Agenda item

Uwchgynllun ac Ymgynghoriad Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ar gyfer Adfywio Canol Tref Pen-y-bont ar Ogwr

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol dros Gymunedau adroddiad yn rhoi gwybod i'r Cabinet am ddatblygiad Uwchgynllun Canol Tref Pen-y-bont ar Ogwr a chanlyniad y broses ymgynghori cyhoeddus a ddaeth i ben ar 1 Mawrth 2021. Gofynnodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol dros Gymunedau hefyd i'r Cabinet gytuno ar y camau nesaf arfaethedig wrth gymeradwyo'r cynllun terfynol.

 

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol dros Gymunedau gefndir Uwchgynllun Canol Tref Pen-y-bont ar Ogwr. Byddai'r Uwchgynllun yn ddogfen gynllunio hirdymor ddeinamig a oedd yn cynnig cynllun damcaniaethol, gan adeiladu ar gryfderau niferus y Dref, i lywio adfywiad a thwf yn y dyfodol.

 

Amlinellodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol dros Gymunedau yr hyn a gynhwyswyd yn yr Uwchgynllun ac eglurodd ei fod wedi’i ddylunio i fod yn uchelgeisiol, a nododd gyfres o brosiectau y gellir eu cyflawni a'u dyheadau dros y tymor byr, y tymor canolig, a'r hirdymor. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad dros gyfnod o 12 wythnos rhwng 7 Rhagfyr 2020 a 1 Mawrth 2021. Cafwyd 1402 o ryngweithiadau yn sgil cyfuniad o gwblhau arolygiadau, digwyddiadau cyfryngau cymdeithasol, e-byst a llythyrau, a sesiynau ymgysylltu. Cafwyd cyfanswm o 51 o gwestiynau a sylwadau, a chroesawyd barn drwy'r cyfryngau cymdeithasol. Derbyniodd y dudalen we gyfanswm o 1,549 o gliciau cyswllt, gyda'r fideo eglurhaol wedi cael ei wylio 10,673 o weithiau. Atodiad C i'r adroddiad oedd yr Adroddiad Ymgynghori llawn, a oedd yn manylu ar yr holl ymatebion i'r holl gwestiynau a'r holl sylwadau a themâu ymgysylltu o'r cyfryngau cymdeithasol a'r sesiynau ymgysylltu.

 

Soniodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau am rai o’r prif ymatebion a nododd fod y mwyafrif helaeth o'r ymatebion yn gadarnhaol ac yn gweld y cyfleoedd a gyflwynwyd ar gyfer Canol y Dref yn rhai adeiladol. Ychwanegodd y byddai cyfarfod ym mis Gorffennaf gyda phartneriaid yngl?n â mynedfa'r orsaf reilffordd. 

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio iddo fod yn rhan o drafodaethau gyda nifer o wahanol grwpiau am y prif gynllun a bod y cyhoedd wedi'u cynnwys yn yr ymgynghoriad. Roedd y canfyddiadau'n gyson ac roedd pob un yn gadarnhaol ac yn gefnogol iawn i'r cysyniad.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Gymunedau fod hwn yn adroddiad a chynllun uchelgeisiol ar gyfer canol y dref ac roedd yn edrych ymlaen at weld rhai o'r canlyniadau wrth iddo fynd rhagddo dros y blynyddoedd.

 

Eglurodd yr Arweinydd fod hyn, fel y dangoswyd gan yr eitem nesaf ar yr agenda, yn enghraifft o uchelgais yn troi'n realiti. Roedd yn hapus gyda lefel yr ymgysylltu ac yn hapus i gefnogi'r Uwchgynllun ac iddo gyd-fynd â'r CDLl. Roeddent yn gweithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru fel un o'r partneriaid allweddol ac un o'r sefydliadau ariannu allweddol a byddent yn parhau i wneud hynny.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar ei bod, fel un o'r aelodau lleol, yn ymwybodol o hyn ar wahanol lefelau. Byddent yn gweithio gyda thrigolion lleol ac yn ymwybodol y byddai materion a phryderon yn cael eu codi ac y byddent yn cael eu hystyried.  Roedd nifer o drigolion yn byw o amgylch ardal canol y dref. Roedd canol tref Pen-y-bont ar Ogwr yn arfer bod yn fywiog iawn, gydag amrywiaeth iach o breswylwyr, masnachwyr, a chyfleusterau cymunedol ac roeddent yn awyddus i’w gadw felly.

 

Ychwanegodd yr Arweinydd ei bod yn galonogol gweld, er iddynt golli rhai busnesau o'r dref, bod busnesau eraill yn agor drwy'r amser.

 

Roedd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau wedi sicrhau preswylwyr na fyddai dim yn mynd yn ei flaen heb ganiatâd cynllunio ac y byddent, fel rhan o'r broses honno, yn ymgynghori'n eang eto. Byddai digon o gyfle i breswylwyr gymryd rhan ac i'r Cyngor glywed eu barn. 

 

Atebodd yr Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio nad mater o ddymchwel adeiladau oedd hyn, a bod y term Uwch-gynllun yn cyfeirio at weledigaeth ac arwain y gymuned ymlaen i foderneiddio'r hyn sydd yno, defnyddio'r dreftadaeth a symud ymlaen. Credai fod trigolion lleol yn gwerthfawrogi hyn

 

PENDERFYNIAD:        Fod y Cabinet wedi:

 

·        Cymeradwyo canlyniadau'r ymgynghoriad ac yn cadarnhau y gellid bwydo'r canlyniadau hyn i'r Nodyn Ymgynghori yn nogfen y Uwch-gynllun.

·        Cymeradwyo adolygiad o'r adran bolisi o fewn yr Uwch-gynllun er mwyn sicrhau ei fod yn cyd-fynd â'r CDLl newydd.

  Croesawu adroddiad yn y dyfodol i lofnodi'r ddogfen derfynol a chael y wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd a wnaed ar brosiectau allweddol.

Dogfennau ategol: