  3. C
  4. D
  5. E
  6. F
  7. G
  8. H
  9. I
  10. J
  11. K
  12. L
  13. M
  14. N
  15. O
  16. P
  17. Q
  18. R
  19. S
  20. T
  21. U
  22. V
  23. W
  24. X
  25. Y
  26. Z