Accessibility links

1
Dewis iaith

Agenda item

Gwrthwynebiad a Chynrychiolaeth i Lwybr Teithio Llesol Arfaethedig - Llwybr Teithio Llesol Cowbridge Road

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol dros Gymunedau adroddiad yn gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet i fwrw ymlaen â'r llwybr teithio llesol, gan ystyried y sylwadau ffurfiol a gafwyd mewn perthynas â'r gwelliannau arfaethedig i'r llwybr teithio llesol ar hyd darn o Cowbridge Road, ym Mhen-y-bont ar Ogwr, a oedd yn rhan o lwybr teithio llesol strategol ehangach Pen-y-bont ar Ogwr i Bencoed. Y cynnig oedd creu cyfleuster teithio llesol parhaol, gan gynnwys gwell cyfleusterau croesi, ehangu llwybrau troed i fod yn llwybr cerdded a beicio a rennir, yn ogystal â lleihau'r terfyn cyflymder presennol ar hyd Cowbridge Road. Roedd y cynllun hwn yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru o dan ei rhaglen Cronfa Teithio Llesol. Derbyniwyd sylwadau i'r cynigion gan drigolion lleol/tirfeddianwyr cyfagos a Chynghorwyr lleol.

 

Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol dros Gymunedau fod dau Aelod lleol ac 19 o drigolion lleol wedi cofrestru gwrthwynebiadau i'r cynnig, a oedd wedi'u crynhoi a'u cynnwys yn Atodiad 2 i'r adroddiad. Ystyriwyd bod y llwybr teithio llesol arfaethedig yn hanfodol gan mai dyma'r cyswllt mawr olaf yn rhwydwaith teithio llesol Pencoed i Ben-y-bont ar Ogwr a fyddai, yn ei dro, yn cysylltu â'r rhwydwaith teithio llesol presennol i Bracla, yn ogystal â NCN 885 a oedd yn cysylltu canol y dref â Gorsaf Reilffordd Pen-y-bont ar Ogwr, Broadlands, a Tondu.

Ystyriodd swyddogion yr holl sylwadau yngl?n â'r cynigion a mynd ati i greu’r lluniau terfynol ar gyfer y cynllun arfaethedig. Mewn trafodaethau ar ôl ymgysylltu ag Aelodau lleol, cytunwyd i arddangos y darluniau terfynol yn y Swyddfeydd Dinesig i alluogi trigolion lleol Cowbridge Road ac aelodau eraill o'r cyhoedd i weld y cynigion a fyddai'n cael eu gweithredu o'r diwedd.

 

Amlinellodd y Rheolwr y Gr?p, Gwasanaethau Cynllunio a Datblygu, y pryderon a godwyd gan breswylwyr ac ymatebion CBSP fel y nodir yn yr adroddiad. Esboniodd fod nifer o archwiliadau ac asesiadau risg wedi'u cynnal ac ystyriwyd bod y cynllun yn cydymffurfio'n llawn yn nhermau diogelwch. Roedd manteision gweithredu'r cynllun yn drech na'r pryderon a godwyd. 

 

Darparodd yr Arweinydd Tîm – Datblygu Polisi a Thrafnidiaeth ragor o wybodaeth am barcio ar y stryd, y cynnig am 53m ychwanegol o leoedd lle gallai preswylwyr barcio dros 2 adran, a'r man cyfyng a gynlluniwyd fel y byddai cerddwyr yn ofalus ac y byddai beicwyr yn dod oddi ar eu beiciau.

 

Ystyriodd y Cabinet sylwadau'r swyddogion mewn ymateb i'r arsylwadau a'r lluniadau terfynol i'w harddangos.

 

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol dros Gymunedau sicrwydd i’r Cabinet fod y cynigion i gyd yn ddiogel iawn ac y byddai hwn yn llwybr teithio llesol sy'n cydymffurfio. Pwysleisiodd yr Arweinydd fod diogelwch o'r pwys mwyaf a bod asesiadau diogelwch wedi'u cynnal ar bob cynllun. Y prif bryder oedd diogelwch y rhai sy'n defnyddio'r llwybr hwnnw.

 

Diolchodd yr Aelod Cabinet dros Gymunedau i'r tîm am adroddiad mor gynhwysfawr. Roedd swyddogion wedi egluro nifer o bwyntiau yn ystod eu cyflwyniad. Roedd enghraifft debyg ym Mhorthcawl, ac ym mhob dinas fawr ledled y DU. Roedd wedi gwrando a darllen yr holl bryderon a godwyd ac wedi cytuno â'r cynigion fel y'u cyflwynwyd.  

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio fod hwn yn un cam arall tuag at lwybr teithio amgen cyflawn ar gyfer y Sir gyfan.

 

Gofynnodd y Dirprwy Arweinydd i swyddogion egluro eu hymateb i bryderon a godwyd gan Aelod nad oedd unrhyw ddewisiadau ymarferol eraill, a gofynnodd pa ddewisiadau eraill a ystyriwyd a sut y cawsant eu diystyru. Atebodd Rheolwr y Gr?p, y Gwasanaethau Cynllunio a Datblygu eu bod wedi  

diystyru'r dewis arall i osod y llwybr ar ochr arall Cowbridge Road. Dyna'r prif ddewis arall a ystyriwyd. Gallai opsiynau eraill fod, ond ni fyddent yn gallu cynnig yr un capasiti â Cowbridge Road. Eglurodd yr Arweinydd Tîm – Datblygu Polisi a Thrafnidiaeth, pan wnaethant ymgynghoriad yn 2015 dyna'r llwybr a ddewiswyd. Nododd Canllawiau Teithio Llesol fod yn rhaid i'r llwybr fod yn uniongyrchol a bod yn rhaid i aneddiadau o 2000 neu fwy gael eu cysylltu â'r llwybr mwyaf uniongyrchol posibl, a Cowbridge Road oedd y llwybr mwyaf uniongyrchol. 

 

Gofynnodd y Dirprwy Arweinydd ble y byddai'r arwyddion i ddod oddi ar feiciau wedi'u lleoli. Atebodd yr Arweinydd Tîm - Datblygu Polisi a Thrafnidiaeth y byddent yn cael eu gosod rownd y gornel yr eiddo yn rhif 79 a ger y gyffordd â chyswllt Asda. Derbyniodd Llywodraeth Cymru y byddai'r mannau cyfyng a'r cyfyngiadau hyn yn bodoli. Pe na bai'r cyswllt hwn yn cael ei ddarparu, byddai pobl yn parhau i feicio naill ai ar y ffordd neu'r palmentydd a byddai hyn yn beryglus. Byddai'r cynllun hwn yn rhoi'r hawl tramwy i bob defnyddiwr ar y ffordd a byddai hyn yn welliant mawr dros y sefyllfa bresennol. Diolchodd y Dirprwy Arweinydd i'r swyddogion am eu hymateb. 

 

Rhannodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar ei bod yn ymwybodol o breswylwyr a fyddai'n defnyddio'r llwybr i gyrraedd y gwaith ac y byddai hyn yn gwneud gwahaniaeth mawr i'w diogelwch a'u hamseroedd teithio. Gofynnodd sut y byddai modurwyr yn gwybod, wrth ymadael â'r cyffyrdd, y dylent wirio'r ddau gyfeiriad. Atebodd yr Arweinydd Tîm – Datblygu Polisi a Thrafnidiaeth y byddai arwyddion a byddai’n rhaid i feicwyr stopio pe byddent yn gweld cerbydau'n gadael neu'n mynd i mewn i eiddo. Byddai’n rhaid i bob defnyddiwr ffordd fod yn sylwgar ac yn ofalus. Gofynnodd yr aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar a fu unrhyw drafodaethau gyda'r coleg. Atebodd yr Arweinydd Tîm – Datblygu Polisi a Thrafnidiaeth eu bod yn ymgynghori â'r coleg a'u bod wedi cynnal sesiwn yn y coleg. Roedd y coleg yn Hyrwyddwr Cynllun Teithio ac yn cefnogi CBSP a byddent yn gweithio'n agos gyda'r Cyngor ar y ddau gampws.

 

Cyfeiriodd yr Arweinydd at bryderon aelodau'r ward a fu'n ddiwyd wrth gynrychioli eu hetholwyr a chynnal gohebiaeth helaeth â swyddogion.  Un mater yn benodol oedd creu Llwybr Teithio Llesol ar hyd cyfres o gyffyrdd. Roedd swyddogion wedi dweud bod enghreifftiau yng Nghymru ac roedd tystiolaeth ei fod yn ddiogel a bod pobl wedi addasu a newid eu hymddygiad. Nid oedd unrhyw sicrwydd, ond roedd y dyluniad hwnnw wedi'i ddefnyddio'n llwyddiannus mewn mannau eraill. Hefyd, pe bai'r cynllun yn mynd rhagddo a bod problemau yn cael eu canfod, byddent yn ystyried y rheini ac yn cymryd camau priodol i liniaru'r rheini, er yr ystyriwyd bod y dyluniad yn ddiogel. Atebodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol dros Gymunedau ei fod yn Gynllun Teithio Llesol sy'n cydymffurfio â Llywodraeth Cymru, ac nid oedd yn anarferol croesi cyffyrdd a bod mesurau lliniaru ar waith. Dyma sut y cafodd ei ddarparu yn Abertawe a Chaerdydd a phob bwrdeistref arall ledled Cymru. Pe bai problemau, byddai oherwydd diwylliant ac ymddygiadau newidiol, ac os byddai angen byddent yn adolygu ac yn defnyddio canllawiau ac arwyddion.

 

Awgrymodd yr Aelod Cabinet dros Gymunedau y dylid diwygio'r penderfyniad i adlewyrchu'r ffaith bod y Cabinet wedi nodi'r gwrthwynebiadau a rhoi sylw dyledus iddynt cyn penderfynu bwrw ymlaen.

 

Cadarnhaodd Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau mai diben yr arddangosfa oedd dangos bod swyddogion wedi gwrando ar y pryderon a godwyd, wedi diwygio a chymeradwyo'r cynlluniau, ac i ddangos y dyluniad terfynol a fyddai'n cael ei weithredu.

 

PENDERFYNIAD:     Fod y Cabinet wedi:

 

       Ystyried y gwrthwynebiadau a gafwyd a'r ymatebion a wnaed i lwybr teithio llesol arfaethedig Cowbridge Road.

       Nodi ac a rhoi sylw dyledus i'r gwrthwynebiadau ac wedi awdurdodi gweithredu llwybr teithio llesol Cowbridge Road a fyddai'n cwblhau'r cyswllt mawr olaf yn rhwydwaith teithio llesol Pencoed i Ben-y-bont ar Ogwr.

       Cymeradwyo y dyluniad terfynol.

       Cymeradwy gosod y dyluniad terfynol ar arddangosfa gyhoeddus am gyfnod penodol.

 

Dogfennau ategol:

 

Chwilio A i Y

  1. A
  2. B
  3. C
  4. D
  5. E
  6. F
  7. G
  8. H
  9. I
  10. J
  11. K
  12. L
  13. M
  14. N
  15. O
  16. P
  17. Q
  18. R
  19. S
  20. T
  21. U
  22. V
  23. W
  24. X
  25. Y
  26. Z