Agenda item

Alldro Cyllideb Refeniw 2020-21

 

Gwahoddwyr:

 

Cynghorydd Huw David - Arweinydd

Cynghorydd Hywel Williams - Dirprwy Arweinydd

Cynghorydd Stuart Baldwin - Aelod Cabinet - Cymunedau

Cynghorydd Nicole Burnett - Aelod Cabinet - Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar

Cynghorydd Dhanisha Patel - Aelod Cabinet - Lles a Chenedlaethau Dyfodol

Cynghorydd Charles Smith - Aelod Cabinet - Addysg ac Adfywio

 

Mark Shephard - Prif Weithredwr

Lindsay Harvey - Cyfarwyddwr Corfforaethol - Addysg a Chymorth i Deuluoedd

Gill Lewis - Pennaeth Cyllid, Perfformiad a Newid dros dro

Claire Marchant - Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles

Janine Nightingale - Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau

Kelly Watson - Prif Swyddog Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Rheoleiddiol

 

Cofnodion:

Esboniodd y Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid Dros Dro na fyddai hi, fel y gofynnwyd, yn mynd drwy’r holl fanylion yn yr adroddiad gan fod y Cynghorwyr wedi cael y cyfle i glywed yr adroddiad o’r blaen, ond gwnaeth y sylw, i’w gofnodi, y byddai’r Aelodau’n gweld crynodeb o’r sefyllfa ariannol a thynnodd sylw at y naratif oedd yn dangos ei bod yn sefyllfa anhygoel o unigryw eleni. Fel yr eglurwyd o’r blaen yn y Cabinet ac yn y Cyngor, yr arian o gronfa galedi Llywodraeth Cymru (LlC) yn y lle cyntaf, yr arian o grantiau sylweddol a dderbyniwyd yn y chwarter olaf, o leiaf £9 miliwn yn nhermau grantiau untro oedd ar gyfer dibenion penodol, a’r cymhorthdal ar gasglu’r Dreth Gyngor oedd y rhesymau pam yr oedd y sefyllfa ar ddiwedd y flwyddyn yn edrych mor wahanol i’r hyn a ddisgwylid a’r sefyllfa yr adroddwyd wrth COSC yn chwarter 3 oedd yn ddisgwyliedig.

 

Yr ail bwynt, a wnaed yn y Cabinet ac yn y Cyngor, oedd bod y sefyllfa’n gyffredinol yn dal yn eithaf anodd wrth symud ymlaen. Roedd yna bwysau anhygoel, nid oedd y wlad allan o’r pandemig eto ac roedd sefyllfa waelodol Cyllidebau Cyfarwyddiaethau gan mwyaf yn dal yn un o ddiffyg. Roedd sefyllfa’r ysgolion, yn neilltuol, yn cael ei chuddio gan bron i £9 miliwn o grantiau untro, tra mai’r hyn oedd wedi cael ei ragweld oedd y byddai’r rhan fwyaf o’r ysgolion mewn diffyg.

 

Roedd ansicrwydd ynghylch y pwysau yn y dyfodol ac, fel y byddai’r Aelodau wedi gweld yn y wasg, roedd nifer o Gyfarwyddwyr Cyllid wedi gorfod cyhoeddi Hysbysiadau Adran 114 lle roedd eu hawdurdodau lleol mewn perygl o fethdalu, mewn oddeutu 35 o Gynghorau. Gwelid stori gyda dau hanner, sef gwarged sylweddol unigryw ond y sefyllfa waelodol yn gallu bod yn eithaf peryglus.

 

Gofynnodd Aelodau’r Pwyllgor y canlynol:

 

Soniodd Aelod am gyfeiriad y Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid Dros Dro at y grantiau a’r arian o’r gronfa galedi oedd wedi eu derbyn yn yr ychydig fisoedd diwethaf a’r rhagolwg yn Chwarter 3 COSC, oedd wedi bod yn sefyllfa hollol wahanol, a gofynnodd a oedd modd rhagweld y cyllidebau. Roedd yr alldro presennol yn cuddio’r sefyllfa wirioneddol, ond un o 22 awdurdod lleol oedd Pen-y-bont ar Ogwr yng Nghymru a faint o awdurdodau lleol yn Lloegr a’r Alban oedd yn yr un cwch.

 

Eglurodd y Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid Dros Dro ei bod hi’n teimlo nad oedd y darlun yn un gwirioneddol, fel yr oedd yn sefyll. Roedd yn ddarlun cywir o ran cadw cyfrifon a chofnodi’r symiau ac roedd yn rhoi sefyllfa, o ran y cronfeydd wrth gefn oedd wedi eu clustnodi a’r pwrpas yr oedd y rheiny ar eu cyfer, ond nid oedd yn rhoi’r darlun go iawn. Gallai dwy eitem yn unig wneud £2 filiwn o ddiffyg; roedd y rhan fwyaf o’r ysgolion yn agos i redeg i sefyllfa o ddiffyg ac roedd rhai ohonynt eisoes mewn diffyg. Roedd yn unigryw o ran amseriad, ond nid oedd yn unigryw ar draws Cymru. Roedd pob un o awdurdodau lleol Cymru mewn sefyllfa debyg o ran grantiau ac arian o’r gronfa galedi, ond nid oeddent i gyd yn yr un sefyllfa o ran eu mantolenni a chryfder eu cronfeydd wrth gefn. Roedd Archwilio Cymru wrthi’n cwblhau ail ddarn o waith ar gynaladwyedd ariannol, oedd yn dweud, er gwaethaf y sefyllfa o ddiffyg gwaelodol, bod gan y Cyngor lefel weddol gref o gronfeydd wrth gefn yn dal i fod, sef yr hyn oedd ar y Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid Dros Dro ei eisiau wrth fynd i mewn i ddyfodol hynod o ansicr o ran y pwysau oedd yn eu hwynebu. Cafodd hi ei chalonogi gan hyn gan ei bod yn edrych yn gyson ar gynghorau eraill oedd yn wynebu sefyllfaoedd anodd iawn, yr oedd llawer ohonynt wedi ymgymryd â mentrau masnachol mawr a rhai ohonynt yn mynd i drafferthion.

 

Cyfeiriodd Aelod at y ddwy gyllideb neilltuol o gyfnewidiol, y cyfeirid atynt yn yr adroddiad, sef Gofal Cymdeithasol Oedolion a Chludiant o’r Cartref i’r Ysgol, a’r penderfyniad gan LlC i adolygu’r pellteroedd statudol ar gyfer Cludiant Dysgwyr, a phenderfyniad y Cabinet oedd yn cael ei ddal yn ôl tra’n disgwyl am ganlyniad yr adolygiad. Gofynnodd am sicrwydd bod y Swyddogion yn dal i weithio ar y polisi a gofynnodd a oedd modd i’r Aelodau gael diweddariad ynghylch yr hyn oedd yn digwydd fel, pan fyddai adolygiad LlC wedi ei gwblhau, y gellid cymryd camau i sicrhau bod y pwysau hyn yn cael eu lliniaru.   

 

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Addysg a Chymorth i Deuluoedd sicrwydd, ar ôl delio â’r sefyllfa o orwario, fod Cludiant o’r Cartref i’r Ysgol yn fater o bwys o fewn y Gyfarwyddiaeth a bod gwaith yn cael ei wneud arno’n barhaus. Roeddent yn disgwyl am ganlyniad adolygiad LlC, ond roeddent yn edrych ar waith caffael i sicrhau ei fod yn cael ei ddarparu mor effeithiol ac effeithlon ag yr oedd modd. Cytunodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Addysg a Chymorth i Deuluoedd i roi diweddariad ar y gwaith hwn, oedd yn dal i fynd ymlaen.

 

Gofynnwyd am eglurder a oedd y 35 cyngor oedd wedi eu disgrifio fel yn agos i fethdalu, y cyfeiriodd y Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid Dros Dro atynt, yn cynnwys unrhyw rai o 22 awdurdod lleol Cymru.

 

Esboniodd y Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid Dros Dro na allai hi ddweud a oedd unrhyw rai o’r 22 yn eu plith, er ei bod wedi nodi bod Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful wedi cael llythyr cyhoeddus iawn am eu sefyllfa ariannol cyn Covid-19 a bod nifer o gynghorau yn brwydro gyda sefyllfa o ddiffyg gwaelodol oedd yn fwy na’r Cyngor hwn. Darn o waith ymchwil gan y Gymdeithas Llywodraeth Leol oedd y 35 yr oedd hi wedi cyfeirio atynt. Nid oedd yr un darn o waith wedi cael ei wneud yng Nghymru, er bod darn o waith wrthi’n cael ei goladu, drwy Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) a Gr?p Swyddogion Adran 151, ar bwysau a’r sefyllfa ac felly mae’n debyg y ceid peth gwybodaeth bellach. Drwy ei chysylltiadau hi ei hun, roedd rhai yn wynebu penderfyniadau eithaf anodd er nad oedd yr un o’r 22 awdurdod lleol wedi cyhoeddi hysbysiad adran 114 yng Nghymru.

 

Holodd Aelod a fyddai ymchwil y CLlLC yn cael ei rhannu gyda’r Aelodau.

 

Esboniodd y Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid Dros Dro mai pwrpas CLlLC wrth gynnal arolwg oedd i CLlLC gael safbwynt ar gyfer lobïo LlC o ran y pwysau, fel ymateb cydgysylltiedig. Yr hyn y byddai’r Awdurdod Lleol yn ei dderbyn fyddai darn o waith gan Archwilio Cymru ar gynaladwyedd ariannol, oedd i fod i ddod ar ddiwedd yr haf ac y disgwylid iddo gael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Archwilio, oedd hefyd yn cymryd diddordeb brwd yn y maes hwn.

 

Gofynnodd Aelod, gyda golwg ar 4.1.11 a’r £882 mil oedd heb gael eu caniatáu, a ellid rhoi enghreifftiau o’r hyn yr oedd hynny’n ei gynnwys. Dywedodd eto ei bod hi wedi codi mater Cludiant o’r Cartref i’r Ysgol ers iddi gael ei hethol a phwysleisiodd yr angen am ddull un cyngor. Roedd y Cyngor yn dal i dalu am Gludiant o’r Cartref i’r Ysgol ar gyfer plant na fyddai ei angen pe darperid llwybrau diogel, a gofynnodd pam nad oedd hyn yn cael ei wneud, yn enwedig o ystyried y gorwariant, a dywedodd y dylid edrych ar hyn fel blaenoriaeth. Gofynnodd yr Aelod hefyd pam nad oedd y Cyngor yn derbyn plant ar fysiau bellach, er eu bod yn barod i dalu, oherwydd bod y Cyngor yn ystyried bod ganddynt lwybr cerdded diogel.

 

Cadarnhaodd y Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid Dros Dro mai ar gyfer TGCh yr oedd y rhan fwyaf o’r gwariant a gafodd ei wrthod. Roedd LlC yn ystyried bod gan TGCh fywyd hwy na’r pwysau presennol, oedd yn hollol resymol, ac felly 50% o’r gwariant hwnnw oedd y Cyngor wedi ei dderbyn yn ôl. Roedd rhai symiau bychain wedi cael eu gwrthod, oedd wedi cael eu hawlio ar weinyddu a phethau felly. At hynny, roedd y Cyngor wedi dewis ymestyn y cynnig parcio, a ystyrid yn benderfyniad lleol, ac felly gwrthodwyd yr incwm a gollwyd drwy hynny. Roedd yna gryn elfen o gysondeb; roedd yna banel oedd yn craffu ar gostau ac incwm a gollwyd, a theimlai’r Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid Dros Dro yn gyfforddus fod y symiau oedd heb eu caniatáu yn cyd-fynd ag eraill.

 

Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Addysg a Chymorth i Deuluoedd na allai ef wneud sylwadau ar achosion unigol ond mai’r hyn y gallai ei ddweud oedd bod yna rai llwybrau diogel i’r ysgol oedd wedi cael eu nodi ac y byddent yn defnyddio’r rheiny lle roedd modd. Cytunai fod angen i’r Cyngor sicrhau bod y rhain yn cael sylw ac yn cael eu harchwilio ar draws yr holl Fwrdeistref Sirol. Un o heriau’r achosion o dalu oedd canlyniad Covid-19, gyda’r angen i reoli lleoedd ar fysiau ysgol yn ofalus iawn. Awgrymodd, os oedd yna achosion unigol, y gellid anfon y rhain drwodd at y tîm iddynt gael edrych arnynt.

 

Cadarnhaodd yr Aelod ei bod hi wedi cyflwyno atgyfeiriad Aelod gyda golwg ar un achos. Tynnodd sylw at y broblem yn Coety a rhoddodd enghraifft o blant sy’n mynd ar fws yng Nghoety, ond a allai weld yr ysgol o’u tai, ond nad oedd yna lwybr diogel oherwydd diffyg llwybr troed. Roedd y Cyngor wedi bod yn talu am y bws ers i’r ysgol agor yn 2015 ac eto pe gellid creu un darn o lwybr troed, ni fyddai angen talu am y bws. 

 

Gofynnodd y Cadeirydd a oedd modd i’r Cyfarwyddwr Corfforaethol sicrhau bod hyn yn cael ei ystyried ymhellach, fel rhan o’r cyfathrebu parhaus ynghylch yr hyn yr oedd y Swyddogion yn ei wneud ar y polisi Cludiant o’r Cartref i’r Ysgol.

 

Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Addysg a Chymorth i Deuluoedd ei fod yn hapus i ystyried hyn.

 

PENDERFYNWYD:     Bod y Pwyllgor yn nodi’r diweddariad ar berfformiad ariannol refeniw y Cyngor am y flwyddyn yn gorffen ar yr 31ain o Fawrth 2021.

Dogfennau ategol: