Agenda item

Cynnig i Brynu Gorsaf Heddlu Canol Tref Pen-y-bont ar Ogwr

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol dros Gymunedau adroddiad a roddodd y wybodaeth ddiweddaraf i'r Cabinet am y cynnydd a wnaed ar bryniant arfaethedig Gorsaf Heddlu Canol Tref Pen-y-bont ar Ogwr yn Cheapside gyda'r bwriad o gefnogi dyheadau Coleg Pen-y-bont ar Ogwr i adleoli eu prif gampws i ganol y dref, ac i geisio cymeradwyaeth i symud ymlaen gyda chais am arian grant i Lywodraeth Cymru (LlC) i gefnogi'r bwriad i gaffael adeilad Gorsaf yr Heddlu a'i ddymchwel yn y dyfodol.

 

Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol dros Gymunedau fod swyddogion wedi bod yn gweithio ochr yn ochr â Choleg Pen-y-bont ar Ogwr i gefnogi eu dyheadau i drawsnewid eu hamgylchedd dysgu. Dechreuodd hyn gyda'u Rhaglen Amlinellol Strategol a nodiodd yr angen i foderneiddio prif gampws Cowbridge Road y Coleg drwy raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru. Byddai Cowbridge Road yn cael ei rhannu'n ddau gynllun, academi STEAM newydd (canolfan Wyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg, y Celfyddydau a Mathemateg) ar Gampws Pencoed, ac yna adleoli rhan o'r ddarpariaeth i Ganol y Dref. Ar y cyd, cafwyd trafodaethau gyda Heddlu De Cymru ynghylch eu penderfyniad i gyfuno eu swyddfeydd ar eu safle yn Cowbridge Road, gan awgrymu y gallai Gorsaf yr Heddlu yn Cheapside ddod yn wag o fis Mawrth 2022. Felly, roedd ail-ddatblygu safle Gorsaf yr Heddlu wedi'i nodi fel un o'r safleoedd adfywio allweddol y gellir ei gyflawni. Gan ei fod ond 0.2 milltir o Orsaf Drenau Pen-y-bont, cynigai gyfleoedd sylweddol i hyrwyddo teithio llesol a'r defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus i'r safle

 

Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau fod Coleg Pen-y-bont ar Ogwr ym mis Ebrill eleni wedi cyflwyno Cynnig Amlinellol Strategol (SOP) i Banel Buddsoddi Rhaglenni Ysgolion a Cholegau'r 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru i'w ystyried yn rhaglen bresennol Band B. Roedd hyn yn llwyddiannus, ac roedd y Coleg bellach yn cynnal trafodaethau gyda'u corff llywodraethu i fuddsoddi yn y cam datblygu a dylunio manwl ar gyfer campws Canol y Dref. Y cynnig oedd i CBSP gaffael safle presennol Gorsaf yr Heddlu yn Cheapside, ac i ddymchwel yr adeilad presennol gyda'r nod o brydlesu'r safle i Goleg Pen-y-bont ar Ogwr drwy brydles hirdymor. Byddai hyn yn galluogi i weddill y ddarpariaeth addysg sydd ar gampws Cowbridge Road Coleg Pen-y-bont ar Ogwr gael ei adleoli i ganol y dref. Roedd swyddogion wedi datblygu trafodaethau teiran gyda Choleg Pen-y-bont ar Ogwr a SWP mewn perthynas â gwerthu a phrynu'r safle. Nododd prisiad marchnad o'r eiddo yn unol â'r Protocol Trosglwyddo Tir fod y tir werth £650,000, ac roedd pob parti yn cytuno â'r gwerth a adroddwyd. Ceisiwyd grant gan raglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru i gefnogi'r bwriad i gaffael y teitl rhydd-ddaliadol, i adfywio safle trefol gwag, i ddymchwel yr adeilad, ac i sicrhau a gwneud defnydd iawn o’r safle.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol dros Gymunedau ei bod newydd glywed bod Panel Cyfalaf Llywodraeth Cymru wedi cyfarfod ac wedi argymell cymeradwyo'r arian grant, felly bydd hyn yn awr yn cael ei gyflwyno i'r Gweinidog i'w gymeradwyo.  

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio fod heddiw’n ddiwrnod hanesyddol. Diolchodd i'r Timau Adfywio, Addysg a Chymunedau am gydweithio ar hyn. 

 

Ychwanegodd y Dirprwy Arweinydd fod hwn yn gyfle i ddylanwadu ar safle allweddol ym Mhen-y-bont ar Ogwr ac roedd wrth ei fodd yn cefnogi'r cynnig.

 

Diolchodd yr Arweinydd i'r tîm am eu gwaith caled ar yr Uwch-gynllun a'r cynnig hwn. 

 

PENDERFYNIAD:        Fod y Cabinet wedi:

 

               Nodi'r cynnydd a wnaed o ran y bwriad i gaffael Gorsaf Heddlu bresennol Canol Tref Pen-y-bont ar Ogwr yn Cheapside a’r cynigion i adfywio a sefydlu Campws Coleg Pen-y-bont ar Ogwr newydd ar y safle.

               Awdurdodi swyddogion i fynd ar drywydd trafodaethau gyda SWP ar gaffael Gorsaf Heddlu Canol Tref Pen-y-bont ar Ogwr gyda Phrotocolau Cyd-leoli Ystadau a Throsglwyddo Tir Llywodraeth Cymru.

               Awdurdodi swyddogion i ymgysylltu â Llywodraeth Cymru ar gais am arian grant i gefnogi'r broses gychwynnol o gaffael a dymchwel adeilad presennol Gorsaf yr Heddlu yn y dyfodol,

• Cytuno i dderbyn adroddiad yn y dyfodol ar gynnydd cynlluniau adfywio ar gyfer y safle ar y cyd â Choleg Pen-y-bont ar Ogwr.

• Os argymhellir ei gymeradwyo, i ddirprwyo derbyn y grant ar gyfer ailddatblygu'r safle i Gyfarwyddwr Cymunedau a Swyddog Adran 151.

 

Dogfennau ategol: