Agenda item

Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru 2019-2020

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Gr?p ar gyfer Chwaraeon a Gweithgarwch Corfforol adroddiad a oedd yn amlinellu perfformiad y Cyngor yn erbyn chweched fframwaith Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru (SLlCC) ar gyfer y cyfnod 2019-20

 

Eglurodd y Rheolwr Gr?p ar gyfer Chwaraeon a Gweithgarwch Corfforol fod CBSP, ar 1 Hydref 2015, wedi trosglwyddo’r rheolaeth weithredol ar gyfer amrywiaeth o wasanaethau diwylliannol, gan gynnwys y gwasanaeth llyfrgell, i Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen. Y Cyngor sydd dal i fod â'r ddyletswydd statudol i ddarparu'r gwasanaeth llyfrgelloedd ac i adrodd ar ei berfformiad, ond Awen, o dan delerau'r cytundeb rheoli, sy’n darparu’r wybodaeth ofynnol ar berfformiad mewn perthynas â'r safonau, a hynny er mwyn bodloni bod y gwasanaeth yn bodloni'r canlyniadau a ddymunir.

 

Rhoddodd Prif Weithredwr Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen ei ddiolch i'r swyddogion dan sylw ac roedd yn falch o weld Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen (AWC) yn cael ei nodi fel y gorau yng Nghymru mewn arolwg. Ychwanegodd fod AWC wedi bod yn cydweithio'n agos gyda CBSP ers nifer o flynyddoedd yn y gwaith strategol o gynllunio gwasanaethau llyfrgell a’r modd y gwneir y gwaith o fuddsoddi mewn plant a phobl ifanc

 

Amlinellodd Prif Weithredwr Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen nifer o newidiadau a oedd wedi digwydd yn ystod dechrau'r pandemig. Dywedodd fod cynnydd yn y defnydd o e-lyfrau ac e-adnoddau yn ystod y cyfnod hwnnw, yn ogystal â chynnydd o 30% yn y nifer o bobl sy’n defnyddio'r gwasanaethau llyfrgell yn gyffredinol. Ychwanegodd fod cynnydd pellach yn nifer y bobl a fu’n derbyn llyfrau gartref, a anogwyd gan CBSP drwy'r pandemig.

 

Eglurodd Cyfarwyddwr Gweithrediadau Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen na fyddai Llywodraeth Cymru, am y ddwy flynedd nesaf, yn cyhoeddi adroddiadau asesu fel yr oeddent wedi'i wneud mewn blynyddoedd blaenorol. Yn hytrach, byddent yn darparu dadansoddiad o sut yr oedd gwasanaethau llyfrgell ledled Cymru wedi ymateb i'r pandemig. Roedd hyn yn bennaf oherwydd y gwahanol ffyrdd y bu'n rhaid i wasanaethau llyfrgell ymdopi ac ymateb i effeithiau'r pandemig.

 

Tynnodd yr Arweinydd sylw at bwysigrwydd y gwasanaeth llyfrgelloedd symudol a pha mor fuddiol ydoedd yn ystod y pandemig, yn enwedig i bobl a oedd yn gwarchod eu hunain/ yn hunanynysu.

 

Croesawodd yr Aelod Cabinet Lles a Chenedlaethau'r Dyfodol yr adroddiad a chytunodd â'r pwynt nad llyfrau yn unig oedd llyfrgelloedd, eu bod yn gartref i nifer o adnoddau yn ogystal â chyfrifiaduron i’w defnyddio. Roedd hi'n falch bod ansawdd y cyfrifiaduron wedi gwella, a bod hynny’n dangos bod y strategaeth yn canolbwyntio ar ddarparu ansawdd yn hytrach na niferoedd. Ychwanegodd fod yr allgymorth i bobl iau yn gadarnhaol iawn gan fod darllen yn rhan bwysig o ddysgu.

 

Gofynnodd yr Aelod Cabinet Lles a Chenedlaethau'r Dyfodol sut aeth y broses o amnewid y cerbyd h?n a ddefnyddiwyd ar gyfer y llyfrgell deithiol o ran gweithrediadau, ac a gafwyd unrhyw adborth neu sylwadau am y cerbyd newydd. Eglurodd Cyfarwyddwr Gweithrediadau Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen fod y cerbyd newydd wedi caniatáu gwasanaeth mwy effeithlon yn ogystal â gwella'r ddarpariaeth i gwmpas ehangach y gymuned.

 

Croesawodd yr Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar yr adroddiad ac adleisiodd sylwadau'r aelod Cabinet. Credai fod llyfrau'n rhan bwysig o ddysgu ac yn ddihangfa i lawer, felly roedd yn falch o weld y gwasanaeth yn gwneud cystal. Gofynnodd, o ystyried y cynnydd yn y galw am adnoddau digidol, ai'r cynllun oedd cynnal yr un lefel o lyfrau print neu symud tuag at y llyfrau digidol.

 

Credai Cyfarwyddwr Gweithrediadau Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen nad oedd y galw am lyfrau printiedig yn mynd i ostwng yn sylweddol unrhyw bryd yn fuan, ond roedd hyn yn rhywbeth sy’n cael ei fonitro'n rheolaidd. Ychwanegodd eu bod yn edrych ar y galw a sut a ble i fuddsoddi arian ei o flwyddyn i flwyddyn. Ychwanegodd fod mwy o arian wedi’i roi ar gyfer e-lyfrau eleni oherwydd y pandemig a'r llyfrgell yn methu ag agor.

 

Diolchodd yr Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar i staff y llyfrgell am eu gwaith caled yn y gymuned 

 

Soniodd y Prif Weithredwr am yr ail argymhelliad yn yr adroddiad a phwysleisiodd bwysigrwydd symud hyn yn ei flaen. Eglurodd mai un o'r heriau oedd parhau i fuddsoddi mewn llyfrgelloedd a gwella eu rôl fel canolfan gymunedol ar gyfer gweithio neu ganfod gwybodaeth neu wasanaethau penodol. Ychwanegodd yr Arweinydd y byddai angen i'r gwasanaeth, wrth symud ymlaen, addasu i anghenion a thueddiadau'r hyn y mae pobl ei eisiau, a gofynnodd am sicrwydd ar hyn. Cadarnhaodd Prif Weithredwr Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen fod hyn yn wir a rhoddodd enghraifft o wasanaeth Clicio a Chasglu yn ystod y pandemig. Dywedodd fod hyn wedi profi'n boblogaidd iawn ac y byddai'n debygol o barhau ar ôl pandemig.

 

PENDERFYNIAD:                              Fod y Cabinet wedi:

 

·         Ystyried a nodi cynnwys yr adroddiad ac Atodiad 1 gan gydnabod blwyddyn gadarnhaol o gynnydd yn erbyn Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru;

 

  • Nodi y byddai adroddiad pellach yn cael ei gyflwyno i'r Cabinet ar wneud y defnydd gorau o adnoddau i gefnogi gweithrediadau llyfrgelloedd sy'n gysylltiedig â chynllunio adferiad Covid-19, gan gynnwys argaeledd lleoliadau yn y dyfodol a dulliau amgen o ddarparu gwasanaethau.

 

Dogfennau ategol: